Memorandwm ar gynigion Cyllideb Drafft yr Economi a’r Seilwaith ar gyfer 2018-19
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau – 9 Tachwedd 2017
Mae’r papur hwn yn darparu gwybodaeth am gynigion cyllideb yr Economi a’r Seilwaith fel y’u hamlinellwyd yng Nghyllideb Drafft 2018-18 a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017. Cyhoeddwyd y gyllideb mewn dau gam: cyllideb amlinellol (cam 1) ar 3 Hydref a chyllideb fanwl (cam 2) ar 24 Hydref. Hefyd, mae’n darparu gwybodaeth am feysydd penodol sydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor.
Nid yw’n cynnwys manylion y gyllideb Diwylliant; bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn trafod y gyllideb hon yng nghyfarfod Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar 8 Tachwedd 2017. Nid yw’n cynnwys meysydd Sgiliau, Seilwaith TGCh, Gwyddoniaeth, Arloesi a’r Gwyddorau Bywyd chwaith; mae’r meysydd hyn wedi’u cynnwys mewn papur ar wahân sy’n cael ei gyflwyno gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.
Mae Symud Cymru Ymlaen 2016-21 yn amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer darparu cyfleoedd cyflogaeth drwy economi gryfach a thecach, gwella gwasanaethau cyhoeddus a chreu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. Mae’r economi yn dylanwadu ar bopeth rydym yn ei wneud. Mae economi gref sy’n darparu ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru yn hanfodol i sicrhau Cymru uchelgeisiol, iach, ffyniannus ac unedig.
Mae Ffyniant i Bawb: y Strategaeth i Gymru yn cyfrannu’n uniongyrchol at nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’n cyflwyno’r deuddeg amcan llesiant diwygiedig ac yn darparu fframwaith i ddatblygu ein cynllun. Hefyd, mae cynlluniau’r gyllideb yn ystyried y pum maes blaenoriaeth: y blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl a sgiliau a chyflogadwyedd, ac mae’n cydnabod bod rhagolygon economaidd yn hanfodol i’r strategaeth. Rydym wedi mabwysiadu agwedd hirdymor at ddatblygu gwasanaethau a chreu’r amodau i’r economi ffynnu. Mae cynlluniau’r gyllideb wedi’u datblygu ochr yn ochr â’r strategaeth i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’n blaenoriaethau yn y dyfodol.
Mae Cyllideb
Ddrafft 2018-19 yn darparu cynllun dwy flynedd ar gyfer buddsoddiad
refeniw a chynllun tair blynedd ar gyfer buddsoddiad cyfalaf.
Mae’r tabl isod yn darparu trosolwg o’r gwariant
refeniw a chyfalaf arfaethedig ar gyfer gweithgareddau’n
ymwneud â’r economi a thrafnidiaeth yn y
portffolio.
Ar gyfer y cyfnod 2018-19 hyd at 2019-20, cyfanswm y gyllideb refeniw yw £347.406 miliwn a £322.612 miliwn (heb gynnwys Gwariant Heb Fod yn Arian Parod a Gwariant a Reolir yn Flynyddol). Yn gyffredinol, mae’r gyllideb refeniw wedi cynyddu £6.226 miliwn yn 2018-19 o’i gymharu â’r Llinell Sylfaen ddiwygiedig, ac mae wedi lleihau £24.794 miliwn yn 2019-20 fel mae Tabl 1 yn ei ddangos:
TABL 1: Trosolwg o’r Gyllideb Refeniw |
||||||||
Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
||
Refeniw |
|
|
|
|
|
|
|
|
Yr Economi |
49,160 |
(5,000) |
44,160 |
4,026 |
48,186 |
(3,500) |
44,686 |
|
Trafnidiaeth |
299,670 |
(2,650) |
297,020 |
2,200 |
299,220 |
(21,294) |
277,926 |
|
Is-gyfanswm |
348,830 |
(7,650) |
341,180 |
6,226 |
347,406 |
(24,794) |
322,612 |
|
Heb Fod yn Arian Parod |
||||||||
Trafnidiaeth |
188,691 |
0 |
188,691 |
0 |
188,691 |
0 |
188,691 |
|
CYFANSWM |
537,521 |
(7,650) |
529,871 |
6,226 |
536,097 |
(24,794) |
511,303 |
|
Gwariant a Reolir yn Flynyddol |
||||||||
Gwariant a Reolir yn Flynyddol |
123,226 |
0 |
123,226 |
(99,607) |
23,619 |
128,235 |
151,854 |
|
Dros y cyfnod 2018-19 hyd at 2020-21, cyfanswm y gyllideb gyfalaf yw £1.311 biliwn. Mae Tabl 2 isod yn crynhoi’r cyllidebau:
TABL 2: Trosolwg o’r Gyllideb Gyfalaf |
|||||
Yr Economi |
Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 |
Dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
|||
2018-19 £’000 |
2019-20 £’000 |
2020-21 £’000 |
Cyfanswm £’000 |
||
Cyfalaf Draddodiadol |
|
|
|
|
|
Yr Economi |
78,357 |
48,486 |
47,847 |
30,141 |
126,474 |
Trafnidiaeth |
345,683 |
313,231 |
382,611 |
429,780 |
1,125,622 |
Is-gyfanswm |
424,040 |
361,717 |
430,458 |
459,921 |
1,252,096 |
Cyllid Trafodiadau Ariannol |
|||||
Yr Economi |
31,250 |
15,720 |
31,500 |
8,000 |
55,220 |
Trafnidiaeth |
5,000 |
2,200 |
1,200 |
0 |
3,400 |
Is-gyfanswm |
36,250 |
17,920 |
32,700 |
8,000 |
58,620 |
Cyfanswm Cyfalaf |
|
|
|
|
|
Yr Economi |
109,607 |
64,206 |
79,347 |
38,141 |
181,694 |
Trafnidiaeth |
350,683 |
315,431 |
383,811 |
429,780 |
1,129,022 |
CYFANSWM |
460,290 |
379,637 |
463,158 |
467,921 |
1,310,716 |
|
|
|
|
|
|
Cyllideb Derfynol 2017-18 |
458,090 |
304,636 |
365,855 |
431,534 |
1,102,025 |
|
|
|
|
|
|
Newid i'r Cynlluniau Newydd |
2,200 |
75,001 |
97,303 |
36,387 |
208,691 |
Mae’r cynlluniau gwariant hyn wedi’u halinio er mwyn cyflwyno blaenoriaethau allweddol Symud Cymru Ymlaen 2016-21.
Yn ogystal, mae cyllid yn cael ei gadw mewn cronfeydd canolog ar gyfer
gwaith seilwaith strategol. Yn amodol ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus annibynnol, mae cronfeydd gwerth £739.761 miliwn wedi’u clustnodi ar gyfer yr M4 dros y tair blynedd nesaf. Mae cyllid cyfalaf gwerth £173.180 miliwn, a gafodd ei gadw wrth gefn o’r blaen i helpu i roi prosiect Metro De Cymru ar waith, bellach wedi’i gynnwys yn y dyraniad cyllideb craidd ar gyfer Prif Grŵp
Gwariant yr Economi a’r Seilwaith dros gyfnod y gyllideb. Gallai’r
dewisiadau ar gyfer y Metro gynnwys gwella’r cerbydau, felly mae rhagor o
gronfeydd wedi’u cadw wrth gefn os yw’r dewis hwnnw’n mynd rhagddo fel
rhan o’r broses gaffael ehangach.
2.1 Refeniw
Wrth ddatblygu ein cynlluniau gwario ar gyfer 2018-19, rydym wedi ceisio lleihau effaith y gostyngiadau ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a thwf a swyddi yn y tymor byr. Yn fwy hirdymor, bydd angen i ni rannu adnoddau ar draws gwasanaethau cyhoeddus a chydweithio â’n partneriaid i sicrhau effeithlonrwydd hirdymor. Rydym yn cynnwys pobl yn y gwaith o wneud penderfyniadau yn y dyfodol er mwyn llywio ein blaenoriaethau.
Bydd y Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd gyda Plaid Cymru yn hwyluso mentrau ar gyfer datblygiad economaidd sy’n bwysig i Gymru. Mae dyraniadau ychwanegol gwerth £16.1 miliwn dros ddwy flynedd ar gyfer gweithgareddau’n ymwneud â’r economi a thrafnidiaeth yn y portffolio wedi’u nodi yn y tabl isod:
TABL 3: Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd gyda Plaid Cymru – Dyraniadau Refeniw Ychwanegol |
|||
Blaenoriaeth |
2018-19 £’000 |
2019-20 £’000 |
Cyfanswm £’000 |
Dyraniadau Newydd |
|||
“Arfor” – ysgrifenyddiaeth a buddsoddiad ar gyfer datblygiad economaidd yn y Gorllewin |
1,000 |
1,000 |
2,000 |
Trydedd Bont dros y Fenai – astudiaeth ddichonoldeb |
1,000 |
3,000 |
4,000 |
Pwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan |
1,000 |
1,000 |
2,000 |
Rhaglen economi sylfaenol |
1,500 |
0 |
1,500 |
Pont Cleddau – dileu’r tollau |
0 |
2,000 |
2,000 |
Traws Cymru – uwchraddio bysiau i goetsis |
200 |
200 |
400 |
Grant cychwyn i newyddiadurwyr sefydlu busnesau ym maes newyddion lleol iawn |
100 |
100 |
200 |
Dyraniadau Rheolaidd – 2017-18 |
|||
Croeso Cymru |
3,000 |
1,000 |
4,000 |
Cyfanswm Newid cynyddrannol £0.5m rhwng 2018-19 a 2019-20 |
7,800 |
8,300 |
16,100 |
Mae’r refeniw symudiadau mewn dyraniadau cyllideb ar lefel Weithredu rhwng Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 a Chyllideb Ddrafft 2019-20 wedi’i nodi yn Atodiad A.
2.2 Heb Fod yn Arian Parod
Nid yw’r gyllideb heb fod yn arian parod wedi newid.
2.3 Cyfalaf
Cyhoeddwyd
cynlluniau cyfalaf bedair blynedd yng Nghyllideb Derfynol 2017-18,
gan roi rhagor o dryloywder a sicrwydd i’n rhanddeiliaid
allweddol a’n partneriaid darpariaeth. Felly, yn y papur hwn,
rydym yn trafod newidiadau sydd wedi’u gwneud i’r
cynlluniau cyfalaf pedair blynedd ers cyhoeddi’r gyllideb
ddiwethaf. Mae hyn yn cynnwys y newidiadau i gyllidebau rhwng
Cyllideb Derfynol 2017-18 a Chyllideb Atodol Gyntaf 2017-18.
Mae’r manylion o dan bob Cam Gweithredu wedi’u
hystyried ar gyfer cyllidebau’r Economi ym mharagraff 4
a’r cyllidebau Trafnidiaeth ym mharagraff 6.
Byddwn yn parhau i fabwysiadu dull gweithredu gwariant ar atal, gan werthuso manteision a chanlyniadau hirdymor ein buddsoddiadau strategol er mwyn sicrhau’r budd economaidd mwyaf a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae fforddiadwyedd rhaglenni cyfalaf yn parhau i fod yn her. Fodd bynnag, yn ogystal â chyllid cyfalaf a thrafodiadau ariannol traddodiadol, rydym yn cefnogi ein buddsoddiadau drwy fanteisio ar gyfleoedd ariannu Ewropeaidd, pwerau benthyca cyfalaf ar gyfer yr M4 ac atebion cyllid arloesol.
Bydd y broses o sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru yn bwysig er mwyn asesu’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddiad cyfalaf. Bydd cyllideb yr Economi gwerth £181.694 miliwn yn cefnogi amrywiaeth eang o flaenoriaethau.
Byddwn yn parhau i ddarparu mynediad i gyllid ar gyfer BBaChau drwy ein cronfeydd datblygu busnes gan gynnwys cronfeydd Cyllid Cymru. Bydd y broses o greu Banc Datblygu Cymru newydd yn cryfhau’r fenter bolisi hon, a gefnogir gan £28 miliwn o gyllid trafodiadau ariannol dros y tair blynedd nesaf.
Mae cysylltedd trafnidiaeth ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol yn hollbwysig i sicrhau cydlyniant cymdeithasol a mynediad i gyfleoedd cyflogaeth. Dros y tair blynedd nesaf, mae £1.129 biliwn wedi’i ddyrannu er mwyn blaenoriaethu cynlluniau a nodwyd yng Nghynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015. Hefyd, mae £740 miliwn yn cael ei gadw yng nghronfeydd wrth gefn canolog Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu ffordd liniaru’r M4, yn amodol ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus. Hefyd, mae nodi datblygiad systemau trafnidiaeth integredig yn sbardun allweddol i dwf economaidd. Hefyd, mae’r cynlluniau gwario ym maes Trafnidiaeth yn cynnwys tua £300 miliwn er mwyn cynnal a chadw ffyrdd a’u gwella.
Mae dyraniadau cyfalaf ychwanegol gwerth £238.180 miliwn wedi’u crynhoi yn y Tabl isod:
TABL 4: Dyraniadau Ychwanegol |
||||
Prosiect |
2018-19 £’000 |
2019-20 £’000 |
2020-21 £’000 |
Cyfanswm £’000 |
Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd gyda Plaid Cymru – cysylltiadau rhwng y Gogledd a’r De, gan ganolbwyntio ar yr A487 a’r A470 yn benodol |
- |
15,000 |
- |
15,000 |
Gorsaf, parcio a theithio a llinell sefydlu yn Llanwern |
30,000 |
10,000 |
10,000 |
50,000 |
Rhyddhau cyllid wrth gefn sydd wedi’i glustnodi ar gyfer Metro De Cymru |
54,880 |
82,800 |
35,500 |
173,180 |
Cyfanswm |
84,880 |
107,800 |
45,500 |
238,180 |
Mae atebion ariannu arloesol yn helpu i sicrhau buddsoddiad ychwanegol yn seilwaith yr economi. Lansiwyd y Model Buddsoddi Cydfuddiannol ym mis Chwefror 2017, a bydd yn cael ei ddefnyddio i roi camau olaf cynllun deuoli’r A465 ar waith.
Mae tablau’r
Llinell Wariant yn y Gyllideb yn Atodiad B yn cynnwys
gwybodaeth lawn am gyllidebau refeniw a chyfalaf y
portffolio.
Hefyd, mae Prif Grŵp Gwariant yr Economi a’r Seilwaith yn cynnwys dyraniad cyllideb ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol, sy’n talu am gostau sydd y tu hwnt i reolaeth y portffolio, fel amhariadau ar y portffolio eiddo, mentrau ar y cyd, buddsoddiadau a’r rhwydwaith ffyrdd. Mae’r symudiadau cyllidebau dros y ddwy flynedd yn adlewyrchu’r newidiadau yn y ddarpariaeth sydd eu hangen ar gyfer amhariadau ar y rhwydwaith ffyrdd ac eiddo.
Wrth baratoi ein cynlluniau, rydym wedi ystyried y tueddiadau demograffig allweddol a’r ystadegau diweddar canlynol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru:
· Rhagwelir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu tua 5% dros yr 20 mlynedd nesaf.
· Rhagwelir y bydd canran y rhai dros 65 oed yng Nghymru yn cynyddu o tua 20% i tua 25% o’r boblogaeth gyfan dros yr 20 mlynedd nesaf. Hefyd, rhagwelir y bydd poblogaeth y rhai dros 75 oed yng Nghymru yn cynyddu o 9% o’r boblogaeth yn 2014 i tua 13% yn 2030.
· Rhagwelir y bydd nifer y bobl ifanc (o dan 16 oed) yn cynyddu hyd at 2023 ac yna’n gostwng ychydig hyd at 2030, ond bydd yn parhau i fod tua 18% o’r boblogaeth dros y cyfnod hwn.
· Yn gyffredinol, mae cyfraddau tlodi incwm cymharol yn aros yn ddigyfnewid, yn enwedig ar gyfer pobl oedran gweithio. Fodd bynnag, mae’r gyfradd ar gyfer pensiynwyr wedi lleihau ers canol a diwedd y 1990au.
Mae’r rhain ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: http://gov.wales/docs/statistics/2017/170505-future-trends-report-2017-cy.pdf
Mae’r cynigion cyllideb wedi parhau i ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a sut rydym yn mynd ati i sefydlu’r pum dull gweithio i’n helpu i gael yr effaith fwyaf, llywio cynlluniau sy’n cefnogi Symud Cymru Ymlaen a gweithio mewn ffordd integredig wrth ystyried yr effeithiau ar grwpiau gwarchodedig gan helpu i ganolbwyntio ar ein nodau cenedlaethol cyffredin.
Mae datblygu cynaliadwy yn ganolog i’r Ddeddf ac yn brif egwyddor drefniadol ein cynllun, gan sicrhau bod ein penderfyniadau yn ystyried yr amcanion a’r effeithiau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol. Wrth wneud hyn, rydym yn mabwysiadu dull o sicrhau bod cyfranogiad, cydweithrediad, integreiddio, buddsoddiad hirdymor ac ataliad wedi’u cynnwys yn ein polisïau a’n darpariaeth.
Mae’r gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus yn cefnogi ein dyheadau i leihau allyriadau drwy leihau’r defnydd o geir a darparu cerbydau glanach a mwy effeithlon, sy’n dda i’n hiechyd a’n hamgylchedd. Er enghraifft, bydd Metro De Cymru yn gweddnewid sut rydym yn teithio o gwmpas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ddarparu gwasanaethau cyflymach, amlach a chydgysylltiedig drwy ddefnyddio trenau, bysiau a’r rheilffordd ysgafn. Mae’r newidiadau demograffig yn bwysig iawn wrth gynllunio ar gyfer teithiau bws rhatach ar gyfer pobl hŷn aphobl ifanc. Hefyd, mae’r cynlluniau yn cynnwys £2 filiwn ar gyfer pwyntiau gwefru trydan er mwyn hwyluso’r defnydd o drafnidiaeth sy’n arbed ynni ac yn lleihau allyriadau carbon.
Rydym yn cydnabod arwyddocâd pwysig yr iaith Gymraeg i economi Cymru, a chyfraniad allweddol Safonau’r Gymraeg ac asesiadau o’r effaith ar y Gymraeg wrth lywio ein dull o hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Bydd swyddi o ansawdd da a thwf cynaliadwy yn rhoi rheswm i bobl aros yn y gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith a byw mewn cymunedau lleol lle mae’r iaith yn ffynnu. Bydd economi ffyniannus yn ein helpu i gyrraedd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae ein cynlluniau yn rhoi sylw dyledus i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’r gofyniad yng Nghymru i asesu effaith gweithredoedd Gweinidogion ar hawliau plant a phobl ifanc. Er enghraifft, cafodd hawliau plant eu hystyried wrth lunio Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015.
Mae ein rhaglenni a’n prosiectau yn adlewyrchu ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i leihau effaith amddifadedd a chefnogi ffyniant i bawb. Rydym yn canolbwyntio ar helpu i greu a chynnal swyddi sy’n galluogi pobl i ymgysylltu mewn ffordd gadarnhaol â’r farchnad lafur ac ennill cyflog priodol, gan gydnabod bod gwaith priodol yn amddiffyn pobl rhag tlodi, a thlodi cyson yn benodol.
Rydym yn mabwysiadu agwedd gytbwys, gan ganolbwyntio ar ddiwydiannau a sectorau amrywiol er mwyn sbarduno galw am swyddi o bob math. Ein hamcan yw cefnogi cyfleoedd ar gyfer unigolion hynod fedrus, yn ogystal â chyfleoedd lefel mynediad a datblygiad swydd ar gyfer y rhai sy’n bellach i ffwrdd o’r farchnad lafur.
Hefyd, mae ein rhaglenni a’n prosiectau yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu pobl wrth gyrchu cyflogaeth a hyfforddiant, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd mewn tlodi, neu’r rhai sydd mewn perygl o fod mewn tlodi, yn gallu manteisio ar gyfleoedd sy’n deillio o dwf economaidd. Mae hyn yn cynnwys cymorth i ddatblygu sgiliau er mwyn helpu pobl i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, darparu rhwydwaith trafnidiaeth effeithiol a fforddiadwy sy’n galluogi pobl i gyrchu swyddi a hyfforddiant, ac ymdrechion i hyrwyddo arferion cyflogaeth cyfrifol, fel trefniadau gweithio hyblyg, sy’n galluogi pobl i gyfuno gwaith a chyfrifoldebau gofal, neu weithio mwy o oriau ac ennill mwy o gyflog.
Mae trafnidiaeth yn gwneud cyfraniad allweddol at hyrwyddo cystadleurwydd economaidd Cymru, gan gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, cyfleusterau a marchnadoedd. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu system drafnidiaeth gynaliadwy, amlfodd ac integredig sy’n galluogi ein cymunedau i fod yn unedig ac yn ffyniannus, gan sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iach, cynaliadwy a boddhaus.
Mae’r system integredig yn ysgogydd allweddol i roi agenda ehangach Llywodraeth Cymru ar waith er mwyn cynorthwyo pawb i ffynnu a mynd i’r afael â chydlyniant cymdeithasol.
O’i gymharu â chyllideb Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19, mae yna gynnydd net yn y dyraniad refeniw o £4.026 miliwn, a gostyngiad o £3.5 miliwn yn 2019-20 ym maes rhaglen yr Economi yn gyffredinol. Cyfanswm y dyraniad cyfalaf ar gyfer y cyfnod rhwng 2018-19 a 2020-21 yw £181.694 miliwn.
Yr Economi |
Cyllideb Atodol Gyntaf £’000 |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Refeniw |
49,160 |
(5,000) |
44,160 |
4,026 |
48,186 |
(3,500) |
44,686 |
Cyfanswm Adnoddau |
49,160 |
(5,000) |
44,160 |
4,026 |
48,186 |
(3,500) |
44,686 |
Yr Economi |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
|||
2018-19 £’000 |
2019-20 £’000 |
2020-21 £’000 |
Cyfanswm £’000 |
||
Cyfalaf Traddodiadol |
78,357 |
48,486 |
47,847 |
30,141 |
126,474 |
Cyllid FT |
31,250 |
15,720 |
31,500 |
8,000 |
55,220 |
CYFANSWM |
109,607 |
64,206 |
79,347 |
38,141 |
181,694 |
|
|
|
|
|
|
Cyllideb derfynol 2017-18 |
109,607 |
68,559 |
84,288 |
41,606 |
194,453 |
|
|
|
|
|
|
Newid i’r Cynlluniau Newydd |
0 |
(4,353) |
(4,941) |
(3,465) |
(12,759) |
Bydd ein dyraniadau
cyllid yn ysgogi buddsoddiad yn yr economi wrth i ni ddechrau
cyflawni blaenoriaethau allweddol Symud Cymru Ymlaen. Er nad
yw setliadau ariannol refeniw y dyfodol wedi’u pennu eto, mae
adnoddau yn canolbwyntio ar weithgareddau i gynnig y cyfleoedd
gorau i bob unigolyn yn y tymor byr iawn.
Mae Atodiad B yn dangos manylion y gweithgareddau yn ôl
Llinell Wariant yn y Gyllideb.
4.1 Sectorau
Cam Gweithredu Sectorau1 |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Refeniw |
31,262 |
(5,000) |
26,262 |
697 |
26,959 |
(3,500) |
23,459 |
Cyfanswm Adnoddau |
31,262 |
(5,000) |
26,262 |
697 |
26,959 |
(3,500) |
23,459 |
1 Nid yw’n cynnwys Gwyddorau Bywyd – mae portffolio’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn craffu ar hyn
Cam Gweithredu Sectorau1 |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
|||
2018-19 £’000 |
2019-20 £’000 |
2020-21 £’000 |
Cyfanswm £’000 |
||
Cyfalaf Traddodiadol |
59,857 |
45,081 |
45,270 |
26,755 |
117,106 |
FTR |
25,750 |
8,500 |
25,400 |
3,000 |
36,900 |
Cyfanswm |
85,607 |
53,581 |
70,670 |
29,755 |
154,006 |
|
|
|
|
|
|
Cyllideb Derfynol 2017-18 |
85,607 |
57,814 |
75,473 |
33,061 |
166,348 |
|
|
|
|
|
|
Newid i’r Cynlluniau Newydd |
0 |
(4,233) |
(4,803) |
(3,306) |
(12,342) |
1 Nid yw’n cynnwys Gwyddorau Bywyd – mae portffolio’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn craffu ar hyn
Mae cyllidebau’r Sectorau yn allweddol bwysig i sicrhau twf a swyddi cynaliadwy, ac maent yn helpu i fynd i’r afael ag agendâu trechu tlodi, addysg a chyfle cyfartal.
Roedd Cytundeb Cyllideb 2016 gyda Plaid Cymru wedi darparu £5 miliwn o gyllid refeniw ar gyfer Croeso Cymru, ac mae’n egluro’r newid yn y Llinell Sylfaen refeniw diwygiedig o’i gymharu â 2017-18. Fel rhan o’r Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd newydd gyda Plaid Cymru, bydd cyllid rheolaidd gwerth £3 miliwn yn 2018-19 a £1 miliwn yn 2019-20 yn ein galluogi i ddatblygu brand Cymru llwyddiannus er mwyn atgyfnerthu hunaniaeth gyfoes, rymus a diddorol ar gyfer Cymru sy’n symud y wlad ymlaen fel lle i wneud busnes ac astudio ac sy’n ysbrydoli pobl Cymru i greu dyfodol yn hyderus; ac i foderneiddio ein presenoldeb digidol byd-eang.
Wrth roi ein Cynllun Gweithredu Economaidd ar waith (gweler paragraff 5.1 isod), bydd y dyraniadau £2 filiwn ar gyfer “Arfor” dros ddwy flynedd a chyllid y rhaglen economi sylfaenol gwerth £1.5 miliwn yn 2018-19 yn fentrau pwysig i greu cyfleoedd cyflogaeth a chyfoeth. Mae symud £3.5 miliwn yn 2019-20 yn deillio o gyllid nad yw’n rheolaidd yn y cytundeb (£2 filiwn ar gyfer Croeso Cymru ac £1.5 miliwn ar gyfer “Arfor”).
Mae’r cynnydd yng nghyllideb refeniw'r Sectorau o £0.697 miliwn yn erbyn y Llinell Sylfaen ddiwygiedig yn deillio o gyfanswm y cyllid ychwanegol gwerth £5.5 miliwn (o’r Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd) wedi’i osod yn erbyn ailaliniad cyllidebau’r sectorau gwerth £4.803 miliwn, ar sail gofynion cyflawni ac ailddosbarthu nifer o brosiectau TGCh fel gwariant cyfalaf. Mae’r gwahaniaeth o £0.697 miliwn yn deillio o’r gyllideb Gwyddorau Bywyd sydd wedi’i chynnwys ym mhapur y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Mae’r cyllid hwn wedi’i ailddyrannu i Entrepreneuriaeth hefyd.
Mae cyllideb gyfalaf y Sectorau gwerth £154.006 miliwn dros y tair blynedd yn cefnogi buddsoddiadau ar gyfer twf a swyddi. Hefyd, rhoddwyd blaenoriaeth o’r newydd i brosiectau cyfalaf yn unol â darpariaeth, ac mae’r gyllideb £12.342 miliwn sydd ar gael wedi’i dyrannu o’r newydd i ariannu gweithgarwch Arloesi ac Ymchwil a Datblygu Gwyddoniaeth, ar ôl i ddosbarthiad y gwariant hwn newid o wariant refeniw i wariant cyfalaf er mwyn cydymffurfio â safonau cyfrifyddu statudol.
Mae cyllid trafodiadau ariannol yn cynnwys £28 miliwn ar gyfer cronfeydd buddsoddi Banc Datblygu Cymru. Trafodir Banc Datblygu Cymru ym mharagraff 5.5 isod.
4.2 Entrepreneuriaeth
Cam Gweithredu Entrepreneuriaeth a Gwybodaeth Busnes |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Refeniw |
4,231 |
0 |
4,231 |
6,710 |
10,941 |
0 |
10,941 |
Cyfanswm Adnoddau |
4,231 |
0 |
4,231 |
6,710 |
10,941 |
0 |
10,941 |
Mae cyllideb £10.941 miliwn Entrepreneuriaeth a Gwybodaeth Busnes yn cefnogi entrepreneuriaeth ieuenctid, busnesau newydd, microfusnesau, BBaChau, mentrau cymdeithasol ac arferion busnes cyfrifol. Bydd arferion busnes cyfrifol yn hwyluso ymrwymiadau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol drwy ei gwneud yn ofynnol i fusnesau ymddwyn yn foesegol a gwneud cyfraniad allweddol at yr economi. Hefyd, mae’r gyllideb yn derbyn cyfanswm o £49 miliwn o gyllid yr UE drwy raglen £85 miliwn Busnes Cymru 2014-2020.
Mae’r
gofyniad cyllideb graidd ychwanegol yn cynnwys £6.6 miliwn i
gefnogi proffil y rhaglen, gan fod blaenoriaeth wedi’i rhoi i
ddefnyddio arian yr UE ar ddechrau’r rhaglen. O ganlyniad,
roedd y gofyniad cyllideb graidd yn is ym mlynyddoedd cyntaf y
rhaglen ac mae wedi cynyddu yn unol â’r ddarpariaeth arfaethedig. Mae’r £6.6 miliwn
ychwanegol wedi dod o’r cyllidebau Sectorau (£4.8
miliwn), Gwyddorau Bywyd (£0.7 miliwn) ac Arloesi (£1.1
miliwn).
Hefyd, mae yna ddyraniad rheolaidd ychwanegol o £0.1 miliwn yn
2018-19 fel rhan o’r Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd gyda Plaid
Cymru ar gyfer grantiau i
newyddiadurwyr sydd am sefydlu eu busnesau eu hunain ym maes
newyddion lleol iawn.
4.3 Digwyddiadau Mawr
Cam Gweithredu Digwyddiadau Mawr |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Refeniw |
3,918 |
0 |
3,918 |
0 |
3,918 |
0 |
3,918 |
Cyfanswm Adnoddau |
3,918 |
0 |
3,918 |
0 |
3,918 |
0 |
3,918 |
Er mwyn cydnabod pwysigrwydd cynnal Digwyddiadau Mawr fel Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2016 wrth ddatblygu Cymru ffyniannus a gwella enw da Cymru yn rhyngwladol, mae lefel y gyllideb wedi aros yn £3.918 miliwn. Yn 2016-17, cefnogwyd 35 o ddigwyddiadau – 20 digwyddiad diwylliannol a 15 digwyddiad chwaraeon – ledled Cymru. Rydym yn amcangyfrif bod tua 348,360 o ymwelwyr wedi teithio i Gymru i fwynhau’r digwyddiadau a gynhaliwyd yma, gan wario £52.7 miliwn yn ychwanegol ac yn cynnal dros 1,215 o swyddi yn y sector twristiaeth.
4.4 Seilwaith Cysylltiedig ag Eiddo
Rhoi Cam Gweithredu Seilwaith Cysylltiedig ag Eiddo ar waith |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Refeniw |
4,026 |
0 |
4,026 |
0 |
4,026 |
0 |
4,026 |
Cyfanswm Adnoddau |
4,026 |
0 |
4,026 |
0 |
4,026 |
0 |
4,026 |
Cam Gweithredu Eiddo |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
|||
2018-19 £’000 |
2019-20 £’000 |
2020-21 £’000 |
Cyfanswm £’000 |
||
Cyfalaf Traddodiadol |
18,396 |
3,405 |
2,577 |
3,386 |
9,368 |
FTR |
5,500 |
7,220 |
6,100 |
5,000 |
18,320 |
CYFANSWM |
23,896 |
10,625 |
8,677 |
8,386 |
27,688 |
|
|
|
|
|
|
Cyllideb Derfynol 2017-18 |
23,896 |
10,625 |
8,677 |
8,386 |
27,688 |
|
|
|
|
|
|
Newid i’r Cynlluniau Newydd |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
Mae’r gyllideb refeniw £4.026 miliwn yn cynnwys gwaith rheoli a datblygu’r portffolio eiddo, gweithgarwch adfer tir a chynigion eiddo i fusnesau.
Nid oes unrhyw newidiadau i gyfanswm y dyraniadau cyfalaf yn y Gyllideb Ddrafft hon. Nid yw’r gyllideb gyfalaf £27.688 miliwn yn cynnwys derbyniadau cyfalaf £7.5 miliwn dros y tair blynedd ar gyfer datblygu safleoedd strategol i gefnogi blaenoriaethau sector a gofodol ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid i gynllunio a chodi adeilad diwydiannol 50,000 troedfedd sgwâr yng Nglyn Ebwy ar gyfer y Parc Technoleg sy’n cyd-fynd â chynllun gweithredu Ein Cymoedd, Ein Dyfodol.
4.5
Rhaglenni Corfforaethol
Cam Gweithredu Rhaglenni Corfforaethol |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Refeniw |
3,983 |
0 |
3,983 |
(1,641) |
2,342 |
0 |
2,342 |
Cyfanswm Adnoddau |
3,983 |
0 |
3,983 |
(1,641) |
2,342 |
0 |
2,342 |
Cam Gweithredu Rhaglenni Corfforaethol |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
|||
2018-19 £’000 |
2019-20 £’000 |
2020-21 £’000 |
Cyfanswm £’000 |
||
Cyfalaf Traddodiadol |
104 |
0 |
0 |
0 |
0 |
CYFANSWM |
104 |
0 |
0 |
0 |
0 |
|
|
|
|
|
|
Cyllideb Derfynol 2017-18 |
104 |
120 |
138 |
159 |
417 |
|
|
|
|
|
|
Newid i’r Cynlluniau Newydd |
0 |
(120) |
(138) |
(159) |
(417) |
Mae’r gyllideb refeniw yn cynnwys cyllideb flynyddol o £0.8 miliwn ar gyfer Cymru Iach ar Waith sy’n cyflwyno mentrau yn y gweithle i gefnogi ein huchelgais o ran byw’n iach a gweithgar. Mae gweddill y gyllideb refeniw yn cefnogi dadansoddiad economaidd, adolygiadau ac ymgysylltu strategol. Mae’r gostyngiad refeniw o £1.641 miliwn a’r gostyngiad cyfalaf o £0.417 miliwn dros y tair blynedd yn ymwneud â throsglwyddiad cyllideb ar gyfer y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol o Brif Grŵp Gwariant yr Amgylchedd a’r Seilwaith i’r Prif Grŵp Gwariant Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu.
4.6 Banc Datblygu Cymru
Cam Gweithredu Banc Datblygu Cymru |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Refeniw |
1,740 |
0 |
1,740 |
(1,740) |
0 |
0 |
0 |
Cyfanswm Adnoddau |
1,740 |
0 |
1,740 |
(1,740) |
0 |
0 |
0 |
Nid yw’r grant gweithredol ar gyfer Cyllid Cymru yn ofynnol bellach, gan arwain at arbedion effeithlonrwydd o £1.740 miliwn. Bydd Banc Datblygu Cymru yn ei gynnal ei hun, ac ni fydd angen cyllid arno.
5.0 YR ECONOMI - POLISÏAU ALLWEDDOL
Mae gwybodaeth ychwanegol wedi’i darparu mewn ymateb i’r meysydd penodol a nodwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn:
5.1 Strategaeth Ffyniannus a Diogel
Er mwyn cyflwyno rhagor o fanylion ar sut fyddwn ni’n gweithredu ymrwymiadau strategaeth Ffyniant i Bawb, byddwn yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu Economaidd yn ddiweddarach yn yr hydref. Bydd y Cynllun yn canolbwyntio ar saith o’r deuddeg nod Llesiant i Bawb:
· Cefnogi pobl a busnesau i ysgogi ffyniant.
· Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol a hyrwyddo gwaith teg.
· Ysgogi twf economaidd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
· Creu uchelgais ac annog dysgu am oes.
· Darparu’r sgiliau cywir i bawb ar gyfer byd sy’n newid.
· Cyflawni seilwaith modern a chysylltiedig.
· Hyrwyddo a diogelu lle Cymru yn y byd.
Bydd y Cynllun yn eang dros ben ac yn defnyddio ein liferi ledled Llywodraeth Cymru i dyfu ein heconomi, lledaenu cyfleoedd a hyrwyddo llesiant. Bydd y Cynllun yn ysgogi nifer o newidiadau gan gynnwys:
5.2 Contract Economaidd newydd
Bydd Contract Economaidd yn siapio ein perthynas â busnesau, yn seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth o’n rolau unigol a’r cyfraniad y gallwn ni i gyd ei wneud at gyflawni’r amcanion a rennir er budd Cymru mwy ffyniannus a diogel.
5.3 Sectorau Cenedlaethol a’r Economi Sylfaen
Er mwyn cefnogi ffyniant yn well ym mhob cwr o Gymru, byddwn yn canolbwyntio ar lai o sectorau cenedlaethol a nifer o sectorau sylfaen. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn y Cynllun Gweithredu Economaidd.
Fel rhan o’r Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd, bydd dyraniad ychwanegol o £1.5 miliwn yn 2018-19 (o fewn Camau Gweithredu’r Sectorau, fel y disgrifir uchod) yn cefnogi rhaglen sy’n canolbwyntio ar y sector gofal a chaffael yn y Gymru wledig a threfol. Mae datblygu’r economi sylfaenol yn bwysig gan ei bod yn gwneud cyfraniad sylweddol i’n gwlad.
5.4 Datblygu Economaidd â Phwyslais Rhanbarthol
Rydym yn cydnabod bod Cymru’n cynnwys rhanbarthau sydd â’u cyfleoedd a’u heriau unigryw eu hunain. Gan ddefnyddio ôl troed Diwygio Llywodraeth Leol – byddwn yn sefydlu arweinwyr rhanbarthol â chyfrifoldeb dros ymgysylltu â’r rhanbarthau a helpu i siapio darpariaeth Llywodraeth Cymru fel ein bod ni’n ymateb yn well i heriau a chyfleoedd penodol pob rhanbarth. Gan gydnabod pwysigrwydd y Gymraeg wrth gefnogi cyfleoedd economaidd lleol, mae’r Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd yn darparu £2 filiwn o arian ychwanegol ar gyfer “Arfor” (o fewn Camau Gweithredu’r Sectorau a ddisgrifir uchod) er mwyn cefnogi ysgrifenyddiaeth a buddsoddiad er mwyn datblygu economi’r Gorllewin.
5.5 Banc Datblygu Cymru
Bydd Banc Datblygu Cymru yn elfen graidd o bolisi a darpariaeth economaidd Llywodraeth Cymru. Fe’i cefnogir gyda £28 miliwn o gyllid FT dros dair blynedd. Cylch gwaith Banc Datblygu Cymru fydd gwella gallu busnesau bach a chanolig i gael gafael ar gyllid a helpu i greu a diogelu swyddi. Ar yr un pryd, bydd yn darparu cyngor integredig gwell ar faterion buddsoddi a chymorth busnesau trwy gydweithio’n agosach â Busnes Cymru.
Dyma rai o’r elfennau a’r canlyniadau allweddol:
· Ysgogi lefelau buddsoddi i £80m y flwyddyn o fewn pum mlynedd. Fe wnaeth Cyllid Cymru fuddsoddi £56 miliwn ym musnesau bach a chanolig Cymru yn 2016-17.
· Cyflawni isafswm targed o 1:1.15 Trosoledd y Sector Preifat (PSL).
· Cynyddu’r swyddi a grëwyd ac a ddiogelwyd i 5,500 y flwyddyn erbyn 2021-22.
· Darparu cyngor a chymorth mwy integredig trwy Busnes Cymru.
Wrth symud ymlaen, un o gamau pwysicaf Banc Datblygu Cymru fydd creu Uned Wybodaeth newydd. Bydd yn galluogi Banc Datblygu Cymru i ddeall y farchnad yn well a chynnal dadansoddiad trylwyr o sut mae busnesau bach a chanolig yn ymddwyn ac yn ymateb o fewn eu hanghenion amrywiol. Bydd cyllid y dyfodol yn cael ei lywio trwy ddadansoddi anghenion ac amodau newidiol y farchnad. Hefyd, bydd gan y Banc Datblygu dîm strategol gwell a fydd yn gweithio’n fwy ffurfiol gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a phrifysgolion Cymru i adolygu tueddiadau economaidd yn well, gan gynnwys y farchnad busnesau bach a chanolig.
Mae trosolwg strategol o Fanc Datblygu Cymru ar gael yn:
http://www.financewales.co.uk/PDF/DBW%20Strategic%20Outline%20Brochure%20digital1.pdf
5.6 Dinas-ranbarthau
Bydd datblygu dinas-ranbarthau ym Mae Abertawe a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn arwain at dwf economaidd cynaliadwy ac yn darparu fframwaith, y tu hwnt i’r buddsoddiad, sy’n caniatáu i’r rhanbarthau gydweithio i greu cyfres o flaenoriaethau economaidd a chyflwyno swyddogaethau allweddol fel rhanbarth, gan gynnwys cynllunio defnydd tir, sgiliau, trafnidiaeth a datblygiad economaidd.
Sefydlwyd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda chronfa fuddsoddi gwerth £1.2 biliwn i’r rhanbarth dros gyfnod o ugain mlynedd. Nod y Fargen Ddinesig hon yw darparu hyd at 25,000 o swyddi newydd a sbarduno £4 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol gan y sector preifat dros oes y cytundeb.
Gyda £734 miliwn o fuddsoddiad wedi’i gynllunio, mae Metro De Cymru wrth wraidd rhaglen fuddsoddi sylweddol; gyda thua £503m gan Lywodraeth Cymru, £125m gan Lywodraeth y DU a thua £106m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r Fargen hefyd yn cynnwys £495m pellach (£375m gan Lywodraeth y DU a £120m gan awdurdodau lleol) ar gael i’w flaenoriaethu yn unol ag amcanion y Fargen. Mae dyrannu’r gyllideb yn llawn yn amodol ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cwblhau’r Adolygiadau Gateway Pum Mlynedd yn llwyddiannus, a fydd yn gwerthuso effaith buddsoddi cyllid y Fargen yn y pum mlynedd hyd at yr Adolygiad. Bydd adolygiad annibynnol o fanteision ac effaith economaidd y buddsoddiad yn sail i’r asesiadau, ac a gafodd prosiectau a ddatblygwyd gan awdurdodau lleol eu cyflawni ar amser ac yn ôl y gyllideb.
Bydd pecyn buddsoddiad o £1.274 biliwn yn sail i Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n cynnwys £125.4m gan Lywodraeth Cymru, £115.6m o gyllid Llywodraeth y DU, £396m o arian arall y sector cyhoeddus a £637m o’r sector preifat. Y nod dros y 15 mlynedd nesaf yw rhoi hwb gwerth £1.8 biliwn i’r economi a chreu bron i 10,000 o swyddi newydd. Y garreg filltir nesaf fydd sefydlu Cydgabinet a chyflwyno’r achos busnes llawn yn ffurfiol mewn perthynas â’r 11 o brosiectau a nodwyd gan gynnwys Iechyd, Ynni, Cyflymu’r Economi a Gweithgynhyrchu Clyfar.
Mae partneriaid lleol wrthi’n datblygu achosion busnes manwl ar gyfer yr 11 o gynigion mawr sy’n sail i’r fargen hon er mwyn i lywodraethau Cymru a’r DU eu cymeradwyo. Hefyd, mae Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r DU i ddatblygu a chytuno ar drefniadau llywodraethu ffurfiol i roi arweiniad ac atebolrwydd cryf er mwyn cyflawni’r Fargen yn llwyddiannus.
Mae Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn gweithio gyda llywodraethau Cymru a’r DU i ddatblygu cynllun gweithredu, monitro a gwerthuso cytûn, sy’n nodi’r dull arfaethedig o werthuso effaith cyflawni’r cyfan.
5.7 Ardaloedd Menter
Nod y rhaglen Ardaloedd Menter yw darparu seilwaith er mwyn creu lleoliadau gwych i fusnesau fuddsoddi ynddynt a chynnig cymhellion penodol i ddenu busnesau newydd i’r lleoliadau amlwg hyn yng Nghymru. Mae’r refeniw a ddyrannwyd yn werth £0.831m yn 2018-19 a £1m yn 2019-20 (o fewn Camau Gweithredu’r Sectorau) er mwyn cefnogi astudiaethau dichonoldeb ac achosion busnes. Mae ymchwil Ardaloedd Menter yn dangos bod mentrau seiliedig ar ardal yn gallu cael effeithiau cadarnhaol ar swyddi a GDP[1] rhanbarthol. Mae cyllidebau cyfalaf ar gyfer datblygu economaidd a buddsoddi mewn seilwaith ar gael i gefnogi prosiectau â blaenoriaeth. Ac eithrio dyrannu £2.5 miliwn yn 2018-19 tuag at Ffordd Gyswllt Llangefni, mae prosiectau strategol yr Ardal Fenter wedi’u gwreiddio yng ngweithgareddau datblygu busnes y sector ac felly does dim dyraniad cyfalaf penodol i’r rhaglen ei hun.
Amcanion yr Ardaloedd Menter yw:
· Tyfu’r economi leol a darparu swyddi newydd
· Gweithredu fel sbardun ar gyfer twf mewn llefydd eraill yng Nghymru
· Gwneud Ardaloedd Menter yn fwy deniadol i fuddsoddwyr
· Cryfhau cystadleurwydd economi Cymru.
Mae Dangosyddion Allweddol yr Ardaloedd Menter yn cael eu cyhoeddi ddwywaith y flwyddyn er mwyn helpu i fonitro’r cynnydd mewn meysydd allweddol fel swyddi, buddsoddiad, datblygu tir, cymorth busnes ac ymholiadau, ac ar gael yn y ddolen ganlynol: http://gov.wales/docs/det/publications/170719-kpi-16-17-en.pdf
5.8 Ardaloedd Twf Lleol
Yn 2018-19, mae cyllideb datblygu a chyflenwi rhanbarthol o £0.263 miliwn (o fewn Camau Gweithredu’r Sectorau) yn cefnogi nifer o flaenoriaethau rhanbarthol gan gynnwys y strategaeth ardal dwf leol a mentrau rhanbarthol a thrawsffiniol eraill fel Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Mae adroddiadau gan Grwpiau Gorchwyl a Gorffen ym Mhowys a Dyffryn Teifi wedi darparu argymhellion eang iawn sy’n ymestyn dros sawl portffolio Gweinidogol. Mae nifer o gamau wedi’u cymryd mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a’r sector preifat gan gynnwys gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus fel gwasanaethau trenau ychwanegol ar brif lein y Cambrian.
Mae gwybodaeth am Ardaloedd Twf Lleol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:
http://gov.wales/topics/businessandeconomy/growing-the-economy/local-growth-zones/?skip=1&lang=cy
5.9 Ardaloedd Gwella Busnesau (BID)
Mae Ardaloedd Gwella Busnesau bellach yn rhan o’r Portffolio Cymunedau a Phlant.
5.10 Ystyriaethau Brexit
O safbwynt goblygiadau ariannol y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y portffolio, mae Llywodraeth Cymru’n gwneud gwaith sylweddol i sicrhau ein bod ni’n dylanwadu i’r eithaf ar drafodaethau o fewn y DU a thrafodaethau ffurfiol yr UE yn eu tro, gan sicrhau’r canlyniad gorau posib i Gymru maes o law. Mae gwarant gan Drysorlys y DU ar gyllid ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yn darparu rhywfaint o sicrwydd am fuddsoddiadau a wnaed cyn inni adael yr UE. Wedi’r dyddiad gadael, fodd bynnag, mae ansicrwydd ynghylch sut fydd y sicrwydd hwn yn gweithio’n ymarferol, gan gynnwys goblygiadau unrhyw gytundeb pontio, cytundeb ymadael neu ddim cytundeb (“no deal”).
Rydym hefyd yn pwyso ar lywodraeth y DU i gadarnhau cyllid olynol i gymryd lle ein cronfeydd ESI yr UE, sef dyraniadau sawl blwyddyn i Lywodraeth Cymru ar sail angen yn hytrach na phoblogaeth. Rydym wedi dweud yn glir ers canlyniad y refferendwm na ddylai Cymru golli’r un geiniog o gyllid cyfredol yr UE, gan anrhydeddu’r addewidion a wnaed yn ystod yr ymgyrch. Rydym ni’n ymrwymo i weithio gyda llywodraeth y DU i sicrhau cyllid priodol i Gymru, fel rhan o gyfrifoldebau Gweinidogion Cymru sy’n atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Hefyd, rydym ni’n disgwyl i Lywodraeth y DU anrhydeddu ei haddewid i drosglwyddo pwerau a chyfrifoldebau o’r UE i Gymru. Er mwyn i hyn fod yn ystyrlon, rhaid iddo fynd law yn llaw â lefel briodol o gyllid er mwyn ein galluogi ni i gyflawni’r cyfrifoldebau newydd hyn.
Mae’r DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd fis Mawrth 2019. Ein perthynas newydd â’r UE a gweddill y byd yw un o gwestiynau pwysicaf ein hoes. Ers y refferendwm, rydym wedi bod yn ymygyslltu’n helaeth â busnesau ar hyd a lled Cymru er mwyn deall risgiau a chyfleoedd Brexit.
Wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod busnesau’n poeni am yr ansicrwydd sydd o’u blaenau a’r materion penodol ynghylch mynediad i’r Farchnad Sengl a’r rhwystrau o ran tariffau ac eraill. Ond efallai bod Brexit yn cynnig cyfleoedd newydd posib, ac mae’n bwysig ein bod ni’n cydweithio i archwilio’r cyfleoedd hyn.
Rydym ni’n canolbwyntio ein hymdrechion ar ddiogelu swyddi a’r economi ar gyfer yr hirdymor, trwy ddyrannu cyllid ar gyfer gweithgareddau penodol fel Banc Datblygu Cymru, cyfleu ein neges o blaid busnesau a thrwy ymgysylltu’n uniongyrchol â busnesau ar eu blaenoriaethau.
Rydym ni’n gweithio’n galed i ddiogelu ein siâr ni o’r fasnach Ewropeaidd yn ystod trafodaethau Brexit a thu hwnt, gyda’r pwyslais ar fynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl a phroses bontio ddidrafferth. Hefyd, mae angen i ni ganolbwyntio ar gefnogi busnesau i baratoi ar gyfer y newidiadau rheoleiddiol a achosir gan Brexit. Tu hwnt i hynny, byddwn hefyd eisiau canolbwyntio ar helpu busnesau i wneud yn fawr o gyfleoedd gydag unrhyw farchnadoedd newydd ac estynedig ledled y byd, yn unol â pha bynnag drefniadau masnachu sydd ar waith.
Mae ymgyrchoedd rhagweithiol hefyd yn cefnogi busnesau a
thwristiaeth. Mae’r Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd gyda Plaid
Cymru yn darparu cyllid cylchol o £3 miliwn yn 2018-19 a
£1 miliwn yn 2019-20 a fydd yn ein galluogi ni i
adeiladu ar frand llwyddiannus Cymru.
Rydym ni’n clywed tystiolaeth bod rhai cwmnïau’n atal penderfyniadau buddsoddi neu’n cynllunio ar gyfer y sefyllfa waethaf bosib. Dyna pam mae’n bwysig bod Cymru’n parhau ar agor i fusnesau a’n bod ni’n barod i barhau i gefnogi busnesau ddadlau dros fuddsoddi yng Nghymru yn y dyfodol. Un o’r ymdrechion mwyaf i leddfu effeithiau negyddol posib Brexit yw sicrhau bod ein busnesau yn barod ac yn gallu allforio a masnachu, ac rydyn ni’n cynyddu ein hymdrechion i gynyddu nifer a graddfa’r busnesau Cymreig sy’n allforio trwy ddwyn ymlaen cynllun rhagweithiol i gefnogi busnesau.
Rydyn ni’n dal i ymrwymo i flaenoriaethau ein papur gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, ac wedi cynnal trafodaethau eang iawn â busnesau bach a mawr, o bob sector, ledled Cymru ers refferendwm yr UE. O ran negeseuon allweddol, mae busnesau yn dal i ddweud wrthym fod mynediad i’r farchnad sengl yn ystyriaeth bwysicach na dim arall.
Eleni, fe wnaethom gomisiynu adroddiad ymchwil ar effaith Brexit ar fusnesau a sectorau allweddol yng Nghymru gan Ysgol Fusnes Caerdydd. Roedd y gwaith hwn yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd yn uniongyrchol gan nifer o gwmnïau angori a rhai pwysig yn rhanbarthol, yn ogystal â llawer o fusnesau eraill trwy gyfres o ddigwyddiadau bord gron. Yn ei hadroddiad, mae Ysgol Fusnes Caerdydd wedi archwilio effaith Brexit ar sectorau gwahanol yng Nghymru ac rydym wrthi’n ystyried canlyniadau’r gwaith hwn ac a oes modd trefnu bod yr adroddiad hwn ar gael yn gyhoeddus.
Hefyd, cynhaliwyd cyfres o weithdai ar drefniadau pontio Ewropeaidd gyda’n Grŵp Cwmnïau Angori a Chwmnïau Pwysig Rhanbarthol diwygiedig. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar bedair thema allweddol, sef: Arloesi ac ymchwil a datblygu; Gwerthu Cymru i’r byd a’i hun; Allforio, masnach; rheoleiddio a gadael yr UE; ac Entrepreneuriaeth a busnesau bach a chanolig.
Rydym ni’n parhau i adeiladu ar y sail dystiolaeth sy’n ymwneud â Brexit trwy gynnal trafodaethau rheolaidd â busnesau yng Nghymru, ac rydym wrthi’n llunio cynnig ehangach ar gyfer ymgysylltu â busnesau bach a chanolig yn y dyfodol. Mae’r gwaith ar gynllunio senario Brexit hefyd wedi cychwyn trwy’n timau sector blaenoriaeth. Bydd sefydlu gweithgor gyda chynrychiolwyr y Cyngor Adnewyddu Economaidd, y gymuned fusnes, TUC Cymru a Coop Cymru yn meithrin dealltwriaeth well o’r heriau a’r cyfleoedd yn sgil gadael yr UE.
Mae amserlenni a chwmpas deddfwriaeth llywodraeth y DU mewn perthynas â Thollau a Masnach yn aneglur ar hyn o bryd, ond bydd diwygio’r systemau hyn yn cael effaith economaidd, yn enwedig ar borthladd a harbwrs Cymru. Rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn Llywodraeth y DU i ddeall beth fydd yn cael ei gynnig yn y ddeddfwriaeth, er mwyn lleihau’r risgiau a gwneud yn fawr o’r manteision i Gymru.
5.11 Cymorth mewnfuddsoddi ac allforio
Mewnfuddsoddiadau sy’n sbarduno datblygiad economaidd Cymru o hyd, ac rydym yn gweithio gyda chwmnïau tramor a rhai o’r DU i ddenu swyddi a buddsoddiad pellach i’n gwlad.
Yn 2018-19, mae £1.707m wedi’i ddyrannu i’r gwaith cymorth allforio (o fewn Camau Gweithredu’r Sectorau). Mae sbarduno allforion i farchnadoedd newydd a rhai cyfredol yn flaenoriaeth allweddol dros y pum mlynedd nesaf. Rydym ni’n cynorthwyo cwmnïau i dyfu eu busnesau trwy allforio ac mae gennym amrywiaeth cynhwysfawr o wasanaethau i’w helpu i gyrraedd y nod hwnnw. Gallwn eu helpu i fod yn barod i allforio a marchnata, cyn eu cysylltu â chyfleoedd a chwsmeriaid yn eu marchnadoedd dewisol trwy gefnogi cwmnïau i deithio i farchnadoedd tramor, arddangos mewn ffeiriau masnach, neu gwrdd â chwsmeriaid posib.
Yn achos perfformiad masnach, caiff gwerthusiad o werth am arian ei fesur yn ôl gwerth busnes allforio newydd a sicrhawyd gan y cwmnïau sy’n cael cymorth gennym. Yn 2016-17, nodwyd archebion newydd gwerth £70 miliwn mewn busnesau newydd. Roedd hyn yn golygu enillion ar fuddsoddiad o dros 40:1 ar wariant raglen net.
Cyflwynir gweithgareddau mewnfuddsoddi trwy ddigwyddiadau, nawdd,
seminarau a thanysgrifiadau ymchwil. Mae hefyd yn cynnwys cymorth
tuag at ymweliadau mewnfuddsoddi. Caiff mewnfuddsoddiadau eu
monitro’n ofalus yn nhermau cyflwyno gwerth am arian, a phob
gwariant ei gyfiawnhau yn erbyn achos busnes manwl.
Dywedodd adroddiad blynyddol 2016-17 yr Adran Fasnach Ryngwladol fod 85 o brosiectau mewnfuddsoddi wedi’u sicrhau yng Nghymru, ynghyd â’r posibilrwydd o greu neu ddiogelu dros 11,500 o swyddi (bron i 11% o gyfanswm swyddi’r DU); roedd hyn fymryn yn is na’r lefelau uchaf erioed a nodwyd yn y blynyddoedd diweddar. Er hynny, dyma’r nifer fwyaf ond dau o brosiectau a sicrhawyd erioed. Roedd hyn yn gyfystyr â 3.8% o’r holl brosiectau mewnfuddsoddi a ddenwyd i’r DU yn ystod 2016-17.
Mae ein perfformiad o ran sicrhau buddsoddiad gan gwmnïau sydd â’u pencadlys yn rhywle arall yn y DU wedi gwella yn y blynyddoedd diweddar, gyda’r lefel uchaf erioed o fuddsoddiad y DU wedi’i chofnodi yn 2016-17 ers i’n cofnodion ddechrau bum mlynedd yn ôl. Y llynedd, cafwyd 82 o fuddsoddiadau gan gwmnïau y mae eu pencadlys yn rhanbarthau eraill o’r DU, a arweiniodd at greu neu ddiogelu dros 5,500 o swyddi. Y lefel fuddsoddiad uchaf cyn hynny oedd yn 2014-15, pan gofnodwyd 58 o brosiectau.
Mae ein rhaglenni cymorth allforio yn cydymffurfio â safonau eraill Llywodraeth Cymru ar gyfer cydraddoldeb, cynaliadwyedd a’r Gymraeg. Mae gweithgareddau masnach a mewnfuddsoddiad a gynhelir y tu allan i Gymru wedi’u heithrio dan Safonau’r Gymraeg. Felly, nid yw’r Safonau yn berthnasol wrth baratoi deunyddiau darllen/cynnal digwyddiadau mewn marchnadoedd tramor.
5.12 Cymorth i’r diwydiant dur
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddiogelu diwydiant dur cynaliadwy yng Nghymru sy’n cynnwys cadw sylfaen sgiliau perthnasol ar gyfer y sector. Mae arloesi hefyd yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y diwydiant dur yng Nghymru yn parhau’n gystadleuol ar lefel fyd-eang yn y tymor hir.
Mae Datganiad Ysgrifenedig diweddar ar 20 Medi yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Tata Steel: http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2017/tataupdate/?skip=1&lang=cy
Mae’r Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd yn cynnwys ymrwymiad o £30m ar gyfer pwerdy Tata sydd ar gael o fewn y pecyn cymorth cyfredol sydd ar gael i’r cwmni fel rhan o ymrwymiad Tata i gynhyrchu dur yma yn y De.
Mae cymorth ehangach i’r diwydiant dur ar gael o fewn cyllidebau’r Sectorau. Mae buddsoddiad cynaliadwy i’r diwydiant dur yn parhau’n flaenoriaeth datblygu economaidd.
5.13 Partneriaeth ar gyfer Twf 2013-2020 – Strategaeth Twristiaeth Llywodraeth Cymru
Byddwn yn parhau i gyflwyno’r strategaeth dwristiaeth trwy gynyddu gwariant ymwelwyr, adeiladu ar lwyddiant ein hymgyrchoedd marchnata blynyddol thematig a buddsoddiad cyfalaf ar gyfer busnesau hen a newydd er mwyn helpu i lywio ansawdd a datblygu cynhyrchion newydd a chyffrous o Fôn i Fynwy.
Mae cyllideb refeniw Twristiaeth o £13.762m yn 2018-19 ac £11.762m yn 2019-20 (o fewn Camau Gweithredu Sectorau) yn cefnogi gweithgareddau hyrwyddo a buddsoddiad cyfalaf. Mae cyllidebau’r sector wedi’u hail flaenoriaethu er mwyn darparu cyllideb farchnata ychwanegol o £0.5m y flwyddyn er mwyn marchnata Cymru fel cyrchfan i fusnesau. Mae’r Gyllideb Ddrafft hon yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf o £5m dros dair blynedd er mwyn cefnogi Cynllun Cymorth Buddsoddiad Twristiaeth a phrosiectau strategol yn Symud Cymru Ymlaen.
Cynhaliwyd adolygiad o strategaeth Partneriaeth ar gyfer Twf 2013-2020 ym mis Tachwedd 2016 ac mae ar gael yma:
http://gov.wales/docs/drah/publications/161116-strategy-review-cy.pdf
Rydym ar y trywydd iawn i ragori ar y targed strategol o 10% o dwf mewn termau real gan enillion ymwelwyr sy’n aros yma, erbyn 2020:
· Bu twf cryf mewn teithiau a gwariant gan ymwelwyr sy’n aros yng Nghymru. Rhwng Ionawr a Mehefin 2017, cynyddodd nifer y teithiau dros nos i Gymru 6.3% i 4.24m o gymharu â’r un cyfnod yn 2016, a bu 9.5% o gynnydd mewn gwariant i £724m.
· Parhau i dyfu wnaeth nifer yr ymwelwyr rhyngwladol yn 2016 i dros filiwn o deithiau, a gwariwyd £444m ganddynt, sy’n record.
· Yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2017, bu perfformiad cryf o ran ymweliadau dydd gyda bron i 101m o deithiau a £4.7 biliwn o wariant.
Cyflwynwyd brand newydd yn 2016, a ategwyd trwy gyflwyno cyfres o flynyddoedd thematig gan gynnwys Blwyddyn Antur (2016), Chwedlau (2017), y Môr (2018) a Blwyddyn Ddarganfod (2019) yn ganolbwynt i waith marchnata ac ymgyrchoedd Croeso Cymru. Rydyn ni’n cefnogi prosiectau newydd, arloesol o’r sectorau preifat a chyhoeddus sy’n cyd-fynd â’r themâu hyn trwy gynlluniau ariannu’r Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth a’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol.
Bydd cyllid ychwanegol o £4m yn y Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd ar gyfer Croeso Cymru yn ein helpu i adeiladu ar frand Cymru. Mae’r dull hwn yn gweithio gyda’r Flwyddyn Antur lle crëwyd £370m o arian ychwanegol ar gyfer economi Cymru yn 2016 diolch i farchnata Croeso Cymru - 18% yn uwch na ffigurau 2015. Mae rhaglen fasnach deithiol ragweithiol Croeso Cymru, sy’n targedu cwmnïau ymwelwyr domestig, rhyngwladol ac i mewn, hefyd yn talu ar ei chanfed. Yn 2016, cafodd £9m o wariant ymwelwyr i Gymru ei ddylanwadu gan y rhaglen hon, sy’n cyfateb i tua 206 o swyddi.
Mae rhaglenni marchnata rhyngwladol Croeso Cymru ar gyfer defnyddwyr yn parhau i ennill tir mewn marchnadoedd pwysig fel yr Almaen a Gogledd America, ac mae’r cysylltiadau’n estyn y tu hwnt i’r marchnadoedd allweddol hynny trwy gyfrwng partneriaethau marchnata penodol â llwybrau awyrennau.
Gan edrych ymlaen, byddwn ni’n lansio llwybr twristiaeth newydd uchelgeisiol ddiwedd 2017 – ‘Ffordd Cymru’ – a fydd yn cynnwys teulu o ffyrdd twristaidd newydd o safon byd. Hefyd, mae Croeso Cymru wedi dechrau ar ddull newydd o ddenu digwyddiadau busnes mawr i Gymru gyda rhaglen Digwyddiadau Busnes a fydd yn elwa ar y potensial aruthrol a nodwyd i ddenu digwyddiadau a chynadleddau rhyngwladol o bwys i’n gwlad.
Yn y cyfamser, mae brand ‘Cymru’ ar ei newydd wedd a’n hymgyrchoedd twristaidd blaenllaw yn cynrychioli cam mawr ymlaen yn y modd rydym ni’n hyrwyddo Cymru ym mhedwar ban byd. Y cam nesaf yw buddsoddi ym mhrosiect Porth Digidol Cymru a fydd yn arwain at integreiddio gwefannau allanol Cymru yn well (cymru.com, visitwales.com, tradeandinvest.wales, studyinwales.ac.uk), gan gynnig mynediad haws i wybodaeth am y wlad.
5.14 Bargeinion Twf a Dinesig
Rydym ni’n parhau’n ymroddedig i ddarparu Bargeinion llwyddiannus i bob rhanbarth o Gymru, gyda Llywodraeth Cymru’n dal i fod yn bartner llawn yn y gwaith datblygu a chyflawni. Mae’r Bargeinion yn cynnig cyfle i Gymru a’n rhanbarthau ddatgloi cyllid ychwanegol gan y Trysorlys i gefnogi ymyriadau sy’n gallu cyflawni twf economaidd cynaliadwy.
Fodd bynnag, nid cyfrwng i ddarparu a chyllido prosiectau yn unig mo’r Bargeinion, maen nhw’n adnoddau allweddol sy’n darparu fframwaith sy’n caniatáu i ranbarthau lywio ffyrdd newydd o gydweithio, gosod blaenoriaethau fel un llais sy’n cefnogi uchelgeisiau ac amcanion economaidd lleol a chyflawni swyddogaethau allweddol ar lefel strategol. Mae’r manylion am Ddinas-ranbarthau i’w gweld ym mharagraff 5.6.
Mae Powys a Cheredigion yn datblygu ‘Tyfu Canolbarth Cymru’, sy’n dwyn ynghyd busnesau lleol, arweinwyr academaidd a llywodraeth leol a chenedlaethol er mwyn creu gweledigaeth ar gyfer twf y Canolbarth yn y dyfodol. Hefyd, ein disgwyliadau yw na ddylai Powys a Cheredigion gael eu heithrio o fanteision y Bargeinion Dinesig sy’n bodoli’n barod.
Rydym ni’n cydweithio’n agos â Rhanbarth y Gogledd a Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru er mwyn ystyried y ffordd orau y gall Bargen Dwf y Gogledd wireddu eu huchelgais o ddod â rhagor o dwf economaidd. Wrth i’r trafodaethau gychwyn, mae’n rhy gynnar ar hyn o bryd i weld sut fath o gymorth fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.
5.15 Sefydlu’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol
Bydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn gwneud cyfraniad allweddol o ran cynllun ar gyfer anghenion seilwaith Cymru yn y tymor hir, ac yn helpu i flaenoriaethu penderfyniadau buddsoddi strategol. Bydd y Comisiwn yn gorff cynghori anstatudol a benodir yn gyhoeddus, a’i gylch gwaith fydd cwmpasu’r seilwaith economaidd ac amgylcheddol.
Hefyd, bydd angen ystyried y berthynas rhwng seilwaith economaidd ac amgylcheddol a’r rhai cymdeithasol, fel tai, wrth ddarparu cyngor. Bydd yn cynnwys 12 o aelodau, gan gynnwys y cadeirydd.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, ymchwiliad a thrafodaeth yn y Cynulliad, y cam nesaf fydd cychwyn proses penodiadau cyhoeddus yr hydref hwn. Mae fersiynau drafft o’r manylebau person ar gyfer y cadeirydd a’r aelodau wedi’u rhannu â’r Pwyllgor EIS a fydd yn craffu ar benodiad y cadeirydd ymlaen llaw.
5.16 Cymorth/Cyllid Busnes
Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal astudiaeth o ddarpariaeth cyllid busnes Llywodraeth Cymru. Bydd y prif ffocws ar graffu i weld a yw Llywodraeth Cymru yn rheoli ei gweithgareddau cyllid busnes yn effeithiol ac yn cyflawni’r canlyniadau disgwyliedig.
Cynhelir yr astudiaeth mewn dau gam:
· Bydd cam un yn ystyried tirwedd cyllid busnes ac yn adolygu dull strategol Llywodraeth Cymru ac yn dadansoddi’r data gwariant a’r data allbynnau/canlyniadau.
· Bydd cam dau yn adolygu’r dull gweithredol o gyflwyno cyllid busnes yn fanylach.
Bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor pan gaiff yr argymhellion eu cyhoeddi.
Byddwn yn cymryd camau i weithredu ymrwymiad Ffyniant i Bawb o “symleiddio ac ad-drefnu’r ystod o gymorth ariannol a gynigir i gwmnïau, gan sicrhau ei fod yn glir, yn hawdd ei ddeall ac yn ymatebol”. Bydd y Cynllun Gweithredu Economaidd yn darparu rhagor o fanylion am hyn.
5.17 Gwario ataliol
Mae pwysigrwydd dull ataliol ar draws ein holl feysydd polisi wedi’i gydnabod a’i ymwreiddio mewn gweithgareddau datblygu economaidd. Mae pob rhaglen datblygu economaidd yn destun meini prawf gwerth am arian. Mae tystiolaeth yn dangos mai swydd sy’n talu’n dda yw’r ffordd orau allan o dlodi ac mai dyma sy’n sicrhau’r diogelwch mwyaf rhag tlodi i rai sydd mewn perygl. Byddwn yn parhau i greu cyfleoedd i unigolion a theuluoedd gyda mentrau cymorth i fusnesau a buddsoddiad penodol yng Nghymru.
Mae tlodi parhaus yn niweidiol i unigolion a chymunedau ac yn gallu arwain at ddifrod neu niwed materol a seicolegol, yn ogystal â goblygiadau cymdeithasol ehangach. Mae mynd i’r afael â’r problemau a achosir gan dlodi, ac ymateb iddynt, yn ddrud. Trwy gefnogi swyddi a chynnal twf, a chymryd camau i leihau llai o’r heriau sy’n wynebu teuluoedd wrth gael gafael ar swyddi, ein nod yw lleihau’r tebygolrwydd y bydd teuluoedd yn profi tlodi, yn enwedig tlodi dwfn a pharhaus, ac osgoi costau hirdymor tlodi i gymdeithas. Mae cefnogi teuluoedd a chymunedau trwy greu cyfleoedd cyflogaeth yn helpu plant gan roi’r cyfle gorau posib iddynt, ac yn cefnogi’r blynyddoedd cynnar, ac mae hyn yn flaenoriaeth yn Ffyniant i Bawb.
Mae pontio i gymdeithas carbon isel hefyd yn allweddol er budd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a llesiant yn y tymor hir. Mae’n cefnogi’r amcan Ffyniant i Bawb o ysgogi twf economaidd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae datgarboneiddio yn golygu newid sylweddol i’r tri phrif rwydwaith seilwaith cenedlaethol: ynni, gwres a thrafnidiaeth. Nod rhaglenni ynni ac amgylcheddol yn arbennig yw bod yn ataliol, ac mae cynaliadwyedd wrth wraidd datblygiadau ynni’r dyfodol. Mae ein cymorth i fusnesau yn canolbwyntio ar dechnolegau gwahanol o brosiectau cymunedol i brosiectau seilwaith sylweddol fel Wylfa Newydd. Mae Cynllun Diogelu’r Amgylchedd yn bwysig er mwyn datblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy. Bydd y datblygiadau hyn yn helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd ac yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon erbyn 2050.
Mae cyllideb refeniw Trafnidiaeth wedi cynyddu £2.2 miliwn o’i gymharu â Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19, a bydd gostyngiad o £21.294 miliwn yn 2019-20. Mae hyn yn deillio o nifer o gamau gweithredu, gan gynnwys dyraniadau ychwanegol yn sgil y Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd gyda Plaid Cymru, addasiadau i adlewyrchu cyfnewidiadau cyfalaf/refeniw ym meysydd Priffyrdd a Chefnffyrdd i adfer mantolen y Llinell Sylfaen, ac arbedion a ragwelir yn ymwneud â’r Fasnachfraint Rheilffyrdd.
Y dyraniad cyfalaf ar gyfer y cyfnod 2018-19 hyd at 2020-21 yw £1.129 biliwn, sy’n cefnogi’r Cynllun Cyllid Trefniadaeth Cenedlaethol. Wrth ystyried y ffigur hwn ochr yn ochr â chyllid sydd wedi’i nodi ar gyfer yr M4 a Metro De Cymru sy’n cael ei gadw mewn cronfeydd canolog, mae’n cynrychioli lefel sylweddol o gyllid cyfalaf ar gyfer Seilwaith Trafnidiaeth dros gyfnod y gyllideb gyfalaf. Fodd bynnag, mae angen parhau i flaenoriaethu gweithgarwch a rheoli cyllidebau er mwyn sicrhau bod cynlluniau’r Cynllun Cyllid Trefniadaeth Cenedlaethol yn fforddiadwy ac yn ymarferol.
Trafnidiaeth |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Refeniw |
299,670 |
(2,650) |
297,020 |
2,200 |
299,220 |
(21,294) |
277,926 |
Heb fod yn Ariannol |
188,691 |
0 |
188,691 |
0 |
188,691 |
0 |
188,691 |
Cyfanswm Adnoddau |
488,361 |
(2,650) |
485,711 |
2,200 |
487,911 |
(21,294) |
466,617 |
Trafnidiaeth |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
|||
2018-19 £’000 |
2019-20 £’000 |
2020-21 £’000 |
Cyfanswm £’000 |
||
Cyfalaf Traddodiadol |
345,683 |
313,231 |
382,611 |
429,780 |
1,125,622 |
Cyllid FT |
5,000 |
2,200 |
1,200 |
0 |
3,400 |
CYFANSWM |
350,683 |
315,431 |
383,811 |
429,780 |
1,129,022 |
|
|
|
|
|
|
Cyllideb Derfynol 2017-18 |
348,483 |
236,077 |
281,567 |
389,928 |
907,572 |
|
|
|
|
|
|
Newid i’r Cynlluniau Newydd |
2,200 |
79,354 |
102,244 |
39,852 |
221,450 |
6.1 Gweithrediadau’r Rhwydwaith Priffyrdd a Chefnffyrdd
Camau Gweithredu Gweithrediadau’r Rhwydwaith Priffyrdd a Chefnffyrdd |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Refeniw |
51,789 |
0 |
51,789 |
32,161 |
83,950 |
0 |
83,950 |
Heb fod yn ariannol |
188,691 |
0 |
188,691 |
0 |
188,691 |
0 |
188,691 |
Cyfanswm Adnoddau |
240,480 |
0 |
240,480 |
32,161 |
272,641 |
0 |
272,641 |
Cam Gweithredu Gweithrediadau’r Rhwydwaith Priffyrdd a Chefnffyrdd |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
|||
2018-19 £’000 |
2019-20 £’000 |
2020-21 £’000 |
Cyfanswm £’000 |
||
Cyfalaf Traddodiadol |
81,990 |
40,763 |
40,997 |
51,613 |
133,373 |
CYFANSWM |
81,990 |
40,763 |
40,997 |
51,613 |
133,373 |
|
|
|
|
|
|
Cyllideb Derfynol 2017-18 |
81,990 |
71,166 |
71,500 |
81,613 |
224,279 |
|
|
|
|
|
|
Newid i’r Cynlluniau Newydd |
0 |
(30,403) |
(30,503) |
(30,000) |
(90,906) |
Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol i ddarparu Rhwydwaith Traffyrdd a Chefnffyrdd diogel a dibynadwy. Felly, mae’n bwysig sicrhau bod cyllid priodol ar gael i gyflawni’r amcan hwn o safbwynt gwaith rheoli a chynnal a chadw rheolaidd, a gwella’r rhwydwaith. Mae symud tua £30 miliwn rhwng refeniw a chyfalaf (heb effeithio ar lefel gyffredinol y gyllideb) yn adlewyrchu natur y gwaith sydd ei angen i gydymffurfio â gofynion y Canllawiau Cynnal Cefnffyrdd diweddaraf (TRMM 2016) gan roi sylw dyledus i’r math o wariant sy’n cael ei ysgwyddo. Mae’r elfen refeniw yn cael ei rheoli’n effeithiol yn unol â’r arbedion effeithlonrwydd a ragwelir ar gyfer y fasnachfraint rheilffyrdd. Mae’r dyraniadau refeniw ar gyfer 2018-19 a 2019-20 hefyd yn cynnwys £1 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn er mwyn darparu pwyntiau gwefru trydan, yn unol â’r Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd gyda Plaid Cymru.
Yn ogystal â’r cyllid cyfalaf sy’n cael ei ddarparu o dan y cam gweithredu hwn, mae cyllid cyfalaf o dan y Cam Gweithredu Gwasanaethau a Buddsoddi mewn Ffyrdd, Rheilffyrdd, yr Awyr a’r Môr yn darparu ar gyfer gwelliannau sylweddol i’r rhwydwaith presennol a chynlluniau priffyrdd sy’n ychwanegu at y rhwydwaith. Hefyd, mae yna ad-daliadau o £0.503 miliwn yn 2018-19 a 2019-20 ar gyfer cyllid Buddsoddi i Arbed ar gyfer y prosiect goleuadau LED.
Dros gyfnod y gyllideb, bydd cyllidebau cynnal a chadw yn cael eu monitro er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i waith adweithiol ac yn blaenoriaethu buddsoddiad cyfalaf yn y meysydd priodol.
6.2 Gwasanaethau a Buddsoddi mewn Ffyrdd, Rheilffyrdd, yr Awyr a’r Môr
Cam Gweithredu Gwasanaethau a Buddsoddi mewn Ffyrdd, Rheilffyrdd, yr Awyr a’r Môr |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Refeniw |
188,581 |
(1,050) |
187,531 |
(29,645) |
157,886 |
(23,607) |
134,279 |
Cyfanswm Adnoddau |
188,581 |
(1,050) |
187,531 |
(29,645) |
157,886 |
(23,607) |
134,279 |
Cam Gweithredu Gwasanaethau a Buddsoddi mewn Ffyrdd, Rheilffyrdd, yr Awyr a’r Môr |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
|||
2018-19 £’000 |
2019-20 £’000 |
2020-21 £’000 |
Cyfanswm £’000 |
||
Cyfalaf Traddodiadol |
183,346 |
208,804 |
280,263 |
331,467 |
820,534 |
Cyllid FT |
5,000 |
2,200 |
1,200 |
0 |
3,400 |
CYFANSWM |
188,346 |
211,004 |
281,463 |
331,467 |
823,934 |
|
|
|
|
|
|
Cyllideb Derfynol 2017-18 |
186,746 |
113,211 |
158,367 |
261,615 |
533,193 |
|
|
|
|
|
|
Newid i’r Cynlluniau Newydd |
1,600 |
97,793 |
123,096 |
69,852 |
290,741 |
Nid yw’r Llinell Sylfaen refeniw diwygiedig ar gyfer 2018-19 yn cynnwys cyllid heb fod yn rheolaidd o £0.750 miliwn ar gyfer Wi-Fi am ddim ar drenau ac yn y 50 o orsafoedd prysuraf, a £0.3 miliwn ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.
Mae’r gyllideb refeniw yn cefnogi Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau a’r Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru. Mae’r gyllideb refeniw yn 2018-19 yn cynnwys £31.702 miliwn a £27.607 miliwn arall yn 2019-20 yn ymwneud ag arbedion posibl yn ystod blynyddoedd cynnar y contract newydd ar gyfer gwasanaethau rheilffordd Cymru a’r gororau. Bydd hyn yn seiliedig i raddau helaeth ar y cynigydd a’r ateb a ddewisir, ac ar drafodaethau parhaus â’r AdranDrafnidiaeth a Llywodraeth y DU.
Hefyd, mae’r gyllideb refeniw yn adlewyrchu dyraniadau ychwanegol o ganlyniad i’r Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd gyda Plaid Cymru ar gyfer cynllunio a datblygu trydedd bont dros y Fenai (£1 miliwn yn 2018-19 a £3 miliwn yn 2019-20) ac ar gyfer dileu tollau ar Bont Cleddau (£2 miliwn yn 2019-20).
Yn 2018-19, mae symud £29.645 miliwn yn deillio o arbedion o £31.702 miliwn sy’n cael eu gosod yn erbyn cyllid wedi’i flaenoriaethu o’r newydd gwerth £1.057 miliwn ar gyfer y fframwaith hedfan ac £1 miliwn ar gyfer trydedd bont dros y Fenai. Yn 2019-20, mae arbedion £27.607 miliwn yn cael eu gosod yn erbyn cyllid £4 miliwn ar sail Cytundeb y Gyllideb.
Mae’r gyllideb gyfalaf yn ariannu gwelliannau cyfalaf i’r ffyrdd, y rheilffyrdd a’r diwydiant hedfan. Bydd cynnydd o £97.793 miliwn yn 2018-19, £123.096 miliwn yn 2019-20 a £69.852 miliwn yn 2020-21 er mwyn gweithredu blaenoriaethau’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys rhyddhau cyllid gwerth £173.180 miliwn o’r cronfeydd ar gyfer Metro De Cymru, a dyraniad ychwanegol o £50 miliwn i ddarparu gorsaf drenau newydd yn Llanwern (Casnewydd) ynghyd â sefydlogi llinellau a phrif gyfleuster parcio a theithio. Mae cyllid cyfalaf ychwanegol gwerth tua £30 miliwn ar gael ar gyfer y seilwaith ffyrdd, sy’n cael ei reoli yn unol â’r gostyngiad yn y gofynion cyfalaf a refeniw ar gyfer priffyrdd a chefnffyrdd er mwyn cydymffurfio â TRMM 2016. Mae rhagor o gyllid ar gyfer ffordd liniaru’r M4 yn cael ei gadw wrth gefn yn barod i’w ddyrannu pan fydd rhaglenni’n cael eu cadarnhau ac yn amodol ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus i’r M4.
Mae’r cyllid ychwanegol ar gyfer 2019-20 yn cynnwys £15 miliwn ar gyfer gwelliannau goddiweddyd rhwng y gogledd a’r de ar yr A487 a’r A470, sy’n rhan o’r Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd gyda Plaid Cymru. Bydd hyn yn ategu gweithgareddau eraill sydd eisoes ar waith i wella cysylltedd ar draws y Gogledd a rhwng y Gogledd a’r De.
Ym maes y rheilffyrdd, bydd y gyllideb hefyd yn ariannu Cam 2 o Fetro De Cymru, datblygu Metro Gogledd Cymru, a chwblhau Cynllun Gwella Amlder Glynebwy a phrosiectau rheilffordd eraill.
Hefyd, mae’r gyllideb ddrafft yn parhau i gynnwys cyllid Trafodiadau Ariannol sydd ar gael i gynorthwyo buddsoddiad yn y diwydiant hedfan. Bydd cyfleoedd eraill i ddefnyddio cyllid Trafodiadau Ariannol yn parhau i gael eu harchwilio ynghyd ag atebion cyllido arloesol eraill.
6.3 Teithio Cynaliadwy
Cam Gweithredu Teithio Cynaliadwy |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Refeniw |
54,536 |
(1,600) |
52,936 |
(1,316) |
51,620 |
2,313 |
53,933 |
Cyfanswm Adnoddau |
54,536 |
(1,600) |
52,936 |
(1,316) |
51,620 |
2,313 |
53,933 |
Cam Gweithredu Teithio Cynaliadwy |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
|||
2018-19 £’000 |
2019-20 £’000 |
2020-21 £’000 |
Cyfanswm £’000 |
||
Cyfalaf Traddodiadol |
73,447 |
56,764 |
54,451 |
39,800 |
151,015 |
CYFANSWM |
73,447 |
56,764 |
54,451 |
39,800 |
151,015 |
|
|
|
|
|
|
Cyllideb Derfynol 2017-18 |
72,847 |
44,800 |
44,800 |
39,800 |
129,400 |
|
|
|
|
|
|
Newid i’r Cynlluniau Newydd |
600 |
11,964 |
9,651 |
0 |
21,615 |
Mae’r gyllideb hon yn cefnogi buddsoddiad mewn trafnidiaeth integredig, teithio llesol, Teithiau Bws Rhatach, cardiau clyfar a chynlluniau trafnidiaeth leol sy’n cael eu cynnig gan awdurdodau lleol.
Nid yw’r Llinell Sylfaen ddiwygiedig ar gyfer 2018-19 yn cynnwys cyllid heb fod yn rheolaidd o £0.2 miliwn ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb yn ymwneud â llwybr beiciau cenedlaethol; a Chronfa Seilwaith Porthladdoedd o £1.4 miliwn (cronfa refeniw £2 filiwn yn wreiddiol a osodwyd yn erbyn £0.6 miliwn a drosglwyddwyd i wariant cyfalaf ar gyfer y fenter hon).
Mae’r Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd newydd yn cynnwys dyraniad rheolaidd ychwanegol o £0.2 miliwn yn 2018-19 ar gyfer uwchraddio rhai gwasanaethau Traws Cymru o fysiau i goetsys.
Mae’r symudiadau yn y gyllideb refeniw o £1.516 miliwn yn 2018-19 a £2.313 miliwn yn 2019-20 yn adlewyrchu blaenoriaeth o’r newydd i alinio gofynion darpariaeth presennol (yn bennaf) â gwasanaethau trên.
Mae’r prif symudiad o safbwynt cyllid cyfalaf yn ymwneud â’r cynllun Tocynnau Teithio Rhatach. O ganlyniad i gyfraniadau’r Awdurdodau Lleol eu hunain at y cyllid refeniw a chyfalaf cyffredinol sy’n cael ei ddarparu ar gyfer teithio rhatach, credir bod Awdurdodau Lleol yn gallu cyflawni eu hymrwymiadau ar sail yr egwyddor ‘dim gwell, dim gwaeth’ a’r galw disgwyliedig.
6.4 Cam Gweithredu Teithio Rhatach i Bobl ifanc
Cam Gweithredu Teithio Rhatach i Bobl Ifanc |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Refeniw |
0 |
0 |
0 |
1,000 |
1,000 |
0 |
1,000 |
Cyfanswm Adnoddau |
0 |
0 |
0 |
1,000 |
1,000 |
0 |
1,000 |
Cyflwynwyd cyllid i gefnogi Teithiau Bws Rhatach i Bobl Ifanc ar sail cynllun peilot 18 mis ym mis Medi 2015. Mae’r broses o werthuso’r cynllun presennol yn parhau er mwyn asesu ei effaith a llywio darpariaeth yn y dyfodol. Mae blwyddyn ychwanegol o’r cynllun peilot yn mynd rhagddi ac rydym wedi rhyddhau dogfen ymgynghori yn ddiweddar yn ymwneud â chynigion ar gyfer 2018-19. Hefyd, byddwn ni’n gweithio gyda’r diwydiant bysiau i benderfynu a fydd modd i’r fenter hon barhau ar sail fasnachol gyda llawer llai o arian gan Lywodraeth Cymru, ar ôl y cyllid cychwynnol a roddwyd i sefydlu’r cynllun.
6.5 Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd
Cam Gweithredu Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Newid £’000 |
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 £’000 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid £’000 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Refeniw |
4,764 |
0 |
4,764 |
0 |
4,764 |
0 |
4,764 |
Cyfanswm Adnoddau |
4,764 |
0 |
4,764 |
0 |
4,764 |
0 |
4,764 |
Cam Gweithredu Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd |
Cyllideb Atodol Gyntaf |
Dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2018-19 |
|||
2018-19 £’000 |
2019-20 £’000 |
2020-21 £’000 |
Total £’000 |
||
Cyfalaf Traddodiadol |
6,900 |
6,900 |
6,900 |
6,900 |
20,700 |
CYFANSWM |
6,900 |
6,900 |
6,900 |
6,900 |
20,700 |
|
|
|
|
|
|
Cyllideb Derfynol 2017-18 |
6,900 |
6,900 |
6,900 |
6,900 |
20,700 |
|
|
|
|
|
|
Newid i’r Cynlluniau Newydd |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
Mae’r cyllidebau diogelwch ar y ffyrdd wedi’u cadw ar y lefelau arfaethedig. Mae Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru yn nodi ein targedau diogelwch ac mae ar gael yn: http://gov.wales/topics/transport/road-users/road-safety-framework/?skip=1&lang=cy
Mae cyllid refeniw yn helpu i gynnwys ac ariannu partneriaid allanol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn y gwaith o leihau nifer y rhai sy’n cael eu hanafu, gan ddefnyddio strwythurau llywodraethu diogelwch ar y ffyrdd. Mae’r gyllideb gyfalaf yn cynorthwyo gwelliannau peirianneg diogelwch ar y ffyrdd ar rwydwaith y cefnffyrdd a’r ffyrdd lleol.
Mae gwybodaeth
ychwanegol wedi’i darparu mewn ymateb i geisiadau penodol y
Pwyllgor fel a ganlyn:
7.1 Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol
Ar gyfer 2018-19, bydd y blaenoriaethau ym maes Trafnidiaeth yn cael eu pennu yng nghyd-destun y gyllideb sydd ar gael a’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2015. Mae’r cynllun hwn yn pennu’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith ac yn canolbwyntio ar brosiectau y mae modd eu rhoi ar waith yn ystod y pum mlynedd ar ôl cyhoeddi’r cynllun.
Bydd trafnidiaeth yn gwneud cyfraniad allweddol at wella cystadleurwydd economaidd Cymru a mynediad i swyddi a gwasanaethau. Mae’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol yn nodi sut a phryd y gellid mynd ati i wella rhwydwaith y ffyrdd a’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn helpu busnesau i ffynnu a sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iach, cynaliadwy a bodlon. Mae cyfraniad Trafnidiaeth at gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru wedi’i nodi’n glir yn themâu allweddol ‘Y Rhaglen Lywodraethu; Symud Cymru Ymlaen’ ac fel galluogydd ar gyfer meysydd blaenoriaeth Ffyniant i Bawb.
Mae yna sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer deall perfformiad y system drafnidiaeth, asesu’r angen i ymyrryd ac ystyried effeithiau cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd ein cynlluniau ar gyfer y system drafnidiaeth. Mae cynlluniau’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol yn targedu pum maes blaenoriaeth allweddol: twf economaidd, trechu tlodi, teithio cynaliadwy a diogelwch, a gwella mynediad i gyflogaeth ac i wasanaethau gan ein helpu i gyflawni ein hamcanion llesiant ehangach. Bydd y buddsoddiadau a nodwyd yn darparu system drafnidiaeth fwy integredig a chynaliadwy i bawb.
Bydd camau gweithredu’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol yn:
· Gwella argaeledd, ansawdd, diogelwch a mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus.
· Helpu i leihau unrhyw anfantais i grwpiau gwarchodedig a’r rhai sydd ar incwm isel drwy ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus a rhwydwaith integredig o ansawdd (gan gynnwys darparu gwybodaeth hygyrch a dwyieithog) a thrwy barhau i ddarparu cyllid ar gyfer gwasanaethau bws sy’n angenrheidiol yn gymdeithasol.
Mae cyfres o setiau data cenedlaethol yn darparu gwybodaeth gyson y mae modd ei chymharu ledled Cymru, gan amlygu meysydd lle mae’r system drafnidiaeth yn tangyflawni. Mae’r setiau data yn cael eu diweddaru’n rheolaidd a’u defnyddio i fonitro perfformiad y system, gan ddarparu rhybudd cynnar am broblemau sy’n dod i’r amlwg a gwybodaeth am dueddiadau mwy hirdymor. Mae’r data ar drafnidiaeth yn cael ei gyfuno â ffynonellau data eraill, fel data’r cyfrifiad a data defnydd tir, er mwyn darparu gwybodaeth am effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol y system drafnidiaeth. Mae’r data ar drafnidiaeth yn cynnwys pum categori – amseroedd teithiau, nifer y teithiau, diogelwch, gwybodaeth ategol a gwybodaeth gyd-destunol.
Mae’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol yn ddogfen fyw sy’n cael ei diweddaru ar hyn o bryd. Bydd y ddogfen wedi’i diweddaru yn adlewyrchu cynnydd hyd yn hyn ar yr ymyriadau sydd wedi’u nodi eisoes, blaenoriaethau newydd sy’n dod i’r amlwg a’r gyllideb sydd ar gael. Disgwylir i’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol diwygiedig gael ei gyhoeddi yn yr hydref a bydd yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer cyfnod y Cynllun sy’n weddill, sef 2018-19 tan 2020-21.
7.2 Masnachfraint Rheilffyrdd
Mae trafodaethau â Llywodraeth y DU yn parhau. Ni ddylai’r gost sy’n deillio o ohirio cyhoeddi manyleb y tendr gael unrhyw effaith yn 2018-19 (neu ar ôl hynny). Fodd bynnag, rydym wedi ceisio lleihau costau ychwanegol sy’n deillio o’r oedi ‘canol blwyddyn’ drwy ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer gweithgareddau eraill. Mewn egwyddor, ni ddylai’r ymarferiad caffael gael ei gwblhau yn y flwyddyn ariannol bresennol, felly nid oes unrhyw ddarpariaeth benodol ar gyfer gweithgarwch caffael yng nghyllideb 2018-19. Disgwylir y bydd costau darpariaeth yn dod o’r gyllideb gyffredinol ar gyfer darparu gwasanaethau trên a seilwaith y Metro. Mae hyn yn amodol ar Lywodraeth y DU yn trosglwyddo pwerau yn brydlon ac ar setliad ariannu priodol wrth i ni dderbyn cyfrifoldeb llawn am gostau masnachfraint gan yr Adran Drafnidiaeth. Gallai unrhyw oedi i’r broses o drosglwyddo pwerau ohirio rhai gweithgareddau caffael tan 2018-19. Mae’r sefyllfa hon yn cael ei monitro’n agos.
7.3 Ffordd Liniaru’r M4
Mae cyllid ar gyfer ffordd liniaru’r M4 yn cael ei gadw o hyd mewn cronfa wrth gefn a reolir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.
Mae’r Ymchwiliad Cyhoeddus yn parhau a disgwylir adroddiad yn y gwanwyn. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i drafod â grwpiau sy’n cael eu heffeithio er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i ddechrau’r gwaith os penderfynir bwrw ymlaen â’r prosiect ar ôl cyhoeddi adroddiad yr Arolygydd. Mae cyflwyno’r ffordd newydd o gwmpas Casnewydd yn cael ei ystyried yn hanfodol bwysig bellach yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU i ddileu tollau ar bontydd Hafren. Bydd y traffig ychwanegol sy’n cael ei greu gan y penderfyniad hwn yn gwaethygu’r problemau presennol yn yr ardal.
7.4 Ffordd Liniaru a’r Rhwydwaith Traffyrdd
Mae’r gwaith o gyflwyno nifer o gynlluniau eraill sy’n bwysig yn strategol yn parhau, gan gynnwys:
· Ffordd A465 Blaenau’r Cymoedd rhwng Gilwern a Brynmawr: Bydd y cynllun hwn yn ategu cynlluniau eraill ar hyd ffordd Blaenau’r Cymoedd ac yn gwella mynediad yn ôl ac ymlaen o ardal sy’n cael ei hystyried yn un o’r ardaloedd â’r amddifadedd economaidd mwyaf yng Nghymru.
· Ffordd osgoi’r Drenewydd: Gwella amseroedd teithio rhwng y Gogledd a’r De a dileu tagfeydd traffig yng nghanol y dref.
· Datblygu gwaith ar ffyrdd amrywiol eraill yng Nghymru gan gynnwys Coridor yr A55 ar draws y Gogledd, yr A40 yn y Gorllewin a chynlluniau mannau cyfyng i leihau tagfeydd traffig a gwella amseroedd teithio ledled Cymru. Mae’r gwaith hwn yn ychwanegu at waith rheoli’r Rhwydwaith Traffyrdd a Chefnffyrdd o ddydd i ddydd, sef yr ased unigol mwyaf ar fantolen Llywodraeth Cymru.
Mae’r holl weithgareddau hyn wedi’u rhaglennu yng nghyd-destun cyllidebau sydd ar gael a chyllidebau a ragwelir. Fodd bynnag, mae’n rhaid cydnabod y bydd pwysau chwyddiant a risg yn effeithio ar wariant o bob math. Rydym yn bwriadu rheoli hyn drwy gynnwys tuedd risg ac optimistiaeth yn ein prosiectau a phennu adegau clir ar gyfer adolygu a diweddaru rhagdybiaethau ac amcangyfrifon, gan gynnwys amcangyfrifon chwyddiant. O safbwynt prosiectau adeiladu, mae hyn yn digwydd ar adegau datblygu a darparu allweddol yn aml. Hefyd, mae’r contractau’n cynnwys mynegeion chwyddiant adeiladu (gan gynnwys costau deunyddiau a llafur). Hefyd, rydym yn ceisio rheoli effaith chwyddiant mewn Llinellau Sylfaen cyllidebau, fel arfer trwy wneud arbedion effeithlonrwydd a rheoli gofynion darpariaeth ar draws y portffolio.
7.5 Cyflwyno’r Polisi Teithio Llesol
Ariennir Teithio Llesol yn bennaf drwy’r Gronfa Trafnidiaeth Leol, y Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a’r Grant Diogelwch ar y Ffyrdd. Mae nifer a lefel benodol y cynlluniau teithio lleol yn amrywio bob blwyddyn ar sail math, cryfder a maint y cynigion a gyflwynir gan awdurdodau lleol. Oherwydd pwysau ar y gyllideb a natur ddewisol rhai grantiau, nododd y gyllideb a gyhoeddwyd yn 2017-18 y byddai’r Cam Gweithredu Trafnidiaeth Gynaliadwy yn lleihau yn 2018-19. Ar sail ein hymrwymiad i Deithio Llesol, bydd y cyllid sydd ar ôl yn y Gronfa Trafnidiaeth Leol, a chyllid y Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, yn canolbwyntio ar gynigion Awdurdodau Lleol sy’n cyflwyno cynlluniau teithio llesol. Bydd Awdurdodau Lleol yn cyflwyno eu mapiau teithio integredig ym mis Tachwedd eleni. Ar hyn o bryd, nid yw’n synhwyrol dyrannu symiau cyfalaf sylweddol ar gyfer gwariant y flwyddyn nesaf gan ei bod yn debygol y bydd angen gwneud llawer o waith cynllunio a pharatoi contractau manwl ar gyfer y cynlluniau a fydd yn cael eu rhoi ar waith. Ar ôl adolygu’r cynlluniau, byddaf yn gallu blaenoriaethu fy nghyllideb o’r newydd a dyrannu symiau priodol. Fel cam cyntaf, rwyf eisoes wedi nodi £5 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith cynllunio hwn. Roedd modd gwneud hyn drwy ail-raglennu gweithgareddau eraill.
Bydd hyn yn ychwanegu at y cynlluniau teithio llesol sy’n cael eu cyflwyno
diolch i’n cyllidebau ffordd a rheilffordd ein hunain e.e. darpariaeth ar
gyfer seiclwyr yng nghontract newydd Gwasanaethau Rheilffordd Cymru a’r
Gororau a darpariaeth ar gyfer cerddwyr a seiclwyr mewn cynlluniau ffordd
newydd. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag
awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau
allweddol yn cael eu cyflawni a nodi ffynonellau cyllid addas eraill.
Mae’r gyllideb gyfalaf diogelwch ar y ffyrdd yn gwneud cyfraniad pwysig
at hyrwyddo teithio llesol hefyd, a byddaf yn diwygio’r meini prawf i sicrhau
bod pwyslais cynlluniau sy’n diogelu buddiannau defnyddwyr teithio llesol yn
gliriach pan fydd penderfyniadau gwariant yn cael eu gwneud.
Mae ariannu Teithio Llesol yn faes cymhleth, ac rwyf wedi gofyn i’m
swyddogion gynnal adolygiad manwl o’r dull o ariannu teithio llesol, a
byddaf yn gwneud datganiad ar y mater hwn maes o law. Rwy’n awyddus
i gynyddu’r gwariant crynswth ar Deithio Llesol dros y blynyddoedd nesaf,
a bydd fy natganiad yn nodi sut y byddaf yn cyflawni hynny.
7.6 Buddsoddi yn Seilwaith y Rheilffyrdd
Mae’r flwyddyn nesaf yn flwyddyn drosiannol o safbwynt darparu gwasanaethau trên. Hyd at fis Hydref 2018, bydd y trefniadau presennol yn berthnasol ar gyfer masnachfraint Trenau Arriva Cymru. Ar ôl mis Hydref, bydd trefniadau newydd yn dod i rym o ganlyniad i’r ymarferiad caffael parhaus. Bydd ariannu gwasanaethau trên yn parhau i fod yn faes pwysig ar gyfer cyllid a gweithgarwch Llywodraeth Cymru, ac rydym yn rhagweld cyfnod o drawsnewid o ganlyniad i’r caffael. Bydd manylion y trawsnewid, gan gynnwys cynnydd mewn gwasanaethau ledled Cymru, yn hysbys ar ôl i ni dderbyn cynigion ar ddiwedd mis Rhagfyr 2017.
Mae’r gyllideb yn darparu ar gyfer y seilwaith sydd ei angen er mwyn hwyluso Metro De Cymru ar sail proffil dangosol. Bydd union natur y seilwaith sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau Metro yn dibynnu ar yr ateb sy’n cael ei gynnig gan y cynigydd dewisol. Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar ôl i’r cynigion gael eu cyflwyno.
Bydd y buddsoddiad ym Metro Gogledd Cymru yn creu rhwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, effeithlon o ansawdd uchel sy’n cysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, cyfleusterau, a gwasanaethau, gan fanteisio ar gyfleoedd economaidd cysylltedd ledled Cymru a’r gororau. Bydd y prosiect yn moderneiddio trafnidiaeth ar draws y Gogledd gan ganolbwyntio ar ddatblygu ateb metro mewn ardaloedd mwy trefol o’r Gogledd-ddwyrain.
7.7 Cefnogi Gwasanaethau Bws
Mae bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yn parhau i fod yn ystyriaeth bwysig ar gyfer y gyllideb gan fod y sectorau hyn yn darparu cysylltedd ar gyfer y cyhoedd, sy’n dibynnu’n fawr ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r datganiad llafar diweddar ar 10 Hydref yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau. Mae ar gael yn: http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2017/concessionaryfares/?skip=1&lang=cy
Lansiwyd ymgynghoriad ar wasanaethau bws yng Nghymru ar 8 Mawrth 2017 yn dilyn Uwchgynhadledd Fysiau Cymru lwyddiannus ar 23 Ionawr 2017. Mae’r ymatebion yn cael eu hasesu yng nghyd-destun gofynion cyllidebau’r dyfodol.
Ymysg pethau eraill, mae’r ymgynghoriad yn cydnabod bod yna orgyffwrdd o ran cyllid ar gyfer y diwydiant bysiau gan sectorau gwahanol fel Llywodraeth Leol, Iechyd ac Addysg. Rhagwelir y bydd cyfuno cyllidebau yn arwain at fanteision, arbedion effeithlonrwydd a synergedd er mwyn gwella gwasanaethau bws yng Nghymru yn sylweddol.
Yn 2018-19 a 2019-20, bydd cyllid gwerth tua £90 miliwn yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys parhau i ddarparu grant £25 miliwn i gefnog gwasanaethau bws. Er bod gwasanaethau’n cael eu hystyried yn fforddiadwy ar gyfer y flwyddyn gyfredol, oherwydd pwysau chwyddiant a phoblogaeth sy’n heneiddio, mae’n amlwg na fydd gallu Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi pob menter yn llawn yn gynaliadwy oni bai bod lefel y cyllid sylfaenol presennol yn cynyddu’n sylweddol neu fod gwasanaethau’n cael eu cefnogi mewn ffordd gwbl wahanol. Bydd yr ymgynghoriad ar wasanaethau bws yng Nghymru yn gam sylweddol yn y cyswllt hwn.
Rydym yn parhau i gefnogi gwaith Defnyddwyr Bysiau Cymru a’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod safbwyntiau teithwyr bws yn cael eu cynrychioli’n effeithiol wrth ddatblygu ein polisïau ar gyfer y rhwydwaith bysiau. Mae trafnidiaeth gymunedol yn gwneud cyfraniad pwysig at rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig a chydlyniant cymdeithasol, yn enwedig mewn cymunedau anghysbell a gwledig.
Mae rhwydwaith bws pellter hir TrawsCymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi’i wella’n sylweddol dros y pedair blynedd diwethaf, ac mae gwasanaethau newydd a mwy rheolaidd wedi’u cyflwyno ar hyd coridorau trafnidiaeth strategol allweddol lle nad oes gwasanaeth trên ar gael. O ganlyniad i’r buddsoddiad hwn, teithiodd 1.6 miliwn o bobl ar rwydwaith bws TrawsCymru yn 2016-17 – y nifer fwyaf erioed. Ym mis Gorffennaf, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot 12 mis sy’n cynnig teithiau di-dâl ledled rhwydwaith TrawsCymru, ac mae’r cynllun hwn wedi cynyddu nifer y teithwyr ar adegau tawel yn sylweddol. Fel rhan o rwydwaith TrawsCymru, rydym hefyd wedi ailgyflwyno gwasanaeth coets dyddiol sy’n cysylltu Aberystwyth a chanolfannau allweddol y Gorllewin ag Abertawe a Chaerdydd. Fel rhan o’r Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd gyda Plaid Cymru, mae cyllid ychwanegol gwerth £0.2 miliwn yn 2018-19 a 2019-20 ar gael er mwyn uwchraddio rhai o gerbydau TrawsCymru o fysiau i goetsys.
Mae cytundeb wedi’i wneud i ariannu dwy swydd lawn amser ar gyfer awdurdodau lleol y METRO yn y Gogledd a’r De er mwyn arwain, cydgysylltu a chyflwyno’r elfennau bws dros y pum mlynedd nesaf, yn unol â’r Cynllun Partneriaeth Ansawdd bysiau statudol. Hefyd, fe’i defnyddid i helpu i lywio buddsoddiad y dyfodol yn y rhwydwaith bysiau y tu allan i ardaloedd y METRO. Mae’r swydd yn y De wedi’i llenwi a byddwn yn penodi rhywun i swydd y Gogledd maes o law.
Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb cyfreithiol am ad-dalu gweithredwyr bysiau sy’n cludo teithwyr hŷn neu anabl sydd â thocynnaubws am ddim o dan y cynllun teithio rhatach ar fysiau. Hefyd, mae’n rhaid i awdurdodau sicrhau nad yw’r gweithredwyr bws hynny ar eu hennill nac ar eu colled o ganlyniad. Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru i gefnogi gwariant awdurdodau lleol ar ad-dalu gweithredwyr bysiau yn parhau i gyflawni eu cyfrifoldebau, gan ategu’r cyfraniadau y mae awdurdodau lleol yn parhau i’w gwneud o’u cyllidebau eu hunain, ar sail gwariant hanesyddol a ddarparwyd ganddynt cyn cyflwyno’r cynllun yn 2002. Cyfanswm cyfraniadau’r awdurdodau lleol hyn yw tua £10.3 miliwn y flwyddyn. Hefyd, rydym yn gyfrifol am gostau gweinyddol awdurdodau lleol drwy dalu £3 fesul cerdyn byw bob blwyddyn.
O safbwynt teithio rhatach ar gyfer pobl ifanc, mae £1 miliwn wedi’i flaenoriaethu o’r newydd i barhau i gynnig y cynllun Teithiau Bws Rhatach i Bobl Ifanc a gyflwynwyd fel cynllun peilot 18 mis ym mis Medi 2015. Mae’r broses o werthuso’r cynllun presennol yn parhau er mwyn nodi ei effaith a phenderfynu ar ddarpariaeth yn y dyfodol. Mae’r cynllun peilot yn para am flwyddyn arall ac mae ymgynghoriad ar becyn 2018-19 wedi’i lansio yn ddiweddar. Bydd yn dod i ben 4 Ionawr 2018. Hefyd, byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant bws i asesu’r posibilrwydd i’r fenter hon barhau ar sail fasnachol gyda llawer llai o arian gan Lywodraeth Cymru, ar ôl y cyllid cychwynnol a roddwyd i sefydlu’r cynllun.
Hyd yn hyn, mae tua 16,000 o geisiadau ar gyfer Fy Ngherdyn Teithio wedi’u derbyn yn erbyn carfan oedran o tua 110,000. Mae’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr (cymdeithas fasnach y diwydiant bysiau) wedi cael y dasg o ddatblygu a chyflwyno ymgyrch farchnata a chyhoeddusrwydd ar gyfer Fy Ngherdyn Teithio yn 2017-18.
7.8 Cymorth ar gyfer Blaenoriaethau Trafnidiaeth Leol
Mae llinell cyllideb blaenoriaethau trafnidiaeth leol (Cam Gweithredu Teithio Cynaliadwy) yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth leol sy’n cefnogi’r economi, yn gwella diogelwch ar y ffyrdd ac yn galluogi teithio llesol. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a sefydliadau allweddol eraill er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau allweddol yn cael eu cyflawni a dod o hyd i unrhyw ffynonellau cyllid priodol eraill a fydd yn helpu i gyflwyno’r ddarpariaeth.
Mae’r gyllideb yn cynnwys darpariaeth bwrpasol i gefnogi cronfa newydd y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol. Bydd y gronfa hon, sy’n darparu £12 miliwn ar gyfer cynlluniau dros y tair blynedd nesaf, yn galluogi Awdurdodau Lleol i wneud cynnig am gyllid ar gyfer cynlluniau sy’n canolbwyntio ar leihau tagfeydd traffig, ar lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus yn benodol. Bydd hyn yn ategu rhai o’r cynlluniau sy’n cael eu cyflwyno o dan ‘fannau cyfyng’ ar ein cefnffyrdd ein hunain. Mae dyraniad o £2.8 miliwn wedi’i ddarparu ar gyfer 2017-18, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar wella dibynadwyedd bysiau a lleihau amseroedd teithio.
7.9 Gwariant Ataliol
Mae’r rhan fwyaf o wariant Trafnidiaeth ar gyfer rhaglenni a pholisïau yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ataliol fel: teithio llesol yn nhermau hyrwyddo dulliau teithio cynaliadwy gan leihau’r effaith ar yr amgylchedd a chynyddu lefelau gweithgarwch sy’n cefnogi canlyniadau iechyd. Mae teithiau bws rhatach yn bwysig iawn mewn ardaloedd gwledig ac yn hanfodol ar gyfer cydlyniant a llesiant cymdeithasol. Mae’r buddsoddiad mewn diogelwch ar y ffyrdd, gwaith cynnal a chadw’r ffyrdd a gwella rheolaeth y rhwydwaith yn helpu i osgoi problemau a damweiniau mwy sylweddol yn yr hirdymor. Un enghraifft o sut fydd ein gwasanaethau trafnidiaeth yn cael eu gweddnewid yw Metro De Cymru, sydd â chyfleoedd posibl i ddarparu llawer mwy ar gyfer ardaloedd na rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwell. Fel rhan hanfodol o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd,bydd yn sbarduno adfywiad ehangach, gan helpu i lunio’r seilwaith economaidd a chymdeithasol rhanbarthol, symudedd cymdeithasol a chyfle cyfartal ar gyfer rhai o’n hardaloedd mwyaf difreintiedig. Felly, wrth sicrhau canlyniadau gwell, mae mesurau gwariant ataliol yn bwysig yn yr hirdymor.
8.0 Y SYLFAEN DYSTIOLAETH AR GYFER PENDERFYNIADAU CYLLIDEB
Mae tystiolaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau yn sylfaen i’n penderfyniadau ariannol i weithredu’r Rhaglen Lywodraethu gan gynnwys: gwaith ymchwil a gyhoeddwyd, ymgynghoriadau â rhanddeiliaid, gwerthusiadau o bolisïau blaenorol ac ystadegau.
Mae tystiolaeth a
dadansoddiadau annibynnol gan nifer o sefydliadau yn cael eu
hystyried hefyd. Er enghraifft, mae’r Sefydliad Polisi
Cyhoeddus i Gymru wedi cyhoeddi sawl adroddiad yn ymwneud
â’r portffolio
Economaidd a Seilwaith. Mae’r
adroddiadau hyn wedi amlygu pwysigrwydd seilwaith cysylltiol i
gefnogi twf economaidd, ac adlewyrchir hyn yn ein gwariant ar
seilwaith Trafnidiaeth a TGCh.
Mae prosiectau/rhaglenni’n cael eu harfarnu yn fewnol neu gan
gontractwyr allanol. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio i lywio
penderfyniadau ariannu yn y dyfodol.
Mae tystiolaeth a chwmpas yr arfarniad a gynhelir wrth ddatblygu polisïau a rhaglenni yn cael eu hasesu ar sail risg, maint a graddfa, y sylfaen dystiolaeth bresennol a ffactorau eraill. Ar gyfer prosiectau mawr fel ffordd liniaru’r M4 mae’n briodol casglu tystiolaeth o ffynonellau amrywiol. Mewn cyferbyniad, ar gyfer dyfeisiadau llai o faint gyda chwmnïau unigol mae’n briodol dibynnu ar ffynonellau llai eang, neu’r sylfaen dystiolaeth bresennol, ar sail ein prosesau diwydrwydd dyladwy arferol. Cynhelir astudiaethau dichonolrwydd cyn rhoi prosesau allweddol ar waith er mwyn asesu pa mor briodol ydynt i gyflawni ein hamcanion. Caiff adolygiadau porth eu cwblhau i herio holl elfennau achos busnes gan gynnwys yr asesiad gwerth am arian hanfodol. Er bod yr adolygiadau yn canolbwyntio ar brosiectau penodol, gallant helpu i ddatblygu ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ystyried prosiectau eraill. Gall adroddiadau archwilio mewnol ac allanol fod yn ddefnyddiol mewn ffordd debyg.
Mae’r strategaeth genedlaethol yn rhan allweddol o sut rydym yn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd y Ddeddf hon ynghyd â chynlluniau gweithredu manylach, fel y Cynllun Gweithredu Economaidd, yn ein helpu i fynegi ein dealltwriaeth o sut mae’r Llywodraeth yn gallu gwneud y cyfraniad mwyaf at Nodau a Dangosyddion Cenedlaethol.
Wrth ddatblygu’r cynlluniau, mae adolygiad manwl wedi’i gynnal ar gyfer y gyllideb ddrafft sy’n cyd-fynd â’r strategaeth genedlaethol. Wrth ddarparu rhaglenni canol blwyddyn, mae pob maes busnes yn cael ei herio bob mis, a chynhelir adolygiadau manwl bob chwarter gan swyddogion fel bod modd rhoi cyngor priodol i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y rhagolygon diweddaraf, a chytuno ar newidiadau i’r gyllideb fel sy’n briodol. Bydd rhagor o waith manwl yn cael ei gwblhau i helpu i roi’r Cynllun Gweithredu Economaidd ar waith.
Mae canlyniadau pob prosiect a chontract a reolir oddi mewn i’r portffolio yn cael eu monitro. Cynhelir astudiaethau dichonoldeb cyn rhoi prosiectau allweddol ar waith er mwyn asesu eu haddasrwydd i gyflawni ein nodau llesiant.
Mae prosiectau a rhaglenni’n cael eu gwerthuso’n fewnol neu gan gontractwyr allanol yn ystod ac ar ddiwedd prosiectau.
Mae comisiynu gwerthusiadau ac ymchwil yn un ffordd o gasglu tystiolaeth ar bolisïau a rhaglenni, ond mae ffyrdd eraill a mwy priodol ar gael hefyd.
Mae’r portffolio yn defnyddio dulliau amrywiol o gasglu tystiolaeth a gwerthuso polisïau a rhaglenni. Mae rhai o’r rhain yn llywio’r broses drwy ddysgu a chyngor arbenigol.
Cynhelir adolygiadau porth ar gyfer prosiectau mawr i asesu gwerth am arian, ac mae archwiliadau mewnol ac allanol wedi’u cynnal i ddarparu rhagor o dystiolaeth i gefnogi canlyniadau polisi, a byddant yn parhau i gael eu cynnal yn y dyfodol.
Er enghraifft, mae’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a’r Llywodraeth, a’i nod yw darparu dadansoddiadau a chyngor annibynnol awdurdodol i Lywodraeth Cymru.
Hefyd, mae’r sylfaen dystiolaeth bresennol yn cael ei defnyddio weithiau i lunio rhaglenni a pholisïau, ac nid oes angen na dadl gwerth am arian bob amser i gynhyrchu tystiolaeth newydd. Er enghraifft, mae’r What Works Centre for Local Growth wedi llunio adroddiad sy’n dadansoddi pa bolisïau sydd fwyaf effeithiol ar gyfer cefnogi a chynyddu twf economaidd lleol.
http://www.whatworksgrowth.org/
Yn yr un modd, mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi cynnal adolygiad o ddulliau polisi datblygiad economaidd a chyflogaeth lleol mewn gwledydd OECD, gan ystyried sut y gellid eu rhoi ar waith yng Nghymru.
Mae modd asesu’r angen am werthusiad a chwmpas gwerthusiad ar sail achosion unigol wrth ddatblygu polisïau a rhaglenni, gan ganolbwyntio ar risg, maint a graddfa, y sylfaen dystiolaeth bresennol a ffactorau eraill.
11.1 Deddf Cymru 2017
Bydd Deddf Cymru yn ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn sawl maes trafnidiaeth. Hefyd, bydd yn ehangu swyddogaethau gweithredol Gweinidogion Cymru ym maes trafnidiaeth, yn enwedig ym meysydd porthladdoedd a thraffig ffyrdd. Rhagwelir y bydd Deddf Cymru yn dod i rym ym mis Ebrill 2018. Bydd Deddf Cymru yn rhoi dyletswyddau newydd i Weinidogion Cymru ar gyfer porthladdoedd a harbwrs. Er mwyn cyflawni’r dyletswyddau hyn, mae blaenoriaethau adnoddau staff wedi newid. Mae’r pwerau newydd eraill o dan y Ddeddf yn swyddogaethau dewisol, a bydd goblygiadau ariannol datblygu polisïau yn cael eu hystyried. Cyhoeddwyd ymgynghoriadau ar newidiadau posibl i’r system trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat, ac ar drefniadaeth gwasanaethau bws cyn i’r pwerau ehangach ddod i rym. Mae’r ddau ymgynghoriad yn nodi y gallai’r newidiadau posibl hyn fod yn niwtral o ran cost, gan wneud defnydd gwell o’r adnoddau sy’n cael eu gwario yn y maes hwn.
11.2Deddf Gwasanaethau Bws 2017
Mae Deddf Gwasanaethau Bws 2017 yn berthnasol i Loegr yn unig yn bennaf, a bydd deddfwriaeth sydd ar waith ar hyn o bryd yn ymwneud â gwasanaethau bws yng Nghymru yn aros mewn grym. Mae’r Ddeddf yn diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010, gan ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr bws ddarparu gwybodaeth hygyrch i deithwyr anabl yn ystod y daith, gan gynnwys systemau clyweledol sy’n cyhoeddi’r safle bws nesaf. Mae’r ddarpariaeth yn diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010, gan nodi y bydd y Rheoliadau a’r canllawiau ategol yn cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth mewn ymgynghoriad â’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru a’r Alban. Bydd darpariaethau Mesur Gwasanaethau Bws y DU sy’n berthnasol i Gymru yn niwtral o ran cost i’r sector cyhoeddus yng Nghymru, ond gall y Rheoliadau sy’n dilyn ychwanegu tua 0.4% i’r gost o weithredu gwasanaethau bws yng Nghymru (os yw cyhoeddiadau ‘safleoedd bws nesaf’ clyweledol yn cael eu cynnwys yn y Rheoliadau).
12.0 DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi bod yn fframwaith i ni ddatblygu ein cynlluniau. Rydym wedi mabwysiadau agwedd hirdymor ac integredig at ein proses o wneud penderfyniadau i helpu i gyflawni saith nod llesiant y Ddeddf. Hefyd, rydym wedi parhau i ystyried sut rydym yn sefydlu’r pum dull gweithio i’n helpu i gael yr effaith fwyaf, llywio cynlluniau sy’n cefnogi Symud Cymru Ymlaen, ystyried effeithiau ar grwpiau gwarchodedig a helpu i ganolbwyntio ar ein nodau cenedlaethol cyffredin.
Ar gyfer y Gyllideb Ddrafft hon, trafodwyd tri maes blaenoriaeth â
Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: caffael, datgarboneiddio a
chyllidebu cyfranogol. Mae’r blaenoriaethau hyn wedi dylanwadu ar ein
dull gweithredu. Er enghraifft, mae gan Trafnidiaeth Cymru banel caffael
cynaliadwy a moesegol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth
Cymru, Network Rail, Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu, Adeiladu
Arbenigrwydd yng Nghymru a Chyngor Cymru ar gyfer Caffael
Gwirfoddol o’r Metro, gan gynnwys gofynion cadwyn gyflenwi a sgiliau,
Ystyriaethau amgylcheddol a materion diwylliannol yn unol ag amcanion y Ddeddf.
Hefyd, buom yn cydweithio â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol er
mwyn sicrhau ein bod yn mabwysiadu dull cynllunio hirdymor ac yn helpu i
gyflwyno’r newidiadau hanfodol sy’n ofynnol o dan y Ddeddf.
13.0 LLEIHAU EFFAITH AMDDIFADEDD A THLODI
Yn ôl adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree[1] a gyhoeddwyd yn 2016, mae tlodi yn costio tua £69 biliwn i’r gwasanaethau cyhoeddus yn y DU. Mae’r dystiolaeth hon yn dangos yn glir bod amddifadedd a thlodi yn cael effaith negyddol sylweddol. Mae’n niweidio plentyndod, yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol, yn achosi niwed materol a chorfforol gan gynnwys problemau iechyd, ac mae’n arwain at ganlyniadau cymdeithasol ehangach ar gyfer ein cymunedau a chymdeithas. Mae’n arwain at oblygiadau sylweddol i’r pwrs cyhoeddus.
Mae’r gyllideb yn canolbwyntio ar gamau gweithredu sydd â’r potensial i helpu i greu a chynnal swyddi yn yr economi, gan gydnabod bod swyddi da yn gallu amddiffyn pobl rhag tlodi. Hefyd, rydym yn ariannu gweithgareddau sy’n ceisio mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrausy’n wynebu pobl wrth geisio manteisio ar gyfleoedd gwaith a hyfforddiant, fel eu bod yn fwy tebygol o fanteisio ar dwf economaidd. Drwy helpu i greu a chynnal swyddi, a rhoi camau ar waith sy’n gallu helpu pobl i gael gwaith, rydym yn ceisio lleihau’r tebygolrwydd y bydd unigolion a theuluoedd yn dioddef tlodi, yn enwedig tlodi difrifol a chyson, a lleihau ei effeithiau negyddol.
ATODIAD A
Trosolwg o Newidiadau i’r Gyllideb Refeniw – Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 hyd at Gyllideb Ddrafft 2019-20
REFENIW |
Yr Economi £’000 |
Trafnidiaeth £’000 |
Cyfanswm Adnoddau £’000 |
||
Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 |
49,160 |
488,361 |
537,521 |
||
Addasiadau Llinell Sylfaen |
|||||
Sectorau |
Croeso Cymru |
(5,000) |
|
(5,000) |
|
Gwasanaethau a Buddsoddiad yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd, y Diwydiant Hedfan a’r Môr |
Astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth |
|
(300) |
(300) |
|
Wi-Fi am ddim ar drenau ac yn y 50 o orsafoedd prysuraf |
|
(750) |
(750) |
||
Teithio Cynaliadwy |
Astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer llwybr beiciau cenedlaethol |
|
(200) |
(200) |
|
Cytundeb Cyllideb £2 filiwn i ddatblygu porthladdoedd – dyrannwyd £0.6 miliwn o’r newydd ar gyfer seilwaith cyfalaf fel hyrwyddo systemau cludo nwyddau rhyngfoddol symlach a chynaliadwy. |
|
(1,400) |
(1,400) |
||
Cyfanswm |
|
(5,000) |
(2,650) |
(7,650) |
|
Llinell Sylfaen ddiwygiedig 2018-19 |
44,160 |
485,711 |
529,871 |
||
Ail-alinio’r Gyllideb yn 2018-19 |
|||||
Rhaglenni corfforaethol |
Trosglwyddo’r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol i’r Prif Grŵp Gwariant Gweinyddiaeth Ganolog |
(1,641) |
- |
(1,641) |
|
Cyllid Cymru |
Y grant gweithredol yn ddiangen bellach |
(1,740) |
|
(1,740) |
|
Gwasanaethau a Buddsoddiad yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd, y Diwydiant Hedfan a’r Môr |
Arbedion effeithlonrwydd y fasnachfraint rheilffyrdd |
|
(31,702) |
(31,702) |
|
Y diwydiant hedfan – cyllid ar gyfer y fframwaith datblygu gyda Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf. |
|
1,057 |
1,057 |
||
Gweithrediadau’r Traffyrdd a’r Cefnffyrdd |
Addasiad cyfalaf i refeniw er mwyn nodi cydymffurfiaeth â TRMM a blaenoriaethu prosiectau o’r newydd yn unol â’r ddarpariaeth |
|
31,161 |
31,161 |
|
Sectorau |
Ail-alinio prosiectau yn unol â gofynion darpariaeth |
(4,803) |
|
(4,803) |
|
Entrepreneuriaeth
|
Gofyniad cyllideb graidd ychwanegol i roi rhaglenni’r UE ar waith (Sectorau £4.8 miliwn; Arloesi £1.1 miliwn a’r Sector Gwyddorau Bywyd £0.7 miliwn) |
6,610 |
|
6,610 |
|
Teithio Cynaliadwy |
Addasiadau rhwng cyfalaf a refeniw yn unol â’r rhagolygon diweddaraf |
|
(1,516) |
(1,516)
|
|
Teithiau Rhatach i Bobl Ifanc |
Blaenoriaethu cyllid o’r newydd i gefnogi teithiau rhatach i bobl ifanc |
|
1,000 |
1,000 |
|
Cyfanswm |
|
(1,574) |
- |
(1,574) |
|
Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd – Plaid Cymru |
|||||
Sectorau |
“Arfor” – ysgrifenyddiaeth a buddsoddiad ar gyfer datblygiad economaidd yn y Gorllewin |
1,000 |
- |
1,000 |
|
Rhaglen economi sylfaenol |
1,500 |
- |
1,500 |
||
Croeso Cymru |
3,000 |
- |
3,000 |
||
Entrepreneuriaeth |
Grant cychwyn i newyddiadurwyr sefydlu busnesau ym maes newyddion lleol iawn |
100 |
|
100 |
|
Gwasanaethau a Buddsoddiad yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd, y Diwydiant Hedfan a’r Môr |
Trydedd Bont dros y Fenai – astudiaeth ddichonoldeb |
- |
1,000 |
1,000 |
|
Gweithrediadau’r Traffyrdd a’r Cefnffyrdd |
Pwyntiau gwefru ceir trydan |
- |
1,000 |
1,000 |
|
Teithio Cynaliadwy |
Traws Cymru – uwchraddio bysiau i goetsys |
- |
200 |
200 |
|
Cyfanswm |
|
5,600 |
2,200 |
7,800 |
|
Cynlluniau Drafft 2018-19 |
|
48,186 |
487,911 |
536,097 |
|
Ail-alinio’r Gyllideb yn 2019-20 |
|||||
Gwasanaethau a Buddsoddiad yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd, y Diwydiant Hedfan a’r Môr |
Arbedion effeithlonrwydd y fasnachfraint rheilffyrdd |
- |
(27,607) |
(27,607) |
|
Teithio Cynaliadwy |
Addasiadau rhwng cyfalaf a refeniw yn unol â’r rhagolygon diweddaraf |
- |
2,313 |
2,313 |
|
Cyfanswm |
|
- |
(25,294) |
(25,294) |
|
Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd – Plaid Cymru |
|||||
Sectorau |
Rhaglen economi sylfaenol (2018-19 yn unig) |
(1,500) |
- |
(1,500) |
|
Croeso Cymru (cyllid rheolaidd ar lefel is) |
(2,000) |
- |
(2,000) |
||
Gwasanaethau a Buddsoddiad yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd, y Diwydiant Hedfan a’r Môr |
Trydedd Bont dros y Fenai – astudiaeth ddichonoldeb |
- |
2,000 |
2,000 |
|
Pont Cleddau – dileu’r tollau |
- |
2,000 |
2,000 |
||
Cyfanswm |
|
(3,500) |
4,000 |
500 |
|
Cynlluniau Drafft 2019-20 |
44,686 |
466,617 |
511,303 |
||
ATODIAD A
Trosolwg o Newidiadau i’r Gyllideb Refeniw – Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 hyd at Gyllideb Ddrafft 2019-20
REFENIW |
Yr Economi £’000 |
Trafnidiaeth £’000 |
Cyfanswm Adnoddau £’000 |
||
Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 |
49,160 |
488,361 |
537,521 |
||
Addasiadau i’r Llinell Sylfaen |
|||||
Sectorau |
Croeso Cymru |
(5,000) |
|
(5,000) |
|
Gwasanaethau a Buddsoddiad yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd, y Diwydiant Hedfan a’r Môr |
Astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth |
|
(300) |
(300) |
|
Wi-Fi am ddim ar drenau ac yn y 50 o orsafoedd prysuraf |
|
(750) |
(750) |
||
Teithio Cynaliadwy |
Astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer llwybr beiciau cenedlaethol |
|
(200) |
(200) |
|
Cytundeb Cyllideb £2 filiwn i ddatblygu porthladdoedd – dyrannwyd £0.6 miliwn o’r newydd ar gyfer seilwaith cyfalaf fel hyrwyddo systemau cludo nwyddau rhyngfoddol symlach a chynaliadwy. |
|
(1,400) |
(2,000) |
||
Cyfanswm |
|
(5,000) |
(2,650) |
(7,650) |
|
Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2018-19 |
44,160 |
485,711 |
529,871 |
||
Ail-alinio’r Gyllideb yn 2018-19 |
|||||
Rhaglenni corfforaethol |
Trosglwyddo’r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol i’r Prif Grŵp Gwariant Gweinyddiaeth Ganolog |
(1,641) |
- |
(1,641) |
|
Cyllid Cymru |
Y grant gweithredol yn ddiangen bellach |
(1,740) |
|
(1,740) |
|
Gwasanaethau a Buddsoddiad yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd, y Diwydiant Hedfan a’r Môr |
Arbedion effeithlonrwydd y fasnachfraint rheilffyrdd |
|
(31,702) |
(31,702) |
|
Y diwydiant hedfan – cyllid ar gyfer y fframwaith datblygu gyda Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf. |
|
1,057 |
1,057 |
||
Gweithrediadau’r Traffyrdd a’r Cefnffyrdd |
Addasiad cyfalaf i refeniw er mwyn nodi cydymffurfiaeth â TRMM a blaenoriaethu prosiectau o’r newydd yn unol â’r ddarpariaeth |
|
31,161 |
31,161 |
|
Sectorau |
Ail-alinio prosiectau yn unol â gofynion darpariaeth |
(4,803) |
|
(4,803) |
|
Entrepreneuriaeth
|
Gofyniad cyllideb graidd ychwanegol i roi rhaglenni’r UE ar waith (Sectorau £4.8 miliwn; Arloesi £1.1 miliwn a’r Sector Gwyddorau Bywyd £0.7 miliwn) |
6,610 |
|
6,610 |
|
Teithio Cynaliadwy |
Addasiadau rhwng cyfalaf a refeniw yn unol â’r rhagolygon diweddaraf |
|
(1,516) |
(1,516)
|
|
Teithiau Rhatach i Bobl Ifanc |
Blaenoriaethu cyllid o’r newydd i gefnogi teithiau rhatach i bobl ifanc |
|
1,000 |
1,000 |
|
Cyfanswm |
|
(1,574) |
- |
(1,574) |
|
Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd – Plaid Cymru |
|||||
Sectorau |
“Arfor” – ysgrifenyddiaeth a buddsoddiad ar gyfer datblygiad economaidd yn y Gorllewin |
1,000 |
- |
1,000 |
|
Rhaglen economi sylfaenol |
1,500 |
- |
- |
||
Croeso Cymru |
3,000 |
- |
1,000 |
||
Entrepreneuriaeth |
Grant cychwyn i newyddiadurwyr sefydlu busnesau ym maes newyddion lleol iawn |
100 |
|
100 |
|
Gwasanaethau a Buddsoddiad yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd, y Diwydiant Hedfan a’r Môr |
Trydedd Bont dros y Fenai – astudiaeth ddichonoldeb |
- |
1,000 |
3,000 |
|
Gweithrediadau’r Traffyrdd a’r Cefnffyrdd |
Pwyntiau gwefru ceir trydan |
- |
1,000 |
1,000 |
|
Teithio Cynaliadwy |
Traws Cymru – uwchraddio bysiau i goetsys |
- |
200 |
200 |
|
Cyfanswm |
|
5,600 |
2,200 |
7,800 |
|
Cynlluniau Drafft 2018-19 |
|
48,186 |
487,911 |
536,097 |
|
Ail-alinio’r Gyllideb yn 2019-20 |
|||||
Gwasanaethau a Buddsoddiad yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd, y Diwydiant Hedfan a’r Môr |
Arbedion effeithlonrwydd y fasnachfraint rheilffyrdd |
- |
(27,607) |
(27,607) |
|
Teithio Cynaliadwy |
Addasiadau rhwng cyfalaf a refeniw yn unol â’r rhagolygon diweddaraf |
- |
2,313 |
2,313 |
|
Cyfanswm |
|
- |
(25,294) |
(25,294) |
|
Cytundeb Cyllideb Dwy Flynedd – Plaid Cymru |
|||||
Sectorau |
Rhaglen economi sylfaenol (2018-19 yn unig) |
(1,500) |
- |
(1,500) |
|
Croeso Cymru (cyllid rheolaidd ar lefel is) |
(2,000) |
- |
(2,000) |
||
Gwasanaethau a Buddsoddiad yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd, y Diwydiant Hedfan a’r Môr |
Trydedd Bont dros y Fenai – astudiaeth ddichonoldeb |
- |
2,000 |
2,000 |
|
Pont Cleddau – dileu’r tollau |
- |
2,000 |
2,000 |
||
Cyfanswm |
|
(3,500) |
4,000 |
500 |
|
Cynlluniau Drafft 2019-20 |
44,686 |
466,617 |
511,303 |
||
Atodiad B
PRIF GRŴP GWARIANT YR ECONOMI A’R SEILWAITH
Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft 2018-19
ADNODD |
|
|||||||
Llinell Gwariant Cyllideb |
Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 |
Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2018-19 |
Newid |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Newid |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
||
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
|
||
Adeiladu |
514 |
514 |
(250) |
264 |
185 |
449 |
|
|
Datblygu Busnes |
0 |
0 |
2,500 |
2,500 |
(1,500) |
1,000 |
|
|
Atebion Busnes |
1,226 |
1,226 |
(792) |
434 |
0 |
434 |
|
|
Masnach a Mewnfuddsoddi |
1,892 |
1,892 |
0 |
1,892 |
0 |
1,892 |
|
|
Ardaloedd Menter |
927 |
927 |
(96) |
831 |
199 |
1,030 |
|
|
Ynni a’r Amgylchedd |
1,106 |
1,106 |
352 |
1,458 |
295 |
1,753 |
|
|
Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch |
1,070 |
1,070 |
(544) |
526 |
624 |
1,150 |
|
|
Y Diwydiannau Creadigol |
851 |
851 |
785 |
1,636 |
72 |
1,708 |
|
|
Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol |
145 |
145 |
5 |
150 |
0 |
150 |
|
|
TGCh |
5,946 |
5,946 |
(3,394) |
2,552 |
(724) |
1,828 |
|
|
Cronfa Fuddsoddi Sengl |
1,560 |
1,560 |
(869) |
691 |
(651) |
40 |
|
|
Datblygiad a Darpariaeth Ranbarthol |
263 |
263 |
0 |
263 |
0 |
263 |
|
|
Twristiaeth |
15,762 |
10,762 |
3,000 |
13,762 |
(2,000) |
11,762 |
|
|
Cam Gweithredu: |
Sectorau |
31,262 |
26,262 |
697 |
26,959 |
(3,500) |
23,459 |
|
Entrepreneuriaeth Ieuenctid |
1,319 |
1,319 |
449 |
1,768 |
0 |
1,768 |
|
|
Mentrau Cymdeithasol a’r Economi |
814 |
814 |
(84) |
730 |
0 |
730 |
|
|
Entrepreneuriaeth, Cychwyn Busnesau a Busnes Cymru |
2,098 |
2,098 |
6,345 |
8,443 |
0 |
8,443 |
|
|
Cam Gweithredu: |
Entrepreneuriaeth a Gwybodaeth Busnes |
4,231 |
4,231 |
6,710 |
10,941 |
0 |
10,941 |
|
Uned Digwyddiadau Mawr |
3,918 |
3,918 |
0 |
3,918 |
0 |
3,918 |
|
|
Cam Gweithredu: |
Digwyddiadau Mawr |
3,918 |
3,918 |
0 |
3,918 |
0 |
3,918 |
|
Seilwaith Eiddo |
24,090 |
4,026 |
0 |
4,026 |
0 |
4,026 |
|
|
Cam Gweithredu: |
Darparu Seilwaith Seiliedig ar Eiddo (Gwariant) |
24,090 |
4,026 |
0 |
4,026 |
0 |
4,026 |
|
Seilwaith Eiddo |
(20,064) |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
|
|
Cam Gweithredu: |
Darparu Seilwaith Seiliedig ar Eiddo (Incwm) |
(20,064) |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
|
Dadansoddiad Economaidd |
157 |
157 |
0 |
157 |
0 |
157 |
|
|
Ymgysylltu Strategol |
293 |
293 |
0 |
293 |
0 |
293 |
|
|
Cymru Iach ar Waith |
800 |
800 |
0 |
800 |
0 |
800 |
|
|
Rhaglenni a Gwasanaethau Corfforaethol |
992 |
992 |
0 |
992 |
0 |
992 |
|
|
Cronfa Benthyciadau Cenedlaethol |
1,641 |
1,641 |
(1,641) |
0 |
0 |
0 |
|
|
Digwyddiadau a Chyfathrebu Busnes Strategol |
100 |
100 |
0 |
100 |
0 |
100 |
|
|
Cam Gweithredu: |
Rhaglenni Corfforaethol |
3,983 |
3,983 |
(1,641) |
2,342 |
0 |
2,342 |
|
Banc Datblygu Cymru |
1,740 |
1,740 |
(1,740) |
0 |
0 |
0 |
|
|
Cam Gweithredu: |
Banc Datblygu Cymru |
1,740 |
1,740 |
(1,740 ) |
0 |
0 |
0 |
|
Rheoli a Chefnogi Asedau’r Rhwydwaith |
4,525 |
4,525 |
2,161 |
6,686 |
0 |
6,686 |
|
|
Gweithrediadau’r Rhwydwaith |
47,264 |
47,264 |
30,000 |
77,264 |
0 |
77,264 |
|
|
Cam Gweithredu: |
Gweithrediadau’r Traffyrdd a’r Cefnffyrdd |
51,789 |
51,789 |
32,161 |
83,950 |
0 |
83,950 |
|
Gweithrediadau’r Rhwydwaith Heb Fod yn Arian Parod |
188,691 |
188,691 |
0 |
188,691 |
0 |
188,691 |
|
|
Cam Gweithredu: |
Gwella a Chynnal Rhwydwaith y Traffyrdd (Llwybrau Domestig) – Heb Fod yn Arian Parod |
188,691 |
188,691 |
0 |
188,691 |
0 |
188,691 |
|
Hedfan |
4,548 |
4,548 |
1,057 |
5,605 |
0 |
5,605 |
|
|
Adeiladu Ffyrdd Newydd a Gwella Ffyrdd |
0 |
0 |
1,000 |
1,000 |
4,000 |
5,000 |
|
|
Gwella Masnachfraint a Gwasanaethau’r Rheilffyrdd |
184,033 |
182,983 |
(31,702) |
151,281 |
(27,607) |
123,674 |
|
|
Cam Gweithredu: |
Gwasanaethau a Buddsoddiad yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd, y Diwydiant Hedfan a’r Môr |
188,581 |
187,531 |
(29,645) |
157,886 |
(23,607) |
134,279 |
|
Cymorth ar gyfer Bysiau |
28,427 |
28,427 |
778 |
29,205 |
0 |
29,205 |
|
|
Cardiau Clyfar |
2,000 |
2,000 |
(1,034) |
966 |
0 |
966 |
|
|
Teithiau Rhatach |
22,359 |
22,359 |
(1,190) |
21,169 |
2,313 |
23,482 |
|
|
Datblygiadau Seilwaith |
1,400 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
|
|
Teithio Cynaliadwy a Cherdded a Seiclo |
350 |
150 |
130 |
280 |
0 |
280 |
|
|
Cam Gweithredu: |
Teithio Cynaliadwy |
54,536 |
52,936 |
(1,316) |
51,620 |
2,313 |
53,933 |
|
Tocynnau Teithio Rhatach i Bobl Ifanc |
0 |
0 |
1,000 |
1,000 |
0 |
1,000 |
|
|
Cam Gweithredu: |
Tocynnau Teithio Rhatach i Bobl Ifanc |
0 |
0 |
1,000 |
1,000 |
0 |
1,000 |
|
Diogelwch ar y Ffyrdd |
4,764 |
4,764 |
0 |
4,764 |
0 |
4,764 |
|
|
Cam Gweithredu: |
Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd |
4,764 |
4,764 |
0 |
4,764 |
0 |
4,764 |
|
CYFANSWM |
537,521 |
529,871 |
6,226 |
536,097 |
(24,794) |
511,303 |
|
CYFALAF |
|||||||||||
Llinell Gwariant Cyllideb |
Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18
|
2018-19 |
2019-20 |
2020-21 |
|||||||
Cynlluniau Cyfalaf 2018-19 |
Newidiadau 2018-19 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 |
Cynlluniau Cyfalaf 2019-20 |
Newidiadau 2019-20 |
Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20 |
Cynlluniau Cyfalaf 2020-21 |
2020-21 |
2020-21 |
|||
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000 |
£000s |
£000s |
||
Datblygu Busnesau |
0 |
5,000 |
(5,000 ) |
0 |
6,000 |
(6,000 ) |
0 |
5,000 |
(5,000) |
0 |
|
Adeiladu |
195 |
151 |
(200) |
(49) |
278 |
(300) |
(22) |
150 |
(172) |
(22) |
|
Atebion Busnes |
31,387 |
25,790 |
(6,156) |
19,634 |
21,993 |
0 |
21,993 |
14,911 |
0 |
14,911 |
|
Ardaloedd Menter |
0 |
0 |
2,500 |
2,500 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
|
Cronfeydd Cyllid Busnes |
17,750 |
7,000 |
0 |
7,000 |
18,000 |
0 |
18,000 |
3,000 |
0 |
3,000 |
|
Ynni a’r Amgylchedd |
11,000 |
6,295 |
(320) |
5,975 |
5,345 |
8,302 |
13,647 |
1,500 |
3,927 |
5,427 |
|
Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch |
10,409 |
4,496 |
(612) |
3,884 |
10,683 |
737 |
11,420 |
3,000 |
(535) |
2,465 |
|
Y Diwydiannau Creadigol |
2,949 |
1,070 |
6,592 |
7,662 |
5,000 |
(4,485) |
515 |
2,500 |
(1,511) |
989 |
|
Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol |
7,752 |
3,012 |
(221) |
2,791 |
2,174 |
536 |
2,710 |
1,000 |
870 |
1,870 |
|
TGCh |
165 |
1,000 |
1,184 |
2,184 |
2,000 |
(1,593) |
407 |
1,000 |
(885) |
115 |
|
Twristiaeth |
4,000 |
4,000 |
(2,000) |
2,000 |
4,000 |
(2,000) |
2,000 |
1,000 |
0 |
1,000 |
|
Cam Gweithredu: |
Sectorau |
85,607 |
57,814 |
(4,233) |
53,581 |
75,473 |
(4,803) |
70,670 |
33,061 |
(3,306) |
29,755 |
Seilwaith Eiddo |
33,896 |
18,125 |
(7,500) |
10,625 |
16,177 |
(7,500) |
8,677 |
15,886 |
(7,500) |
8,386 |
|
Cam Gweithredu: |
Darparu Seilwaith Seiliedig ar Eiddo (Gwariant) |
33,896 |
18,125 |
(7,500) |
10,625 |
16,177 |
(7,500) |
8,677 |
15,886 |
(7,500) |
8,386 |
Seilwaith Eiddo |
(10,000) |
(7,500) |
(7,500) |
0 |
(7,500) |
7,500 |
0 |
(7,500) |
7,500 |
0 |
|
Cam Gweithredu: |
Darparu Seilwaith Seiliedig ar Eiddo (Incwm) |
(10,000) |
(7,500) |
7,500 |
0 |
(7,500) |
7,500 |
0 |
(7,500) |
7,500 |
0 |
Cronfa Benthyciadau Cenedlaethol |
104 |
120 |
(120) |
0 |
138 |
(138) |
0 |
159 |
(159) |
0 |
|
Cam Gweithredu: |
Rhaglenni Corfforaethol |
104 |
120 |
(120) |
0 |
138 |
(138) |
0 |
159 |
(159) |
0 |
Rheoli a Chefnogi Asedau’r Rhwydwaith |
0 |
0 |
100 |
100 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
|
Gweithrediadau’r Rhwydwaith |
81,990 |
71,166 |
(30,503 ) |
40,663 |
71,500 |
(30,503) |
40,997 |
81,613 |
(30,000) |
51,613 |
|
Cam Gweithredu: |
Gweithrediadau’r Traffyrdd a’r Cefnffyrdd |
81,990 |
71,166 |
(30,403) |
40,763 |
71,500 |
(30,503 ) |
40,997 |
81,613 |
(30,000) |
51,613 |
Hedfan |
9,721 |
6,777 |
0 |
6,777 |
6,073 |
0 |
6,073 |
0 |
0 |
0 |
|
Adeiladu Ffyrdd Newydd a Gwella Ffyrdd |
156,562 |
51,354 |
26,900 |
78,254 |
63,794 |
42,600 |
106,394 |
144,115 |
29,725 |
173,840 |
|
Masnachfraint Rheilffyrdd |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
|
Buddsoddi yn y Rheilffyrdd |
22,063 |
55,080 |
70,893 |
125,973 |
88,500 |
80,496 |
168,996 |
117,500 |
40,127 |
157,627 |
|
Cam Gweithredu: |
Gwasanaethau a Buddsoddiad yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd, y Diwydiant Hedfan a’r Môr |
188,346 |
113,211 |
97,793 |
211,004 |
158,367 |
123,096 |
281,463 |
261,615 |
69,852 |
331,467 |
Cardiau Clyfar |
1,000 |
1,000 |
0 |
1,000 |
1,000 |
0 |
1,000 |
1,000 |
0 |
1,000 |
|
Blaenoriaethau Trafnidiaeth Leol |
25,400 |
10,150 |
0 |
10,150 |
10,150 |
0 |
10,150 |
5,150 |
0 |
5,150 |
|
Tocynnau Teithio Rhatach |
39,297 |
27,000 |
11,964 |
38,964 |
27,000 |
9,651 |
36,651 |
27,000 |
0 |
27,000 |
|
Datblygiadau Seilwaith |
600 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
0 |
|
Teithio Cynaliadwy a Cherdded a Seiclo |
7,150 |
6,650 |
0 |
6,650 |
6,650 |
0 |
6,650 |
6,650 |
0 |
6,650 |
|
Cam Gweithredu: |
Teithio Cynaliadwy |
73,447 |
44,800 |
11,964 |
56,764 |
44,800 |
9,651 |
54,451 |
39,800 |
0 |
39,800 |
Diogelwch ar y Ffyrdd |
6,900 |
6,900 |
0 |
6,900 |
6,900 |
0 |
6,900 |
6,900 |
0 |
6,900 |
|
Cam Gweithredu: |
Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd |
6,900 |
6,900 |
0 |
6,900 |
6,900 |
0 |
6,900 |
6,900 |
0 |
6,900 |
|
CYFANSWM |
460,290 |
304,636 |
75,001 |
379,637 |
365,855 |
97,303 |
463,158 |
431,534 |
36,387 |
467,921 |