GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Ioneiddio (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 26 Hydref 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

5 Tachwedd 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

5 / 6 Tachwedd 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

15 Tachwedd 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 19

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad yn cytuno â diben ac effaith y Rheoliadau hyn, fel y'u nodir yn hysbysiad Llywodraeth Cymru.

 

O ran y rhesymau pam mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol bod y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU yn cynnwys darpariaethau datganoledig, efallai y bydd yr Aelodau am drafod paragraff canlynol yr hysbysiad:

 

"Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn o ran ac ar ran Cymru, am resymau’n ymwneud ag effeithlonrwydd, hwylustod ac oherwydd natur dechnegol y diwygiadau. Mae’r diwygiadau wedi cael eu hystyried yn llawn; ac nid oes unrhyw wahaniaeth o ran polisi. Diben y diwygiadau hyn yw sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i weithio ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Mae hyn yn unol â’r egwyddorion ar gyfer cywiro y cytunwyd arnynt ym mis Mai gan Is-bwyllgor y Cabinet ar Bontio Ewropeaidd. "