GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau Mercwri (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 8 Tachwedd 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
20 Tachwedd 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
19/20 Tachwedd 2018 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
26 Tachwedd 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 10 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Anhysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1), a pharagraff 21 o Atodlen 7, Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Diben Rheoliadau Mercwri (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 yw gwneud y newidiadau angenrheidiol i'r gyfundrefn sy'n rheoli'r mercwri a'r cyfansoddion mercwri y gellir eu rhyddhau i'r amgylchedd o ganlyniad i weithgareddau dynol. Yn sgil y gofynion rhyngwladol parhaus o dan Gonfensiwn Minamata, mae angen diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir i sicrhau bod y DU yn diwallu ei rhwymedigaethau rhyngwladol.
Heb y diwygiadau a geir yn yr Offeryn Statudol Ymadael â'r UE, byddai'r ddeddfwriaeth yn cynnwys nifer o ddiffygion, a allai greu ansicrwydd cyfreithiol i'r rheini y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â'r rhwymedigaethau.
Nid yw'r diwygiadau yn y Rheoliadau hyn yn gwyro mewn unrhyw ffordd oddi wrth y polisi cyfredol gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Mae'r cynghorwyr cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 12 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Nid yw'r cynghorwyr cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r cynghorwyr cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol dros geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. |