Galwad am wybodaeth – Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20
Mae pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am wybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio i’r disgwyliadau o ran cyllideb 2019-20, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn 2019-20 ac effaith cyllideb 2018-19.
Roedd Cyllideb Derfynol 2018-19 Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, yn darparu ffigurau dangosol ar gyfer 2019-20, a gellir gweld y rhain yn y tablau neu'n rhyngweithiol.
Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth fydd cynigion y gyllideb ddrafft, gan na fyddant yn cael eu cyhoeddi tan fis Hydref 2018. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer adrannau neu bortffolios cabinet penodol eu hystyried yn fanwl. Bydd y pwyllgorau yn cynnal eu sesiynau eu hunain i ganolbwyntio ar dystiolaeth er mwyn edrych yn fanwl ar yr agweddau ar y gyllideb sydd o fewn eu cylchoedd gwaith hwy. Gellir cael manylion pellach am Bwyllgorau'r Cynulliad a phroses y gyllideb yn Atodiad 1.
Yn y papur hwn, nodir cwestiynau penodol yn Atodiad 2. Gallwch ateb unrhyw un neu bob un o’r cwestiynau, neu gallwch roi gwybod i ni beth yw eich barn yn gyffredinol ar y gyllideb ddrafft.
Datgelu gwybodaeth
Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth i'w weld yma. Cofiwch ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Neu, gellir gwneud cais am gopi caled o'r polisi hwn drwy gysylltu â'r Clerc, Bethan Davies (0300 200 6372 neu seneddcyllid@cynulliad.cymru).
Darparu gwybodaeth i'r Pwyllgor
Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid, erbyn dydd Mercher 12 Medi. Os hoffech gyfrannu ond eich bod yn pryderu na fyddwch yn gallu cyflwyno eich tystiolaeth erbyn y dyddiad cau, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor ar 0300 200 6372.
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg. Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Y Pwyllgor Cyllid
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or
English.
Atodiad 1 - Gwybodaeth gefndir
Pwy ydyn ni?
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn un o bwyllgorau trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys Aelodau o bob un o’r pedair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad.
Nid yw’r Pwyllgor yn rhan o Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am adrodd ar gynigion a roddwyd gerbron y Cynulliad gan Weinidogion Cymru sy'n ymwneud â defnyddio adnoddau.
Pa Bwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb?
Y Pwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb yw:
- Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
- Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
- Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
- Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
- Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
- Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
- Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Beth yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru?
Rhaid i gynigion y gyllideb ddrafft gynnwys manylion ynghylch faint o adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig eu defnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol a ffigurau dangosol ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl hynny. Yn fwy penodol, dylai amlinellu gwybodaeth ynghylch:
· Y defnydd o adnoddau ac arian parod i'w dynnu o Gronfa Gyfunol Cymru gan Lywodraeth Cymru, Comisiwn y Cynulliad, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
· Sut y bydd y cynigion gwariant dan sylw yn cael eu hariannu, gan gynnwys cynlluniau trethu a benthyca.
· Incwm sydd i'w gadw gan y sefydliadau hynny (yn hytrach na chael ei ildio i Gronfa Gyfunol Cymru).
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb ddrafft amlinellol gychwynnol sy'n nodi cynlluniau gwario a chyllido strategol lefel uchel. Tair wythnos yn ddiweddarach, bydd yn cyhoeddi cyllideb ddrafft fwy manwl.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu dogfen naratif sy'n nodi'r dyraniadau o fewn adrannau, sut y mae'r cynigion yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau, a'r canlyniadau a ddymunir. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu rhagolygon treth, benthyca a dyled.
Pam nad ydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn ar ôl i gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi?
Ni fydd ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn eithrio rhanddeiliaid rhag hefyd ddarparu gwybodaeth, tystiolaeth, pryderon ac awgrymiadau ynghylch meysydd craffu posibl i bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i’r cynigion ynghylch cyllideb ddrafft amlinellol Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi ar 2 Hydref 2018, neu ar ôl i'r cynigion manwl ynghylch y gyllideb gael eu cyhoeddi ar 23 Hydref 2018.
Golyga hyn fod yr amser sydd ar gael i randdeiliaid leisio eu pryderon i’r pwyllgorau yn brin ar ôl i fanylion y gyllideb ddrafft gael eu cyhoeddi. Wrth ymgynghori yn awr, gobeithiwn y bydd gan randdeiliaid fwy o amser i ystyried effaith bosibl y gyllideb.
Cwestiynau'r ymgynghoriad
- Y dull gweithredu o ran gwariant ataliol, a sut y mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y broses o ddyrannu adnoddau (Gwariant ataliol = gwariant sy'n canolbwyntio ar atal problemau a lliniaru'r galw am wasanaethau yn y dyfodol, drwy ymyrryd yn gynnar), yn enwedig o ran ariannu byrddau iechyd lleol a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
- Cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus, arloesi a thrawsnewid gwasanaethau
- Polisïau Llywodraeth Cymru i hybu twf economaidd, lleihau tlodi ac anghydraddoldeb rhywiol, a lliniaru diwygio lles
- Gwaith cynllunio a pharodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit
- Sut y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau trethu a benthyca, yn enwedig o ran Cyfradd Treth Incwm Cymru
- Sut y mae tystiolaeth yn llywio gwaith Llywodraeth Cymru o bennu blaenoriaethau a dyraniadau'r gyllideb
- Polisïau Llywodraeth Cymru i gryfhau'r economi a hyrwyddo arloesedd
- Sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn dylanwadu ar y gwaith o lunio polisi