GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Cerbydau Nwyddau Trwm (Codi Tâl am Ddefnyddio Seilwaith Penodol ar y Rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 30 Hydref 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

13 Tachwedd 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

12 Tachwedd 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

20 Tachwedd 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 4

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad yn cytuno â chrynodeb ac amcan y gwelliannau a wneir gan y Rheoliadau fel y'u nodir gan Lywodraeth Cymru yn ei Datganiad Ysgrifenedig. O ran y rhesymau pam mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU, efallai y bydd yr Aelodau am drafod y rhesymeg a ddarparwyd yn y Datganiad Ysgrifenedig:

 “Nid oes gwahaniaeth rhwng ymagwedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi i'w gywiro, ac nid yw’r cywiriad yn wleidyddol sensitif. O ganlyniad, byddai gwneud OS ar wahân yng Nghymru a Lloegr
 yn arwain at ddyblygu gwaith a chymhlethdod diangen i'r llyfr statud. O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn briodol i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan yn yr achos hwn."