GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
18 - Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol a Rhywogaethau Estron mewn Dyframaethu (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 13 Hydref 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
27 Tachwedd 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Yr wythnos yn dechrau 26 Tachwedd 2018 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
28 Tachwedd 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 26 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Anhysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau yn mynd i'r afael â 9 darn perthnasol uniongyrchol o ddeddfwriaeth yr UE. Mae'r rhain yn ymwneud â sefydlu fframwaith bioddiogelwch ledled yr UE ar gyfer afiechydon pysgod a physgod cregyn. Maent hefyd yn nodi proses ar gyfer symud rhywogaethau estron dyfrol. Maent yn disodli cyfeiriadau at System Rheoli ac Allforio Masnach yr UE (TRACES) gyda chyfeiriadau at system y DU ar gyfer hysbysiadau rheoli mewnforio. Caiff cyfeiriadau at symudiadau rhwng aelod-wladwriaethau'r UE eu newid i gyfeirio at symudiadau rhwng yr UE a'r DU. Mae rhestr o'r afiechydon sy'n destun rheolaethau ledled yr UE wedi'u datgan eto. Yn olaf, mae rhai croesgyfeiriadau diffygiol wedi'u cywiro.
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 19 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio am gynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. |