GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 15 Hydref 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

27 Tachwedd 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Yr wythnos yn dechrau 26 Tachwedd 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

3 Rhagfyr 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 32

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adran 8(1), a pharagraff 21(b) o Atodlen 7, Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Pwrpas yr offeryn statudol hwn (gweithdrefn negyddol) yw cywiro deddfwriaeth yr UE a ddargedwir ac sy'n uniongyrchol gymwys, a'r Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Asesu Risg) (Cofnodion ac Eithriadau) 1996, gan fod yr ail o'r rhain yn rhagddyddio datganoli ac yn berthnasol i Brydain Fawr. Byddai'r gwelliannau'n sicrhau y gallai organeddau a addaswyd yn enetig barhau i gael eu hawdurdodi, eu marchnata a'u tyfu ar y diwrnod cyntaf ar ôl ymadael. Deddfwriaeth gyffredinol yr UE yn yr achos hwn yw 2001/18 UE.

Mae'r cynghorwyr cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 20 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

Nid yw'r cynghorwyr cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r cynghorwyr cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol dros geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.