GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

11 - Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Ymadael â’r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 8 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

20 Tachwedd 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

19/20 Tachwedd 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

26 Tachwedd 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 12

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud cywiriadau i sicrhau bod Rheoliad (EC) Rhif 850/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch llygryddion organig parhaus yn gweithredu wedi i ni adael yr UE. Bydd hyn yn cynnal gweithredadwyedd rheoliadau sy'n gweithredu Confensiwn Stockholm drwy ddileu a chyfyngu ar y defnydd o gemegau sydd wedi'u cydnabod yn rhyngwladol fel rhai gwenwynig, parhaus, bio-gronnus a symudol iawn.

 

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus 2007 (OS 2007/3106), er mwyn galluogi'r rheoliadau hynny i barhau i weithredu yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE.

 

Mae'r cynghorwyr cyfreithiol wedi adolygu'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 12 Tachwedd 2018. Mae'r cynghorwyr cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw'r cynghorwyr cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r cynghorwyr cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol dros geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.