Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan
Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd
(Ymadael) 2018 (y Ddeddf), a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i'r
Ddeddf.
Gwneir y Rheoliadau hyn er mwyn mynd i'r afael
â methiannau gan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir i
weithredu'n effeithiol a diffygion eraill sy'n deillio o ymadawiad
y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau
canlynol mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru
dyddiedig 16 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Mae
paragraff olaf datganiad Llywodraeth Cymru yn nodi:
"Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y
cywiriadau hyn o ran ac ar ran Cymru, am resymau’n ymwneud ag
effeithlonrwydd, hwylustod ac oherwydd natur dechnegol y
diwygiadau. Mae’r diwygiadau wedi cael eu hystyried yn llawn;
ac nid oes unrhyw wahaniaeth o ran polisi".
Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau yn nodi
bod y Rheoliadau yn gwneud newid polisi mewn perthynas â
chydnabod tystysgrifau cymhwysedd i laddwyr. Mae paragraff 10.1 yn
nodi:
“…this instrument makes mainly technical
amendments…it does not change the substantive policy with
the exception of the proposal to no longer recognise EU27
certificates of competence for
slaughterers…”
Mae paragraff 2.17 yn disgrifio'r newid hwn yn
fanylach:
“2.17 … As well as these technical
changes to ensure operability of the regulation after exit, the
instrument also introduces a policy change. Currently, certificates
of competence, issued to slaughterers by other Member States, must
be recognised in the UK. Certificates of competence are required by
slaughterhouses in the EU to demonstrate that an individual has
been trained and successfully assessed as DExEU/EM/7-2018.2 4
reaching a sufficient level of competence to undertake the animal
handling, stunning and killing and related operations required of
them. The amendments made to Article 21(4) of Council Regulation
(EC) 1099/2009 removes this recognition
requirement…”.
Mae paragraff 2.18 o Femorandwm Esboniadol
Llywodraeth y DU yn nodi y gallai fod problem o ran gorfodaeth pe
bai tystysgrifau'n parhau i gael eu cydnabod:
“2.18 Continued recognition of certificates
issued in other Member States would open up potential enforcement
issues as we would be unable to suspend or revoke a certificate
issued in another Member State in the event a slaughterer breached
the requirements of the retained EU legislation or domestic
legislation. The European Commission has already confirmed that
certificates of competence issued in the UK will not be recognised
in other Member States after the UK has left the
EU.”
Nid yw datganiad Llywodraeth Cymru yn esbonio faint o
bobl yng Nghymru y bydd y ddarpariaeth hon yn effeithio arnynt,
na'r rhesymeg dros benderfynu ei bod yn briodol i Lywodraeth y DU
ddarparu ar gyfer y newid polisi hwn mewn offeryn statudol y
DU.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm
Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba
raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn rhoi polisi newydd ar waith
mewn meysydd datganoledig.
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn tynnu sylw'r Pwyllgor
at y mater y cyfeiriwyd ato uchod (parthed y cynnig i beidio
â chydnabod tystysgrifau cymhwysedd UE27 ar gyfer lladdwyr)
mewn perthynas â pharagraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin. Noda
paragraff 8, mewn perthynas â'r pwerau yng nghymalau 7, 8 a 9
o'r Ddeddf, “the powers will
not be used to enact new policy in devolved areas; the primary
purpose of using such powers will be administrative
efficiency”.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi rheswm
cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10
mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|