GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Anifeiliaid Ceffylaidd (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 20 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

wythnos yn dechrau 3 Rhagfyr 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

5 Rhagfyr 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 17

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (y Ddeddf Ymadael), a pharagraff 21 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

 

Gwneir y Rheoliadau hyn i fynd i'r afael â’r ffaith nad yw cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n effeithiol a hefyd â diffygion eraill sy'n deillio o’r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth yr UE ym maes adnabod anifeiliaid o deulu’r ceffyl, a oedd, cyn i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r UE, yn effeithio’n uniongyrchol ar y Deyrnas Unedig ac a gaiff ei dargadw yn rhinwedd y Ddeddf Ymadael.

Bydd y Rheoliadau hyn yn sicrhau bod anifeiliaid o deulu’r ceffyl yn parhau i gael eu hadnabod drwy gyfrwng un ddogfen a fydd yn para drwy gydol oes yr anifail, gan gynnal safonau uchel o ran bioddiogelwch, symudiadau anifeiliaid o deulu’r ceffyl, diogelwch a lles bwyd. Bydd y Rheoliadau’n helpu i sicrhau bod anifeiliaid o deulu’r ceffyl y DU yn parhau i allu teithio mor ddidrafferth â phosibl i'r Undeb Ewropeaidd ac oddi yno.

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 22 Tachwedd 2018 am effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol sy’n mynd gyda’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn rhoi polisi newydd ar waith mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm sy’n mynd gyda Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.