#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-816

Teitl y ddeiseb: Dywedwch 'NA' i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y corff cyfrifol a noddir gan Lywodraeth Cymru, yn peidio â phrydlesu tir cyhoeddus i weithgareddau saethu masnachol. Prif swyddogaeth gyfansoddiadol Cyfoeth Naturiol Cymru yw bod yn stiward amgylcheddol dros y tir y mae’n ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru a phobl Cymru. Ond mae prydlesu’r tir hwn ar gyfer gweithgareddau saethu yn effeithio’n negyddol ar gadwraeth, bioamrywiaeth a lles anifeiliaid. Hefyd, mae gweithgareddau saethu yn llygru tir gyda phelenni plwm gwenwynig sy’n gyfrifol am wenwyno a lladd llawer o anifeiliaid. Mae arfer Cyfoeth Naturiol Cymru o brydlesu tir ar gyfer saethu yn hwyluso gweithgarwch sy’n wrthun gan lawer o bobl Cymru: lladd anifeiliaid er mwyn ‘difyrrwch’. Mae’r prydlesau hefyd yn golygu bod mynediad y cyhoedd i dir sy’n eiddo i bobl Cymru yn cael ei gyfyngu.

Y cefndir

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru 128,000 hectar ar ran Gweinidogion Cymru, yn ogystal â 54 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol, a thir sy'n gysylltiedig ag asedau rheoli perygl llifogydd.  Ym mis Ionawr 2018, lansiodd Cyfoeth Naturiol Cymru ymgynghoriad ar gynigion ynghylch defnyddio arfau tanio ar y tir y mae'n ei reoli.Mae'r ymgynghoriad yn rhan o broses adolygu ehangach sy'n edrych ar arfau tanio a gweithgarwch saethu sy'n gysylltiedig â'i rôl a'i gylch gorchwyl fel rheolwr tir. Nodir isod y broses hyd yma:

§    Cam 1: Galwad am dystiolaeth (daeth i ben ar 30 Ebrill 2017);

§    Cam 2: Synthesis o dystiolaeth (Medi 2017). Mae'r synthesis yn crynhoi pwyntiau allweddol y dystiolaeth a gafwyd;

§    Cam 3: Sicrwydd annibynnol ar y Synthesis o Dystiolaeth (Tachwedd 2017);

§    Cam 4: Ymgynghoriad ar y cynigion (lansiwyd ym mis Ionawr 2018);

§    Cam 5: Dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad (disgwylwyd ym mis Ebrill 2018); a

§    Cham 6: Cyhoeddi datganiad safbwynt (disgwyliwyd yng ngwanwyn 2018).

Mae'r ymgynghoriad yn ymwneud â defnyddio arfau tanio at dri diben eang ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru:

§    Defnydd Cyfoeth Naturiol Cymru o arfau tanio i reoli rhywogaethau gwyllt sy'n effeithio ar ei amcanion;

§    Defnydd pobl eraill o arfau tanio i reoli rhywogaethau gwyllt sy'n effeithio ar amcanion rheoli tir cyfagos; ac

§    Arfer Cyfoeth Naturiol Cymru o brydlesu tir ar gyfer saethu anifeiliaid hela a gweithgareddau eraill.

Mae'r ddeiseb hon yn ymwneud â phwynt tri yn unig, sef prydlesu tir ar gyfer saethu anifeiliaid hela a gweithgareddau eraill.

Ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru:

Dull presennol Cyfoeth Naturiol Cymru

Dywed yr ymgynghoriad:

Rydym am i gymunedau a mentrau cymdeithasol gael y budd mwyaf posibl o'r tir rydym yn ei reoli. Rydym yn ystyried ceisiadau am amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau, prosiectau a mentrau i alluogi pobl Cymru i wneud y gorau o'r tir rydym yn ei reoli. Ar hyn o bryd, mae hyn yn cynnwys saethu adar hela ar sail gyfyngedig iawn [Pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil].

 [...] Rydym hefyd yn derbyn nifer fach o geisiadau am weithgareddau eraill sy'n cynnwys arfau tanio megis saethu targedau, meysydd tanio a saethu colomennod clai. Caiff y rhain eu hasesu fesul achos.

Mae'n amlinellu bod Cyfoeth Naturiol Cymru, ar hyn o bryd, yn prydlesu pedair ardal o dir coedwig ar Ystâd Goed Llywodraeth Cymru, sy'n cwmpasu 440 hectar, i drydydd partïon at ddiben saethu ffesantod. Fel arfer, mae'r prydlesau am dair i bum mlynedd ond, ar hyn o bryd maent yn cael eu hadnewyddu'n flynyddol nes y ceir canlyniad yr adolygiad. Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru iddo ennill tua £6,000 o incwm o'r prydlesau yn 2016.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud ei fod yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl weithgarwch saethu gael ei reoli yn ôl y safonau arfer gorau â chynllun rheoli cytunedig, gan gynnwys mesurau diogelu'r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys cydymffurfio â Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig (2013). Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru nad yw unrhyw un o'r prydlesau yn rhwystro mynediad cyhoeddus na'i fuddiannau ei hun wrth reoli'r tir, er enghraifft cynhyrchu coed. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn caniatáu deiliaid prydles i gadw ffesantod mewn llociau mewn lleoliadau cytunedig cyn eu rhyddhau. Rhaid i ddulliau rheoli adar mewn llociau ddilyn Cod Ymarfer er Lles Adar Hela a Fegir at Ddibenion Helwriaeth (2010), gan Lywodraeth Cymru.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn brasamcanu i 6,500 o ffesantod gael eu rhyddhau yn 2016.[CC(CyC|AC1] 

Mae'r ymgynghoriad yn dweud bod rhannau o dir y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu rheoli sydd â disgwyliad neu amod yn gysylltiedig â dyfarniad gwreiddiol y brydles y byddai'r hawliau saethu yn parhau i gael eu gosod. Mae wyth o'r safleoedd hyn yn cael eu gosod ar hyn o bryd, dros 4,881 hectar. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adrodd bod yr hawliau'n cael eu harfer ar yr wyth safle, ond ni chaniateir saethu ar oddeutu 1,120 hectar o'r ardal hon oherwydd buddiannau cadwraeth natur.

Yn yr ymgynghoriad, dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod gweithgareddau saethu o fudd economaidd i Gymru. Fodd bynnag, mae hefyd yn dweud ei bod yn ddrud ac yn gymhleth asesu cyfraniad gweithgareddau saethu i gydlyniant a llesiant y cymunedau sy'n debygol o elwa ar y fath weithgaredd neu y mae'n debygol o effeithio arnynt.

 

Dulliau posibl eraill

Mae'r ymgynghoriad yn cyflwyno dau fater sy'n gysylltiedig â dull presennol Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn nodi dewisiadau posibl eraill. Amlinellir y rhain isod:

Meini prawf diwygiedig ar gyfer asesu ceisiadau: Byddai'r dull hwn yn cynnwys datblygu meini prawf ar gyfer asesu addasrwydd cynigion ac adnewyddu prydlesau er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â Rheoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol a bod penderfyniadau'n helpu i gyflawni'r nodau llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) (DLlCD). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru ailarfarnu ardaloedd Ystâd Goed Llywodraeth Cymru a roddir ar brydles, ac y gellid cynnwys amodau yn y cytundebau prydles i sicrhau bod stoc sy'n mynd i mewn i lociau ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n dod gan gyflenwyr sy'n dilyn cod ymarfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru y ceir effeithiau ar fioamrywiaeth yn sgil rhyddhau ffesantod, gyda manteision i rai grwpiau o rywogaethau ac anfanteision i eraill. Dywed yr ymgynghoriad nad yw'r dystiolaeth yn awgrymu casgliad clir ynghylch yr effeithiau, ond ei bod yn amlwg bod angen mynd ati i reoli coetiroedd a dilyn yr argymhellion, sef llai na 700 o adar yr hectar o loc er mwyn sicrhau na fydd effaith negyddol gyffredinol ar fioamrywiaeth. [CC(CyC|AC2] [CC(CyC|AC3] 

Peidio â defnyddio tir Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer gweithgareddau saethu masnachol trwy derfynu prydlesau lle bo'n bosibl: Yn yr ymgynghoriad, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn awgrymu, ar sail y dystiolaeth a gafodd, y gallai terfynu neu ddiddymu prydlesau:

§    Arwain at golli incwm i gymunedau, unigolion a busnesau, gan leihau'r budd economaidd a chymdeithasol cyffredinol i Gymru;

§    Lleihau'r opsiynau ar gyfer hamdden i rai pobl, a all effeithio ar eu hiechyd a'u llesiant;

§    Arwain at gynnal gweithgareddau saethu ar safleoedd mwy sensitif mewn mannau eraill; a

§    Chynyddu ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn coetiroedd lle mae prydlesau wedi'u tynnu'n ôl.

 

Casgliadau

Dywed yr ymgynghoriad fod y gweithgareddau sy'n gysylltiedig â saethu anifeiliaid hela – ffesantod ac adar gwyllt yn bennaf – yn gallu effeithio ar Reoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol. Gall effeithiau cynnydd yn nifer yr adar mewn coetiroedd effeithio ar rywogaethau a chynefinoedd brodorol trwy gystadlu, ysglyfaethu a chyfoethogi. Mae'n awgrymu y gall y rheolaeth sy'n gysylltiedig â rhyddhau ffesantod gael effeithiau cadarnhaol ar gyfer bioamrywiaeth, a bod cymhwyso egwyddorion Rheoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol yn gallu cydbwyso effeithiau. Dywed nad yw cydbwysedd cyffredinol y manteision yn erbyn yr effeithiau negyddol yn bendant.

Cynnig drafft

Mae'r ymgynghoriad yn nodi cynnig drafft:

Dylai CNC barhau i ystyried prydlesu tir at ddibenion saethu ffesantod, hela adar a gweithgareddau eraill sy'n cynnwys arfau tanio [Pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil]. Wrth ystyried ceisiadau, dylid asesu effeithiau'r gweithgaredd ar y gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac ar y nodau llesiant. Dylai lleoliad a graddfa'r gweithgaredd ystyried y potensial ar gyfer effeithiau negyddol ar ecosystem y coetir a rhywogaethau fflora a ffawna lleol, ond dylai hefyd ystyried agweddau cymdeithasol buddiol cydlyniad cymunedol lleol a'r buddion economaidd posibl. Dylid llunio a gweithredu cynlluniau rheoli, a dylai fod yn ofynnol i ddeiliaid prydlesau ddangos eu bod yn glynu wrth godau ymarfer perthnasol. Bydd CNC yn parhau i asesu cydymffurfiaeth gweithgareddau a ganiateir â Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi asesu'r cynnig drafft o ran y cyfraniad y byddai'n ei wneud i reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol a nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ceir crynodeb o'r asesiad hwn isod:

§    Mae gweithgarwch saethu gan drydydd partïon yn gysylltiedig â nifer o'r nodau llesiant. Mae'n cyfrannu at greu Cymru lewyrchus a chydnerth trwy ddarparu cyflogaeth uniongyrchol i ddarparwyr gwasanaethau a chefnogi busnesau cysylltiedig;

§    Bydd y cynnig yn cyfrannu at greu Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang gan y bydd yn sicrhau y caiff poblogaethau adar mudol eu hystyried wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau saethu sy'n cynnwys adar gwyllt;

§    Mae amryw randdeiliaid wedi rhoi gwybod am bwysigrwydd saethu i gymunedau gwledig a rôl saethu yn niwylliant Cymru;

§    Mae'n bosibl y ceir canlyniadau cadarnhaol i iechyd y rhai sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau ac mae bwyta cig anifeiliaid hela, sy'n isel ei fraster, hefyd yn gadarnhaol;

§    O ran rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol, dylai cynlluniau rheoli ar gyfer gweithgareddau saethu gynnwys gofynion monitro, adrodd ac adolygu er mwyn newid camau rheoli i helpu i sicrhau bod poblogaethau'n gynaliadwy; a

§    Hefyd, dylid asesu graddfa'r ardaloedd a roddir ar brydles yn ofalus ynghyd â ph'un a yw'r ardaloedd hynny'n briodol o ran y gweithgaredd, y lleoliad, y math o gynefin a'r sensitifrwydd.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor ar 25 Ebrill, gan nodi ei hymateb i'r ddeiseb. Mae'r llythyr yn nodi bod adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru, yr alwad am dystiolaeth a'r ymgynghoriad wedi deillio o bryderon a fynegwyd i Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch materion ynglŷn â moeseg a lles wrth saethu ffesantod ar dir cyhoeddus.

Mae'r llythyr yn cyfeirio at y Cod Ymarfer er Lles Adar Hela a Fegir at Ddibenion Helwriaeth, gan Lywodraeth Cymru, ac yn dweud y dylid rhoi gwybod am bryderon ynghylch iechyd a lles anifeiliaid i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) neu'r Awdurdod Lleol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud, ar ôl i ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ddod i ben ac wedi dadansoddi'r ymatebion, y bydd hi neu Weinidog yr Amgylchedd yn trafod y mater gyda Chadeirydd a Phrif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru. [CC(CyC|AC4] 

 

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud unrhyw waith ar saethu ffesantod ar dir y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei reoli, ac ni thrafodwyd yr ymgynghoriad yn y Cyfarfod Llawn, na chwestiynau ysgrifenedig.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 


 [CC(CyC|AC1]https://gov.wales/legislation/subordinate/nonsi/animalwelfarewales/2010/gamebirds/?skip=1&lang=cy

 [CC(CyC|AC2]https://naturalresources.wales/about-us/what-we-do/how-we-work/how-we-work-natural-resources-management/?lang=cy

 [CC(CyC|AC3]https://gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/?skip=1&lang=cy

 [CC(CyC|AC4]https://beta.llyw.cymru/adar-syn-cael-eu-magu-ar-gyfer-eu-hela-cod-ymarfer-er-eu-lles?_ga=2.73453650.1997494957.1527073068-873131472.1518445888