![]() |
![]() |
TEITL |
Concordat rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru |
DYDDIAD |
02 Gorffennaf 2018 |
GAN |
Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus |
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi cytuno ar Goncordat rhwng Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn nodi'r trefniadau gweithio rhwng y ddau sefydliad.
Yn bwysig iawn, ond heb fod yn gyfyngedig i’r isod, mae'r Concordat yn ceisio sicrhau bod:
· Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystyried buddiannau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru wrth gynllunio a gweithredu polisi Cyfiawnder y DU a gweithgareddau sy'n debygol o gael effaith yng Nghymru;
· Llywodraeth Cymru yn ystyried buddiannau a chyfrifoldebau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wrth arfer swyddogaethau datganoledig; ac
· Eglurder ac atebolrwydd, sy'n galluogi cysylltiadau gwaith cynhyrchiol a gwell canlyniadau ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Concordat yn gam pwysig ymlaen ar gyfer gwell arferion gweithio, cysylltiadau rhynglywodraethol, a chanlyniadau cyfiawnder i’r ddwy weinyddiaeth.
Rhaid nodi ei bod yn hanfodol bod y ddwy lywodraeth yn parchu ysbryd a sylwedd y Concordat, yn enwedig mewn perthynas ag ymgynghori yn amserol ar faterion sy'n effeithio ar y naill weinyddiaeth a’r llall.