GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau’r Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 14 Tachwedd 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
27 Tachwedd 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Yr wythnos yn dechrau 26 Tachwedd 2018 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
29 Tachwedd 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 18 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Anhysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio pum set o reoliadau, ac mae pedwar ohonynt yn gymwys i Gymru; mae'r un sy'n weddill yn gymwys i Loegr yn unig ac nid yw'n berthnasol at y dibenion hyn. Mae'r Rheoliadau i'w diwygio yn diffinio asesu effeithiau amgylcheddol ac yn pennu'r hyn y mae'n rhaid iddo ei nodi, ei ddisgrifio a'i asesu ac yn rhagnodi gweithdrefnau cysylltiedig. Mae'n deillio o Gyfarwyddeb 2011/92/EU sy'n ymdrin ag asesu ac effaith prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd. Mae'r Rheoliadau yn gwneud newidiadau bach a thechnegol i sicrhau bod y gyfraith yn y maes hwn yn parhau i weithredu ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r cynghorwyr cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 15 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig. Nid yw'r cynghorwyr cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r cynghorwyr cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol dros geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. |