Ymateb i’r alwad am dystiolaeth i ymgynghoriad y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru yw Gofal Cymdeithasol Cymru. Ein gweledigaeth yw bod pob person sydd angen cymorth yn byw’r bywyd sy’n cyfri iddyn nhw. Ein bwriad yw cyflawni’r weledigaeth hon trwy gydweithio â phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth ac ystod eang o sefydliadau i:  

·         bennu safonau ar gyfer y gweithlu gofal a chymorth

·         datblygu’r gweithlu

·         cydweithio ag eraill i wella gwasanaethau

·         pennu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil

·         rhannu arferion da

·         darparu gwybodaeth am ofal a chymorth

Cyfrifoldeb Gofal Cymdeithasol Cymru yw cefnogi hyfforddiant a datblygiad y gweithlu gofal cymdeithasol (yn cynnwys y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant). Rydym yn gyfrifol am gynhyrchu rhestr o gymwysterau cydnabyddedig ar gyfer y gweithlu. Trwy hwyluso rhwydwaith y blynyddoedd cynnar a gofal plant gallwn ddarparu ystod eang o safbwyntiau o’r sector ar ein cyfer ni a Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydweithio â Cymwysterau Cymru yn y gwaith o ddatblygu cymwysterau newydd ar gyfer gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. Rydym yn gyfrifol am reoleiddio, datblygu a gwella’r gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys y sawl sy’n darparu gofal cymdeithasol a chymorth i blant a’u teuluoedd. Rydym yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn o safbwynt ein harbenigedd a’n gwybodaeth yn y meysydd hyn.

Egwyddorion cyffredinol Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth er mwyn cyflawni’r amcanion polisi a nodwyd yn y Bil

Rydym yn croesawu agwedd y Bil o ran darparu gofal plant blynyddoedd cynnar fforddiadwy, hygyrch o ansawdd da. Mae gofal plant yn rhoi cyfle allweddol ar gyfer datblygiad plant ac yn galluogi rhieni i weithio neu i gyflawni hyfforddiant. Yn ei dro, mae hyn yn cefnogi twf economaidd, yn trechu tlodi plant ac yn lleihau anghydraddoldeb[1]. Hefyd, mae gofal plant safonol yn cefnogi’r gwaith o ymyrryd ac atal yn y blynyddoedd cynnar ar gyfer plant mewn perygl o Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod[2] (ACEs). Mae’n darparu amgylcheddau diogel ac ysgogol lle gall plant chwarae, dysgu, datblygu a thyfu. I’r perwyl hwn, byddai plant o ardaloedd difreintiedig yn elwa ar dderbyn y cynnig gofal plant yn unol â Dechrau’n Deg, ond yn aml dyma’r ardaloedd lle nad yw rhieni’n gallu fforddio talu am ofal plant, neu lle nad ydynt yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd mewn perthynas ag oriau gwaith[3].

Yn y cyd-destun hwn, gellid ystyried sut y gallai’r meini prawf cymhwysedd yn y Bil fod yn gyson â rhaglenni eraill megis Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE) lle mae gofal plant yn rhwystr i’r sawl sy’n chwilio am waith/hyfforddiant. Ar hyn o bryd byddai’r cymhwysedd a fwriedir yn y Bil yn allgau unrhyw rieni nad ydynt yn gweithio, sy’n debygol o fod y bobl dlotaf. Mae costau gofal plant yn bryder gwirioneddol i rieni ac mae ardaloedd yng Nghymru lle na all rhieni fforddio talu am ofal plant oherwydd incwm isel yr aelwyd a lefelau uwch o ddiweithdra, megis Cymoedd y De Ddwyrain[4]. Mae tystiolaeth o’r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a data’r Cyfrifiad yn awgrymu bod dwysedd uchel o blant yn Ne Ddwyrain Cymru, ond nad yw rhieni o bosibl angen gofal plant neu eu bod yn methu fforddio’i ddefnyddio. Byddai’n ddefnyddiol cael cymhariaeth o werthusiad faint sy’n mantieiso arno yn yr ardaloedd Gweithredwyr Cynnar yn Lloegr o gymharu â Chymru mewn perthynas â’r ardaloedd mwyaf difreintiedig er mwyn sefydlu a yw hyn wedi effeithio ar y sawl sydd wedi manteisio ar y cynnig.

Unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil

Mae tri adroddiad diweddar wedi nodi prinder o ran capasiti yn y system gofal plant yng Nghymru[5] [6] [7], yn groes i’r sefyllfa a brofwyd yn Lloegr yn dilyn gwerthusiad cyflwyno cynllun gofal plant 30 awr tebyg a gyllidir[8].

Yr amcangyfrifon cyfredol yw bod oddeutu 175,000 o blant hyd at bedair oed yn byw yng Nghymru. Ar gyfer yr holl oedrannau, dim ond ychydig llai nag 80,000 o leoedd gofal plant sydd ar gael. Felly, nid oes digon o leoedd i’r holl blant fynychu gofal plant llawn amser[9].

Mae oddeutu 40 y cant o’r plant hyn naill ai’n dair neu’n bedair blwydd oed, h.y. 70,000 o blant[10]. Pe bai pob un o’r sawl sy’n gymwys (oddeutu 66% ledled Cymru), yn manteisio ar y cynnig, byddai hyn yn golygu bod angen dros 24,000 yn ychwaneg[11] o leoedd llawn amser[12]. Amcangyfrifir y byddai oddeutu 87% o rieni cymwys yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, sy’n galw am gyfanswm o dros 21,000 cyfatebol ag amser llawn[13] o leoedd ychwanegol.

Ar sail cymhareb y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS) ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed[14] i blant rhwng 3 a 7 oed, sef un oedolyn i bob 8 plentyn, y gweithlu ychwanegol fyddai ei angen ar gyfer y 21,000 o leoedd fyddai 2637 o weithwyr ar draws Cymru trwy gydol cyfnod gweithredu’r cynnig hyd at 2020. Nid oes cyflenwad o staff cymwysedig ar gael sy’n aros i ymuno â’r sector.

Mae llawer o bobl sy’n ymuno â’r gweithlu yn dilyn prentisiaethau, a’r flwyddyn academaidd ddiwethaf (2016-17) ardystiodd Gofal Cymdeithasol Cymru 675 o brentisiaethau gofal plant lefel 3[15]. Er mwyn gwneud iawn am y diffyg posibl, byddai’n rhaid cael cynnydd o 700% yn nifer y recriwtiaid sy’n cwblhau prentisiaethau gofal plant dros y ddwy flynedd nesaf. Nid oes unrhyw arwydd bod gan ddarparwyr dysgu’r capasiti i gyflawni cynnydd ar lefel o’r math yma. Ar sail cost prentisiaeth gofal plant Lefel 3 yng Nghymru, amcangyfrifir cyfanswm gwerth oddeutu[16] £11.3 miliwn, fel cyllid a fyddai ei angen yng nghynlluniau addysg a gweithlu’r dyfodol. 

Dewis arall fyddai disgwyl i golegau gynnig 1100 o leoedd ychwanegol (cynnydd o 38% y flwyddyn) rhwng y rhai sy’n defnyddio’r cynnig yn 2018-2020 a 2019-2021. Yn 2016 (yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael) cynigir ychydig dros 1500 lle yn yr holl golegau ledled Cymru ar gyfer dysgwyr Gofal Plant Lefel 3[17] a hyd yn oed pe gellid cyflawni’r cynnydd hwn, ni fyddai’r staff ychwanegol ar gael i ymuno â’r gweithlu tan haf 2021. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod gan golegau’r capasiti ychwanegol i fodloni’r galw. Nid yw’r gost o recriwtio a hyfforddi staff ychwanegol i fodloni’r diffyg capasiti yn y gweithlu i roi’r polisi ar waith wedi’i nodi’n benodol yn y costau a bennwyd ar gyfer cyllido gofal plant.

 

Ceisiadau a Chymhwysedd Canolog.

Mae’r cynigion ar gyfer gwirio ceisiadau a chymhwysedd canolog yn fanteisiol o ran gweithredu dull cyson ledled Cymru a lliniaru problemau capasiti i Awdurdodau Lleol. Fodd bynnag, mae adroddiad Cyngres yr Undebau Llafur[18] a gwblhawyd i olrhain rôl Credyd Cynhwysol yn nodi y gall y pum wythnos o aros rhwng ymgeisio am gyllid a derbyn y taliad cyntaf achosi caledi ariannol. Os priodolir graddfa amser debyg i’r cynnig gallai achosi oedi yng ngallu’r rhiant i dderbyn y cynnig llawn. Dangosodd gwerthusiad o’r cynnig yn Lloegr[19] fod timau Awdurdodau Lleol a oedd yn darparu’r cynnig wedi mynegi pryderon ynghylch yr oedi wrth wirio cymhwysedd a derbyn cynnig; yn yr achos hwn derbyniwyd y tymor ar ôl y cais; gallai hyn effeithio ar y niferoedd.

Hefyd, roedd y gwerthusiad yn Lloegr yn nodi y byddai darparu’r oriau estynedig yn ariannol gynaliadwy i rai ond nid i eraill. Mae cyflawni’r cynllun hefyd o bosibl yn fwy proffidiol i rai darparwyr ond yn llai proffidiol i eraill. Bydd hyn yn dibynnu’n helaeth ar y gyfradd ffioedd a dylai hyn fod yn ystyriaeth wrth benderfynu ar ddiwygio cyfraddau ar gyfer y cynnig.

O’r trafodaethau gyda’r sector yn ystod cyfarfodydd rhwydwaith Blynyddoedd Cynnar Gofal Cymdeithasol Cymru, mae gwahaniaeth rhwng y gyfradd a delir am ofal plant Cyfnod Sylfaen, Dechrau’n Deg a’r cynnig 30 awr cyfredol ar draws Cymru. Mae’n amrywio o’r naill awdurdod lleol i’r llall, ond o ran cyflwyno’r cynnig 30 awr fesul cam yn ehangach yn yr hirdymor, byddai sicrhau cyfraddau talu cyfartal yn rhywbeth i’w groesawu.

Dylid nodi hefyd fod yr adroddiadau o’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru: Childcare Policy Options for Wales 2015, yn nodi bod effaith gweithredu’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael effaith anghymesur ar ddarparwyr gofal plant. Mae arolwg gofal plant Alma Economics[20] yn amcangyfrif mai dim ond 12% o staff gofal plant sy’n ennill cyfanswm o dros £9.00 yr awr, sy’n awgrymu bod y cynlluniau i gynyddu’r Cyflog Byw Cenedlaethol i £9.00 erbyn 2020 yn debygol o gael effaith fawr ar y costau[21]. Mae angen ystyried effaith cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn unol ag unrhyw ystyriaeth o newidiadau i raddfa’r cynnig. Mae tystiolaeth gyfredol yn awgrymu bod y costau darparu oddeutu £4 yr awr y plentyn[22], ond gall rhain godi yn y dyfodol, yn enwedig wrth gyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Mae Cymdeithas y Meithrinfeydd Dydd (NDNA) yn nodi[23] bod hyn yn cyfateb yn Lloegr i gynnydd o ddeg y cant yn y gyflogres i ddarparwyr ac o ystyried hynny yn unol â chyfraniadau pensiwn ac yswiriant gwladol gallai hyn achosi problemau o ran cynaliadwyedd yn y sector.

 



[1] https://gov.wales/docs/caecd/research/2017/171031-childcare-capacity-cy.pdf

 

[2] http://www2.nphs.wales.nhs.uk:8080/PRIDDocs.nsf/7c21215d6d0c613e80256f490030c05a/d488a3852491bc1d80257f370038919e/$FILE/ACE%20Report%20FINAL%20(E).pdf

 

[3] https://gov.wales/docs/caecd/research/2017/171031-childcare-capacity-cy.pdf

[4] Ffynhonnell –Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru Llywodraeth Cymru 2014.

[5] Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru: Childcare Policy Options for Wales, Caerdydd, Rhag 2015

[6] https://gov.wales/docs/caecd/research/2017/171031-childcare-capacity-cy.pd

[7] Review of Childcare in Wales, Welsh Government and Government Social Research Social Research: Number 2/2018 Publication Date 10/1/2018: Cardiff

[8] Gillian Paull, Ivana La Valle. Evaluation of Early Implementation of 30 Hour Free Childcare, Research Report. Department of Education and Government Social Research. Llundain. Gorffennaf 2017

[9] https://gov.wales/docs/caecd/research/2017/171031-childcare-capacity-cy.pd

[10] https://gov.wales/docs/caecd/research/2017/171031-childcare-capacity-cy.pd

[11] Review of Childcare in Wales, Welsh Government and Government Social Research Social Research:  Number 2/2018 Publication Date 10/1/2018: Cardiff

[12] Mae hyn yn caniatau 20 awr ychwanegol am 38 wythnos (yn ogystal â’r 10 awr o addysg gynnar yn ystod y tymor) a 30 awr am 9 wythnos yn ystod gwyliau ysgol (52.1% cyfatebol ag amser llawn neu 36 awr o ofal plant yr wythnos).

[13] Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru: Childcare Policy Options for Wales, Caerdydd, Rhag 2015

[14] http://careinspectorate.wales/docs/cssiw/publications/160303regchildcarecy.pdf

[15] Cronfa ddata ardystio prentisiaethau Cymru

[16] Yr amser cyfartalog ar gyfer cwblhau prentisiaeth gofal plant lefel 3 yw ychydig dros 18 mis.

[17] Dylid nodi bod cyflawni cwrs gofal plant lefel 3 mewn coleg yn cymryd 2 flynedd i’w gwblhau

[18] https://www.tuc.org.uk/sites/default/files/BenefitsDelayed2014.pdf

[19]https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/628938/Evaluation_of_early_implementation_of_30_hours_free_childcare_-_Brief.pdf

 

[20] Review of Childcare in Wales, Welsh Government and Government Social Research Social Research:  Number 2/2018 Publication Date 10/1/2018: Cardiff

[21] https://gov.wales/docs/caecd/research/2018/180110-review-childcare-sector-en.pdf

[22] Mae amcangyfrifon diweddar ar gyfer Lloegr yn nodio cost yr awr y plentyn ar gyfer plant tair a phedair oed o £4.25 ar gyfer lleoliadau preifat, £3.81 ar gyfer lleoliadau gwirfoddol a £4.37 ar gyfer ysgolion cynradd gyda darpariaeth feithrin

Adran Addysg. (2015b). Review of childcare costs: the analytical report: An economic assessment of the early education and childcare market and providers’ costs. DFE00295-2015, Tachwedd

[23]http://www.ndna.org.uk/NDNA/News/Press_releases/2015_press_releases/National_Living_Wage_funding_factor_is_vital_ahead_of_30_hour_free_childcare_offer_.aspx