Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24/01/2018 i'w hateb ar 31/01/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

          Joyce Watson    Canolbarth a Gorllewin Cymru

1      OAQ51657

Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hybu sgiliau iaith a chyfathrebu ymhlith disgyblion?

          Gareth Bennett     Canol De Cymru

2      OAQ51666

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r risg o drosedd a thrais mewn ysgolion?

          Julie Morgan    Gogledd Caerdydd

3      OAQ51679

Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i wella addysg rhyw a pherthnasoedd i ddisgyblion?

          Jayne Bryant     Gorllewin Casnewydd

4      OAQ51673

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion i hyrwyddo modelau rôl benywaidd yn yr ystafell ddosbarth?

          Rhun ap Iorwerth     Ynys Môn

5      OAQ51670 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith costau teithio ar fynediad at brentisiaethau?

          Bethan Jenkins    Gorllewin De Cymru

6      OAQ51681

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau i wella addysg bellach i gefnogi mwy o bobl i ennill cymwysterau yng Nghymru?

         Jenny Rathbone     Canol Caerdydd

7      OAQ51650

Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i lywodraethwyr ysgol yn y flwyddyn ariannol nesaf?

          Hefin David     Caerffili

8      OAQ51676

Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i baratoi'r sector addysg ôl-16 yng Nghymru ar gyfer gweithredu'r argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad Dyfodol Llwyddiannus?

          Lynne Neagle    Torfaen

9      OAQ51674

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymdrechion i wella safonau ysgolion yn Nhorfaen?


 

 

          Angela Burns    Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

10    OAQ51682

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Estyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar?

          Andrew R.T. Davies    Canol De Cymru

11    OAQ51669

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru?

          Adam Price     Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

12    OAQ51663

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru sy'n astudio addysg feddygol yng Nghymru?

          Russell George     Sir Drefaldwyn

13    OAQ51642

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella canlyniadau addysgol i ddysgwyr yng nghanolbarth Cymru?

          Sian Gwenllian     Arfon

14    OAQ51656 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â Bil y Gymraeg?

          Mandy Jones     Gogledd Cymru

15    OAQ51649

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ad-drefnu ysgolion yng Ngogledd Cymru?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

          Jane Hutt     Bro Morgannwg

1      OAQ51659

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad diweddaraf y Prif Swyddog Meddygol ar iechyd y genedl?

          David Rees     Aberafan

2      OAQ51671

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod byrddau iechyd yn ymgysylltu'n llawn ag ymgynghoriadau cyhoeddus ar wasanaethau iechyd yn y dyfodol?

          Bethan Jenkins    Gorllewin De Cymru

3      OAQ51680

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu hynt y cynlluniau i newid cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru?

          Caroline Jones     Gorllewin De Cymru

4      OAQ51664

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yng Ngorllewin De Cymru?

 

          Hefin David     Caerffili

5      OAQ51677

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Y Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2014?

          Vikki Howells     Cwm Cynon

6      OAQ51647

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yr effeithir arnynt gan achosion o diwmorau niwroendocrin yng Nghymru?

          John Griffiths     Dwyrain Casnewydd

7      OAQ51653

Pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mentrau i atal afiechyd yng Nghymru?

          Suzy Davies     Gorllewin De Cymru

8      OAQ51645

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith i wella cydnerthedd gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau?

          Darren Millar     Gorllewin Clwyd

9      OAQ51646

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad byrddau iechyd yn erbyn targedau'r GIG yng Nghymru?

          Lee Waters     Llanelli

10    OAQ51652

Pa wersi y gellir eu dysgu o waith NHS Digital a gwasanaeth gwybodaeth ar-lein Llywodraeth y DU er mwyn diwygio darpariaeth Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru?

          Mark Isherwood     Gogledd Cymru

11    OAQ51643

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014?

          Mark Isherwood     Gogledd Cymru

12    OAQ51644

Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r broses o recriwtio meddygon i'r GIG yng Nghymru?

          Rhun ap Iorwerth     Ynys Môn

13    OAQ51667 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i ymgyrch Changing Places?

          Jayne Bryant     Gorllewin Casnewydd

14    OAQ51675

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am brofion ceg y groth yng Nghymru?

          Julie Morgan    Gogledd Caerdydd

15    OAQ51678

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella iechyd plant yng Nghymru?