Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd
ar
31/01/2018 i'w
hateb ar 07/02/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Jayne Bryant Gorllewin Casnewydd
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer chwaraeon proffesiynol yn ne-ddwyrain Cymru?
Vikki Howells Cwm Cynon
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo teithio llesol yng Nghwm Cynon?
Rhun ap Iorwerth Ynys Môn
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysigrwydd hybu enwau lleoedd cynhenid i dwristiaeth?
Joyce Watson Canolbarth a Gorllewin Cymru
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu entrepreneuriaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Leanne Wood Rhondda
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfarnu'r fasnachfraint rheilffyrdd nesaf?
Rhianon Passmore Islwyn
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth yn Islwyn?
Simon Thomas Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynglŷn â buddsoddiad newydd mewn pwyntiau gwefru cerbydau trydan?
Mohammad Asghar Dwyrain De Cymru
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddenu mwy o dwristiaid i Gymru yn y pumed Cynulliad?
Caroline Jones Gorllewin De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae polisïau economaidd Llywodraeth Cymru yn gwella ffyniant economaidd Gorllewin De Cymru?
Lee Waters Llanelli
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb o £1.5 miliwn a ddyrannwyd i gefnogi'r economi sylfaenol?
John Griffiths Dwyrain Casnewydd
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru?
Neil McEvoy Canol De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi porthladdoedd Llywodraeth Cymru?
Simon Thomas Canolbarth a Gorllewin Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddileu tollau Pont Cleddau?
Paul Davies Preseli Sir Benfro
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro dros y 12 mis nesaf?
Leanne Wood Rhondda
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella llwybrau seiclo a cherdded yn y Rhondda?
Cwnsler Cyffredinol
Jenny Rathbone Canol Caerdydd
Yn dilyn y gwrandawiad diweddar yn yr Uchel Lys, pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i baratoi ar gyfer Llywodraeth Cymru i unioni'r diffyg gweithredu anghyfreithlon ar lygredd aer?
Dai Lloyd Gorllewin De Cymru
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r arholiad cymhwyso arfaethedig i gyfreithwyr a'i oblygiadau ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru?
Mike Hedges Dwyrain Abertawe
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag erlyn am beidio â thalu'r dreth gyngor?
Adam Price Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Pa gyngor cyfreithiol y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynglŷn â data personol?
Jayne Bryant Gorllewin Casnewydd
Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch gallu pobl sy'n dioddef troseddau i gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol?
Simon Thomas Canolbarth a Gorllewin Cymru
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu faint o arian sy'n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar achosion llys sy'n ymwneud â llygredd awyr?
Simon Thomas Canolbarth a Gorllewin Cymru
A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi cael trafodaethau gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn ag adolygiad o achosion treisio yng Nghymru?
David Rees Aberafan
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith mewn gwledydd datganoledig yn y DU am y Bil parhad sy'n cael ei ddwyn ymlaen gan Lywodraeth Cymru?
Lee Waters Llanelli
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith awtomeiddio ar y sector gwasanaethau cyfreithiol?