Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18/04/2018 i'w hateb ar 25/04/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Simon Thomas Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pa drafodaethau mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cynnal ynglŷn â chynlluniau ar gyfer safle newydd i Ysgol Dewi Sant yn Llanelli?
Mohammad Asghar Dwyrain De Cymru
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dysgu oedolion yn y gymuned?
David Melding Canol De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu ieithoedd modern tramor?
Rhianon Passmore Islwyn
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â dysgwyr dan anfantais yn Islwyn?
Mick Antoniw Pontypridd
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl addysg yn y broses o fynd i'r afael â gamblo cymhellol?
Julie Morgan Gogledd Caerdydd
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghaerdydd?
Dawn Bowden Merthyr Tudful a Rhymni
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllido ysgolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful?
Bethan Sayed Gorllewin De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar uno a chau ysgolion?
Lynne Neagle Torfaen
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i ddisgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn Nhor-faen?
Darren Millar Gorllewin Clwyd
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am faint o ysgolion sydd wedi cau ers iddi gael ei phenodi?
David J. Rowlands Dwyrain De Cymru
Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i newid y ffordd y caiff ysgolion eu hariannu?
Adam Price Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg?
Dai Lloyd Gorllewin De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn y cwricwlwm newydd?
Andrew R.T. Davies Canol De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi a chynnal ysgolion cynradd gwledig yng Nghanol De Cymru?
Mark Reckless Dwyrain De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel y dewis sydd ar gael mewn addysg ôl-16?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jayne Bryant Gorllewin Casnewydd
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo bwydo ar y fron?
David Melding Canol De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am raglen Sgrinio Coluddion Cymru?
Andrew R.T. Davies Canol De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i recriwtio a chadw staff yn GIG Cymru?
Mark Isherwood Gogledd Cymru
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cyfraddau diagnosis canser y prostad?
Hefin David Caerffili
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau canser yng Nghymru?
Simon Thomas Canolbarth a Gorllewin Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â dyfodol gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Lynne Neagle Torfaen
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant?
Adam Price Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y driniaeth a'r cyllid sydd ar gael ar gyfer y cyflwr ar y llygaid, Keratoconus?
David Rees Aberafan
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael â'r byrddau iechyd lleol ar fonitro lefelau staff nyrsio ym mhob ysbyty?
Mandy Jones Gogledd Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganlyniadau canser y coluddyn yng Ngogledd Cymru?
Joyce Watson Canolbarth a Gorllewin Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Mark Reckless Dwyrain De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyrannu cleifion yn y dyfodol rhwng y ganolfan trawma mawr yng Nghaerdydd ac Ysbyty Athrofaol y Grange?
Lynne Neagle Torfaen
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru 2015 - 2020?
Hefin David Caerffili
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau canser y fron yn Neddwyrain Cymru?
Rhianon Passmore Islwyn
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gwella'r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaeth iechyd rhywiol yn Islwyn?