Vaughan Gething AC/AM

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau

Cymdeithasol

Cabinet Secretary for Health and Social Services

 

 

 

Ein cyf/Our ref VG/1287/18

 

 

 

 

 

Nick Ramsay, AC

Cadeirydd – Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru 

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

2 Mai 2018

 

Annwyl Mr Ramsay,

 

YMATEB I ADRODDIAD Y PWYLLGOR CYFRIFON CYHOEDDUS AR REOLI MEDDYGINIAETHAU  

 

 

Mae’n bleser gennyf amgáu copi o ymateb Gweinidogion Cymru i’r adroddiad uchod a gaiff ei gyflwyno i’r Swyddfa Gyflwyno. 

 

Ar ran y Cabinet, hoffwn ddiolch i chi a’r Pwyllgor am y ffordd ofalus ac ystyrlon y bu i chi gynnal yr archwiliad a chynhyrchu’r adroddiad. 

 

Yn gywir,

 

Vaughan Gething AC/AM

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cabinet Secretary for Health and Social Services

Canolfan Cyswllt Cyntaf / First Point of Contact Centre:  

                                                            Bae Caerdydd • Cardiff Bay                                                                                          0300 0604400

                                                                          Caerdydd • Cardiff                                        Gohebiaeth.Vaughan.Gething@llyw.cymru

                                                                                         CF99 1NA                                Correspondence.Vaughan.Gething@gov.wales

 

Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg.  Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. 

 

We welcome receiving correspondence in Welsh.  Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding.   

 

 

Ymateb i’r argymhellion a gynhwysir yn adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n dwyn y teitl Rheoli Meddyginiaethau 

 

 

Rydym yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad ac yn cynnig yr ymateb canlynol i’r 17 argymhelliad a gynhwysir ynddo.

 

 

Argymhelliad 1. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn llunio adroddiad blynyddol yn manylu gwybodaeth am welliannau yn rheoli meddyginiaethau ar draws y Byrddau Iechyd, i gynyddu atebolrwydd a sicrhau bod proffil rheoli meddyginiaethau yn parhau i fod yn uchel ar agenda Byrddau Iechyd.

 

Derbyn 

 

Nid ydym yn ystyried y broses o gyhoeddi adroddiad blynyddol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru fel y dull mwyaf priodol o gyflawni amcanion y Pwyllgor.  Fel dewis amgen i gyhoeddi adroddiad blynyddol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn gofyn i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) gynnal gwaith i lywio a datblygu ei adroddiad blynyddol cyfredol ac adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn dangosyddion rhagnodi cenedlaethol i sicrhau bod y cynnwys a’r fformat yn fwy perthnasol a hygyrch i aelodau Bwrdd cyrff y GIG.  

 

Caiff y gwaith hwn ei gwblhau mewn pryd ar gyfer cyhoeddi adroddiad blynyddol AWMSG ar gyfer 2018-19.

 

Yn ogystal, byddwn yn parhau i ddatblygu dangosyddion rheoli meddyginiaethau fel rhan o Fframwaith Cyflawni GIG Cymru ac yn rhoi’r atebolrwydd o ran perfformiad yn erbyn y fframwaith ar gyrff GIG.  

 

Argymhelliad 2. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfarwyddeb genedlaethol a bod angen i bob Bwrdd Iechyd ddatblygu ymgyrchoedd i godi proffil rheoli meddyginiaethau.  Dylai’r ymgyrchoedd hyn fod yn seiliedig ar enghreifftiau o arfer gorau o’r ymgyrchoedd presennol sydd wedi’u creu yn lleol,

 

Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i fyrddau iechyd i gefnogi gweithgareddau cyfathrebu sy’n hybu modelau newydd ar gyfer gofal sylfaenol a’r manteision ar gyfer dinasyddion.  Mae cyfrifoldeb dinasyddion, gan gynnwys eu cyfrifoldebau mewn perthynas â defnydd darbodus o feddyginiaethau yn elfen graidd o’r gwaith hwnnw.  

 

Rydym yn cydnabod y bu ymgyrchoedd llwyddiannus eisoes sy’n codi proffil rheoli meddyginiaethau, yn arbennig yr ymgyrch Eich Meddyginiaethau Eich Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.  Yn ogystal â’r cyllid sy’n cael ei roi i fyrddau iechyd ar gyfer gofal sylfaenol, byddwn yn sicrhau bod £50,000 arall ar gael i fyrddau iechyd yn 2018-19 i gynnal gweithgareddau lleol i hybu elfennau mwyaf llwyddiannus yr ymgyrch Eich Meddyginiaethau Eich Iechyd.

 

 

                                 

 

 

Argymhelliad 3. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn pennu cynllun i wneud y defnydd gorau o adnoddau fferyllfeydd, gan gynnwys datblygu modiwlau darparu yn Dewis Fferyllfa a galluogi fferyllwyr annibynnol. Dylai’r cynllun hwn adeiladu ar yr argymhellion yn adroddiad y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.

 

Derbyn

 

Byddwn yn gweithio gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a byrddau iechyd i ddatblygu modiwlau eraill o fewn Dewis Fferyllfa sy’n cefnogi fferyllwyr cymunedol sy’n darparu amrywiaeth gynyddol o wasanaethau clinigol.  I’r perwyl hwnnw, mae modiwlau eraill yn cael eu datblygu o fewn Dewis Fferyllfa i gefnogi’r gwasanaeth atal cenhedlu brys cenedlaethol a gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf gan fferyllfeydd cymunedol. Bwriedir i’r ddau fodiwl fod ar gael yn ddiweddarach yn 2018-19.  Yn ogystal â modiwlau sy’n cefnogi gwaith comisiynu gwasanaethau, mae’r rhaglen Dewis Fferyllfa yn cael ei datblygu i wella cyfathrebu rhwng fferyllfeydd cymunedol a darparwyr eraill y GIG. Ymhlith y datblygiadau hyn mae trosglwyddo llythyrau electronig o fferyllfeydd i feddygon teulu a gofal eilaidd (i’w cyflawni erbyn mis Mawrth 2019), a systemau i ganiatáu i wasanaeth 111 GIG Cymru gyfeirio cleifion priodol at fferyllfa gymunedol.  

 

Mae rhagnodi annibynnol gan fferyllwyr wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, wedi’i hwyluso gan y cynnydd o ran rolau ym maes meddygon teulu.  Ym mis

Ionawr 2018 ym maes gofal sylfaenol, rhoddodd 65 o fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol 50,484 o bresgripsiynau o 111 o bractisau meddygon teulu.  Dyma gynnydd o 150 y cant yn nifer y fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol sy’n weithgar, cynnydd o 640 y cant yn nifer y presgripsiynau gan fferyllwyr-ragnodwyr a chynnydd o 171 y cant yn nifer y practisau meddygon teulu sy’n defnyddio fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol yn y ddwy flynedd ers mis Ionawr 2016.

 

Ym mis Ebrill, cadarnhawyd cyllid er mwyn i hyd at 100 o fferyllwyr cymunedol ymgymryd â chyrsiau rhagnodi annibynnol yn y ddwy flynedd nesaf a darparu cyllid i fyrddau iechyd i gefnogi’r gwaith o sefydlu hyd at 40 o safleoedd braenaru ar gyfer presgripsiynau annibynnol mewn fferyllfeydd cymunedol.

 

Byddwn yn gofyn i Bwyllgor Fferyllol Cymru weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, i ddatblygu cynllun sy’n disgrifio rolau gweithwyr fferyllol proffesiynol yng Nghymru yn y dyfodol a’r camau i’w cymryd gan yr holl randdeiliaid er mwyn manteisio i’r eithaf ar y defnydd ohonynt.  Caiff y cynllun ei gwblhau ar ddechrau 2019-20.

 

 

Argymhelliad 4. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu system rheoli data i olrhain nifer y fferyllwyr sy’n gweithio yng Nghymru a’r rolau sy’n cael eu cyflawni. Gellir defnyddio hyn hefyd i gynllunio anghenion a gofynion hyfforddiant. Dylid hefyd ystyried ymestyn hyn i gynnwys gwybodaeth am staff ehangach fferyllfeydd fel technegwyr sydd hefyd â rôl esblygol a allai effeithio ar anghenion hyfforddiant y sector.

 

Gwrthod

 

Mae nifer o ffynonellau gwybodaeth eisoes ar gael sy’n darparu sylfaen ar gyfer nodi anghenion hyfforddiant ar gyfer gweithwyr fferyllol proffesiynol yng Nghymru.  Ymhlith y rhain mae:

 

1.    Cronfa Ddata Fferylliaeth Cymru Gyfan (AWPD) – sy’n cynnwys gwybodaeth am achredu fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol sy’n darparu gwasanaethau clinigol ychwanegol mewn fferyllfeydd cymunedol;

2.    Cofnod Staff Electronig (ESR) – sy’n cynnwys gwybodaeth am fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol a gyflogir gan sefydliadau GIG;

3.    Cofrestri, a gynhelir gan bob corff GIG yng Nghymru, ar gyfer rhagnodwyr anfeddygol a gyflogir gan y cyrff hynny; a

4.    Cronfa ddata o weithwyr fferyllol proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda Chanolfan Addysg Broffesiynol Fferylliaeth Cymru (WCPPE) 

 

O gofio cyfyngiadau casglu data ynghylch gweithwyr fferyllol proffesiynol sy’n gweithio yn y sector preifat, nid ydym yn credu y byddai manteision system rheoli data newydd yn gorbwyso costau datblygu a chynnal system o’r fath.  

 

Yn y dyfodol, bydd cynllunio i ddiwallu anghenion hyfforddi gweithwyr fferyllol proffesiynol yn swyddogaeth a gaiff ei chyflawni gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).  Byddwn yn gweithio gydag AaGIC i sicrhau bod ffynonellau gwybodaeth sy’n bodoli eisoes yn cael eu defnyddio’n llawn, a lle bo angen, y cânt eu datblygu i gefnogi’r swyddogaeth hon.

 

Argymhelliad 5. Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal gwerthusiad o fferyllwyr clwstwr, sy’n gwerthuso’r model cyllido a’r model recriwtio ar gyfer fferyllwyr o fewn y model clystyrau.

 

Gwrthod

 

Mae’r £10m a ddyrennir gan Lywodraeth Cymru o’r gronfa genedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol ar gael i glystyrau ei fuddsoddi fel y dymunant ac mae’r cyllid hwn yn rheolaidd. Felly, gellid ei ddefnyddio i gyllido penodiadau tymor byr neu hirdymor. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i glystyrau gynnal gwerthusiad rhesymol a chymesur o’u mentrau. Yna dylai mentrau llwyddiannus gael eu prif ffrydio, gan ryddhau cyllid y clwstwr i’w ail-fuddsoddi mewn mentrau newydd ac arloesol eraill.  Gellid prif ffrydio’r swyddi hyn drwy i bractisau meddygon teulu annibynnol yn eu cyflogi’n uniongyrchol ar ran y clwstwr neu drwy gyllid dewisol y byrddau iechyd.  

 

Mae clystyrau wedi bod yn buddsoddi, ar raddfa eang, mewn fferyllwyr ychwanegol fel rhan annatod o weithlu gofal sylfaenol aml-broffesiynol darbodus ac erbyn hyn, caiff yr arfer hwn ei hystyried yn arfer dda ledled Cymru. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r angen am werthusiad ffurfiol cenedlaethol o’r rôl hon sydd bellach wedi’i sefydlu’n gadarn.  

 

 

Argymhelliad 6. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn diwygio’r contract fferyllfa gymunedol i gyflawni’r newidiadau angenrheidiol i wireddu potensial llawn y sector fferyllol a gwireddu’r nod o symud o gyfres o drefniadau yn seiliedig ar nifer i ansawdd, a gweithredu amserlenni.

 

Derbyn

 

Ym mis Hydref 2016, cyhoeddais fwriad Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau cytundebol newydd ar gyfer fferyllfeydd cymunedol sy’n sicrhau yn y dyfodol y byddant yn darparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau sy’n canolbwyntio ar elfennau clinigol ac yn dangos ymrwymiad i wella ansawdd gwasanaethau.  Yn 2017-18,  cyflwynwyd trefniadau contract newydd a oedd yn cynnwys 1) cyllid cynyddol ac wedi’i neilltuo ar gyfer comisiynu gwasanaethau clinigol ychwanegol yn lleol gan fyrddau iechyd; 2) cyllid i gefnogi cydweithredu rhwng fferyllwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill; a 3) cynllun ansawdd a diogelwch newydd ar gyfer fferyllfeydd cymunedol.  Cafodd y newidiadau eu cyllido drwy ailddosbarthu £3.5 miliwn o gyllid contract o drefniadau sydd wedi’u llywio gan faint (h.y. rhagnodi) i’r elfennau newydd sy’n canolbwyntio ar ansawdd.  

 

Ar gyfer 2018-19, daethpwyd i gytundeb â Fferylliaeth Gymunedol Cymru i ailddosbarthu £3 miliwn pellach i gefnogi comisiynu gwasanaethau pellach, i gryfhau ac ymestyn cydweithredu a chynlluniau ansawdd a diogelwch ac i ddatblygu’r gweithlu fferylliaeth gymunedol.

 

Byddwn yn parhau i bontio i’r trefniadau contract newydd ar gyfer fferylliaeth gymunedol drwy negodiadau blynyddol, a bydd y trefniadau newydd ar waith yn llawn erbyn diwedd 2020-21.

 

Argymhelliad 7. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer technolegau newydd mewn pecynnau presgripsiwn gan hwyluso’r defnydd o feddyginiaeth heb ei hagor pan nad yw’n cyfaddawdu diogelwch cleifion gan gynnwys y newidiadau deddfwriaethol angenrheidiol a allai fod ynghlwm, i sicrhau’r manteision mwyaf ar gyfer unrhyw arbedion y gellir eu cyflawni.

 

Gwrthod

 

Mae gan fyrddau iechyd bolisïau a gweithdrefnau ar waith eisoes er mwyn manteisio i’r eithaf ar ailddefnyddio meddyginiaethau o fewn ysbytai yng Nghymru.  Mae’r amgylchedd sydd wedi’i reoli a chyfyngiadau o ran mynediad i feddyginiaethau o fewn ysbytai yn caniatáu i feddyginiaethau gael eu hailddefnyddio gyda gradd uchel o hyder nad ydynt wedi cael eu cyfaddawdu naill ai’n fwriadol neu’n anfwriadol.  Mae Grŵp Cymheiriaid Prif Fferyllwyr y GIG yn cynnal gwaith i safoni’r polisïau hyn ac i feintioli gwerth y meddyginiaethau a gaiff eu hailddefnyddio o fewn ysbytai.

 

Fodd bynnag, yn y gymuned, ar ôl i feddyginiaeth adael y fferyllfa, ni ellid gwarantu ei diogelwch a’i hansawdd. Er enghraifft, mae perygl bod rhywun wedi ymyrryd â’r cynhwysydd, neu bod y pecyn wedi cael ei adael yn agored i dymheredd eithafol a lleithder, gan olygu nad yw’n effeithiol. 

 

Yn ôl y Gyfarwyddeb Ffugio Meddyginiaethau (FMD) a ategwyd gan Reoliad Dirprwyedig (EU2016/161) Senedd a Chyngor Ewrop sy’n dod i rym ym mis Chwefror 2019, bydd yn ofynnol i becynnau meddyginiaethau sy’n dod i’r gadwyn gyflenwi ar neu ar ôl 9 Chwefror 2019 gael eu ffitio â dyfais gwrth-ymyrryd (ar ffurf sêl diogelwch).  Er bod dyfeisiau gwrthymyrryd o’r fath yn ymdrin â phryderon yn ymwneud ag addasu meddyginiaethau yn fwriadol, nid ydynt yn ymdrin â phryderon yn ymwneud â storio meddyginiaethau yn amhriodol a’r posibilrwydd o golli effeithiolrwydd sy’n deillio o hynny.  Ar hyn o bryd, mae’r costau sy’n gysylltiedig â phecynnau sy’n sensitif i dymheredd yn debygol o olygu na ellid eu defnyddio’n eang, yn arbennig pan ystyrir y gost gymedrig isel a’r gost ganolrifol is sydd ynghlwm wrth feddyginiaethau a ragnodir[1].    

 

At hynny, mae’r FMD yn cyflwyno rhwystrau newydd i ailddefnyddio meddyginiaethau.  Mae’r FMD yn ei gwneud yn ofynnol i fferyllwyr, ar adeg cyflenwi meddyginiaeth i gleifion, wirio dilysrwydd meddyginiaeth yn erbyn storfa ddata genedlaethol sy’n cynnwys manylion meddyginiaethau cyfreithlon yn y gadwyn gyflenwi.  Ar ôl y broses wirio hon, caiff manylion y feddyginiaeth eu dileu o’r storfa ac ni ellid eu mewnbynnu eto.  Mae hyn yn golygu pan gaiff meddyginiaeth ei dychwelyd i fferyllfa neu ei hailddosbarthu gan fferyllfa, ni ellid gwirio ei dilysrwydd, gan danseilio manteision FMD.

 

Yn olaf, byddai’r argymhelliad yn golygu newidiadau i’r ffordd y caiff meddyginiaethau a gweithwyr fferyllol proffesiynol eu rheoleiddio yn y DU.  Llywodraeth y DU sy’n cadw’r hawl mewn perthynas â materion o’r fath.

 

 

Argymhelliad 8. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ffyrdd o harneisio’r arbenigedd academaidd yng Nghymru i ddeall graddfa Derbyniadau sy’n Gysylltiedig â Meddyginiaeth a sut i’w lleihau.

 

Derbyn

 

Ym mis Ionawr 2018, sefydlodd y Prif Swyddog Fferyllol weithgor oes fer (SLWG) sy’n cynnwys arbenigwyr diogelwch meddyginiaethau ledled Cymru i gynghori ar y dull gweithredu cyffredinol a’r rhaglen angenrheidiol i lywio gwelliannau ym maes diogelwch meddyginiaethau yn y GIG yng Nghymru.  Cynhaliodd y gweithgor hwn, sy’n dod ag arbenigwyr ynghyd o bractisau a’r byd academaidd, gyfarfodydd ym mis Ionawr a Mawrth, a bwriedir cynnal cyfarfodydd eraill yn 2018.  

 

Ar hyn o bryd mae’r gweithgor yn archwilio ffynonellau data, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i dderbyniadau i ysbytai, er mwyn pennu cyfres briodol o fesurau ar gyfer niwed sy’n gysylltiedig â meddyginiaethau fel ffocws ar gyfer rhaglen waith i wella diogelwch meddyginiaethau yng Nghymru.  

 

Rydym yn cydnabod bod niwed sylweddol yn deillio o dderbyniadau sy’n gysylltiedig â meddyginiaethau (MRAs) ond rydym yn pryderu y byddai ffocws ar feintioli MRAs post hoc yn tynnu oddi wrth gamau i atal niwed cyn iddo ddigwydd.  Mae’n anodd canfod MRAs oherwydd presenoldeb ffactorau dryslyd mewn llawer o achosion, ac mae asesiadau cadarn o nifer yr achosion o MRAs wedi bod yn gyfyngedig i astudiaethau ymchwil.  Fodd bynnag, mae gennym ddealltwriaeth dda o’r meddyginiaethau a’r sefyllfaoedd a gysylltir amlaf ag MRAs; y flaenoriaeth ar gyfer lleihau niwed sy’n gysylltiedig â meddyginiaethau fyddai ymdrin â hyn.

 

Bydd y gweithgor yn gorffen ei waith erbyn mis Hydref 2018, ac ar ôl hynny bydd yn cyflawni ei rôl fel grŵp llywio’r rhaglen genedlaethol ar gyfer diogelwch meddyginiaethau. 

 

Argymhelliad 9. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu diweddariad ar y gwaith gwerthuso ar beiriannau gwerthu awtomataidd yr oedd i fod wedi’i gwblhau erbyn mis Mehefin 2017.

 

Derbyn

 

Cynhaliwyd archwiliad o’r defnydd presennol o beiriannau gwerthu awtomataidd ar wardiau mewn ysbytai’r GIG yng Nghymru ym mis Chwefror 2017.  Ym mis Mai 2017, cytunwyd ar restr wedi’i blaenoriaethu o fuddsoddiadau ar gyfer peiriannau gwerthu awtomatig ar wardiau gyda grŵp cymheiriaid Prif Fferyllwyr y GIG.  Byddwn yn ysgrifennu at y pwyllgor gyda manylion yr archwiliad a’r ymarfer blaenoriaethu erbyn diwedd mis Mai 2018.  

 

Argymhelliad 10. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cydlynu darn o waith i rannu arfer gorau gan Fyrddau Iechyd yn ymwneud â systemau gwerthu awtomataidd i helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ar ddulliau storio meddyginiaethau.

 

Derbyn

 

Cynhaliwyd gweithdy ar systemau gwerthu awtomataidd ar wardiau wedi’i drefnu gan grŵp cymheiriaid Prif Fferyllwyr y GIG ym mis Tachwedd 2017 ac roedd yn cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid o bob corff y GIG yng Nghymru.  Rhoddodd y gweithdy gyfle i gyfranogwyr rannu profiadau o systemau gwerthu awtomataidd ar wardiau mewn ysbytai yng Nghymru ac i drafod dulliau gweithredu yn y dyfodol o ran defnyddio storfeydd meddyginiaethau awtomataidd ar wardiau.  Cynhyrchwyd adroddiad cychwynnol o’r gweithdy a chaiff ei rannu gyda’r Pwyllgor fel rhan o ddiweddariad cynhwysfawr ar gynnydd yn erbyn yr argymhellion a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Mai 2018.  Mae gwaith pellach yn cael ei gynnal nawr i bennu set o egwyddorion ar gyfer cyflwyno dulliau o storio meddyginiaethau awtomataidd.  Rhagwelir y caiff y gwaith ei gwblhau erbyn mis Hydref 2018.

 

Argymhelliad 11. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi p’un a ellir dysgu unrhyw wersi o GIG Lloegr yn ymwneud â chanllawiau ar eitemau na ddylid eu rhagnodi fel arfer a’r arbedion posibl y gallai hyn ei sicrhau.

 

Derbyn

 

Mae gan Lywodraeth Cymru bryderon ynghylch dull gweithredu GIG Lloegr i gyfyngu ar ragnodi rhai meddyginiaethau ar sail eu bod ar gael i’w prynu ‘dros y cownter’ mewn fferyllfeydd.  Mae gan fesurau o’r fath y potensial i gyfyngu ar fynediad i driniaeth effeithiol, yn arbennig ymhlith pobl ar incymau isel, ac felly i ymestyn anghydraddoldebau.  Bydd y Pwyllgor yn dymuno nodi bod y canllawiau terfynol ar y mater hwn gan GIG Lloegr yn cynnwys nifer o eithriadau i ganiatáu i feddygon teulu barhau i ragnodi’r meddyginiaethau hyn mewn sefyllfaoedd penodol.

 

Rydym yn annog cyrff y GIG yng Nghymru i gymryd camau i leihau amrywiad heb ei warantu wrth ragnodi a chyfyngu ar yr arfer o ragnodi meddyginiaethau â gwerth clinigol cyfyngedig.  

 

Ym mis Mehefin 2017, ysgrifennodd y Prif Swyddog Meddygol a’r Prif Swyddog Fferyllol at Gyfarwyddwyr Meddygol y GIG  yn gofyn i fyrddau iechyd nodi pob practis meddyg teulu yn eu hardal ac unrhyw faes clinigol o fewn gofal eilaidd, lle roedd co-proxamol yn cael ei ragnodi, ac i gynnal arolwg brys o gleifion gyda’r bwriad o’u symud i driniaethau amgen a mwy diogel.

 

Yn dilyn hyn, ym mis Hydref 2017, cyhoeddodd AWMSG ganllawiau yn cefnogi cyfyngiadau i ragnodi pedair meddyginiaeth arall, gyda gwariant blynyddol cyfunol o £5.4 miliwn yn 2016-17 a nodwyd fel blaenoriaeth isel ar gyfer cyllid yn GIG Cymru.  Caiff y cynnydd o ran lleihau gwariant ar y meddyginiaethau hyn ei olrhain gan Grŵp Cymheiriaid Prif Fferyllwyr y GIG a’i adrodd i Grŵp Effeithlonrwydd, Gwerth a Gwella Gofal Iechyd Llywodraeth Cymru.

 

Yn ystod 2018-19 bydd AWMSG yn gweithio gyda chyrff y GIG yng Nghymru i nodi cyfleoedd pellach i leihau gwariant ar feddyginiaethau â gwerth clinigol cyfyngedig.  Caiff canllawiau GIG Lloegr eu hystyried yn y gwaith hwn.

 

Argymhelliad 12. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn llunio adroddiad ar arfer gorau ar archebu presgripsiynau amlroddadwy gan grwpiau clwstwr mewn lleoliadau cartrefi gofal i helpu i lywio polisïau a chamau gweithredu ar bresgripsiynau amlroddadwy,

 

Ac

 

Argymhelliad 13. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi’r diweddaraf am waith y grŵp rhagnodi darbodus mewn perthynas â’i waith ar y modelau amrywiol ar gyfer systemau presgripsiynau amlroddadwy ym mis Medi 2018 er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor fonitro cynnydd ar hyn.

 

Derbyn

 

Roedd gwaith y grŵp gweithredu rhagnodi darbodus (PPIG) yn hanfodol wrth nodi meysydd lle y gellid gwella systemau rhagnodi amlroddadwy.  Ar ôl i swyddogion Llywodraeth Cymru roi tystiolaeth i’r Pwyllgor ym mis Mawrth 2016, disodlwyd PPIG a throsglwyddwyd y cyfrifoldeb dros weithredu argymhellion y grŵp a phrofi’r dulliau amrywiol a argymhellwyd i wella rhagnodi amlroddadwy a lleihau gwastraff i grŵp cymheiriaid Prif Fferyllwyr y GIG.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu, o bob bwrdd iechyd a Fferyllfa Gymunedol Cymru, tystiolaeth o ganlyniadau darnau amrywiol o waith sy’n cael eu gwneud er mwyn gwella rhagnodi amlroddadwy, gan gynnwys gwaith i wella’r broses o archebu presgripsiynau amlroddadwy o fewn cartrefi gofal, a darparu diweddariad ar y gwaith hwn i’r Pwyllgor ym mis Ionawr 2019.

 

Argymhelliad 14. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwerthuso’r gwaith o gyflwyno’r system Trawsgrifio Meddyginiaeth ac e-Ryddhau er mwyn ystyried cynnydd a manteision y dull hwn.

 

Derbyn

 

Mae llawer o dystiolaeth ar gael sy’n dangos bod perygl mawr o gam-gyfathrebu a gwneud newidiadau anfwriadol i feddyginiaethau cleifion pan fyddant yn symud rhwng darparwyr gofal, ac mae hyn yn peri problemau sylweddol.   Drwy wella’r broses o drosglwyddo gwybodaeth am feddyginiaethau ar draws pob lleoliad gofal, gellid lleihau nifer yr achosion o niwed y gellid ei osgoi i gleifion, gwella diogelwch cleifion a chyfrannu at leihau nifer y derbyniadau ac aildderbyniadau sy’n ymwneud â meddyginiaethau y gellid eu hosgoi.

 

Cynhaliwyd gwerthusiadau o fanteision y system o Drawsgrifio ac e-Ryddhau

Meddyginiaethau (MTeD) yn flaenorol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS)[2] a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf[3] a ddangosodd welliannau o ran ansawdd ac amseriad rhannu gwybodaeth am ryddhau gyda meddygon teulu cleifion.

 

Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor mae argaeledd MTeD ar draws cyrff y GIG yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol gyda’r system  MTeD yn cael ei gweithredu mewn pum bwrdd iechyd a datrysiadau e-ryddhau a oedd yn bodoli eisoes ar waith mewn dau fwrdd iechyd.  Mae gwelliannau pellach i’r system MTeD yn cael eu cynllunio a fydd wedyn yn hwyluso’r broses o’i gweithredu yn y ddau fwrdd iechyd sy’n weddill ar ddiwedd 2018-19.

 

Rydym yn disgwyl i NWIS a’r byrddau iechyd gael trefniadau gwerthuso priodol yn eu lle sy’n sicrhau bod manteision disgwyliedig y system MTeD yn cael eu gwireddu. Byddwn yn gweithio gyda NWIS i sicrhau bod y mesurau gwerthuso hyn yn rhan o adroddiadau cynnydd arferol mewn perthynas â chyflwyno MTeD. 

 

Argymhelliad 15. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn argymhelliad yr Archwilydd Cyffredinol ar gofnod meddygon teulu a’r argymhellion eraill sydd eu heb eu cyflawni yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol.

 

Derbyn

 

Yn hanesyddol, roedd mynediad i Gofnod Meddygon Teulu Cymru (WGPR) yn gyfyngedig i leoliadau gofal brys megis adrannau damweiniau ac achosion brys.  Fodd bynnag, ers mis

Tachwedd 2016, mae fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol sy’n gweithio mewn ysbytai yng Nghymru wedi cael mynediad llawn i’r WGPR mewn lleoliadau gofal a gynlluniwyd yn ogystal â lleoliadau gofal brys.  Mae hyn yn golygu y gall meddygon a fferyllwyr bellach gael mynediad i WGPR ar wardiau dewisol ac mewn clinigau cleifion allanol yn ogystal â mewn lleoliadau gofal heb eu trefnu.

 

Ym mis Tachwedd 2017, estynnwyd mynediad i’r WGPR yn gyntaf i bedair fferyllfa gymunedol ac yna 11, gan ddarparu’r gwasanaeth cenedlaethol ychwanegol ar gyfer cyflenwad brys o feddyginiaethau.  Mae canlyniadau’r cynllun peilot hwn yn cael eu gwerthuso gan NWIS cyn cyflwyno mynediad i’r WGPR i bob fferyllfa gymunedol.

 

Byddwn yn ysgrifennu at y pwyllgor gyda diweddariad ar gynnydd yn erbyn yr argymhellion sy’n weddill a wnaed yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ym mis Mai 2018.

 

 

Argymhelliad 16. Mae’r Pwyllgor yn argymell fel rhan o waith comisiynu a chyflwyno system e-ragnodi newydd Llywodraeth Cymru, ei bod yn datblygu cynllun gweithredu ategol i helpu i gyflawni’r newid diwylliannol sydd ei angen i gyd-fynd â chyflwyno system newydd 

 

Ac

 

Argymhelliad 17. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhannu ei chynllun gweithredu a cherrig milltir allweddol ar gyfer y system rhagnodi a rheoli meddyginiaethau yn electronig (EPMA) gyda’r Pwyllgor.

 

Derbyn

 

Mae NWIS wedi sefydlu prosiect Rhagnodi Electronig, Fferylliaeth a Gweinyddu Meddyginiaethau mewn Ysbytai Cymru (WHEPPMA) i ddatblygu a gweithredu’r cynllun cenedlaethol ar gyfer rhagnodi ym maes gofal eilaidd.

 

Mae’r tîm prosiect yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar hyn o bryd i gwblhau’r achos busnes ar gyfer caffael system fferylliaeth newydd mewn ysbytai a datrysiad rhagnodi electronig a gweinyddu meddyginiaethau.  Caiff yr achos busnes ei ystyried gan Lywodraeth Cymru maes o law.  Yn amodol ar gwblhau achos busnes boddhaol, disgwylir i’r gwaith o gaffael y systemau hyn gychwyn yn ystod 2018-19 ac y byddant ar waith ar ddechrau 2019.  Bydd y cynllun gweithredu, gan gynnwys y camau sydd eu hangen gan gyrff y GIG i gyflawni’r newid busnes angenrheidiol i fanteisio i’r eithaf ar fanteision e-ragnodi, a’r cerrig milltir, yn cael eu sefydlu gan NWIS drwy’r prosiect WHEPPMA ac yn amodol ar gymeradwyo’r achos busnes, byddwn yn gofyn i NWIS rannu eu cynlluniau â’r Pwyllgor.

 

 

 

 

 

 

 



[1] Ym mis Ionawr 2018, y gost net gymedrig ar gyfer cynhwysyn presgripsiwn yng Nghymru oedd £7.28 a’r gost net ganolrifol ar gyfer cynhwysyn oedd £1.59.

[2] Gwasanaeth Gwybodeg GIG. Adroddiad ar Werthusiad y Prosiect Trawsgrifio ac e-Ryddhau

Meddyginiaethau.  Ionawr 2014

[3] Davies C. Llythyr Cyngor y Prosiect e-Ryddhau – Adroddiad Diwedd y Prosiect.  Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Tachwedd 2017.