Memorandwm Esboniadol Rheoliadau Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018 

 

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan Grŵp Swyddfa’r Prif Weinidog ac fe'i osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â'r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

 

Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet

 

Yn fy marn i, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018.

 

Mark Drakeford AC

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

 

13 Tachwedd 2018


1. Disgrifiad

 

Mae Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 ("Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE") yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ddiogelu cyfraith yr UE sy'n cwmpasu pynciau sydd wedi eu datganoli i Gymru wrth i'r DU ymadael â'r UE. Mae hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy'n cwmpasu'r pynciau hyn yn gweithio'n effeithiol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE ac ar ôl i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ("Deddf 1972") gael ei diddymu gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018 ("y Rheoliadau") wedi eu cyflwyno o dan adran 22 o’r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE. Maent yn diddymu'r Ddeddf honno yn llawn yn dilyn y Cytundeb Rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y Bil i Ymadael â'r UE[1], ynghyd â chytundeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad"), ar 15 Mai 2018, i'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Bil hwnnw[2].


 

2. Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Mae paragraff 1(1)(g) o Atodlen 2 i'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn darparu y bydd y weithdrefn uwch, sydd i'w gweld ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn gymwys i'r rheoliadau sydd i'w gwneud o dan adran 22. Mae paragraff 1(5) yn darparu ymhellach bod y weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) yn gymwys i reoliadau drafft i'w gwneud o dan adran 22.

 

Yn unol ag is-baragraffau (6) i (14) o baragraff 1 Atodlen 2, gosodwyd y rheoliadau drafft gerbron y Cynulliad ar 8 Mehefin, ac fe ddaeth y cyfnod o 60 diwrnod ar gyfer sylwadau i ben ar 1 Hydref. Ar ôl rhoi sylw i'r sylwadau a ddaeth i law, mae Gweinidogion Cymru am wneud y rheoliadau ar ffurf y drafft ac, yn unol ag is-baragraff (7) o baragraff 1 Atodlen 2, maent wedi gosod datganiad gerbron y Cynulliad yn nodi pa sylwadau a gyflwynwyd ac yn rhoi manylion y sylwadau hynny.

 

Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ar ffurf y drafft os caiff hynny ei gymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad.

 

3. Cefndir deddfwriaethol

 

Pasiwyd y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE gan y Cynulliad ar 21 Mawrth a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin 2018. Mae adran 22 o'r Ddeddf hon yn grymuso Gweinidogion Cymru i ddiddymu, drwy reoliadau, y Ddeddf ei hun neu unrhyw un o'i darpariaethau.

 

Fel y nodwyd uchod, mae paragraff 1(1)(g) o Atodlen 2 i'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn darparu y bydd y weithdrefn uwch, sydd i'w gweld ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn berthnasol i'r rheoliadau a wneir o dan adran 22. Ar ben hynny, mae is-baragraff (2) o baragraff 1 o Atodlen 2 i'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod drafft o reoliadau o'r fath gerbron y Cynulliad ynghyd â datganiad yn amlinellu eu barn ynghylch a ddylai'r weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) o baragraff 1 fod yn gymwys.  

 

O ganlyniad i hynny, yn unol ag is-baragraff (2) o Atodlen 2 i'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE, mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylai'r weithdrefn uwch yn is-baragraffau (6) i (14) o baragraff 1 yn Atodlen 2 i'r Ddeddf hon fod yn gymwys i'r Rheoliadau. Mae'r farn hon yn adlewyrchu'r ddarpariaeth yn is-baragraff (5) o baragraff 1 o Atodlen 2 i'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r rheoliadau sy'n cael eu gwneud o dan adran 22 fod yn ddarostyngedig i is-baragraffau (6) i (14).

 

Yn ôl is-baragraff (3) o baragraff 1 o Atodlen 2 i'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE,  os yw’r rheoliadau drafft yn cynnwys darpariaeth sy'n addasu deddfwriaeth sylfaenol, rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Cynulliad yn esbonio pam bod angen y ddarpariaeth. Drwy ddiddymu'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE, mae'r Rheoliadau yn addasu deddfwriaeth sylfaenol ac, yn unol â'r gofyniad i egluro pam fod angen y ddarpariaeth i addasu deddfwriaeth sylfaenol, mae Gweinidogion Cymru yn nodi bod hyn er mwyn cyflawni telerau'r Cytundeb Rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y Bil i Ymadael â'r UE. Er gwybodaeth, mae paragraff 10 o'r Cytundeb yn nodi:

 

‘As part of the implementation of this agreement, the governments agree that steps will be initiated to secure the repeal of Bills passed by the devolved legislatures as possible alternatives to the Withdrawal Bill, before the Withdrawal Bill receives Royal Assent.’

 

Yn unol ag is-baragraff (7) o baragraff 1 o Atodlen 2, mae Gweinidogion Cymru wedi gosod datganiad ar wahân gerbron y Cynulliad yn nodi a gyflwynwyd unrhyw sylwadau ac, os felly, yn rhoi manylion y sylwadau hynny.

4. Diben y ddeddfwriaeth a'r effaith y bwriedir iddi ei chael

 

Yn ei Phapur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, dywedodd Llywodraeth Cymru yn glir ei bod yn parchu canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r UE a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod bod angen deddfwriaeth i sicrhau bod y gyfraith yn parhau i weithredu'n effeithiol pan fydd y DU yn ymadael â'r UE.

 

Mae Deddf yr UE (Ymadael) 2018 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ("Deddf 1972") a darpariaeth arall mewn perthynas ag ymadawiad y DU â'r UE. Yn benodol, mae'n:

 

·         diddymu Deddf 1972 o'r "diwrnod ymadael”;

·         diogelu’r holl ddeddfwriaeth ddomestig a wnaed yn y DU i weithredu rhwymedigaethau’r UE (er enghraifft rheoliadau a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf 1972 sy’n gweithredu cyfarwyddebau’r UE);

·         troi’r corff o gyfraith yr UE sy’n uniongyrchol gymwys yn y DU (er enghraifft rheoliadau’r UE sy’n uniongyrchol gymwys yn y DU drwy weithrediad Deddf 1972) yn gyfraith ddomestig awdurdodaethau’r DU (“cyfraith y DU”);

·         corffori unrhyw hawliau eraill sydd ar gael mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd Deddf 1972, gan gynnwys yr hawliau sydd wedi eu cynnwys yng nghytuniadau’r UE, y gellir dibynnu arnynt ar hyn o bryd yn uniongyrchol yng nghyfraith y DU heb yr angen am fesurau gweithredu penodol;

·         darparu bod i gyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd cyn i’r DU ymadael â’r UE yr un statws rhwymol, neu’r un statws o ran cynsail, yn llysoedd y DU â phenderfyniadau’r Goruchaf Lys.

 

Bydd y gyfraith sydd a fydd yn cael ei throi neu ei diogelu gan y Ddeddf i Ymadael â’r UE yn “gyfraith yr UE a ddargedwir”. Diffinnir cyfraith yr UE a ddargedwir yn adran 6(7) o'r Ddeddf i Ymadael â'r UE fel unrhyw beth sydd, ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, yn parhau i fod yn gyfraith ddomestig neu ffurfio rhan ohoni yn rhinwedd adrannau 2, 3 neu 4 neu is-adran (3) neu (6) o adran 6 o'r Ddeddf i Ymadael â'r UE (gan y caiff y corff hwnnw o gyfraith ei ychwanegu ato neu ei addasu fel arall gan neu o dan y Ddeddf i Ymadael â'r UE neu gan gyfraith ddomestig arall o bryd i'w gilydd). Felly, bydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn cynnwys cyfraith ar bynciau sydd wedi eu datganoli i'r Cynulliad yn ogystal â chyfraith ar bynciau sydd wedi eu cadw yn ôl.

 

Cyflwynwyd Bil a ddaeth i fod yn Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd  (Ymadael) 2018 yn Nhŷ'r Cyffredin ar 17 Gorffennaf 2017[3].

 

Ar 12 Medi 2017, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Cynulliad mewn cysylltiad â'r Bil i Ymadael â'r UE fel y’i cyflwynwyd ar 13 Gorffennaf 2017[4]. Roedd yn cynnwys rhestr lawn o gymalau a oedd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, neu a fyddai’n addasu’r cymhwysedd hwnnw. Nododd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu argymell i’r Cynulliad roi cydsyniad i’r Bil i Ymadael â'r UE fel y’i drafftiwyd wrth ei gyflwyno.

 

Nod Llywodraeth Cymru o'r cychwyn cyntaf oedd sicrhau Bil i Ymadael â'r UE diwygiedig a fyddai'n darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau a dinasyddion am yr hawliau, y rhwymedigaethau a'r cyfrifoldebau a fydd yn bodoli pan fydd y DU yn ymadael â'r UE, gan hefyd barchu'r setliad datganoli presennol.

 

O ganlyniad, ar 19 Medi 2017, anfonodd Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog yr Alban lythyr ar y cyd at Brif Weinidog y DU gan nodi cyfres o welliannau arfaethedig i’r Bil i Ymadael â'r UE. Eglurodd y llythyr y gallai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ystyried argymell i’r Cynulliad ac i Senedd yr Alban roi cydsyniad pe gwnaed y gwelliannau i’r Bil hwnnw. Trafodwyd y gwelliannau yn Nhŷ'r Cyffredin ar 4 a 12 Rhagfyr yn ystod y cyfnod Pwyllgor, ond ni chytunwyd arnynt. Ni chafodd unrhyw welliannau arwyddocaol i rannau perthnasol y Bil i Ymadael â'r UE eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU yn ystod y cyfnod Adrodd.

 

Ar 29 Ionawr, unwaith eto wrth gydweithio â Llywodraeth yr Alban, trefnodd Llywodraeth Cymru sesiwn friffio i aelodau Tŷ'r Arglwyddi ar y cysylltiad rhwng y Bil i Ymadael â'r UE a datganoli.

 

Cynhaliwyd sawl cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion rhwng mis Chwefror a mis Mai 2018 ar ffurf cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd Negodiadau'r UE. Roedd y cyfarfodydd hynny yn cynnwys trafodaeth ar y cynigion a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU ar y Bil i Ymadael â'r UE ac fe gytunwyd bod y tair llywodraeth yn rhannu'r nod o ddod i gytundeb ar y materion hyn. Cafodd gwaith dwys ei wneud y tu allan i'r cyfarfodydd hynny, ar lefel swyddogion a Gweinidogol, er mwyn negodi sefyllfa lle byddai modd dod i gytundeb o'r fath a lle byddai modd cyfaddawdu.

 

Cafodd Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) ("Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r UE"), a elwir hefyd yn Fil Parhad, ei gyflwyno i'r Cynulliad ar 7 Mawrth 2018 yn dilyn cytundeb y Cynulliad i'w drin fel Bil Brys. Byddai cyflwyno'r Bil yn darparu opsiwn wrth gefn, er mwyn sicrhau parhad cyfreithiol deddfwriaeth yr UE ynghylch materion datganoledig yng Nghymru ac i ddiogelu datganoli os na fyddai modd dod i gytundeb â Llywodraeth y DU  ynghylch y Bil i Ymadael â'r UE.

 

Cwblhawyd Cyfnod 1 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r UE ar 13 Mawrth, Cyfnod 2 ar 20 Mawrth a Chyfnodau 3 a 4 ar 21 Mawrth. Pasiwyd y Bil gyda 39 pleidlais o blaid a 13 yn erbyn (gydag un yn ymatal).

 

Ar ddiwedd y cyfnod hysbysu o bedair wythnos, cyfeiriodd y Twrnai Cyffredinol y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r UE i'r Goruchaf Lys er mwyn ystyried a oedd y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Cyfeiriodd y Twrnai Cyffredinol ac Adfocad Cyffredinol yr Alban Fil Parhad yr Alban yn yr un modd.

 

Yr opsiwn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio drwy gydol y broses oedd gweld Bil i Ymadael â'r UE oedd yn parchu datganoli. Parhawyd i negodi rhwng y Llywodraethau ac arweiniodd hynny at y Cytundeb Rhynglywodraethol, gyda Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau i'r Bil i Ymadael â'r UE fel rhan o'r Cytundeb hwnnw. Yna fe gafodd y gwelliannau hynny eu cytuno gan y Senedd. Roedd hynny’n gynydd sylweddol o gymharu â’r sefyllfa gychwynnol, ac yn amddiffyn buddiannau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gadarn. O ganlyniad, roedd modd i Lywodraeth Cymru argymell i'r Cynulliad roi cydsyniad i'r Bil.

 

Arweiniodd y gwelliannau a'r Cytundeb Rhynglywodraethol at y canlynol:

 

 

 

 

·         ymrwymiad diamwys na fydd Llywodraeth y DU yn gofyn i Senedd y DU wneud newidiadau deddfwriaethol i'r meysydd hyn yn y gyfraith mewn perthynas â Lloegr pan fyddant ‘wedi'u rhewi’.

 

 

·         bydd Confensiwn Sewel (sef na fydd Llywodraeth y DU fel rheol yn deddfu ar faterion datganoledig heb gydsyniad deddfwrfeydd datganoledig) yn gymwys i unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol i osod y fframweithiau newydd.

 

Cafodd y Bil i Ymadael â'r UE Gydsyniad Brenhinol ar 26 Mehefin 2018.

 

Mae'r Rheoliadau yn diddymu'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn unol â'r hyn a gytunwyd gyda Llywodraeth y DU yn y Cytundeb Rhynglywodaethol.

 

 

5. Ymgynghori

 

Yr opsiwn yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio oedd gweld Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yn cael ei ddiwygio er mwyn iddo ddarparu'r fframwaith deddfwriaethol angenrheidiol yn dilyn y penderfyniad i ymadael â'r UE. Roedd y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn darparu system gyfreithiol amgen i'w defnyddio pe na bai'r gwelliannau priodol i barchu'r setliad datganoli yn y Bil yn cael eu sicrhau. Gwnaed y gwelliannau priodol cyn i'r Bil ddod yn Ddeddf. Mae'r gwelliannau rheiny, ynghyd â'r ymrwymiadau cysylltiedig sydd wedi'u cynnwys yn y Cytundeb Rhynglywodraethol, yn golygu nad oes angen yr opsiwn wrth gefn o Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE bellach, ac fe benderfynwyd diddymu'r Ddeddf honno.

 

Gan ystyried yr amserlen dynn ar gyfer cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, ni fu'n bosib cynnal ymgynghoriad ar y Rheoliadau. Fodd bynnag, daeth y Cytundeb Rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ganlyniad i drafodaethau a negodiadau dwys.

 

Ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau polisi, gan gynnwys Diogelu Dyfodol Cymru a Brexit a Datganoli, yn ogystal â chymryd camau i sicrhau bod rhanddeiliaid yn rhan o'r broses, er enghraifft drwy'r Grŵp Cynghori ar Ewrop a sefydlwyd i roi cyngor i Lywodraeth Cymru. Mae'r adborth gan randdeiliaid wedi cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, ac yn parhau felly, wrth iddi lunio a gweithredu ei hymateb i benderfyniad y DU i ymadael â'r UE.

 

Bydd gwaith ymgynghori priodol yn digwydd ar reoliadau a wneir o dan y Ddeddf i Ymadael â'r UE, a fydd yn darparu fframwaith deddfwriaethol yn dilyn diddymu'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE.

 

6. Asesiad Effaith Rheoleiddiol

 

Roedd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a gynhaliwyd ar gyfer y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn [5] cynnwys tri opsiwn:

 

Opsiwn 1 – Gwneud dim ac, o ganlyniad, defnyddio'r pwerau a ddarperir ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU (fel ag yr oedd ar adeg cyflwyno'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r UE, cyn i'r gwelliannau gael eu gwneud iddo).

 

Opsiwn 2 – Parhau i geisio gweithio gyda Llywodraeth y DU i wella Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i adlewyrchu'r setliad datganoli yn well.

 

Opsiwn 3 – Cyflwyno'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) i ddiogelu cyfraith yr UE, fel y mae'n gymwys mewn perthynas â materion datganoledig, wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a darpariaethau cysylltiedig pellach.

 

Opsiwn 2 oedd yr opsiwn a ffafriwyd gan Lywodraeth Cymru, ac fe gafodd ei wireddu drwy'r Cytundeb Rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y Bil i Ymadael â'r UE. Roedd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn cynnwys datganiad ar gostau'r opsiwn hwn, ac nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol arall wedi'i gynnal mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn gan nad yw'r wybodaeth ynghylch y costau hyn wedi newid ers cynnal yr Asesiad ar gyfer y Ddeddf.

 

Fodd bynnag, fel y dywedwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Ddeddf, er na fu’n bosib cynhyrchu amcangyfrif dibynadwy am gost pob opsiwn hyd yma, byddai’n rhesymol rhagdybio y byddai’r costau gweinyddu i Lywodraeth Cymru ar eu hisaf dan Opsiwn 1 ac ar eu huchaf dan Opsiwn 3.

 

O ganlyniad, gellid rhagdybio yn rhesymol y byddai'r costau gweinyddu i Lywodraeth Cymru wrth gyflwyno is-ddeddfwriaeth dan y Ddeddf i Ymadael â'r UE diwygiedig (Opsiwn 2) yn is na'r is-ddeddfwriaeth dan Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE (Opsiwn 3).

 

7. Asesiadau Effaith

 

Cydraddoldeb / Plant a Phobl Ifanc

 

Cynhaliwyd Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb[6] ac ar Blant a Phobl Ifanc[7] ar gyfer y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE.

 

Roedd yr asesiadau effaith hynny'n tynnu sylw at y ffaith bod cyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE i'w chreu drwy reoliadau dan y Ddeddf, felly ni fyddai'r Ddeddf ei hun yn arwain yn uniongyrchol at newidiadau i gyfraith yr UE sy'n gymwys ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu'r Ddeddf yn gyfan, ac ni fwriedir gwneud unrhyw reoliadau dan y Ddeddf cyn ei diddymu. Ni fydd y diddymu yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar unigolion, gan na fydd yn diddymu unrhyw hawliau y mae unigolion yn eu mwynhau ar hyn o bryd.

 

Roedd yr asesiadau effaith hynny yn cymryd i ystyriaeth bod y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn cynnwys gofyniad i ddehongli cyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE yn unol â Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE, o gymharu â'r Bil i Ymadael â'r UE a oedd ar y pryd yn darparu nad oedd y Siarter yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir. Roedd yr asesiadau yn dadansoddi'r posibilrwydd, i'r graddau yr oedd y pwerau dan y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn cael eu harfer i greu cyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE, y gallai'r gofyniad i ddehongli'r gyfraith yn unol â'r Siarter liniaru unrhyw bosibilrwydd o golli hawliau o ganlyniad i agwedd y Bil i Ymadael â'r UE at y Siarter.

 

 

 

Hawliau Dynol

 

Nid yw’r rheoliadau drafft yn codi unrhyw faterion mewn perthynas â’r hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Ni fydd deddfu na diddymu’r Ddeddf yn arwain at unrhyw effaith uniongyrchol ar hawliau unigolion. Fodd bynnag, bydd diddymu’r Ddeddf yn golygu y bydd y camau deddfwriaethol angenrheidiol i wneud newidiadau deddfwriaethol i gyfraith ddatganoledig yn dod o dan y Ddeddf i Ymadael â’r UE. Bydd yn rhaid i bob cyfres o reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (a Gweinidogion y DU) dan y Ddeddf honno gael eu hystyried yn unigol er mwyn sicrhau eu bod yn gydnaws â’r Confensiwn.

 

Y Gymraeg

 

Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg[8] ar gyfer y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE. Roedd yn datgan y byddai dau o'r tri opsiwn dan ystyriaeth yn cael effeithiau cadarnhaol ar y Gymraeg (Opsiwn 2 – Bil diwygiedig i Ymadael â'r UE – ac Opsiwn 3 – y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE). Is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud dan y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE fyddai wedi cynnig y potensial mwyaf i gynyddu swm y ddeddfwriaeth sydd ar gael yn Gymraeg, er enghraifft gan y byddai cyfraith uniongyrchol berthnasol yr UE wedi bod ar gael yn ddwyieithog. Fodd bynnag, roedd diwygio'r Bil i Ymadael â'r UE hefyd yn cynnig potensial am effaith gadarnhaol yn sgil y ffaith y byddai cyfran uwch o reoliadau ar gael yn ddwyieithog wrth i bwerau Gweinidogion Cymru ehangu. Byddai hyn yn cynnig mwy o gyfle i wneud cyfreithiau dwyieithog. Yn arbennig, gellid dewis ailddatgan cyfraith uniongyrchol berthnasol yr UE i ddarparu eglurder a hygyrchedd, a fyddai'n golygu y byddai fersiwn cyfrwng Cymraeg o'r gyfraith yn cael ei darparu[9].

 

Er na fydd diddymu'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE o bosib yn darparu'r effaith fwyaf cadarnhaol ar y Gymraeg, mae'n cael ei ystyried fel yr ateb gorau yn gyffredinol ac mae'n cyfateb i'r opsiwn a ffafriwyd gan Lywodraeth Cymru o'r cychwyn – Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) diwygiedig sy'n parchu datganoli a darparu sicrwydd i fusnesau a phobl Cymru, fel y cyflawnwyd gan y Cytundeb Rhynglywodraethol a oedd hefyd yn cadarnhau y byddai camau'n cael eu cymryd i ddiddymu'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE.

 

Cafodd effaith y Rheoliadau ar ddyletswyddau statudol Gweinidogion Cymru dan adrannau 77-79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 neu gynlluniau llywodraeth leol, sector gwirfoddol a busnes dan adrannau 73, 74 a 75 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn eu tro eu hystyried yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE a'r Asesiadau Effaith cysylltiedig.

 

 

 

 



[1] https://www.gov.uk/government/publications/intergovernmental-agreement-on-the-european-union-withdrawal-bill

[2] Daeth Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ddeddf ar 26 Mehefin 2018.

[3] https://services.parliament.uk/bills/2017-19/europeanunionwithdrawal.html

[4]http://www.assembly.wales/laid%20documents/lcm-ld11177/lcm-ld11177-w.pdf

[5] http://www.assembly.wales/laid%20documents/pri-ld11449-em/pri-ld11449-em-w.pdf

[6] https://gov.wales/docs/caecd/publications/180308-equality-impact-assessment-cy.pdf

[7] https://gov.wales/docs/caecd/publications/180308-children-impact-assessment-cy.pdf

[8] https://gov.wales/docs/caecd/publications/180308-language-impact-assessment-cy.pdf

[9] Gweler paragraff 20(b) o Atodlen 7 Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).