Nick Ramsay AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
21 Mai 2018
Diolch am eich nodyn diweddar yn gofyn i ni roi'r newyddion diweddaraf i chi am Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.
Rwy'n ymwybodol o ymrwymiad fy
rhagflaenydd (Owen Evans) i roi briff llawn i'r Pwyllgor ar y mater
hwn unwaith y bydd y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd wedi
dod i ben.
Rwy'n siŵr bod y Pwyllgor yn ymwybodol ein bod wedi cyhoeddi, ym mis Ionawr 2018, fod camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn erbyn y ddau sefydliad sy'n gyfrifol am redeg y Gronfa o ddydd i ddydd. Mae'r camau cyfreithiol hyn yn mynd rhagddynt ac nid ydym yn bwriadu gwneud unrhyw ddatganiadau tan fydd y broses wedi ei chwblhau.
Rwy'n fwy na pharod i ailadrodd ymrwymiad Owen Evans i roi adroddiad cymodi sy'n fwy cyflawn i'r Pwyllgor unwaith y bydd yr achos llys wedi gorffen.
Yn y cyfamser, gallaf gadarnhau ein bod yn rhoi adroddiadau cyson i'n cydweithwyr yn Swyddfa Archwilio Cymru, o gofio pa mor bwysig yw'r mater hwn i ni.
Tracey Burke
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ
Ffôn / Tel: 03000 258047
Gwefan ● website: www.cymru.gov.uk