GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Gwrteithiau a Deunydd Amoniwm Nitrad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 1 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

13 Tachwedd 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

12 Tachwedd 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

22 Tachwedd 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 6

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad yn cytuno â chrynodeb ac amcan y gwelliannau a wneir gan y Rheoliadau fel y'u nodir gan Lywodraeth Cymru yn ei Datganiad Ysgrifenedig.

 

O ran y rhesymau pam y mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol bod y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU yn cynnwys darpariaethau datganoledig, efallai y bydd yr Aelodau am drafod y rhesymeg a ddarparwyd yn nau baragraff olaf y Datganiad Ysgrifenedig.

 

“O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn pan fo gofyn inni ystyried a chywiro nifer digyffelyb o ddarnau deddfwriaeth o fewn amserlen dynn gan ddefnyddio adnoddau cyfyngedig, egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw ein bod yn gofyn i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan ar gyfer nifer mawr o offerynnau statudol. Mae hyn yn sicrhau dull cydlynol lle y bo'n bosibl, er mwyn sicrhau bod y gyfraith yn glir ar draws y DU. Gan nad oes gwahaniaeth rhwng ymagwedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi i'w gywiro, mae'n briodol mai Llywodraeth y DU sy'n gwneud yr OS y tro hwn.

 

Gallai methu i weithredu'r diwygiadau testunol sydd eu hangen i sicrhau bod Rheoliadau'r UE yn parhau i gael eu gweithredu, yn yr achos hwn Rheoliad yr UE (EC) 2003/2003 fod â goblygiadau posibl o ran masnach. Mae masnach ym maes gwrteithiau'r UE yn hanfodol gan y bernir bod y cyflenwad o amoniwm nitrad yn gyfyngedig a gallai unrhyw darfu ar y cyflenwad olygu prinder sylweddol yn y DU.”