GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid Dŵr a Rhywogaethau Estron mewn Dyframaethu (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 13 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

27 Tachwedd 20186

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Yr wythnos yn dechrau 26 Tachwedd 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

28 Tachwedd 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 20

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau i ddwy gyfres bresennol o Reoliadau Cymru a Lloegr sy'n ymwneud â gofynion iechyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid a chynhyrchion dyframaethu a chofrestru busnesau dyframaethu.  Effaith y Rheoliadau y bwriedir eu gwneud nawr yw dileu pŵer swyddogion yr UE i archwilio adeiladau'r DU a / neu i fynd gydag arolygwyr.  Maent hefyd yn disodli cyfeiriadau at glefydau a geir mewn un Gyfarwyddeb UE benodol â rhestr a geir mewn Rheoliad yr UE.  Bydd yr olaf yn rhan o gyfraith a ddargedwir yr UE, ac ni fydd y cyntaf.

 

Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 16 Tachwedd 2018, ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac yn nodi i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu o ran polisi newydd yn y meysydd datganoledig.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol dros geisio cynnig caniatâd o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.