Crynodeb

 


1.    Mae’r papur hwn yn crynhoi effaith cyllideb dros dro 2019-20 ar wasanaethau lleol mewn perthynas â’r themâu a’r egwyddorion a nodir yn y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid i’r Pwyllgor ELGC. Yn y nawfed flwyddyn o galedi mae'n anodd anghytuno â’r casgliad yr ymchwiliwyd iddo’n ddiweddar gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt fod “the politics of austerity ‘dumped’ the fiscal crisis onto the local state”.  

 

2.    I wasanaethau lleol yng Nghymru mae hyn wedi golygu bod mwy na £1bn yn llai o gyllid gan Lywodraeth Cymru, bron i 25,000 o swyddi wedi’u colli, ac mae rhai gwasanaethau llywodraeth leol yn gwario ar lefelau cyn datganoli ac wedi’u colli.  Y paradocs i’r trethdalwyr lleol yw eu bod mewn gwirionedd yn ‘talu mwy am lai’, gan fod costau penderfyniadau cenedlaethol heb eu hariannu neu wedi’u hariannu’n rhannol a threthdalwyr y cyngor sy’n gorfod talu am hyn.

 

3.    Mae gweddill y gweithlu wedi bod yn destun y polisi tâl a ddechreuwyd yn 2010, yn gyntaf gyda thâl wedi’i rewi am ddwy flynedd, yna gyda chap o 1% am dros bum mlynedd. O eleni ymlaen, cytunwyd ar gytundebau cyflog cymedrol ar gyfer athrawon, ymladdwyr tân a mwyafrif y swyddogion y negodir eu telerau o dan yr NJC. Fodd bynnag, mae cytundebau cyflog yn parhau heb eu hariannu heblaw am y cyllid rhannol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer tâl athrawon. Mae bil posibl o £41m ar gyfer cynnydd mewn cyfraniadau i Gynllun Pensiwn Athrawon yn bryder mawr, ac nid oes eglurder ynghylch hyn ar hyn o bryd.

 

4.    Ymhellach i’r ddogfen gyllideb a ddosbarthwyd i bob AC gan CLlLC[1], gofynnodd yr Arweinydd i bob awdurdod ddychwelyd arolwg ynghylch eu sefyllfa ariannol. Ni fyddai unrhyw un yn honni bod statws gwyddonol i’r arolwg hwn, ond mae’r canlyniadau’n dangos darlun cyffredin sy’n cadarnhau bod cynghorau Cymru wedi dihysbyddu’r holl bosibiliadau wrth geisio gwneud dewisiadau yn y gyllideb. Nod yr arolwg oedd cael ymatebion lefel uchel i’r cwestiynau canlynol gyda’r nod o bwyso a mesur yr her bresennol ar lefel Cymru gyfan a’r hyn y mae’n ei olygu i gynaliadwyedd. Mae’r rhan fwyaf o’r hyn sy’n dilyn yn deillio o hynny.

 

Setliad Llywodraeth Leol

 

5.    Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, rydym yn dal i ystyried llawer o’r wybodaeth yn y cyhoeddiad a wnaed am Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol ar 9 Hydref.  Mae ein hymateb cychwynnol yn y datganiad i’r wasg yn atodiad 1 ac rydym yn disgwyl am fanylion am grantiau cyfalaf a refeniw penodol. Mae’r prif bwysau o ran costau yn ddigon hysbys. Ar adeg gosod manylion y gyllideb ar gyfer 2018-19, nodwyd lefel grant dangosol ar gyfer 2019-20 a fyddai wedi golygu gostyngiad o -1%. Yn y cyhoeddiad diweddaraf mae lefel y gostyngiad yn -0.3%.  Canfuwyd adnoddau i gau peth o’r bwlch a thybiwn ei fod yn cynnwys yr arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer tâl athrawon, arian ar gyfer prydau ysgol am ddim a £20m yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol.  Mae hyn yn gadael gwasanaethau lleol yn wynebu bwlch yn y gyllideb o £262m cyn cynnwys unrhyw gynnydd yn nhreth y cyngor. Gan fod cynghorau’n wynebu gostyngiad arfaethedig o £57m cyn adfer rhai o’r grantiau a RSG y bwlch cyllidebol gros neu gyffredinol yw £317m fel y nodir yn nhabl 1 isod.

 

6.    Mae’r tabl yn dangos hefyd pan ydych yn ystyried yr adnoddau a ychwanegwyd yn ôl i’r setliad, fod y sefyllfa’n dal yn ddifrifol. Mae’r diffyg ar gyfer ysgolion a gwasanaethau addysg yn bryder penodol.

 

Tabl1:Blwch yn y gyllideb cyn cynnydd yn nhreth y cyngor

 

Materion

 

7.    Mae CLlLC yn ymwybodol fod “problemau blynyddol” yn mynd i arwain at drafodaeth nad oes neb yn edrych ymlaen ati. Rydym yr un mor ymwybodol fod y pwysau ar gyllidebau Llywodraeth Cymru’n enfawr a gyda’r GIG yn dathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu nid oes gan wasanaethau ataliol llywodraeth leol broffil gwleidyddol cyfartal. Mae problem bellach yn codi mewn trafodaethau o’r natur hwn. 

 

8.    Nid sefyllfa ariannol haniaethol yw hon. Mae effaith caledi wedi arwain at gau llyfrgelloedd; dod â gwasanaeth pryd ar glud yr henoed i ben; torri ar wasanaethau bysiau; a dileu gwasanaethau ieuenctid. Wrth ychwanegu’r rhain at yr holl doriadau lles a weinyddir drwy gynghorau mae’r newidiadau hyn yn cael effaith niweidiol ar ein cymunedau. Mae Thiemo Fetzer, athro economeg ym Mhrifysgol Warwig wedi paratoi papur manwl sy’n dangos bod y toriadau lles o dan lywodraeth glymblaid 2010-15 wedi cael effaith bendant ar benderfyniad y DU i adael yr UE. Mae Fetzer yn dadlau bod newidiadau economaidd sylweddol wedi arwain at anfodlonrwydd â’r system wleidyddol a bod hyn wedi arwain at gefnogi poblyddiaeth ac yna Brexit. Ar ôl wyth mlynedd o doriadau yn y gyllideb, mae gormod o gymunedau’n edrych yn llai tebyg i weddill Ewrop ac yn debycach i’r Unol Daleithiau, gyda gwladwriaeth les sy’n lleihau a thlodi’n lledaenu.

9.    Mae’r themâu cyffredinol sy’n deillio o arolwg CLlLC yn amlwg ac yn galw am drafodaeth fanwl gyda Llywodraeth Cymru a chamau pendant i ddilyn. Oni bai ein bod yn buddsoddi mewn gwariant ataliol nid yw’r dull un system o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi’i gynnwys yn “Cymru Iachach” yn bosibl. Mae asesiad 2016 y Sefydliad Iechyd o anghenion ariannu’r dyfodol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn 2030-2031 yn awgrymu, a thybio y bydd gwelliant blynyddol o 1% o ran effeithlonrwydd (£70 miliwn y flwyddyn), y byddai angen i wariant o ddydd i ddydd ar y GIG gynyddu o 2.9% y flwyddyn mewn termau real – ychydig dros £200 miliwn y flwyddyn ar sail prisiau presennol – i gwrdd â chostau a phwysau’r galw.

 

10. Gan fod cyllideb Llywodraeth Cymru’n cwrdd yn llawn ac yn mynd ymhellach na’r holl bwysau iechyd a nodir yn adroddiad y Sefydliad Iechyd “The Path to Sustainability”, rhaid iddo hefyd ddelio â’r argyfwng mewn gofal cymdeithasol. Y sylw allweddol yn y cyhoeddiad hwn yw, wrth i boblogaeth Cymru heneiddio, rhagwelir y bydd y pwysau ar ofal cymdeithasol yn codi ar gyfradd gyflymach na’r GIG. Yn strategaeth newydd Llywodraeth Cymru “Cymru Iachach”, dywedir yn benodol ei bod yn ceisio llunio ‘model cyllid cynaliadwy ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn parhau’n addas dros gyfnod hir’.

 

11. I wneud hyn mae’r Sefydliad Iechyd wedi dangos pwysigrwydd gofal cymdeithasol i ddarparu GIG effeithiol. I gyflawni hyn, rhagamcanir y bydd angen i wariant net ar ofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru gynyddu o 4.1% y flwyddyn mewn termau real, sy’n gyfystyr â £65 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd. Mae hyn yn gyson â’n hamcangyfrifon ein hunan ar waith diweddar a wnaed yn Lloegr gan y Sefydliad Astudiaethau Ariannol a Chonffederasiwn GIG. Ydi Llywodraeth Cymru’n derbyn y casgliad hwn? Os nad yw’n ei dderbyn, sut mae cysoni hyn ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n galw am fwy o fuddsoddiad mewn mesurau ataliol, gan fod tai, addysg, hamdden a gwasanaethau cymunedol oll yn cael effaith ar les?

12. Yn yr un modd, ni ddylid anwybyddu gwasanaethau plant, ac mae CLlLC a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Plant yng Nghymru’n galw ar y cyd yr wythnos hon am fwy o adnoddau i wasanaethau plant er mwyn cwrdd â’r cynnydd enfawr yn y galw. Mae ein harolwg diweddar wedi datgelu bod un cyngor wedi gweld cynnydd o 72% yn nifer y plant oedd yn derbyn gofal ac yn destun gorchmynion gofal llawn yn y tair blynedd ddiwethaf, gan arwain at orwariant o 15% yn y gyllideb.

 

13. Mae’r dystiolaeth o arolwg CLlLC yn dangos bod isadeiledd gwasanaeth craidd rhai o gymunedau tlotaf Cymru dan fygythiad na welwyd erioed o’r blaen. Mae’r rhestr ganlynol yn seiliedig ar un arolwg a gwblhawyd ac mae'n dangos y dewisiadau amhosibl y mae un awdurdod yn eu hystyried y flwyddyn nesaf er mwyn cysoni ei gyllideb. Mae’r themâu hyn yn gyffredin ym mhob arolwg a gwblhawyd.

 

 

·         Gostyngiad difrifol yn y gefnogaeth i rai ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg.

·         Stopio’r rhaglen moderneiddio ysgolion.

·         Dileu teithio i’r ysgol am ddim i rai dros 16 oed.

·         Lleihau pa mor aml y cynhelir archwiliadau diogelwch bwyd ar gyfer safleoedd risg is.

·         Cau’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd.

·         Cau canolfannau amwynder dinesig a chanolfannau ailgylchu.

·         Lleihau’r gwariant ar gynnal ffyrdd i 25% o’r lefel bresennol.

·         Lleihau’n sylweddol weithgaredd glanhau strydoedd.

·         Gweithredu gostyngiadau sylweddol o ran cymorth i’r henoed.

·         Cyfyngu’n sylweddol ar wasanaethau i’r rhai ag anableddau dysgu difrifol.

 

14. Mae’r dewisiadau hyn ar lefel leol yn cynyddu yn sgil nifer o faterion macro ar lefel genedlaethol, a gododd fel pryderon cyffredin gan awdurdodau yn yr arolygon a gwblhawyd.

 

·         Pwysau gweithlu yw’r pwysau mwyaf oherwydd cytundebau tâl a chyfraniadau cynyddol cyflogwyr ar gyfer cynlluniau pensiwn wedi’u hariannu a heb eu hariannu.

 

·         Mae nifer o awdurdodau bellach yn dweud bod problemau ariannol gydag ysgolion mor ddifrifol â gofal cymdeithasol.

 

·         Gyda chronfeydd negyddol ysgolion yn cynyddu, mae gorwariant mewn gofal cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol hon yn cyfateb i tua 80% o’r cyfanswm o £36m a adroddwyd gan yr 16 awdurdod.

 

·         Mae targedau ar gyfer arbedion ac effeithlonrwydd bellach yn symud i bob maes, yn cynnwys y gwasanaethau mwyaf, wrth i awdurdodau lleol gyrraedd pwynt tyngedfennol yn 2019-20.  Bydd unrhyw feysydd dewisol llai, fel gwasanaethau ieuenctid, yn parhau i ddiflannu.

 

·         Heb gyllid ychwanegol, amcangyfrifir y collir swyddi ar lefel o 5% y pen y flwyddyn yn y tymor canolig. Ni allwn amcangyfrif pa ganran o hynny fydd yn orfodol, ond mae’r gostyngiad blynyddol y pen yn gyfystyr â maint y gweithlu haearn a dur yng Nghymru.

 

·         Mae nifer o awdurdodau’n dweud nad oes modd osgoi diswyddiadau gorfodol bellach.

 

·         Mae pryder arbennig ynglŷn â’r galw cynyddol mewn gofal cymdeithasol plant a’r farchnad ofal ehangach.

 

·         O ran rhagweld arbedion angenrheidiol yn ystod y tair blynedd nesaf, mae cynghorau wedi dweud mai’r unig ffordd i gyflawni hyn fydd trwy atal gwasanaethau, lleihau cyllidebau ysgolion a lleihau’r cynghorau gofal a chymorth sy’n cael eu darparu i’r henoed a phobl fregus. 

 

·         Mae ymdeimlad o flinder a morâl isel ymysg rhannau mawr o’r gweithle wrth i wytnwch gwasanaeth leihau.

 

Rhagweld y Pwysau

 

15. Mae pob awdurdod lleol yn adrodd bod pwysau sy’n gyson â’r tybiaethau y tu ôl i’n hadroddiad i FSG ym mis Gorffennaf. Ffactorau amlwg ymysg y rhain yw pwysau demograffig mewn gofal cymdeithasol ac addysg a phwysau mawr na ellir eu hosgoi yn y gweithlu ym mhob gwasanaeth.  Fel canran o wariant net, roedd pwysau’n amrywio o tua 3% hyd at 7%, sy’n cadarnhau cyfartaledd cenedlaethol o tua 5%.

 

16. Mae pwysau’n mynd yn ddifrifol ym maes Addysg ac nid oedd nifer o ymatebwyr wedi ystyried y cynigion presennol gan y Trysorlys i gynyddu cyfraniadau cyflogwr i’r Cynllun Pensiwn Athrawon o hyd at 5%[2]. Pe bai’r rhain yn cael eu gadael heb eu hariannu yna byddai ysgolion mewn sefyllfa ariannol na ellid ei hosgoi, gan ychwanegu tua £41m at y pwysau sy’n hysbys. Hyd yn oed cyn gwybod am y cynnydd mewn cyfraniadau cyflogwr, dywedodd pob awdurdod yn yr arolwg fod ysgolion ac addysg yn wynebu’r pwysau mwyaf difrifol o ran gweithlu. 

 

17. Mae’r adnoddau ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer tâl athrawon yn talu rhan o’r cynnydd uwchben 1%.  Tra bod hyn o bosibl yn dderbyniol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, rydym yn credu y dylid ariannu’r cynnydd tâl llawn ar gyfer 2019-20.

 

18. Yn yr un modd mae sefyllfa grantiau addysg arbennig yn ansicr, yn arbennig yn dilyn y dryswch ynglŷn â MEAG a’r gostyngiadau arfaethedig yn y Grant Gwella Addysg. Mae nifer o awdurdodau’n bryderus ynglŷn â deddfwriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n cynnig dim sicrwydd o ran cyllid y tu hwnt i 2020.

 

19. O ran gofal cymdeithasol, mae’r pwysau uniongyrchol ac anuniongyrchol a achosir gan y Cyflog Byw Cenedlaethol, y setliad tâl a chyfraniadau cynyddol i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) yn arwain at gyflogau uwch a ffioedd gofal cartref ar draws y sector cyfan. Wrth ychwanegu hyn at bwysau demograffig, mae cost pecynnau gofal cymdeithasol oedolion yn cynyddu 6% y flwyddyn. Dylid gwobrwyo gweithwyr Gofal Cymdeithasol yn haeddiannol ond mae’r cyllid ar gyfer y pwysau hwn, a amcangyfrifwyd yn flaenorol yn £102m, yn dod o adnoddau’r cynghorau eu hunain.

 

20. Canlyniad bron i 10 mlynedd o galedi yw y bydd yn rhaid i’r gwasanaethau mwyaf sydd wedi’u diogelu wynebu rhai o’r toriadau ac arbed arian yn y dyfodol.  Mae sut y bydd pethau’n datblygu yn gyffredinol yn fater i’r setliad nesaf. Mae rhai o’r oblygiadau dyfnaf fydd yn effeithio fwyaf yn sgil yr hyn sy’n digwydd yn rhai o gynghorau sir Lloegr yn dechrau dod yn amlwg yng nghyd-destun Cymru.

 

 

Effeithiau ar wasanaethau addysg

 

21. Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau bellach yn rhagweld dim arian neu doriadau ariannol i gyllidebau ysgolion, gyda rhai’n dweud y bydd gostyngiadau o hyd at 5% ynghyd â’r bwriad i gau ysgolion cynradd bach. Bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â lefelau cymorth ar gyfer plant bregus gydag anghenion dysgu ychwanegol.

 

22. Mae'n anochel y bydd swyddi’n cael eu colli, ac os yw’r ceisiadau ar gyfer cynlluniau gwirfoddol wedi diflannu, bydd y rhain yn orfodol. Bydd rhai gwasanaethau llai fel cerddoriaeth yn dod i ben ac mae’r rhan fwyaf o awdurdodau’n dweud y bydd newidiadau ychwanegol ar gyfer prydau ysgol a chludiant o’r cartref i’r ysgol i bontio’r bylchau yn y gyllideb.

 

Effeithiau ar wasanaethau cymdeithasol

 

23. Mae nifer o awdurdodau’n adrodd eu bod yn ceisio canolbwyntio a buddsoddi mewn ymyrraeth gynnar ac atal, sy’n dargyfeirio adnodd o’n darpariaeth bresennol. Mae gwasanaethau fel gofal seibiant a phryd ar glyd o dan fygythiad. Nid oes angen i’r cysylltiadau rhwng gofal cymdeithasol a’r GIG gael eu hailadrodd yma ond mae’r system gyfan dan straen wrth i wariant ar ofal cymdeithasol aros yr un fath mewn termau real am y ddegfed flwyddyn o’r bron.

 

24. Mae’r pwysau’n amlwg yn waeth mewn ardaloedd lle mae adroddiadau o ymgysylltu gwael gan Fyrddau Iechyd Lleol ynglŷn â chynlluniau i leihau nifer y  gwelâu mewn ysbytai, heb ystyried y cyllid ar gyfer gwasanaethau cymunedol sy’n gorfod camu i mewn. Yn wir, codwyd y mater o gyllid ychwanegol ar gyfer y GIG o arian canlyniadol arfaethedig mewn sawl ymateb, dyma sut y crynhowyd hyn mewn un datganiad gan un sylwebydd:

 

“…roedd rhoi’r holl arian ychwanegol yn y GIG fel gollwng dŵr i fath heb roi’r plwg (gofal cymdeithasol) i mewn.”

 

Effeithiau ar wasanaethau eraill

 

25. Yn ein ceisiadau i’r Is Grŵp Cyllid diwethaf, a phob cais ers 2012, rydym wedi pwysleisio’r wasgfa ar wasanaethau eraill. Yn hytrach na dewis gwleidyddol mae'n ffaith ei fod yn sicrwydd mathemategol i gynghorau. Mae’r gwariant o 15% ar yr holl wasanaethau eraill yn gostwng i 5% erbyn 2021-22.  Ar ben y gostyngiadau mawr mewn gwariant yr ydym wedi eu pwysleisio’n gyson wrth Lywodraeth Cymru, bydd y gwasanaethau hynny sydd ar ôl yn agored i ostyngiadau fydd yn eu chwalu.

 

26. Mae cynghorau’n adrodd y bydd y cyfleusterau hamdden a llyfrgelloedd sydd ar ôl bellach yn cael eu targedu ar gyfer eu had-drefnu a’u cau yn y pen draw. Mae cynlluniau ar gyfer tynnu gwasanaethau’n ôl yn cynnwys ffyrdd a gwasanaethau cludiant sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at dwf economaidd; ac mae arian ar gyfer priffyrdd, cludiant cyhoeddus a glanhau strydoedd yn debygol o leihau’n sylweddol. Dywed eraill y byddant yn colli gwasanaethau cymdeithasol allweddol er mwyn arbed degau o filoedd o bunnoedd: mae gwasanaethau ieuenctid, canolfannau cyswllt a chyfleusterau twristiaeth yn debygol o ddiflannu.

 

27. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gwastraff ac ailgylchu wedi cael eu hystyried yn llwyddiant yng Nghymru, gyda lefelau ailgylchu’n cynyddu o tua 40% yn 2008 i tua 63%. Fodd bynnag, yng nghyllideb 2018-19 gorfododd Llywodraeth Cymru ostyngiad o 10% o ran cyllid gwastraff i awdurdodau lleol. Ar ben gostyngiadau blynyddol arfaethedig, bydd y swm sydd ar gael yn rhan o chwech yn is (17%) yn 2019-20 nag yn 2017-18. Mae targedau statudol yng Nghymru’n cynyddu i 64% yn 2019-20 ac i 70% yn 2024-25. Gan fod pob cynnydd canrannol yn gynyddol anos ei gyflawni, mae’r tebygolrwydd o gynnal y cynnydd hwn yn lleihau. Mae hyn yn arwain at ragolygon y gallai awdurdodau lleol gael eu dirwyo am fethu â chyrraedd targedau, a gallai hynny yn ei dro ychwanegu at eu problemau ariannol.

 

28. O ran datblygiad economaidd, mae ansicrwydd mawr ynglŷn â chyllid yn y dyfodol gan y bydd arian o Ewrop yn dod i ben unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o wybodaeth a ryddhawyd am y rhaglen olynol, y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Nid yw’n eglur a fydd arian cyfatebol lleol yn ofyniad. Mae cyllidebau datblygiad economaidd wedi cael eu gwasgu’n ddifrifol o ganlyniad i’r pwysau ariannol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu. Mae cydweithio rhanbarthol wedi helpu i gynnal y maes hwn o waith llywodraeth leol. Gyda phryderon Brexit yn eu hwynebu, mae'n hanfodol bod awdurdodau’n cynnal y gallu i adeiladu cadernid economaidd lleol. Mae'n wasanaeth ataliol hanfodol gan y bydd dirywiad yr economi lleol yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau llywodraeth leol fel tai/digartrefedd, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, diogelwch cymunedol.

 

Gorwariant a sefyllfa bresennol cronfeydd ariannol

 

29. Mae gwasanaethau plant, yn arbennig maethu a lleoliadau y tu allan i ardal, i gyfri am y gorwariant mwyaf yr adroddir amdano amlaf. Mae gorwariant cynyddol mewn meysydd sy’n draddodiadol wedi bod yn llai cyfnewidiol o ran galw, e.e. anghenion addysg arbennig, gwasanaethau oedolion a gwasanaethau amgylcheddol. Bellach mae gwasanaethau addysg yn bryder difrifol o ran gorwariant ac mae hyn i’w weld yn bennaf yn y balansau negyddol cynyddol ar gronfeydd ysgolion. Yn yr arolwg, dywedodd 16 o awdurdodau bod gorwariant yn dod i gyfanswm o £36m, 80% o’r swm hwnnw’n gysylltiedig â rhyw agwedd o ofal cymdeithasol.

 

30. Ni fyddai ariannu gwariant rheolaidd o gronfeydd fel arfer yn briodol ac ni welwyd unrhyw dystiolaeth fod hyn yn digwydd. Fel y pwysleisiodd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn ddiweddar, mae arwyddion bod ychydig o gynghorau’n gorddibynnu ar gronfeydd cyffredinol i ddelio â diffygion. Mae angen gwneud penderfyniadau mwy amhoblogaidd ar gyfer toriadau pellach.

 

31. Yn gyffredinol, mae gan awdurdodau gynlluniau i ddefnyddio cronfeydd fel rhan o gynllun ‘pontio’ nes bod digwyddiad yn y dyfodol yn creu arbedion, ond nid ydynt yn eu defnyddio i ariannu gwariant parhaol, gan y byddai hyn ond yn gohirio problem neu’n gohirio’r toriadau tan yn nes ymlaen.

 

Swyddi a gweithlu

 

32. Mae nifer o awdurdodau’n dweud wrthym bellach fod pob swydd wag naill ai’n cael ei chymeradwyo ar lefel Cyfarwyddwr neu’n cael ei hadolygu gan y Cyfarwyddwr Adnoddau. Mae rhai awdurdodau’n dal i allu lleihau nifer y swyddi drwy gynlluniau gwirfoddol, ond i lawer mae nifer yr unigolion sy’n dod ymlaen wedi crebachu i ddim.

 

33. Roedd sefyllfa un awdurdod yn adlewyrchu sawl awdurdod, o weithredu polisi o ddiswyddiadau gorfodol fel y dewis olaf, ond roedd hyn yn dechrau methu. Roedd y cannoedd o staff oedd yn gadael o dan drefniadau gwirfoddol wedi gostwng i (5%) o’i gymharu â’r niferoedd ychydig o flynyddoedd yn ôl. 

 

34. Yn ôl Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol awdurdodau lleol yng Nghymru eu prif flaenoriaeth yn ystod y blynyddoedd nesaf yw rheoli effeithiau toriadau ar eu staff. Mae diswyddiadau gorfodol wedi dod yn anos eu rheoli na’r rhai sy’n wirfoddol, ac mae'n arwain at anghydfodau sy’n mynd ag amser ac mae’n peri anghydfod ymysg y gweithlu a’u cynrychiolwyr. Mae rhaglenni datblygu allweddol fel digido a gwella a datblygu’r gweithlu’n gorfod cael eu rhoi o’r neilltu er mwyn rhoi sylw i’r broses o gael gwared ar staff o’r gweithlu drwy ddiswyddiadau.

 

35. Rydym yn amcangyfrif bod effaith caledi ar swyddi awdurdodau lleol wedi golygu bod bron i 24,500 o swyddi wedi’u colli. Mae ein hamcangyfrifon yn seiliedig ar ffigurau cyflogaeth a gyhoeddwyd yn yr Arolwg Cyflogaeth Sector Cyhoeddus Chwarterol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ar sail ein harolwg ein hunain, mae nifer o gynghorau’n amcangyfrif y gallai swyddi gael eu colli ar raddfa gyflymach fyth ac y gellid colli nifer cyfatebol yn ystod y cyfnod tymor canolig ag a gollwyd yn ystod y 7 neu 8 mlynedd diwethaf. Byddai hyn yn golygu y byddai cynghorau’n colli 5% o swyddi (sy’n gyfystyr â 7,000 drwy’r wlad) bob blwyddyn am y 3 blynedd nesaf.

 

Treth y Cyngor

 

36. Mater pwysig arall sy’n codi yw’r pwysau ar dreth y cyngor. Nid yw’n syndod fod toriadau mewn refeniw wedi golygu bod cynghorau wedi ystyried codi treth y cyngor i ddiogelu gwasanaethau craidd. Rydym yn dweud yn gyson yng Nghymru, er gwaethaf hyn, fod cyfradd treth y cyngor ar gyfer eiddo Band D cyfartalog yng Nghymru’n is na Lloegr. Mae gwahaniaethau sylweddol rhwng y ddwy system, ond y gwir amdani yw bod y gwahaniaeth hwn yn diflannu gydag amser.

 

37. Yn 2009-10 ar ddechrau’r cyfnod o galedi Treth y Cyngor ar gyfer eiddo Band D ar gyfartaledd yng Nghymru oedd £1,086 tra mai’r ffigwr yn Lloegr oedd £1,414. Roedd hyn yn dangos bod treth y cyngor yng Nghymru ar lefel Band D 23% yn llai. Bellach mae’r ffigwr hwn wedi lleihau i ychydig dros 10% gyda’r Ffigwr Band D Cyfartalog yn 2018-19 yn £1,492 a’i ffigwr cyfatebol yn Lloegr yn £1,671. Gallai teuluoedd sydd o dan bwysau mawr wynebu cynnydd o 5% a thu hwnt yn nhreth y cyngor. Gydag enillion real gweithiwr canolrifol yn dal 2–3% yn is na’u lefel yn 2007–08 a Sefydliad Astudiaethau Ariannol yn rhagfynegi bod twf incwm cyfartalog araf yn debygol o barhau yn ystod y blynyddoedd nesaf, mae hon yn dod yn broblem gynyddol yng Nghymru.

 

 

Gwariant ataliol a sut y cynrychiolir hyn yn yr adnoddau a ddyrennir

 

38. Ychydig o flynyddoedd yn ôl cynhaliodd CLlLC raglen gymorth ar gyfer yr awdurdodau lleol cynharaf i fabwysiadu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Gwers bwysig o’r gwaith hwn oedd pwysigrwydd defnyddio’r Ddeddf wrth ddatblygu polisi. Os defnyddir y Ddeddf i lunio prosiectau a chynlluniau ar y cychwyn, mae’n fframwaith defnyddiol i sicrhau eu bod yn cael eu llunio mewn ffordd gynhwysfawr (yn hytrach na seilo). Mae hyn yn llawer gwell na’r dull ‘sy’n cyfeirio at y Ddeddf ar ôl llunio prosiectau neu gynlluniau’’, lle ystyrir bod y Ddeddf yn amharu ar rywbeth a gyflawnwyd eisoes. Mae hon yn wers bwysig sy’n gallu sicrhau gwerth grymus y Ddeddf yn hytrach na rhywbeth i geisio dehongli.

 

  1. Fel sector sy’n cyfrannu llawer i’r rhaglen ataliol rydym wedi bod yn fodlon gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i wreiddio egwyddorion a dulliau gweithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn hyfforddiant aelodau etholedig ac wrth lunio polisïau mewn awdurdodau lleol. Mae diffiniad Llywodraeth Cymru ei hun o gyflwyniad yn gam ymlaen ac roeddem yn fodlon chwarae ein rhan i ddatblygu hynny. Fodd bynnag mae'n glir nad yw proses pennu cyllideb LlC yn rhoi ystyriaethau o’r fath. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn tynnu sylw at hyn mewn blog diweddar:

    “Y realiti yw bod y GIG yn mynd â chanran gynyddol o’r gyllideb bob blwyddyn i drin afiechydon a hynny ar draul gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gadw pobl yn iach yn y lle cyntaf fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol, gwasanaethau gofal cymdeithasol a hamdden.

 

Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod mwyafrif helaeth y gwasanaethau sy’n cael yr effaith fwyaf ar iechyd a lles gwlad y tu allan i’r gwasanaethau gofal iechyd ac eto yng Nghymru rydym yn gwario 50% o’n cyllideb ar wasanaethau sydd wedi’u cyfeirio at drin afiechyd yn hytrach na chadw pobl yn iach yn y lle cyntaf. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio ac yn cynyddu, yn syml iawn, mae’r sefyllfa’n anghynaliadwy.”

 

40. Mae nifer o’r gwasanaethau lleol sy’n ataliol o ran natur neu’n gwella rhagolygon cenedlaethau’r dyfodol yn cael eu dileu. Mae Ffigur 1 isod yn dangos rhai o’r gostyngiadau mwyaf a wnaed i lyfrgelloedd a gwasanaethau hamdden y mae’r Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn cyfeirio atynt. Prin y mae gwariant gofal cymdeithasol wedi newid yn ystod y cyfnod o galedi. Yn achos cyllidebau llai fel gwasanaethau cynllunio a rheoleiddio bu toriadau trychinebus a’r rhain yw’r gwasanaethau sy’n chwarae rhan hanfodol mewn adfywio a chadw cymunedau’n ddiogel.

 

Ffigur 1: Newid mewn Termau Real o ran Gwariant Gwasanaeth, o 2001-02 a 2009-10, £m

 

          Ffynhonnell: Amcangyfrifon sylfaenol: RO (2001-02 a 2009-10) a manylion RA (2017-18)

 

 

Lleihau tlodi a lliniaru newidiadau lles

 

41. Yn Hydref 2018, mae’r Gwasanaeth Credyd Cynhwysol Llawn wedi’i gyflwyno i bob awdurdod lleol ac eithrio 4. Fel y mae nifer o adroddiadau yn y cyfryngau wedi pwysleisio, mae gan y system nifer o ddiffygion o hyd, ac mae tystiolaeth y gall achosi cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent oherwydd y ffordd mae’r budd-dal yn cael ei dalu i’r rhai sy’n ei hawlio. Fel y dywedwyd yn flaenorol, roedd yr oedi cyn prosesu taliadau’n cael effaith negyddol uniongyrchol ar nifer o hawlwyr ac yn cynyddu eu risg o fod yn ddigartref. Gwnaed newidiadau i’r system yn cynnwys cynyddu swm y blaendaliad sydd ar gael a dileu’r ‘diwrnodau aros’. Ar hyn o bryd mae tua 80% o hawliadau newydd yn cael eu talu’n gyson, llawn a phrydlon ar ddiwedd y Cyfnod Asesu 1af.

 

42. Mae’r gallu i wneud cais am flaendaliad o hyd at 100% o hawliad Credyd Cynhwysol wedi’i dderbyn gyda gofal. Nid oes unrhyw ystadegau swyddogol yn gysylltiedig â blaendaliadau ond mae tua 60% o hawlwyr ar hyn o bryd yn manteisio ar y cynnig yn ystod y cam hawlio newydd ac ychydig iawn sy’n cael eu gwrthod. Mae pryder o hyd yn yr ALl fod blaendaliad yn cael ei ystyried fel ateb sydyn i ddiffyg arian heb drafodaeth ystyrlon ynglŷn ag atebion eraill a’r opsiynau ar gyfer ail-dalu, mae rhai’n ofni bod hyn yn achosi baich ychwanegol o ran dyledion. Mae nifer o ALl yn ceisio cysylltu, os yw’n bosibl, gais ymlaen llaw ag angen am ‘Gyllidebau Personol a Chymorth’, un o’r meysydd a ariennir o dan CC lle gall yr ALl helpu’r hawlwyr, ond yn dilyn cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol ar 1 Hydref 2018 na fydd ALl yn darparu unrhyw gymorth o Ebrill 2019 rydym yn pryderu’n fawr iawn sut y bydd y cymorth yn cael ei ddarparu gan Cyngor ar Bopeth, y partner darparu newydd. Nid ydym wedi cyfarfod yn ffurfiol eto â Chyngor ar Bopeth ar lefel strategol i drafod eu cynlluniau gweithredu.

 

43. Cyn y cyhoeddiad hwn cynhaliodd y Cynghorydd Mary Sherwood, Aelod Cabinet Cymunedau Gwell Cyngor Dinas Abertawe a chyd-lefarydd CLllC ar gyfer Cydraddoldebau, Diwygio Lles a Gwrth Dlodi weithdy yng Nghanolbarth Cymru i’r holl aelodau etholedig a swyddogion ddod ynghyd a rhannu arferion gweithio.

 

44. O ran materion lles a gwrth dlodi, rydym yn dal i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar faterion Treth y Cyngor, yn cynnwys yr awydd i gynnal cymhwysedd 100% ar Ostyngiad Treth y Cyngor a’r penderfyniad i ystyried peidio ag ymrwymo i’r drefn orfodi.

 

45. Hefyd mae gennym gynrychiolaeth ar nifer o Grwpiau Ariannol a Chynhwysiant Digidol, y Gronfa Cymorth Dewisol, Fforwm Gwasanaeth Cyngor Ariannol Cymru a’r Rhwydwaith Cyngor Cenedlaethol. O ran yr olaf, rydym yn cefnogi’n llawn y nod o sefydlu darpariaeth cynghori sicr o ansawdd ar draws y wlad fydd yn bwysicach fyth ar ôl y penderfyniad i ddyfarnu’r contract Credyd Cynhwysol i Gyngor ar Bopeth.

 

 

Cynllunio a bod yn barod ar gyfer Brexit

 

46. Mae cynllunio a pharatoi ar gyfer Brexit yn dal yn broblemus oherwydd y lefel uchel o ansicrwydd ynglŷn â’r broses. Bob diwrnod clywir newyddion, weithiau’n awgrymu ein bod yn agos at wneud dêl ond dro arall yn tynnu sylw at broblemau mawr (yn bennaf y pryderon am ffin Gogledd Iwerddon), heb unrhyw ffordd ymlaen glir. Hyd yn oed os caiff cytundeb tynnu’n ôl ei froceru, bydd angen cytuno o hyd ar ddêl ynglŷn â’r berthynas yn y dyfodol rhwng y DU ac UE (e.e. ar fasnach a sefydliadau/threfniadau cyd-weithio presennol). Mae'n aneglur sut y bydd unrhyw gytundeb tynnu’n ôl yn llwyddo i gael ei phasio gan y Tŷ Cyffredin yn y DU. O ystyried bod angen i’r 27 Aelod Wladwriaeth a Senedd yr UE hefyd gymeradwyo unrhyw ddêl (drwy fwyafrif) mae’r dyddiad cau, sef 29 Mawrth, yn heriol iawn.

47. Os cytunir ar ddêl i dynnu’n ôl mewn pryd, mae posibilrwydd bach o hyd o ansicrwydd ynghylch ystod eang o drefniadau gweithio dydd i ddydd y mae'n dal angen eu cytuno (e.e. o ran sicrwydd deddfwriaethol; diogelwch nwyddau; gofynion tollau; cytundeb gan y naill ochr a’r llall ynghylch nifer o gymwysterau, achrediadau a dogfennau eraill).  Byddai cyfnod pontio hyd at Ragfyr 2020 yn dilyn dêl, gan ganiatáu amser i weithio ar y materion hyn. Fodd bynnag, mae peth ansicrwydd a tharfu dros dro’n dal yn debygol. Bydd cyfathrebu’n allweddol. Os na fydd dêl, bydd y sefyllfa’n llawer mwy cymhleth a’r ansicrwydd hyd yn oed yn fwy. Mae’r UE wedi bod yn paratoi Hysbysiadau Parodrwydd sy’n cynnwys goblygiadau ‘dim dêl’ (yma) ac yn yr un modd mae Llywodraeth y DU wedi bod yn cyhoeddi amryw o Hysbysiadau Technegol (yma). Mae angen i ALl baratoi ar gyfer dêl nid yn unig o ran yr effeithiau arnynt eu hunain ond hefyd yn eu rôl arweinyddiaeth gymunedol, ar fusnesau lleol, trigolion a sefydliadau partner.

48. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Gronfa Bontio’r UE o £50m i helpu cyrff sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector i baratoi ar gyfer Brexit. Llwyddodd cais CLlLC i ennill £150,000 i gynnal rhaglen gymorth ar gyfer awdurdodau lleol yn ystod 2018/19. Mae cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu trefnu ar amryw o bynciau a bydd adnoddau, deunyddiau ac ymchwil amrywiol yn cael eu creu a’u rhannu. Mae’r digwyddiadau cyntaf wedi eu cynnal. Roeddent yn cynnwys y cynllun statws preswylydd sefydlog ar gyfer gwladolion heb fod o’r UE a materion yn ymwneud â’r Amgylchedd. Mae’r holl gyflwyniadau o’r digwyddiadau a deunyddiau eraill a baratowyd yn cael eu huwchlwytho ar wefan CLlLC: gweler Rhaglen Cymorth Pontio Brexit ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru - CLlLC.

49. Mae ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth wedi eu cyflwyno i ALl gan y cyfryngau’n gofyn am wybodaeth ar y camau y maent yn eu cymryd i baratoi ar gyfer Brexit - gweler er enghraifft: Dyma beth mae holl gynghorau Cymru’n ei wneud am Brexit - Cymru Ar-lein. Mae’r ymatebion yn dangos mai cymharol ychydig sydd wedi’i wneud hyd yma. Mae hyn yn bennaf oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn â’r ddêl sy’n cael ei negodi gyda’r UE a goblygiadau’r canlyniad - yn cynnwys y posibilrwydd o ‘ddim dêl’. Ar amser pan fo adnoddau’n brin, mae'n anodd i awdurdodau lleol neilltuo amser swyddogion ac anodau i ymchwilio i nifer o senarios posibl. Mae nifer o awdurdodau’n cyfeirio at weithio gyda CLlLC i helpu i nod camau y gallai fod angen iddynt eu cymryd. Mae CLlLC wedi nodi nifer o faterion i ALl eu hystyried ac mae’r rhain wedi’u cynnwys ar dudalennau ein gwefan. Fodd bynnag, bydd angen i awdurdodau neilltuo amser gan ddefnyddio gwybodaeth leol i fesur pa mor bwysig y gallai rhai o’r materion hyn fod yn eu hardaloedd.

 

50. Mae CLlLC yn parhau i weithio’n agos gyda’i chymheiriaid yn y LGA, COSLA a NILGA, gan rannu gwybodaeth. Fel rhan o Raglen Gymorth CLlLC mae dirprwyaeth o Aelodau o NILGA yn ymweld â Chymru i gyfnewid safbwyntiau ar ddatblygiad rhanbarthol ar ôl Brexit. Byddant yn cyfarfod Aelodau sy’n ymwneud â’r Fargen Ddinesig a’r Fargen Dwf o bob un o’r rhanbarthau sy’n cydweithio yng Nghymru. Un testun pryder mawr yw dyfodol cyllid ar gyfer datblygu rhanbarthol pan na fydd y DU mwyach yn aelod o’r UE. Er bod Trysorlys y DU wedi cyhoeddi y bydd yn anrhydeddu ei ymrwymiad i ariannu’r rhaglenni presennol sy’n cael eu hariannu gan yr UE, mae diffyg eglurder ynglŷn â threfniadau olynol.

 

51. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin yn dod yn lle cyllid presennol yr UE. Ychydig iawn o wybodaeth a ryddhawyd hyd yma, ond, yn yr wybodaeth a gafwyd, mae’r iaith a ddefnyddir i gyfeirio at Awdurdodau ar y Cyd (etholiadau Maer), Partneriaethau Menter Leol a Strategaethau Diwydiannol Lleol. Does a wnelo’r un o’r rhain â Chymru. Hefyd, mae Strategaethau Diwydiannol Lleol eisoes yn cael eu treialu mewn rhannau o Loegr, sy’n codi bwganod y gallai Cymru golli allan mewn unrhyw broses ymgeisio gystadleuol yn y dyfodol. Barn Llywodraeth Cymru yw bod datblygu economaidd wedi’i ddatganoli ac y dylai swm ariannol - sy’n cyfateb i’r hyn y byddai Cymru wedi’i dderbyn pe bai’r DU wedi aros yn yr UE - yn cael ei drosglwyddo i Gymru. Mae CLlLC wedi cefnogi’r safiad hwn ac wedi galw am ddatganoli’r cyllid ymhellach, i bartneriaethau rhanbarthol. Fodd bynnag, er bod datganiadau wedi’i gwneud gan Lywodraeth y DU ynglŷn â pharchu’r setliad datganoli, yn ôl yr arwyddion hyd yma bydd y gronfa’n cael ei gweinyddu ar lefel DU.

 

52. Mae CLlLC yn parhau i gymryd rhan mewn amryw o weithgorau Brexit a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys Grŵp Ymgynghorol UE y Prif Weinidog (sy’n cael ei gadeirio gan Mark Drakeford), a Bwrdd Gron a sefydlwyd gan Lesley Griffiths i ystyried materion amaethyddol a gwledig, grŵp iechyd a gofal cymdeithasol ac un yn canolbwyntio ar yr economi. Caiff gwybodaeth o’r cyfarfodydd hyn, a ffynonellau eraill, eu cyfleu i ALl drwy fwletinau rheolaidd i bob ALl. Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Brexit - a’n Tir yn cynnwys y cynigion ar gyfer newid y Polisi Amaeth Cyffredin. Mae CLlLC yn ymateb i’r ymgynghoriad gan nodi pryderon ynglŷn â chyflymder y newid (a’r risgiau os bydd rhannau eraill o’r DU yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol ac ar sail amserlenni gwahanol) a hefyd codir cwestiynau ynglŷn â chymorth yn y dyfodol ar gyfer gweithgarwch datblygu gwledig. Mae pryderon tebyg ynglŷn â dyfodol cymorth ar gyfer datblygu sgiliau os bydd y SPF yn canolbwyntio ar ymyriadau o fath ERDF.

 

Casgliad

 

53. Mae ymatebion yr arolwg hwn yn gyson ag amcangyfrifon CLlLC o arbedion termau real o tua 22% ers 2009-10 ac adroddiadau gan rai awdurdodau o ostyngiadau hyd at 30%. Mae hyn wedi’i sicrhau’n bennaf o arbedion neu doriadau. Mae hyn yn gyfystyr â tharged effeithlonrwydd blynyddol o tua 3% ond bellach rydym wedi cyrraedd pwynt lle bydd toriadau’n gwasgu mwy ac yn gyflymach wrth i’r cyfle i arbed arian ddiflannu.

 

54. Bydd yr effaith ar wasanaethau’n ddifrifol. Bydd y setliad dros dro a gyhoeddwyd eleni’n golygu y bydd aelodau etholedig yn wynebu penderfyniadau amhosibl gan adael dim dewis ond dechrau ystyried y ddau wasanaeth mawr a’r hyn sy’n weddill o feysydd gwariant llai eraill.

 

55. Ers yr argyfwng ariannol, mae’r cyfnod o galedi wedi arwain at wlad sydd wedi dod i arfer â byw ar lai, hyd oed wrth i nifer o fesurau llesiant cymdeithasol – cyfraddau troseddu, caethiwed i gyffuriau, marwolaethau  babanod, tlodi yn ystod plentyndod a digartrefedd – bwyntio at ansawdd bywyd sy’n dirywio.

 

56. O safbwynt gwasanaethau cyhoeddus ar draws y DU, ei wasanaethau lleol, heb unrhyw amheuaeth, sy’n ysgwyddo pen trymaf y baich. Mae'n anodd dadlau â safiad Changhellor yr wrthblaid John McDonnell AS fod cynghorau wedi’u defnyddio fel “tariannau dynol” i wynebu toriadau dyfnach mewn gwariant gan y Trysorlys. Yn yr un modd, mae geiriau’r Arglwydd Porter, Arweinydd Torïaidd y LGA, yn ategu canfyddiadau arolwg CLlLC, hynny yw, bod  “Cynghorau bellach yn gwario llai ar ymyriadau cynnar, fod cymorth i’r sector gwirfoddol wedi lleihau, fod gwasanaethau bysiau gwledig wedi eu lleihau, llyfrgelloedd wedi cau a gwasanaethau eraill wedi’u heffeithio. Mae mwy a mwy o gynghorau’n cael trafferth i falansio eu llyfrau ac mae eraill yn ystyried a oes ganddynt y cyllid i hyd yn oed ddarparu eu gofynion statudol”.

 

57. Mae CLlLC wedi cydnabod yn gyhoeddus a rheolaidd y rôl gynyddol a chwaraeir gan Lywodraeth Cymru i gynnig diogelwch i gynghorau yng Nghymru sydd wedi osgoi'r hyn sy’n ymddangos fel argyfwng dirfodol i gynghorau mawr â chyfrifoldebau gofal cymdeithasol drwy Loegr. Fodd bynnag, y broblem yw bod caledi bellach yn bodoli ers degawd. Mae’r dewisiadau sy’n wynebu cynghorau Cymru’n mynd yn anos, mae’r penderfyniadau hefyd yn anos a’r effeithiau’n waeth. Bellach mae cynghorau Cymru’n edrych tuag at Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau sy’n gallu gwrthbwyso effeithiau gwaethaf hyn a chynnig cyfnod o lonydd cyllidebol yn arbennig o ran buddsoddi mwy mewn atal.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

 

Jon Rae/Steve Thomas

 

jon.rae@wlga.gov.uk

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol

Rhodfa Drake

Caerdydd

CF10 4LG

 

Rhif ffôn:029 2046 8610

 


Atodiad I

 

Cyllideb ‘bara menyn’, ond llywodraeth leol i gael y briwsion – unwaith eto

 

Dydd Mawrth, 09 Hydref 2018

Mae cyhoeddi’r setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol heddiw yn ganlyniad eithriadol o siomedig i gynghorau ar draws Cymru, gyda goblygiadau difrifol ar gyfer gwasanaethau lleol.

Yn benodol, mae cynghorau wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru o’r goblygiadau difrifol i gyllidebau ysgolion o ganlyniad i fethiant y setliad yma i gwrdd ag ystod enfawr o bwysau demograffig, pensiynau a chyflog. Ar y lefel fwyaf optimistaidd, bydd hyn yn cyfrif am fwlch o £57m sy’n cyfateb i golli 1,300 o swyddi athrawon neu 2,400 o swyddi cymorthyddion dosbarth, neu gyfuniad o’r ddau. Unwaith eto, mae’r naratif blinedig am gyllid ‘ychwanegol’ mewn datganiadau i’r wasg gan Lywodraeth Cymru angen cael ei drin yn amheugar. Yn syml iawn, nid yw setliad heddiw’n cynnig digon o adnoddau i gyllido gwasanaethau lleol, yn enwedig o gymharu â meysydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu rheoli yn uniongyrchol, fel y GIG. Nid yw bod ar flaen y ciw i gael rhagor o adnoddau gan San Steffan, na wireddir o bosib oherwydd Brexit, yn fawr o gysur i lywodraeth leol.

Caiff barn y 22 awdurdod lleol eu crynhoi gan gynrychiolwyr o grwpiau gwleidyddol CLlLC:

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen) o’r Grŵp Llafur CLlLC, a Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

“Siom i ni yw derbyn y setliad dros dro heddiw. Rwy’n gwybod bod cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd o ganlyniad i galedi. Ond rwy’n ofni mai’r penderfyniadau anghywir sydd wedi cael eu gwneud yn y gyllideb hon.”

“Mae cynghorau Cymru’n darparu gwasanaethau lleol hanfodol. Rydym yn arwain yr agenda atal ac ymyrraeth gynnar sy’n ffurfio rhan bwysig o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a gyflwynwyd gan y llywodraeth. Ond, o edrych ar y gyllideb, nid yw’n ymddangos bod y gwasanaethau hyn yn flaenoriaeth.”

“Yn ogystal â gorfod delio gyda thoriadau di-ben-draw, mae’r pwysau cynyddol mewn meysydd fel plant sy’n derbyn gofal a gwasanaethau i bobl hŷn neu fregus yn llawer mwy na’r adnoddau presennol sydd gennym. Nid yw gwneud rhagor o doriadau i’r gwasanaethau yma’n gwneud unrhyw synnwyr; bydd gwneud hynny ond yn rhoi rhagor o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus eraill, gan gynnwys y GIG.”

“Fel arweinyddion Llafur yng Nghymru, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod yn syth gyda chynghorau i weld sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i osgoi'r hyn a fydd, fel arall, yn argyfwng a fydd yn dyfnhau o ran cyllid ar gyfer ysgolion ein plant, gofal cymdeithasol i bobl fregus â’r gwasanaethau hanfodol eraill y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw. Fel cynghorau, rydym wedi rheoli ein cyllideb yn dynn trwy gydol y caledi ariannol, gan arbed arian flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond, ar ôl wyth mlynedd o doriadau dwfn, rydym yn prysur gyrraedd pwynt tyngedfennol i wasanaethau lleol.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox OBE (Sir Fynwy), Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr CLlLC:

“Wedi wyth mlynedd o weld chwarter ein cyllidebau’n cael eu torri roedd gan Lywodraeth Cymru gyfle gwirioneddol i ddod â chaledi ariannol i ben yng Nghymru. Gyda £370m o arian ychwanegol yn cyrraedd o San Steffan, roedd angen dull creadigol i gyllido gwasanaethau ataliol er mwyn cadw pobl draw o’n hysbytai. Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi 7% o gynnydd ariannol i’r GIG gan dorri cyllidebau cynghorau am yr wythfed flwyddyn yn olynol.”

“Mewn strategaethau slic fel ‘Ffyniant i Bawb’ a ‘Cymru Iachach’, mae Llywodraeth Cymru’n honni bod gofal cymdeithasol yn un o’u prif flaenoriaethau; nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn. Yn wir, o’r £370m sydd ar gael, bydd gofal cymdeithasol ond yn derbyn £30m – yn brin mewn ceiniogau, ond yn llawn biwrocratiaeth.”

“Yn fyr, llawer o siarad ond dim ymrwymiad i roi arian cyfatebol. Mae’r gyllideb hon yn llawn syniadau blinedig sydd wedi dyddio. Yn eironig, mae Llywodraeth Cymru’n rhoi mwy o arian i ni dalu am darmac pan mae gwasanaethau lleol wedi ‘cyrraedd y pen’.”

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole (Sir Gaerfyrddin), Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC:

“I gynghorau ledled Cymru, mae’n anodd gorbwysleisio’r ymdeimlad o anghrediniaeth ynghylch y setliad dros dro heddiw. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo mwy o bwerau a hyblygrwydd i gynghorau dros y ddwy flynedd diwethaf, ond maen nhw unwaith eto wedi dargyfeirio arian ar gyfer gwasanaethau craidd i amryw o grantiau penodol i’w wario ar eu mân brosiectau eu hunain.”

“Hefyd, mae’n ymddangos bod llywodraeth leol wedi bod yn defnyddio’r tactegau anghywir yn y blynyddoedd diweddar: yn lle cymryd gofal i ffurfio cyllidebau cytbwys a thorri gwasanaethau, efallai y byddai wedi bod yn well i ni i gael diffygion cyllidebol enfawr, fel y GIG, sydd wastad yn cael eu tynnu allan o drafferthion ariannol ac yn cael eu gwobrwyo.”

“Gyda’r cyllid sydd ar gael i ni, allwn ni ddim diogelu gwasanaethau craidd - ac yn drist iawn, mae hynny’n golygu toriadau i ysgolion ac i wasanaethau cymdeithasol. Rydym yn pryderu y bydd swyddi athrawon yn diflannu ac y bydd gwasanaethau rheng-flaen yn cael eu torri. Efallai y bydd y gyllideb yma yn cyflawni nod Llywodraeth Cymru o roi mwy o arian i ysbytai, ond mae’n colli’r pwynt yn llwyr mai buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol yw’r ffordd ymlaen.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE (Sir Ddinbych), Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC:

“Wedi gweld y setliad dros dro heddiw, rwyf eisiau rhoi rhybudd clir. Prin fod wythnos yn mynd heibio heb i ACau, ASau ac eraill alw ar fy awdurdod i ‘fuddsoddi’n’ ychwanegol mewn un gwasanaeth neu’r llall. Mae gennym fwlch cyllidebol o £11.5m heb unrhyw godiad yn nhreth y cyngor. Does dim un o’r ceisiadau teilwng yma byth yn dweud o lle y byddai’n rhaid i’r arian yma ddod, neu beth ddylai gael ei dorri i dalu amdanynt. Rwyf yn dweud yn gyhoeddus heddiw, os ydych y’n pleidleisio dros y gyllideb hon yn ein Cynulliad Cenedlaethol, bydd yn rhaid i chi hefyd dderbyn cyfrifoldeb llawn am y toriadau dwfn sydd am fod i wasanaethau sy’n werthfawr i’n cymunedau.”

“Nid gofal cymdeithasol yn unig fydd yn cael ei effeithio; mae’n golygu llai o arolygon hylendid bwyd, toriadau i grantiau cyfleusterau i bobl anabl, canolfannau teulu yn cau, llai o dorri gwair, diwedd ar wasanaethau ieuenctid, a llawer mwy.”

“Mae cynghorau wedi cyrraedd pwynt di-droi’n ôl gyda’r gyllideb hon ac rydym rŵan yn wynebu gorfod gwneud dewisiadau ar wasanaethau craidd na fyddwn i, fel arweinydd etholedig Sir Ddinbych, fyth wedi gallu dychmygu y byddai’n rhaid i ni eu gwneud.”

“Hyd yn oed mor hwyr yn y dydd â hyn, dylai Llywodraeth Cymru ailystyried y penderfyniadau hyn a chyflwyno cyllideb newydd sy’n decach ac yn llawer llai niweidiol i’n cymunedau. Byddaf yn gofyn i’n holl aelodau Cynulliad etholedig i weithio’n galetach ar ein rhan ac i herio Bae Caerdydd i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cymru gyfan”

 

Diwedd

 



[1] Cyllid Teg a Chynaliadwy ar gyfer Gwasanaethau Lleol Hanfodol

[2] Lansiodd y Trysorlys ymgynghoriad ‘lefel isel’ gyda’r Undebau ar 6 Medi ar reoliadau technegol a ysgogwyd gan lythyr oddi wrth y Prif Ysgrifennydd at y Trysorlys.