Rheoliadau a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 95 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwnaed y Rheoliadau, gan ddiystyru unrhyw gyfnodau diddymu neu pan fo toriad am fwy na phedwar diwrnod.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2018 Rhif (Cy. )
y dreth dirlenwi, cymru
Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny.
Y gyfradd safonol yw £91.35 y dunnell, y gyfradd is yw £2.90 y dunnell a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £137.00 y dunnell.
Bydd gwarediadau trethadwy a wneir cyn 1 Ebrill 2019 yn parhau’n ddarostyngedig i’r cyfraddau a osodir gan Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/131 (Cy. 33)) o ganlyniad i’r diwygiad a wneir gan reoliad 4 o’r Rheoliadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.
Rheoliadau a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 95 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwnaed y Rheoliadau, gan ddiystyru unrhyw gyfnodau diddymu neu pan fo toriad am fwy na phedwar diwrnod.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2018 Rhif (Cy. )
y dreth dirlenwi, cymru
Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 21 Tachwedd 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Tachwedd 2018
Yn dod i rym 1 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(3) a (6), 46(4) a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017([1]).
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2018 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.
Cymhwyso
2. Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny.
Cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwi
3. Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017—
(a) y gyfradd safonol yw £91.35 y dunnell;
(b) y gyfradd is yw £2.90 y dunnell; ac
(c) y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £137.00 y dunnell.
Diwygio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018
4. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018([2]), ar ôl “neu ar ôl hynny” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2019”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
21 Tachwedd 2018