Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Statws y Cymhwyster Bagloriaeth Cymru | The status of the Welsh Baccalaureate Qualification

WB 17

Ymateb gan: Comisiynydd y Gymraeg
Response from: Welsh Language Commissioner

 

1.      Cyd-destun yr ymateb hwn

 

Prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau yw hybu a  hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Bydd y Comisiynydd hefyd yn rhoi sylw i statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru. Trwy osod safonau bydd y Comisiynydd yn rhoi dyletswyddau statudol ar sefydliadau i ddefnyddio’r Gymraeg. Un o amcanion strategol y Comisiynydd yn ogystal, yw dylanwadu ar yr ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg mewn datblygiadau polisi. Dyna a wneir yma mewn perthynas â chylch gorchwyl yr ymgynghoriad hwn. Ceir rhagor o wybodaeth am waith y Comisiynydd ar y wefan www.comisiynyddygymraeg.cymru.

 

2.     Sylwadau

Dau barth canolog i ffyniant y Gymraeg yw addysg a’r gweithle. Tra bod ein  system addysg yn brif ffynhonnell siaradwyr Cymraeg newydd, mae defnydd y Gymraeg yn y gweithle yn ffordd o godi statws yr iaith, ei normaleiddio fel iaith bob dydd, a chodi hyder ei siaradwyr. Dim ond trwy gyfuno cefnogaeth i’r Gymraeg mewn addysg ac yn y gweithle y bydd modd datblygu gweithlu medrus dwyieithog yng Nghymru.

Er hynny, gwyddom fod nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn colli eu sgiliau Cymraeg ar ddiwedd cyfnod addysg statudol. Yn amlwg, mae addysg ôl-16 - y cyfnod sy’n pontio’r byd addysg a’r byd gwaith - yn allweddol er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn parhau i ddefnyddio, datblygu a manteisio’n llawn ar eu sgiliau Cymraeg. Gall rhaglenni fel Bagloriaeth Cymru, sy’n gosod cyflogadwyedd y dysgwyr wrth galon y ddarpariaeth, wneud cyfraniad pwysig at wireddu’r weledigaeth hon.

Fodd bynnag, yn anffodus mae data am ddefnydd y Gymraeg mewn Bagloriaeth Cymru yn brin iawn. Er enghraifft, mae’n debyg bod problemau o ran argaeledd data am nifer a chanran dysgwyr sy’n cwblhau’r Fagloriaeth yn Gymraeg. Ni wyddys chwaith beth yw agweddau tuag at fanteision neu anfanteision cwblhau’r fframwaith yn y Gymraeg; na pha ffactorau sy’n debygol o ddylanwadu ar yr agweddau hyn. Heb ragor o ddata, anodd barnu i ba raddau mae Bagloriaeth Cymru’n cyflawni ar gyfer y Gymraeg a’i siaradwyr.

Anogaf y Pwyllgor felly i ymrwymo sylw penodol i’r mater mewn sesiynau tystiolaeth ar lafar yn dilyn derbyn y dystiolaeth ysgrifenedig. Mae hyn yn enwedig o bwysig o ystyried nad yw’r Gymraeg yn ystyriaeth benodol yng nghylch gorchwyl yr ymgynghoriad presennol. Byddai fy swyddogion yn croesawu’r cyfle i drafod agweddau penodol sy’n haeddu sylw gyda’ch clerc.

3.      Casgliad

Hyderaf y bydd fy sylwadau uchod o ddiddordeb i chi, a gofynnaf yn garedig i chi eu hystyried wrth gynllunio’r sesiynau tystiolaeth ar lafar. Gofynnaf ichi gysylltu â Lowri Williams, Uwch Swyddog Polisi, lowri.williams@cyg-wlc.cymru  os dymunwch drefnu cyfarfod.