Pwyllgor Cyllid – 27 Mehefin 2018

 

PARATOADAU AR GYFER DISODLI CYLLID YR UE YNG NGHYMRU

 

Cyflwyniad

 

1.    Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg o sefyllfa Llywodraeth Cymru a’r paratoadau cynnar i ddisodli cyllid yr UE yng Nghymru ar ôl Brexit. Mae ymchwiliad y Pwyllgor yn amserol, wrth i ni barhau i ddatblygu a chyhoeddi syniadau a chynigion ar sut y gallai cyllid amgen gael ei fuddsoddi yng Nghymru gyda’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru. Dyma’r amser i ystyried ein hopsiynau gyda rhanddeiliaid yng Nghymru er gwaetha’r cryn ansicrwydd ynghylch cyd-destun ariannol a deddfwriaethol unrhyw drefniadau cyllido yn y dyfodol.

 

2.    Roedd Diogelu Dyfodol Cymru (Ionawr 2017) yn nodi’r £680 miliwn y flwyddyn o gyllid yr UE sy’n dod i Gymru. Mae’n cynnwys:

 

·         Dros £370 miliwn y flwyddyn ar gyfer cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd, yn cynnwys:

 

     £295 miliwn y flwyddyn o Gronfeydd Strwythurol (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd a Chronfa Gymdeithasol Ewrop)

     £80 miliwn y flwyddyn ar gyfer Cynllun Datblygu Gwledig (Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig)[1]

     £2 miliwn y flwyddyn o’r gronfa pysgodfeydd (Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop)

 

·         £274 miliwn y flwyddyn mewn cymorthdaliadau uniongyrchol o dan y PAC (taliadau Colofn 1)[2]

·         £7.3 miliwn y flwyddyn o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, yn cynnwys y rhaglen Cymru-Iwerddon

 

·         £23 miliwn y flwyddyn o raglenni cystadleuol yr UE sy’n cael eu rheoli’n ganolog:

 

     £18 miliwn y flwyddyn o Horizon 2020 ar gyfer ymchwil a datblygu

     £4 miliwn y flwyddyn o Erasmus

     £1 miliwn y flwyddyn o gronfeydd eraill, fel Ewrop Greadigol a LIFE

 

3.    Ers hynny rydym ni wedi cyhoeddi cyfres o bapurau polisi Brexit cysylltiedig, yn cynnwys Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit (Rhagfyr 2017), a oedd yn canolbwyntio ar drefniadau olyniaeth ar gyfer cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd[3]. Bydd papur polisi Brexit a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn hir, Brexit and our Land, yn canolbwyntio ar y ffynhonnell bwysig arall o gronfeydd yr UE sy’n cael eu rheoli yng Nghymru o dan y PAC.  

 

4.    Rwy’n gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Cabinet i sicrhau bod trefniadau olyniaeth yn asio gyda’i gilydd a gyda pholisi ehangach Llywodraeth Cymru, gyda chynlluniau i gyhoeddi papur pellach ar gyllid a threfniadau cyllido ar ôl Brexit, gan adeiladu ar y sefyllfaoedd a nodir yn Sicrhau Dyfodol Cymru, yn ddiweddarach eleni.

 

 

Disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru

 

Cronfeydd yr UE a reolir yn ddomestig

 

5.    Rydym ni wedi mynd ati’n gyson i nodi’n blaenoriaethau ar gyfer disodli cyllid yr UE yng Nghymru, gan bwysleisio’r angen i ddisodli cyllid yn llawn er mwyn gwireddu addewidion a wnaed wrth ymgyrchu at y refferendwm. Cafwyd datganiad i’r perwyl hwn gan y Prif Weinidog yn syth ar ôl canlyniad y refferendwm ac rydym wedi ailadrodd hyn ar lefel Gweinidogion a Swyddogion yn ein trafodaethau â llywodraeth y DU.

 

6.    Rydym yn bendant na ddylai gadael yr UE olygu unrhyw ostyngiad yn y cyllid sydd ar gael i Gymru. Byddai unrhyw ostyngiad yn peryglu ein gallu i gefnogi’r gweithgareddau rydym yn eu hariannu ar hyn o bryd drwy raglenni’r UE, yn cynnwys y Cronfeydd Strwythurol, y Rhaglen Datblygu Gwledig, a’r taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan Golofn 1 y PAC. Rydym yn galw hefyd am ddisodli fformiwla Barnett â system newydd seiliedig ar reolau sy’n sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu ar sail angen cymharol yn y DU yn y dyfodol. Rwy’n gweithio’n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig, ac mae ei dystiolaeth i’r Pwyllgor hwn wedi rhoi rhagor o fanylion ar ddisodli cyllid gwledig ac amaethyddol yr UE.

 

7.    Mae datblygu economaidd ac amaethyddiaeth yn feysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru, ac rydym wedi cael sicrwydd y byddant yn cael eu parchu a’u cryfhau yn sgil Brexit. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud droeon hefyd y bydd unrhyw benderfyniadau a wneir yng Nghymru ar hyn o bryd yn parhau yng Nghymru ac rydym wedi bod yn rheoli’r cyllid hwn am 20 mlynedd yn dilyn setliad ariannol ar gyfer y DU gyfan. Yn ogsytal, ychydig iawn o bwerau sydd gan Lywodraeth y DU i ariannu a chyflawni datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru, heb ddeddfwriaeth bellach.

 

8.    Felly disgwyliwn gael rheolaeth lawn dros gyfeiriad gweinyddol a strategol cronfeydd olynol fel y gallwn lunio trefniadau penodol i Gymru. Nid efelychu cronfeydd yr UE yng Nghymru yw’r nod, na disodli biwrocratiaeth yr UE gydag un y DU. Dyna pam i ni ymgysylltu â’n partneriaid ledled Cymru i ganfod cyfleoedd i wneud pethau’n wahanol yn ogystal â dysgu o’r hyn sy’n gweithio’n ymarferol.

 

9.    O un cyfnod cyllido i’r llall rydym ni wedi gorfod rheoli setliadau cyllido ansicr o ganlyniad i drafodaethau estynedig am gyllideb yr UE a newid fformiwlâu cyllido. Fel gyda phroses yr UE mae’r gwaith dadansoddi a pharatoi yn bwysig ac yn lled debyg beth bynnag fo’r setliad ariannol. Bydd ein gwaith datblygu gyda rhanddeiliaid (e.e. drwy ‘gyd-gynhyrchu’ ar gyfer buddsoddi rhanbarthol) yn sicrhau bod ystod o senarios cyllido’n cael eu hystyried wrth i’r gwaith hwnnw fynd rhagddo.

 

10. Mae’r dull gweithredu hwn wedi’i gymeradwyo mewn nifer o ymchwiliadau gwahanol a gynhaliwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad). Roedd adroddiad y Pwyllgor Materion Ewropaidd a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol ym mis Mehefin 2017 yn galw am gyllid seiliedig ar anghenion amgen ar gyfer Cymru ar yr un lefel ag y byddem yn ei disgwyl pe baem yn rhan o’r UE ac roedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati’n awr i ddatblygu polisi cyllido rhanbarthol.

 

Rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd

 

11. Mae Cymru’n cymryd rhan mewn nifer o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd hefyd, yn cynnwys y rhaglenni Cymru-Iwerddon y mae Llywodraeth Cymru’n eu gweinyddu ar hyn o bryd. Rydym wedi datgan yn glir ein bod ni’n cydnabod gwerth ychwanegol sylweddol yn y rhaglenni hyn, sy’n cynnig manteision lu o ran cydweithredu rhyngwladol, rhannu arfer gorau, a chyfleu Cymru agored a chydweithredol i’r byd. Mae Llywodraeth y DU wedi gadael y drws ar agor drwy sicrhau ein bod yn parhau i allu cael mynediad at y rhaglenni hyn, ond bydd angen i ni barhau i eiroli dros y gwerth a roddir ganddynt.

 

12. Rydym wedi cael cefnogaeth gref dros barhau i gymryd rhan yn y rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd gan randdeiliaid yng Nghymru mewn ymateb i’n hymarfer ymgysylltu ar y papur polisi Buddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit. Rydym yn parhau i rannu’r canfyddiadau hyn, a’r negeseuon clir tebyg o ymchwiliadau amrywiol bwyllgorau’r Cynulliad, gyda Llywodraeth y DU i helpu i lunio’r achos o blaid cyfranogiad parhaus yn y rhaglenni hyn.

 

13. Cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd reoliadau drafft ar gyfer rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd y dyfodol ar 29 Mai, ac rydym yn eu hadolygu’n fanwl i sicrhau bod cynigion yn parhau i fod yn addas i Gymru a bod mynediad priodol yn bosibl o hyd ar ôl i ni adael yr UE. Hefyd, cefais gyfarfod gyda Gweinidog Iwerddon dros Gyllid a Gwariant Cyhoeddus a Diwygio, Paschal Donohoe, ym mis Chwefror. Gyda’n gilydd, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu’r berthynas rhwng y ddwy wlad ac wedi cytuno i gadw mewn cysylltiad agos i sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau cydweithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon at y dyfodol. 

 

Cronfeydd a reolir gan y Comisiwn Ewropeaidd

 

14. Mae yna ystod o gronfeydd yr UE a reolir yn ganolog y mae Cymru wedi cael mwy a mwy o lwyddiant yn cael mynediad atynt. Aethom ati i nodi blaenoriaethau cychwynnol ar gyfer y cronfeydd hynny lle byddem yn dymuno i’r DU sicrhau mynediad parhaus atynt yn Diogelu Dyfodol Cymru. Mae’n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn cytuno y dylai parhau i gael mynediad at olynydd Horizon 2020 (sef Horizon Europe, a gyda chynydd sylweddol mewn cyllid yn yr arfaeth) fod yn flaenoriaeth a byddwn yn gweithio gyda nhw i geisio dylanwadu ar ddatblygiad trefniadau olyniaeth a thelerau mynediad Llywodraeth y DU. Er enghraifft, gwnaethom gyflwyno a chyhoeddi papur safbwynt i ymateb i ymgynghoriad yr UE ar ddyfodol Horizon 2020 ym mis Mawrth eleni.

 

15. Rydym ni wedi dweud hefyd fod mynediad parhaus at gronfeydd eraill fel Erasmus+ ac Ewrop Greadigol yn flaenoriaethau i Gymru o hyd a pharhau mae trafodaethau ag adrannau perthnasol y DU i adeiladu achos o blaid cyfranogiad parhaus y DU ym mhob un o’r rhain.

 

16. Ar 2 Mai 2018 cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd gynnig drafft cychwynnol ar gyfer Fframwaith Ariannol Aml-flynyddol 2021-2021. Mae cynigion fesul sector ar gyfer pob un o’r cronfeydd sy’n dod o dan y fframwaith yn cael eu cyhoeddi’n awr hefyd. Rydym ni’n gweithio ar draws y Llywodraethau ar hyn o bryd i ddadansoddi’r rhain a nodi unrhyw newidiadau a allai effeithio ar ein sefyllfa yn y trafodaethau neu ddatgelu cyfleoedd newydd.

 

17. Yn dilyn adborth gan randdeiliaid rydym ni’n blaenoriaethu’r rhaglenni’r UE a reolir yn ganolog sy’n cynnig gwerth ychwanegol clir ar lefel yr UE, megis cynnwys cydweithredu rhyngwladol, meithrin perthnasoedd, a hyrwyddo Cymru’n fyd-eang. Mae mynediad at y rhaglenni hyn yn dibynnu ar y berthynas a negodir gan Lywodraeth y DU at y dyfodol a pharodrwydd i gyfrannu cyllid at gyllideb yr UE am gael cymryd rhan. Bydd trefniadau gweinyddol yn parhau’n debyg i drefniadau cyfredol, er y bydd sefydliadau o Gymru yn cymryd rhan ar sail wahanol (e.e. fel ‘trydydd gwlad’).

 

18. Er mai cyfranogiad parhaus yn rhaglenni’r UE yw ein dewis cyntaf ar gyfer y cronfeydd hynny lle mae’r gwerth mwyaf yn cael ei ychwanegu ar lefel yr UE, rydym y barod i drafod ble gallai cynllun amgen DU gyfan fod yn addas (e.e. os na ellir sicrhau mynediad at yr UE).   

 

Banc Buddsoddi Ewrop (EIB)

 

19. Yn ein Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, rydym wedi nodi hefyd y dylai’r DU barhau i fod yn bartner tanysgrifio i’r Banc. Mae’r Banc yn cynnig buddiannau uniongyrchol i’n heconomi yn ogystal â gwella ein capasiti economaidd mewn mannau eraill, gan felly hybu’r amgylchedd masnachu byd-eang a gefnogwn. Mae manteision ychwanegol i Gymru a’r DU o gael mynediad at arbenigedd masnachol sylweddol yn y Banc. Mae prosiect Metro De Cymru, er enghraifft, wedi elwa ar arbenigedd masnachol y Banc yn llywio’r broses gaffael, ac yn yr un modd mae buddsoddiadau blaenorol yng Nghymru wedi elwa ar arbenigedd ac arfer gorau’r Banc.

 

20. Yn ôl adrodd cam 1 yr UE-DU, mae yna bosibilrwydd o drefniant parhaus rhwng y DU a’r Banc. Ysgrifennais at y Canghellor ym mis Rhagfyr i bwysleisio unwaith yn rhagor ein bod ni’n gweld budd mewn cael perthynas â’r Banc sy’n elwa’r ddwy ochr. Rwyf wedi cael sicrwydd y bydd opsiynau ar gyfer y berthynas honno’n cael sylw yn ystod cam nesaf y trafodaethau Brexit.

 

Buddsoddi Rhanbarthol: gweinyddu yn y dyfodol

 

21. O ran disodli Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru rydym wedi nodi cynigion cychwynnol yn ein papur polisi Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit. Yna cynhaliwyd nifer o weithgareddau ymgysylltu yn cynnwys digwyddiad yn y Gogledd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig a’r un y mynychais i yn y De.

 

22. Roedd yr egwyddorion yn y papur hwnnw’n adlewyrchu: trafodaethau gydag amrywiaeth o bartneriaid ynghylch yr hyn sy’n gweithio a ddim yn gweithio yn y trefniadau cyfredol; canfyddiadau’r Ymchwiliad Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ddyfodol polisi rhanbarthol; a’r trafodaethau i ni eu cynnal gyda’r OECD am arfer gorau rhyngwladol ym maes polisi rhanbarthol.

 

23. Nid ydym yn ceisio efelychu rhaglenni’r UE yng Nghymru ac mae’r prif gyfleoedd rydym wedi’u nodi i wneud pethau’n wahanol yn cynnwys:

 

·         Y gallu i integreiddio trefniadau olyniaeth â buddsoddiadau a pholisïau ehangach Llywodraeth Cymru, ac yn arbennig eu llunio i gyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r trefniadau i ddatganoli cyfrifoldeb am ddatblygu economaidd i’r rhanbarthau fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi;

 

·         Integreiddio cronfeydd lluosog a dileu cyfyngiadau daearyddol artiffisial fel nad oes rhaid i fuddsoddiadau mewn pobl, busnesau ac ardaloedd gwledig gael eu gwahanu’n artiffisial na chael eu cyfyngu’n ddaearyddol;

 

·         Dirprwyo rhagor o weithgarwch cynllunio a phenderfyniadau priodol i ranbarthau ac ardaloedd lleol, wedi’i ategu gan feithrin gallu, a Llywodraeth Cymru a phartneriaethau rhanbarthol i fod yn gyd-gyfrifol am strategaethau;

 

·         Symleiddio trefniadau a safoni dulliau gweithredu ar draws Llywodraeth Cymru, fel dull rheoli grantiau cyffredin yn seiliedig ar y Ganolfan Ragoriaeth Grantiau;

 

·         Datblygu dull monitro a gwerthuso mwy cadarn sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na mewnbynnau, sy’n cynnwys amcanion llesiant, cymdeithasol ac amgylcheddol ochr yn ochr â rhai economaidd, ac sy’n annog arloesedd.

 

24. Mae yna nifer o feysydd lle mae’r dulliau gweithredu cyfredol yn arbennig o werthfawr, er bod bob amser cyfleoedd i wella. Mae’r rhain yn cynnwys:

 

·         Barnwyd bod gwaith partneriaeth ac ymgysylltu yn gryfder allweddol o gymharu â pholisi domestig ac y gellid ei wella drwy ganolbwyntio ar ‘gyd-gynhyrchu’ mewn trefniadau olyniaeth;

 

·         Croesawyd rhaglenni hirdymor aml-flynyddol hefyd i roi sicrwydd i fuddsoddwyr ac annog buddsoddiadau mwy cynhyrchiol;

 

·         Ystyriwyd mynediad agored a thryloyw at gyllid gyda rheolau a phrosesau clir yn fantais er mwyn osgoi cyfleu’r syniad o ‘gipio’ cyllid.

 

25. Rydym wedi cael 41 ymateb i’n cwestiynu ymgysylltu manwl, 83 ymateb arall i arolwg ar-lein, ac mae swyddogion wedi cynnal dau ddigwyddiad gyda rhanddeiliaid ac wedi cymryd rhan mewn 14 cyfarfod a digwyddiad a gynhaliwyd gan randdeiliaid allweddol yn cynnwys CGGC, CLlLC a CBI Cymru.

 

26. Rydym wedi comisiynu dadansoddiad annibynnol o’r ymatebion hynny i sicrhau nad oes rhagfarn ddiarwybod yn ein dehongliad. Byddwn yn cyhoeddi’r adroddiad hwn cyn toriad yr haf ac yn ystyried y canfyddiadau gyda’n partneriaid dros yr haf.

 

 

 

Mark Drakeford AC

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Mehefin 2018



[1] Mae’r Rhaglen Datblygu Gwledig (neu Colofn 2) yn rhan o’r gyfres o gronfeydd PAC hefyd. Mae’n cynnwys cymysgedd o fuddsoddiadau amaeth-amgylcheddol (48%), economaidd-gymdeithasol (49%) a gweithgarwch arall (3%).

 

[2] Noder: Bydd rhannau o’r Rhaglen Datblygu Gwledig gyfredol yn cael eu cynnwys yn y trefniadau olyniaeth ar gyfer cyllid PAC yng Nghymru