GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 30 Hydref 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

20 Tachwedd 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 20

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad yn cytuno â diben y Rheoliadau hyn, fel y'u nodir yn hysbysiad Llywodraeth Cymru.

 

O ran y rhesymau pam mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol bod y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU yn cynnwys darpariaethau datganoledig, efallai y bydd yr Aelodau am drafod paragraff canlynol yr hysbysiad:

 

"Nid oes gwahaniaeth rhwng ymagwedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi i'w gywiro, ac fe wnaed y ddeddfwriaeth wreiddiol cyn datganoli.  O ganlyniad, byddai gwneud OS ar wahân yn arwain at ddyblygu gwaith a chymhlethdod diangen i'r llyfr statud. O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn briodol i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan yn yr achos hwn."