GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau Mynediad Trafnidiaeth Forol at Fasnach a Masnach Arforol (Dirymu) (Ymadael â’r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 29 Hydref 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
13 Tachwedd 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
12 Tachwedd 2018 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
19 Tachwedd 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 2 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Anhysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Mae Gwasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad yn cytuno â chrynodeb ac amcan y gwelliannau a wneir gan y Rheoliadau fel y'u nodir gan Lywodraeth Cymru yn ei Datganiad Ysgrifenedig.
Fodd bynnag, mae'r Gwasanaethau Cyfreithiol am nodi anghysondeb rhwng y fersiwn Saesneg a'r fersiwn Gymraeg o'r Datganiad Ysgrifenedig, ac yn dymuno tynnu sylw'r Aelodau at yr anghysondeb hwn.
Ar ddechrau'r adran sy'n dwyn y teitl 'Pam y rhoddwyd cydsyniad', mae'r fersiwn Saesneg yn nodi: “this SI revokes a variety of EU legislation around shipping/maritime transport services”. Fodd bynnag, mae'r fersiwn Gymraeg yn nodi bod yr OS yn "diwygio" ("amend") amrywiol ddeddfwriaeth yr UE sy’n gysylltiedig â gwasanaethau morgludiant/morol. Mae'r Gwasanaethau Cyfreithiol yn credu bod y fersiwn Saesneg o'r Datganiad Ysgrifenedig yn cynnig disgrifiad cywirach, gan fod mwyafrif cyfraith yr UE yr effeithir arno yn y Rheoliadau hyn yn cael ei ddirymu (revoke), yn hytrach na'i ddiwygio (amend).
O ran y rhesymau pam y mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol bod y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU yn cynnwys darpariaethau datganoledig, efallai y bydd yr Aelodau am drafod y rhesymeg a ddarparwyd yn nhri pharagraff olaf y Datganiad Ysgrifenedig.
Mae’r mater a gadwyd yn ôl oedd yn gysylltiedig â morgludiant yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gysylltiedig â llongau ar y môr neu unrhyw ddyfroedd eraill ac mae’n cynnwys pob agwedd ar forgludiant, gan gynnwys gwasanaethau morgludiant. Mae cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn berthnasol i gymorth ariannol ar gyfer gwasanaethau morgludiant i Gymru, o Gymru ac o fewn Cymru.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried y byddai’n gymesur i Weinidogion Cymru ddeddfu mewn ffordd mor gyfyngedig, a’i fod yn briodol i Lywodraeth y DU wneud hynny. Nid oes disgwyl unrhyw effaith ymarferol ar Gymru o’r newidiadau hyn.
Ar sail hyn, byddai gwneud OS ar wahân yng Nghymru a Lloegr yn arwain at ddyblygu gwaith a chymhlethdod diangen i'r llyfr statud. Byddai cytuno i OS ledled y DU/Cymru a Lloegr yn sicrhau bod dull cydlynol ble y bo’n bosibl o baratoi y llyfr statud i weithredu’n iawn wedi i’r DU ymadael â’r UE. Bydd y dull hwn o weithredu yn hyrwyddo eglurder a hygyrchedd deddfwriaeth ledled y DU. O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn briodol i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan yn yr achos hwn."
|