Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 94(6) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

y dreth dirlenwi, cymru

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (“Deddf 2017”) yn sefydlu treth newydd o’r enw’r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae’r dreth i’w chodi ar warediadau trethadwy, a ddiffinnir ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2017.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gweinyddu’r dreth.

Mae Rhan 1 yn darparu y daw’r Rheoliadau i rym ar y diwrnod y daw adran 2 o Ddeddf 2017 i rym. Dyma’r diwrnod y dechreuir codi’r dreth ar warediadau trethadwy.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymysgeddau o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân. Gronynnau mân yw gronynnau a gynhyrchir gan broses trin gwastraff sy’n cynnwys elfen o driniaeth fecanyddol.

Mae cymysgedd o ddeunyddiau sy’n bodloni gofynion 1 i 6 yn adran 16 o Ddeddf 2017 fel arfer yn cael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau y mae’r gyfradd is o dreth gwarediadau tirlenwi yn gymwys iddo. Pan fo’r cymysgedd yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, fodd bynnag, rhaid i’r cymysgedd hefyd fodloni’r gofynion yn rheoliad 4 er mwyn i’r gyfradd is o dreth fod yn gymwys i warediad trethadwy o’r cymysgedd. Mae’r gofynion hyn yn cynnwys gofyniad sy’n ymwneud â phrofion colled wrth danio.

Mae rheoliad 5 yn nodi gofynion cyffredinol profion colled wrth danio y mae’n rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig gydymffurfio â hwy er mwyn i gymysgeddau o ronynnau mân gael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau. Mae rheoliadau 6 a 7 yn rhoi pwerau i Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) mewn perthynas â phrofion colled wrth danio, ac mae rheoliadau 8 i 11 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chosbau y gellir eu gosod ar weithredwyr mewn perthynas â methiannau i gydymffurfio â gofynion penodol o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 3 yn rhoi hawlogaeth i weithredwyr safle tirlenwi awdurdodedig gael credyd treth, o’r enw credyd ansolfedd cwsmer, pan fo cwsmer yn mynd yn ansolfent cyn iddo dalu’r gweithredwr am gyflawni gwarediad trethadwy.

Mae rheoliad 14 yn nodi’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i’r hawlogaeth godi. Mae rheoliad 18 yn nodi’r dull o gyfrifo swm yr hawlogaeth i gredyd. Mae rheoliadau 19 ac 20 yn pennu drwy ba ddull y caniateir hawlio swm o gredyd, a thrwy ba ddull y caniateir rhoi credyd.

Rhaid i berson sy’n hawlio credyd gadw’r dystiolaeth a bennir yn rheoliad 22 a’i storio’n ddiogel, a rhaid iddo hefyd gadw cofnod credyd ansolfedd cwsmer yn unol â rheoliad 23.

Gall fod yn ofynnol i berson sydd wedi cael budd o swm o gredyd wneud taliadau i ACC o dan amgylchiadau penodol. Pennir yr amgylchiadau hynny yn rheoliadau 24 a 25.

Mae rheoliadau 26 a 27 a’r Atodlen yn gwneud nifer o ddiwygiadau ac addasiadau i Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 mewn cysylltiad â chredydau treth.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o’r asesiad oddi wrth: Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 94(6) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

2018 Rhif (Cy. )

y dRETH dIRLENWI, CYMRU

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 17, 54 a 93 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017([1]).

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad, yn unol ag adran 94(6) o’r Ddeddf honno.

RHAN 1

RHAGARWEINIOL

Enwi a chychwyn

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod y daw adran 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 i rym.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “DTGT” yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

RHAN 2

CYMYSGEDDAU O DDEUNYDDIAU SY’N GYFAN GWBL AR FFURF GRONYNNAU MÂN

Cyffredinol

Dehongli’r Rhan hon

3. Yn y Rhan hon—

ystyr “cyfarwyddyd” (“direction”) yw cyfarwyddyd a ddyroddwyd gan ACC o dan reoliad 6 nas tynnwyd yn ôl;

ystyr “deunydd anghymwys” (“non-qualifying material”) yw deunydd nad yw’n ddeunydd cymwys;

ystyr “y ganran colled wrth danio” (“LOI percentage”) yw swm y deunydd anghymwys sydd wedi ei gynnwys mewn cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, fel y dangosir gan y ganran o fàs y gronynnau mân hynny a gollir wrth danio;

ystyr “yr hysbysiad ACC” (“the WRA notice”) yw hysbysiad a gyhoeddwyd gan ACC o dan adran 17(5) o DTGT nas tynnwyd yn ôl drwy hysbysiad cyhoeddedig dilynol;

 ystyr “prawf colled wrth danio” (“LOI test”) yw prawf i ganfod canran colled wrth danio  cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân.

Gofynion mewn cysylltiad â chymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân

4.(1) Rhaid bodloni’r gofynion a ganlyn (yn ogystal â gofynion 1 i 6 yn adran 16 o DTGT) er mwyn i gymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân gael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau.

Gofyniad 1

Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig lle y gwneir gwarediad trethadwy o’r cymysgedd fod wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ACC.

Gofyniad 2

Rhaid i’r gweithredwr feddu ar y dystiolaeth a bennir yn yr hysbysiad ACC ynghylch cymryd y camau hynny.

Gofyniad 3

Os cynhaliwyd prawf colled wrth danio ar sampl o’r gwarediad trethadwy, ni chaiff y ganran colled wrth danio a ddangoswyd gan y prawf fod yn uwch na 10% (ond gweler paragraff (3)).

Gofyniad 4

Ni chaiff y cymysgedd sydd wedi ei gynnwys yn y gwarediad trethadwy fod wedi’i wahardd rhag cael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau yn rhinwedd rheoliad 5(3).

(2) Caiff ACC benderfynu bod gofyniad 2 i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gofyniad hwnnw wedi ei fodloni, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

(3) Caiff yr hysbysiad ACC bennu amgylchiadau lle caniateir anwybyddu prawf colled wrth danio sy’n dangos bod y ganran colled wrth danio yn uwch na 10%.

Gofynion cyffredinol mewn cysylltiad â phrofion colled wrth danio

5.(1) Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gydymffurfio â’r gofynion a ganlyn er mwyn i gymysgeddau o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân gael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau pan fyddant yn cael eu gwaredu ar y safle.

Gofyniad 1

Rhaid i’r gweithredwr gynnal prawf colled wrth danio ar y cymysgeddau—

(a)     ar yr adegau a’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad ACC, oni roddir cyfarwyddyd i’r gweithredwr wneud fel arall o dan reoliad 6, neu

(b)     os rhoddir cyfarwyddyd o’r fath i’r gweithredwr, ar yr adegau a’r cyfnodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

Gofyniad 2

Rhaid i’r gweithredwr, wrth gynnal pob prawf colled wrth danio—

(a)     cynhesu sampl o’r cymysgedd a brofir i dymheredd o 440°C am o leiaf 5 awr, a

(b)     cydymffurfio ag unrhyw ofyniad arall yn yr hysbysiad ACC sy’n ymwneud â chynnal y prawf.

Gofyniad 3

Pan fo—

(a)     prawf colled wrth danio yn cael ei gynnal ar sampl o gymysgedd, a

(b)     y ganran colled wrth danio a ddangosir gan y prawf yn uwch na 10%,

rhaid i’r gweithredwr gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ACC.

Gofyniad 4

Rhaid i’r gweithredwr—

(a)     cadw’r dystiolaeth a bennir yn yr hysbysiad ACC mewn perthynas â phob prawf colled wrth danio a gynhelir gan y gweithredwr, a

(b)     storio’r dystiolaeth yn ddiogel am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(2) Caiff ACC benderfynu bod y gweithredwr i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofyniad 4 os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gweithredwr wedi cydymffurfio â’r gofynion, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

(3) Pan fo’r gweithredwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad a grybwyllir ym mharagraff (1), mae cymysgeddau o ronynnau mân sydd wedi eu cynnwys mewn gwarediadau trethadwy o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad ACC wedi eu gwahardd rhag cael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau.

Pŵer ACC i roi cyfarwyddyd i weithredwr gynnal profion colled wrth danio

6.(1) Caiff ACC drwy hysbysiad roi cyfarwyddyd i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gynnal prawf colled wrth danio ar unrhyw gymysgedd o ddeunyddiau—

(a)     yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân,

(b)     sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd, ac

(c)     sy’n bresennol ar y safle.

(2) Caniateir amrywio cyfarwyddyd a roddwyd o dan y rheoliad hwn neu ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad ar unrhyw adeg.

Pŵer ACC i gymryd samplau a chynnal profion colled wrth danio

7.(1) Caiff ACC—

(a)     cymryd sampl o unrhyw gymysgedd o ddeunyddiau ar safle tirlenwi awdurdodedig yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, a

(b)     cynnal prawf colled wrth danio ar y sampl.

(2) Pan fo ACC yn gwneud hynny, rhaid iddo—

(a)     cynnal y prawf drwy gynhesu is-sampl o’r sampl i dymheredd o 440°C am o leiaf 5 awr,

(b)     dyroddi hysbysiad am y ganran colled wrth danio a ganfyddir gan y prawf i weithredwr y safle,

(c)     cadw—

                           (i)    nid llai nag 1kg o’r sampl, a

                         (ii)    cofnod o ganlyniad y prawf colled wrth danio,

(d)     storio’r gyfran a gedwir o’r sampl yn ddiogel am gyfnod o 3 mis sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth berthnasol, ac

(e)     storio’r cofnod o ganlyniad y prawf colled wrth danio yn ddiogel am y cyfnod y byddai’n ofynnol i berson y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth ei gadw o dan adran 38 o DCRhT (dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel).

(3) Ym mharagraff (2)(d), y “ffurflen dreth berthnasol” yw’r ffurflen dreth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu y rhoddir cyfrif arni am y dreth sydd i’w chodi am waredu’r cymysgedd.

Cosbau

Cosb am fethu â chydymffurfio â gofynion sy’n ymwneud â thystiolaeth

8.(1) Mae gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig sy’n—

(a)     trin cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau wrth roi cyfrif am y dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy, ond

(b)     sy’n methu â chydymffurfio—

                           (i)    â gofyniad 2 yn rheoliad 4 (mewn perthynas â’r gwarediad hwnnw), neu

                         (ii)    â gofyniad 4 yn rheoliad 5 (mewn perthynas â’r cymysgedd hwnnw),

yn agored i gosb nad yw’n fwy na £3,000.

(2) Ond nid yw’r gweithredwr yn agored i gosb o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r methiant os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gweithredwr wedi cydymffurfio â’r gofynion hynny, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

Asesu cosbau a’u talu

9.(1) Pan ddaw gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yn agored i gosb o dan reoliad 8, rhaid i ACC— 

(a)     asesu’r gosb, a

(b)     dyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am y gosb a asesir.

(2) Caniateir cyfuno asesiad o gosb gydag asesiad treth.

(3) Rhaid i asesiad o gosb o dan reoliad 8 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y gweithredwr yn agored i’r gosb.

(4) Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig y dyroddir hysbysiad am gosb iddo o dan y rheoliad hwn dalu’r gosb cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am y gosb (ond gweler adran 182 o DCRhT (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl)).

Darpariaeth atodol ynghylch cosbau

10.(1) Nid yw person yn agored i gosb o dan reoliad 8 mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi cael euogfarn am drosedd mewn perthynas â hynny.

(2) Os yw person sy’n agored i gosb o dan reoliad 8 wedi marw, caniateir asesu unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu ar y person ar gynrychiolwyr personol y person.

(3) Mae cosb a asesir yn unol â pharagraff (2) i’w thalu o ystad y person.

Darpariaeth atodol arall

Darpariaeth atodol ynghylch hysbysiadau a chyfarwyddydau ACC

11.(1) Caiff ACC wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol yn—

(a)     yr hysbysiad ACC, a

(b)     unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan ACC o dan reoliad 6.

(2) Caiff y ddarpariaeth gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth drosiannol sy’n gymwys i weithredwyr safleoedd tirlenwi a oedd, yn union cyn y diwrnod y daw adran 2 o DTGT i rym, wedi eu cofrestru o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid 1996.

RHAN 3

CREDYD ANSOLFEDD CWSMER

Cyffredinol

Credyd ansolfedd cwsmer

12.(1) Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer credyd treth mewn cysylltiad â’r dreth.

(2) Enw’r credyd fydd credyd ansolfedd cwsmer.

Dehongli’r Rhan hon

13.(1) Yn y Rhan hon—

mae i “anfoneb dirlenwi” (“landfill invoice”) yr ystyr a roddir yn adran 41(8) o DTGT;

ystyr “cwsmer” (“customer”), mewn perthynas â gwarediad trethadwy, yw’r person y gwneir y gwarediad ar ei gyfer;

ystyr “hawliad” (“claim”) yw hawliad yn unol â’r Rhan hon am swm o gredyd ansolfedd cwsmer;

ystyr “hawlydd” (“claimant”) yw person sy’n gwneud hawliad.

(2) Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at daliad oddi wrth gwsmer yn cynnwys taliad oddi wrth berson arall ar ran y cwsmer.

Hawlogaeth i gredyd

Amgylchiadau sy’n arwain at hawlogaeth i gredyd

14.(1) Mae gan berson (“yr hawlydd”) hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy os bodlonir y gofynion a ganlyn.

Gofyniad 1

Bod y gwarediad wedi ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig.

Gofyniad 2

Bod yr hawlydd—

(a)     wedi ei gofrestru yn weithredwr y safle ar adeg y gwarediad, a

(b)     wedi gwneud y gwarediad, neu wedi caniatáu i’r gwarediad gael ei wneud.

Gofyniad 3

Bod y gwarediad wedi ei wneud am gydnabyddiaeth ariannol ar ran person arall (“y cwsmer”)—

(a)     nad yw’r hawlydd yn gysylltiedig ag ef, a

(b)     nad oedd yr hawlydd yn gysylltiedig ag ef ar adeg y gwarediad.

Gofyniad 4

Bod yr hawlydd wedi dyroddi anfoneb dirlenwi i’r cwsmer mewn cysylltiad â’r gwarediad trethadwy—

(a)     o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed y gwarediad, neu

(b)     o fewn unrhyw gyfnod hwy a bennir mewn hysbysiad a ddyroddir i’r hawlydd o dan adran 41(6) o DTGT.

Gofyniad 5

Bod yr hawlydd—

(a)     wedi rhoi cyfrif am swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r gwarediad ar ffurflen dreth, a

(b)     wedi talu swm y dreth sy’n daladwy o dan adran 42(1) neu (1A) o DTGT mewn cysylltiad â’r ffurflen dreth.

Gofyniad 6

Bod y cwsmer—

(a)     wedi mynd yn ansolfent o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddwyd yr anfoneb dirlenwi, a

(b)     wedi methu â thalu i’r hawlydd yr holl gydnabyddiaeth, neu ran ohoni, sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad.

Gofyniad 7

Nad yw’r hawlydd wedi gallu adennill y gydnabyddiaeth nas talwyd, er gwaethaf cymryd camau rhesymol i wneud hynny.

Gofyniad 8

Bod yr hawlydd—

(a)     wedi gosod yn erbyn swm y gydnabyddiaeth nas talwyd unrhyw ddyled sy’n ddyledus gan yr hawlydd i’r cwsmer y caniateir ei gosod yn erbyn y swm hwnnw, a

(b)     wedi lleihau swm y gydnabyddiaeth nas talwyd gan werth unrhyw sicrhad gorfodadwy a ddelir gan yr hawlydd mewn perthynas â’r cwsmer,

ond bod swm o gydnabyddiaeth yn parhau i fod yn weddill mewn cysylltiad â’r gwarediad.

(2) Er gwaethaf paragraff (1), nid oes gan berson hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy—

(a)     os yw’r person wedi cael budd yn flaenorol o unrhyw swm o gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â’r gwarediad, neu

(b)     os yw anfoneb dirlenwi wedi ei dyroddi mewn cysylltiad â’r gwarediad ar ôl diwedd y diweddaraf o’r cyfnodau a grybwyllir yng ngofyniad 4.

(3) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at gydnabyddiaeth sy’n weddill, mewn perthynas â gwarediad trethadwy, yn gyfeiriadau at y swm o gydnabyddiaeth a grybwyllir ar ddiwedd gofyniad 8.

Darpariaeth atodol sy’n ymwneud â hawlogaeth i gredyd

15.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gwneud darpariaeth atodol at ddibenion rheoliad 14.

(2) Mae adrannau 1122 a 1123 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010([2]) (personau cysylltiedig) yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r hawlydd yn gysylltiedig â’r cwsmer fel y crybwyllir yng ngofyniad 3 ai peidio, ac mae adran 1122 o’r Ddeddf honno yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (8)—

“(9) A person (“A”) is connected with any person who is an employee of A or by whom A is employed.

(10) For the purposes of this section, any director or other officer of a company is to be treated as employed by that company.”

(3) Pa fo’r cwsmer wedi gwneud taliad i’r hawlydd, mae rheoliad 16 yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r taliad i’w drin, ac i ba raddau y mae’r taliad i’w drin, fel pe bai wedi ei ddyrannu i dalu’r gydnabyddiaeth sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad (ac, o ganlyniad, pa un a yw’r cwsmer wedi methu â thalu’r gydnabyddiaeth gyfan am y gwarediad, neu ran ohoni, fel y crybwyllir yng ngofyniad 6).

(4) Mae rheoliad 17 yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r cwsmer wedi mynd yn ansolfent fel y crybwyllir yng ngofyniad 6.

(5) Yng ngofyniad 8, ystyr “sicrhad” yw—

(a)     mewn perthynas â Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, unrhyw forgais, arwystl, hawlrwym neu sicrhad arall;

(b)     mewn perthynas â’r Alban, unrhyw sicrhad (boed etifeddol neu symudol), unrhyw arwystl cyfnewidiol ac unrhyw hawl i hawlrwym neu ffafriaeth neu hawl dargadw (ac eithrio hawl i ddigollediad neu osod yn erbyn);

(c)     mewn perthynas ag unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw beth sy’n cael effaith sy’n cyfateb i unrhyw beth a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b).

(6) Mae rheoliad 21(3) yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r hawlydd wedi cael budd yn flaenorol o swm o gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â’r gwarediad fel y crybwyllir yn rheoliad 14(2).

Cydnabyddiaeth am warediad trethadwy: dyrannu taliadau

16.(1) Pan fo—

(a)     hawlydd yn derbyn taliad oddi wrth gwsmer y gwnaed gwarediad trethadwy ar ei ran, a

(b)     y cwsmer mewn dyled i’r hawlydd mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad,

mae’r taliad fel arfer i’w drin fel pe bai’n cael ei ddyrannu i’r ddyled honno.

(2) Ond pa fo’r cwsmer hefyd mewn dyled i’r hawlydd mewn cysylltiad ag un neu ragor o faterion (pa un a yw neu a ydynt yn ymwneud â gwarediadau trethadwy ai peidio) ac eithrio’r gydnabyddiaeth am y gwarediad, mae’r taliad i’w drin yn lle hynny—

(a)     fel pe bai’n cael ei ddyrannu i’r ddyled a gododd gynharaf, a

(b)     os yw swm y taliad yn fwy na’r ddyled honno, fel pe bai’n cael ei ddyrannu wedi hynny i’r dyledion eraill yn nhrefn y dyddiadau yr oeddent yn codi.

(3) Pan fo effaith paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol dyrannu taliad (neu ran o daliad) i ddwy ddyled neu ragor sy’n codi ar yr un diwrnod, mae swm y taliad sydd i’w drin fel pe bai’n cael ei ddyrannu i ddyled benodol sy’n codi ar y diwrnod hwnnw i’w gyfrifo yn unol â’r fformiwla a ganlyn—

Dyraniad =

pan fo—

(a)     “Dyraniad” yw swm y dyraniad;

(b)     CT yw cyfanswm y taliad sydd i’w ddyrannu o dan baragraff (2) i’r dyledion sy’n codi ar y diwrnod hwnnw;

(c)     D yw swm y ddyled benodol o dan sylw;

(d)     CD yw cyfanswm yr holl ddyledion—

                           (i)    a oedd yn codi ar y diwrnod hwnnw, a

                         (ii)    sy’n ddyledus gan y cwsmer i’r hawlydd.

(4) Pan fo anfoneb dirlenwi wedi ei dyroddi mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, mae pob dyled mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am bob gwarediad i’w thrin fel bai’n codi ar yr un diwrnod (sef y diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd y mae’n rhaid talu’r anfoneb); ac mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys yn unol â hynny.

Ansolfedd cwsmer

17.(1) Mae cwsmer yn mynd yn ansolfent at ddibenion rheoliad 14 os yw—

(a)     trefniant gwirfoddol ar ran cwmni yn cael effaith mewn perthynas â’r cwsmer o dan Ran 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986([3]);

(b)     gorchymyn gweinyddu (o fewn ystyr Atodlen B1 i’r Ddeddf honno) yn cael ei wneud, neu os caiff derbynnydd neu reolwr, neu dderbynnydd gweinyddol, ei benodi mewn perthynas â’r cwsmer;

(c)     achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr (o fewn ystyr Rhan 4 o’r Ddeddf honno), neu achos o ddirwyn i ben gan y llys o dan Bennod 6 o Ran 4 o’r Ddeddf honno, yn cael ei gychwyn mewn perthynas â’r cwsmer;

(d)     gorchymyn rhyddhau o ddyled yn cael ei wneud mewn perthynas â’r cwsmer o dan Ran 7A o’r Ddeddf honno;

(e)     trefniant gwirfoddol unigol yn cael effaith mewn perthynas â’r cwsmer o dan Ran 8 o’r Ddeddf honno;

(f)      gorchymyn methdalu (o fewn ystyr Rhan 9 o’r Ddeddf honno) yn cael ei wneud mewn perthynas â’r cwsmer;

(g)     unrhyw ddigwyddiad cyfatebol yn digwydd sy’n cael effaith o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu o ganlyniad iddi.

(2) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddigwyddiad ansolfedd yn gyfeiriadau at ddigwyddiad a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a) i (g).

Swm y credyd

Cyfrifo swm y credyd ansolfedd cwsmer

18.(1) Mae swm y credyd ansolfedd cwsmer y mae gan berson hawl iddo mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy i’w gyfrifo yn unol â’r fformiwla a ganlyn—

Credyd =

pan fo—

(a)     “Credyd” yn swm y credyd ansolfedd cwsmer;

(b)     T yn swm y dreth y mae’r person wedi rhoi cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad mewn ffurflen dreth, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3);

(c)     SG yn swm y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad (gweler rheoliad 14(3)), yn ddarostyngedig i baragraff (3);

(d)     C y gydnabyddiaeth am y gwarediad, yn ddarostyngedig i baragraff (3).

(2) Pan fo swm y dreth y rhoddir cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad yn cynyddu, anwybydder y cynnydd hwnnw.

(3) Pan fo swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad yn llai na swm y dreth y rhoddwyd cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad (gan anwybyddu unrhyw gynnydd)—

(a)     T yw swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad;

(b)     mae C ac SG ill dau i’w lleihau gan swm sy’n hafal â’r gwahaniaeth rhwng y ddau swm o dreth.

Hawlio credyd

Hawliadau gan bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy

19.(1) Caiff person cofrestredig sydd â hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy hawlio’r credyd mewn ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad ag—

(a)     y cyfnod cyfrifyddu cymwys cyntaf, neu

(b)     unrhyw gyfnod cyfrifyddu dilynol.

(2) Y cyfnod cyfrifyddu cymwys cyntaf yw’r cyfnod cyfrifyddu y daw’r cyfnod o 6 mis, sy’n dechrau â dyddiad y digwyddiad ansolfedd perthnasol, i ben ynddo.

(3) Mae’r hawliad i’w wneud yn y ffurflen dreth—

(a)     drwy osod swm y credyd yn erbyn swm y dreth y byddai fel arall yn ofynnol i’r person ei dalu o dan adran 42(1) o DTGT mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu perthnasol, a

(b)     os yw swm y credyd yn fwy na swm y dreth, drwy ddatgan swm y credyd gormodol.

(4) Pan fo swm o gredyd gormodol yn cael ei ddatgan yn y ffurflen dreth yn unol â pharagraff (3)(b)—

(a)     caiff ACC osod y swm hwnnw yn erbyn unrhyw swm o dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dalu ond nad yw wedi ei dalu eto, a

(b)     os oes unrhyw swm o gredyd gormodol yn weddill, rhaid i ACC dalu i’r person swm sy’n hafal â’r swm hwnnw sy’n weddill.

(5) Ond nid yw’n ofynnol i ACC wneud taliad o dan baragraff (4)(b) oni bai, a hyd nes, bod pob ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r dreth wedi ei dychwelyd.

(6) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “y digwyddiad ansolfedd perthnasol” (“the relevant insolvency event”) yw’r digwyddiad ansolfedd a arweiniodd at hawlogaeth i gredyd mewn cysylltiad â’r gwarediad trethadwy;

ystyr “y cyfnod cyfrifyddu perthnasol” (“the relevant accounting period”) yw’r cyfnod cyfrifyddu y dychwelir y ffurflen dreth sy’n cynnwys yr hawliad mewn cysylltiad ag ef.

Hawliadau gan bersonau eraill

20.(1) Caiff person—

(a)     nad yw’n gofrestredig, a

(b)     sydd â hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy,

hawlio’r credyd drwy wneud cais ysgrifenedig i ACC.

(2) Ni chaniateir gwneud cais o dan baragraff (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â dyddiad y digwyddiad ansolfedd perthnasol.

(3) Os yw ACC wedi ei fodloni—

(a)     nad yw’r person yn gofrestredig,

(b)     bod gan y person hawlogaeth i swm o gredyd ansolfedd cwsmer, ac

(c)     nad yw’r hawlogaeth i’r credyd wedi ei throsglwyddo i unrhyw berson arall,

rhaid i ACC dalu i’r person swm sy’n hafal â swm y credyd.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y digwyddiad ansolfedd perthnasol” yw’r digwyddiad ansolfedd a arweiniodd at hawlogaeth i gredyd mewn cysylltiad â’r gwarediad trethadwy.

Darpariaeth atodol sy’n ymwneud â hawliadau

21.(1) Rhaid i hawliad am gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy fod am gyfanswm y credyd mewn cysylltiad â’r gwarediad hwnnw (yn hytrach na rhan o’r swm yn unig).

(2) Pan fo gan berson hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, caniateir gwneud hawliad mewn cysylltiad â phob un o’r gwarediadau hynny, neu mewn cysylltiad ag un ohonynt neu rai ohonynt yn unig.

(3) Pan fo—

(a)     swm o gredyd ansolfedd cwsmer wedi ei osod, o dan reoliad 19(3)(a) neu (4)(a), yn erbyn swm o dreth y byddai’n ofynnol i berson ei dalu fel arall, neu

(b)     swm sy’n hafal â swm credyd ansolfedd cwsmer yn cael ei dalu i berson o dan reoliad 19(4)(b) neu 20(3),

mae’r person i’w drin, at ddibenion y Rhan hon, fel pe bai wedi cael budd o’r swm hwnnw o gredyd.

Tystiolaeth a chadw cofnodion

Tystiolaeth i ategu hawliadau

22.(1) Rhaid i hawlydd—

(a)     ar y diwrnod y gwneir yr hawliad, feddu ar y dystiolaeth a bennir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r hawliad yn ymwneud ag ef, a

(b)     storio’r dystiolaeth honno’n ddiogel am gyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(2) Y dystiolaeth yw—

(a)     copi o’r anfoneb dirlenwi a ddyroddwyd mewn cysylltiad â’r gwarediad;

(b)     cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n dangos bod yr hawlydd—

                           (i)    wedi rhoi cyfrif am y gwarediad mewn ffurflen dreth, a

                         (ii)    wedi talu’r swm o dreth sy’n daladwy o dan adran 42(1) neu (1A) o DTGT mewn cysylltiad â’r ffurflen dreth;

(c)     cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag unrhyw daliad a wnaed gan y cwsmer mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad;

(d)     cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag—

                           (i)    unrhyw ddyled sy’n ddyledus gan yr hawlydd i’r cwsmer, neu

                         (ii)    unrhyw sicrhad gorfodadwy a ddelir gan yr hawlydd mewn perthynas â’r cwsmer;

(e)     cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag unrhyw gamau a gymerwyd i adennill y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus am y gwarediad.

Cofnod credyd ansolfedd cwsmer

23.(1) Rhaid i hawlydd gadw cofnod cyfredol o’r hawliad (sef “cofnod credyd ansolfedd cwsmer”) drwy gydol y cyfnod cofnodi.

(2) Mae’r cyfnod cofnodi yn dechrau â’r diwrnod y gwneir yr hawliad, ac yn dod i ben â’r dyddiad sydd 6 mlynedd ar ôl y diweddaraf o blith—

(a)     y diwrnod y gwnaed yr hawliad, a

(b)     y diwrnod y diweddarwyd cofnod yr hawliad ddiwethaf.

(3) Rhaid i’r cofnod gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r hawliad yn ymwneud ag ef—

(a)     swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad;

(b)     y gydnabyddiaeth am y gwarediad;

(c)     y ffurflen dreth y rhoddwyd cyfrif am y gwarediad ynddi, a’r dyddiad y talwyd unrhyw dreth oedd yn daladwy mewn cysylltiad â’r ffurflen;

(d)     rhif adnabod yr anfoneb dirlenwi a ddyroddwyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, a’r dyddiad y’i dyroddwyd;

(e)     yn achos gwaredu deunydd y mae disgrifiad ysgrifenedig ohono yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1)(c)(ii) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990([4]), y disgrifiad ysgrifenedig;

(f)      y swm a dalwyd mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad, gan gynnwys unrhyw daliad a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei ddyrannu i’r ddyled honno yn rhinwedd rheoliad 16 (boed cyn neu ar ôl gwneud yr hawliad), a swm y gydnabyddiaeth sy’n weddill;

(g)     unrhyw gamau a gymerwyd i adennill y gydnabyddiaeth sy’n weddill am y gwarediad.

(4) Rhaid i’r cofnod hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)     cyfanswm yr hawliad;

(b)     y ffurflen dreth y gwnaed yr hawliad ynddi;

(c)     cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n weddill y gwneir yr hawliad mewn cysylltiad â hi.

(5) Pan fo hawlydd yn gwneud mwy nag un hawliad, rhaid cadw’r cofnodion y mae’n rhaid eu cadw o dan y rheoliad hwn mewn un cyfrif (a elwir “y crynodeb credyd ansolfedd cwsmer”).

Adennill credyd

Adennill yn dilyn taliad gan gwsmer

24.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hawlydd— 

(a)     wedi cael budd o swm o gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy (gweler rheoliad 21(3)), a

(b)     ar ôl hynny yn derbyn taliad oddi wrth y cwsmer sy’n cael ei drin, yn rhinwedd rheoliad 16, fel pe bai wedi ei ddyrannu, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, i’r ddyled sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad.

(2) Rhaid i’r hawlydd dalu i ACC, cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hawlydd yn derbyn taliad y cwsmer, swm a gyfrifir yn unol â’r fformiwla ym mharagraff (3).

(3) Y fformiwla yw—

Taliad =

pan fo—

(a)     “Taliad” yw swm y taliad y mae’n rhaid ei wneud i ACC;

(b)     “CredydP” yw’r swm perthnasol o gredyd ansolfedd cwsmer;

(c)     T yw swm y taliad a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei ddyrannu i’r ddyled sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad, fel y disgrifir ym mharagraff (1)(b);

(d)     SG yw—

                           (i)    y swm a gaiff ei drin fel SG at ddibenion cyfrifo swm y credyd mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan reoliad 18(1), llai

                         (ii)    unrhyw swm a dderbynnir oddi wrth y cwsmer sydd eisoes wedi ei drin fel T o dan y rheoliad hwn.

(4) Y swm perthnasol o gredyd ansolfedd cwsmer yw—

(a)     swm y credyd a gyfrifir mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan reoliad 18(1), llai

(b)     unrhyw swm y bu eisoes yn ofynnol i’r hawlydd ei dalu i ACC mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan y rheoliad hwn.

Adennill yn dilyn methiant i gadw cofnodion neu dystiolaeth arall

25.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hawlydd— 

(a)     wedi cael budd o swm o gredyd ansolfedd cwsmer o ganlyniad i hawliad (gweler rheoliad 21(3)), ond

(b)     wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan reoliad 22 neu 23 mewn cysylltiad â’r hawliad.

(2) Rhaid i ACC—

(a)     asesu’r swm o gredyd ansolfedd cwsmer y mae’r hawlydd wedi cael budd ohono mewn cysylltiad â’r hawliad, a

(b)     dyroddi hysbysiad i’r hawlydd—

                           (i)    yn pennu’r swm a aseswyd, a

                         (ii)    yn ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu swm sy’n hafal â’r swm hwnnw i ACC.

(3) Rhaid i’r hawlydd dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad i ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

(4) Nid yw’n ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad o dan baragraff (2) os yw wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y cofnodion neu’r dystiolaeth arall sy’n ofynnol o dan reoliad 22 neu 23, wedi eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

(5) Nid yw’n ofynnol i hawlydd y dyroddir hysbysiad iddo o dan baragraff (2) dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad i ACC—

(a)     os yw’r hawlydd yn cyflwyno tystiolaeth ddogfennol i ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, ynghylch y ffeithiau a fyddai wedi eu profi gan y cofnodion neu’r dystiolaeth arall sy’n ofynnol o dan reoliad 22 neu 23, a

(b)     os yw ACC yn dyroddi hysbysiad pellach i’r hawlydd yn datgan bod y dystiolaeth yn profi, er boddhad ACC, y ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi.

Diwygiadau ac addasiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol

Diwygiadau i Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

26. Mae’r Atodlen yn gwneud diwygiadau i DTGT a DCRhT([5]).

Addasiadau i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

27. Mae adrannau 74 i 77 o DCRhT (ymholiadau ynghylch hawliadau) yn gymwys i hawliadau o dan reoliad 20 yn yr un modd ag y maent yn gymwys i hawliadau o dan adran 62, 63 neu 63A o’r Ddeddf honno ond fel pe bai—

(a)     yn adran 74, y cyfeiriadau at ddiwygio hawliad wedi eu hepgor,

(b)     yn adran 75, is-adran (3) wedi ei hepgor, ac

(c)     yn adran 77(1)(b), y cyfeiriad at ollwng neu ad-dalu treth ddatganoledig yn gyfeiriad at dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.

 

 

 

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

                   YR ATODLEN     Rheoliad 26

DIWYGIADAU I DDEDDFWRIAETH SYLFAENOL: CREDYDAU TRETH

RHAN 1

DIWYGIADAU I DDEDDF TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) 2017

1. Mae DTGT wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2. Yn adran 37 o DTGT (canslo cofrestriad), yn is-adran (4)—

(a)     mae’r geiriau o “bod yr holl dreth y mae’n ofynnol i’r person ei thalu” hyd at y diwedd yn dod yn baragraff (a);

(b)     ar ddiwedd y paragraff hwnnw mewnosoder “, a

(b)  bod yr holl gredyd treth y mae gan y person hawlogaeth iddo ac y mae’r person wedi ei hawlio—

                       (i)  wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i’r person ei dalu, neu

                      (ii)  wedi ei dalu i’r person.

3.Yn adran 42 o DTGT (talu treth), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) Ond os yw swm o gredyd treth wedi ei osod yn erbyn y swm hwnnw o dreth yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 54, y swm o dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dalu erbyn y dyddiad hwnnw yw’r swm sy’n parhau i fod yn weddill ar ôl y gosod yn erbyn (os oes unrhyw swm o’r fath).

4.Yn adran 43 o DTGT (dyletswydd i gadw crynodeb treth gwarediadau tirlenwi), yn is-adran (1)—

(a)     hepgorer yr “a” ar ddiwedd paragraff (a);

(b)     ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

 (aa) swm y credyd treth a hawliwyd gan y person, a.

5. Yn adran 77 o DTGT (dynodi grŵp o gwmnïau), yn is-adran (8)—

(a)     ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)  swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;;

(b)     ym mharagraff (c), yn lle “neu (b)” rhodder “, (b) neu (ba)”.

6. Yn adran 83 o DTGT (dyletswyddau a rhwymedigaethau partneriaethau a chyrff anghorfforedig), yn is-adran (8)—

(a)     ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)  swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;;

(b)     ym mharagraff (c), yn lle “neu (b)” rhodder “, (b) neu (ba)”.

7. Yn adran 96 o DTGT (dehongli), yn is-adran (1), mewnosoder yn y man priodol—

“ystyr “credyd treth” (“tax credit”) yw credyd treth o dan reoliadau a wneir o dan adran 54;.

RHAN 2

DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

8. Mae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.

9. Yn adran 37 o DCRhT (trosolwg o Ran 3), ym mharagraff (e), yn lle “os na chynhelir ymholiad” rhodder “ac o symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth”.

10. Yn adran 44 o DCRhT (cwmpas ymholiad), yn is-adran (1)—

(a)     hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (a);

(b)     ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c) sy’n ymwneud â’r cwestiwn pa un a oes gan y person a ddychwelodd y ffurflen dreth hawlogaeth i gredyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth, neu

(d)  sy’n ymwneud â’r swm o gredyd treth y mae gan y person hawlogaeth iddo.

11.(1) Mae adran 45 o DCRhT([6]) (diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad er mwyn osgoi colli treth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) Os yw ACC, yn ystod y cyfnod pan fo ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo, yn dod i’r casgliad—

(a)   bod swm y credyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth yn ormodol, a

(b)  ei bod yn debygol, oni chaiff y ffurflen dreth ei diwygio ar unwaith, y collir treth ddatganoledig,

caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd fel nad yw’r swm a hawlir yn ormodol mwyach.

(3) Yn is-adran (2)—

(a)     mae’r geiriau o “nid yw is-adran (1) yn gymwys” hyd at y diwedd yn dod yn baragraff (a);

(b)     ar ddiwedd y paragraff hwnnw mewnosoder “, a

(b)  nid yw is-adran (1A) yn gymwys ond i’r graddau y mae’r swm gormodol i’w briodoli i’r diwygiad.

(4) Yn is-adran (3), ar ôl “is-adran (1)” mewnosoder “neu (1A)”.

12. Ar ôl adran 55 o DCRhT mewnosoder—

Asesiad mewn perthynas â chredyd treth

55A. Os yw ACC yn dod i’r casgliad—

(a)   mewn perthynas â swm o gredyd treth sydd wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i berson ei dalu—

                       (i)  na ddylid fod wedi ei osod yn erbyn y swm o dreth, neu

                      (ii)  ei fod wedi mynd yn ormodol,

(b)  mewn perthynas â swm a dalwyd i berson mewn cysylltiad â chredyd treth—

                       (i)  na ddylid fod wedi ei dalu, neu

                      (ii)  ei fod wedi mynd yn ormodol, neu

(c)   nad yw swm y mae’n ofynnol i berson ei dalu i ACC mewn cysylltiad â chredyd treth wedi ei dalu,

caiff ACC wneud asesiad o’r swm y dylid bod wedi ei dalu i ACC, ym marn ACC, er mwyn unioni’r mater.

13. Yn adran 56 o DCRhT (cyfeiriadau at “asesiad ACC”), yn lle “neu 55” rhodder “, 55 neu 55A”.

14. Yn adran 57 o DCRhT (cyfeiriadau at y “trethdalwr”), ym mharagraff (b), ar ôl “adran 55” mewnosoder “neu 55A”.

15.(1) Mae adran 58 o DCRhT([7]) (amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn is-adran (1), ym mharagraff (a)—

(a)     yn lle “tri” rhodder “pedwar”;

(b)     yn lle “a (3A)” rhodder “, (3A) a (3B)”.

(3) ar ôl is-adran (3A) mewnosoder—

(3B) Y pedwerydd achos yw pan fo ACC wedi dod i’r casgliad fod y sefyllfa a ddisgrifir yn adran 55A wedi digwydd. 

16.(1) Mae adran 59 o DCRhT([8]) (terfynau amser ar gyfer asesiadau ACC) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn is-adran (1), ar ôl “dyddiad perthnasol” mewnosoder “mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54, 55 neu 55A(a) neu (b)”.

(3) Yn is-adran (2), yn lle “neu 55” rhodder “, 55 neu 55A(a) neu (b)”.

(4) Yn is-adran (3), yn lle “neu 55” rhodder “, 55 neu 55A(a) neu (b)”.

(5) Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A) Ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c)—

(a)   os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr sy’n gwneud talu’r swm o dan sylw yn ofynnol, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd y taliad yn ofynnol, a

(b)  fel arall, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i’r trethdalwr dalu’r swm o dan sylw.

(6) Yn is-adran (7)—

(a)     yng ngeiriau agoriadol y diffiniad o “dyddiad perthnasol”, ar ôl “(“relevant date”)” mewnosoder “, mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55,”;

(b)     ar ôl y diffiniad o “dyddiad perthnasol” mewnosoder—

ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”), mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), yw—

(a)   pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, y dyddiad ffeilio;

(b)  pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar ôl y dyddiad ffeilio, y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth;

(c)   pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod y gwnaed yr hawliad.

17. Yn adran 81D o DCRhT([9]) (diffiniadau sy’n ymwneud â’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi), yn y diffiniad o “mantais drethiannol”—

(a)     hepgorer yr “ac” ar ôl paragraff (d);

(b)     ar ddiwedd paragraff (e) mewnosoder “, ac

(f)   credyd treth neu gredyd treth uwch.”

18.(1) Mae adran 84 o DCRhT (ystyr “sefyllfa dreth”) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn is-adran (1), ym mharagraff (b)—

(a)     ar ôl “cosbau” mewnosoder “credydau treth”;

(b)     ar ôl “gosbau” mewnosoder “a symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth”.

(3) Ym mharagraff (c) o’r is-adran honno, ar ôl “dreth ddatganoledig” mewnosoder “neu unrhyw swm mewn cysylltiad â chredyd treth”.

19. Ar ôl adran 84 o DCRhT mewnosoder—

Ystyr “niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig”

84A. Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn cynnwys niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu unrhyw swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.”

20. Yn adran 93 (pŵer i gael manylion cyswllt dyledwyr), yn is-adran (2)—

(a)     hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (c);

(b)     ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(e) taliad mewn cysylltiad â chredyd treth, neu

(f)   llog ar daliad mewn cysylltiad â chredyd treth,.

21. Yn adran 100 o DCRhT (hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen dreth), yn is-adran (5)—

(a)     hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (b);

(b)     ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d) ei bod yn bosibl bod swm o gredyd treth nad oes gan y person hawlogaeth iddo wedi ei hawlio, neu

(e)   ei bod yn bosibl bod hawliad am gredyd treth yn ormodol neu wedi mynd yn ormodol.

22. Yn adran 117 o DCRhT (trosolwg o Ran 5), yn is-adran (1), ym mharagraff (a), ar ôl “trethi datganoledig” mewnosoder “neu symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth”.

23. Yn y pennawd i Bennod 2 o Ran 5 o DCRhT (cosbau am fethu â dychwelyd ffurflenni neu dalu treth), ar y diwedd mewnosoder “NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH”.

24. Yn adran 122 o DCRhT([10]) (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd), yn Nhabl A1, yn eitem 2 yng ngholofn 3, yn lle “a ddatgenir mewn” rhodder “sy’n daladwy o ganlyniad i”.

25. Ar ôl adran 122A o DCRhT([11]) mewnosoder—

Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth

Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth mewn pryd

123A.—(1) Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson dalu swm o ganlyniad i asesiad ACC a wneir o dan adran 55A.

(2) Mae person yn agored i gosb os yw’n yn methu â thalu’r swm ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny.

(3) Y dyddiad cosbi yw’r dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.

(4) Y gosb yw 5% o’r swm sy’n daladwy o ganlyniad i’r asesiad ACC.

26.(1) Mae adran 126 o DCRhT([12]) (esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A) Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol dros fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 123A mewn perthynas â’r methiant.

(3) Yn is-adran (3), yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “a (2)” rhodder “, (2) a (2A)”.

(4) Ym mhennawd yr adran, ar y diwedd mewnosoder “neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth”.

27.(1) Mae adran 127 o DCRhT([13]) (asesu cosbau o dan Bennod 2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn is-adran (1), ym mharagraff (c), yn lle “neu’r trafodiad” rhodder “, y trafodiad neu’r swm”.

(3) Ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(6A) Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r credyd treth o dan sylw.

(6B) Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A yn seiliedig ar swm y darganfyddir ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

(4) Yn is-adran (7), yn lle “neu (6)” rhodder “, (6) neu (6B)”.

28.(1) Mae adran 128 o DCRhT ([14]) (terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn is-adran (2)—

(a)     hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (a);

(b)     ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “, neu

(c)   yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, â’r dyddiad cosbi.”

(3) Yn is-adran (3), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c) yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o’r swm yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef.

(4) Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A) Yn is-adran (2)(c), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran 123A(3).

(5) Yn is-adran (5), yn y geiriau cyn paragraff (a), hepgorer “(a) a (b)”.

29. Yn adran 129 o DCRhT (cosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACC), yn is-adran (2)—

(a)     hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (b);

(b)     ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder “, neu

(d)  hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.”

30. Yn adran 132 o DCRhT([15]) (cosb am anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC gan berson arall), yn is-adran (2)—

(a)     hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (b);

(b)     ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder “, neu

(d)  hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.”

31. Yn adran 133 o DCRhT([16]) (cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad neu danddyfarniad), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) Mae person hefyd yn agored i gosb pan fo—

(a)   asesiad ACC o dan adran 55A yn tanddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person ei dalu i ACC, a

(b)  y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am
yr asesiad, ei fod yn danasesiad.

32.(1) Mae adran 135 o DCRhT (refeniw posibl a gollir: y rheol arferol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn is-adran (1), yn y geiriau ar ôl paragraff (b), ar ôl “threth ddatganoledig” mewnosoder “neu gredyd treth”.

(3) Yn is-adran (2)—

(a)     hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a);

(b)     ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “ac

(c)   swm y byddai wedi bod yn ofynnol i ACC ei osod yn erbyn atebolrwydd person i dreth, neu ei dalu i berson, pe na bai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro.”

33. Yn adran 136 o DCRhT (refeniw posibl a gollir: camgymeriadau lluosog) yn is-adran (2)—

(a)     yn lle “neu drafodiad”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “, trafodiad neu hawliad am gredyd treth”;

(b)     yn lle “neu drafodiad”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “, trafodiad neu hawliad am gredyd treth”.

34. Yn adran 139 o DCRhT (gostwng cosb o dan Bennod 3 am ddatgelu), yn is-adran (2) —

(a)     hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (b);

(b)     ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d) anghywirdeb sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,

(e)   bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth, neu

(f)   methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad ag atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.

35. Yn adran 141 o DCRhT([17]) (asesu cosbau o dan Bennod 3), yn is-adran (1), ym mharagraff (c), yn lle “neu drafodiad” rhodder “, trafodiad neu hawliad am gredyd treth”.

36.(1) Mae adran 151 o DCRhT (cosb gysylltiedig â threth am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu am
rwystro) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn is-adran (1), ym mharagraff (c)—

(a)     mae’r geiriau o “swm y dreth ddatganoledig” hyd at “y mae’n debygol o’i dalu,” yn dod yn is-baragraff (i);

(b)     ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw mewnosoder “neu

                      (ii)  y swm y mae’r person wedi ei dalu, neu y mae’n debygol o’i dalu mewn cysylltiad â chredyd treth,”.

(3) Yn is-adran (3)—

(a)     mae’r geiriau “swm y dreth ddatganoledig” yn dod yn is-baragraff (i);

(b)     ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw mewnosoder “, neu

                      (ii)  y swm mewn cysylltiad â chredyd treth,”.

37. Ar ôl adran 157A o DCRhT([18]) mewnosoder—

Llog taliadau hwyr ar symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth

157B.—(1) Mae’r adran hon yn gymwys i swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.

(2) Os na thelir y swm ar y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol ei dalu neu cyn hynny, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)   sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, a

(b)  sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3) Pan fo’r swm yn daladwy o ganlyniad i asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw—

(a)   os hawliwyd y credyd treth o dan sylw mewn ffurflen dreth, y diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth;

(b)  os hawliwyd y credyd treth o dan sylw drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod ar ôl y diwrnod y talwyd swm sy’n hafal â’r swm i berson mewn cysylltiad â’r hawliad.

(4) Pan fo’r swm yn daladwy o ganlyniad i asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.

(5) Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr at ddibenion yr adran hon yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.

38. Yn adran 158 o DCRhT([19]) (llog taliadau hwyr: atodol), yn is-adran (1), yn lle “a 157A” rhodder “, 157A a 157B”.

39. Yn adran 160 o DCRhT (dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr: marwolaeth trethdalwr), yn is-adran (1), ym mharagraff (a), yn lle “person y mae swm o dreth ddatganoledig i’w godi arno neu gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig i’w chodi arno” rhodder “person—

                       (i)  y mae swm o dreth ddatganoledig i’w godi arno neu gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig i’w chodi arno, neu

                      (ii)  y mae’n ofynnol iddo dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,”.

40.(1) Mae adran 161 o DCRhT (llog ad-daliadau ar symiau sy’n daladwy gan ACC) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn is-adran (2)—

(a)     hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (a);

(b)     ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “, neu

(c)   swm mewn cysylltiad â chredyd treth.”

(3) Yn is-adran (4), ym mharagraff (b), yn lle “(2)(a) neu (b)” rhodder “(2)(a), (b) neu (c)”.

41. Yn adran 164 o DCRhT (ystyr “swm perthnasol” yn Rhan 7), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(e) swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;

(f)   llog ar swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.

42.(1) Mae adran 169 o DCRhT([20]) (achosion yn llys yr ynadon) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn is-adran (4)—

(a)     ar ôl “neu’n gosb” mewnosoder “neu’n swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth”;

(b)     yn lle “neu’r gosb” rhodder “, y gosb neu’r swm arall”.

(3) Yn is-adran (5)—

(a)     ar ôl “neu’n gosb” mewnosoder “neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth”;

(b)     yn lle “neu’r gosb” rhodder “, y gosb neu’r swm arall”.

43. Yn adran 172 o DCRhT([21]) (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (k) mewnosoder—

(l)  penderfyniad sy’n ymwneud â chredyd treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi.

44. Yn y pennawd i Bennod 3A o Ran 8 o DCRhT, ar ôl “TRETH DDATGANOLEDIG” mewnosoder “ETC”.

45. Ar ôl adran 181I([22]) mewnosoder—

Cymhwyso’r Bennod hon i symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth

181J.—(1) Mae’r Bennod hon yn gymwys i dalu ac adennill symiau sy’n ymwneud â chredydau treth—

(a)   fel pe bai cyfeiriadau at swm o dreth ddatganoledig (gan gynnwys symiau o dreth gwarediadau tirlenwi) yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth,

(b)  fel pe bai cyfeiriadau at log ar swm o dreth ddatganoledig yn gyfeiriadau at log ar swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, ac

(c)   fel pe bai cyfeiriadau at dreth ddatganoledig yn cael ei chodi neu i’w chodi ar berson yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth.

46. Yn adran 183A o DCRhT([23]) (atal ad-daliad pan fo apêl bellach yn yr arfaeth), yn is-adran (1), ym mharagraff (a)—

(a)     mae’r geiriau o “bod ACC i ad-dalu” i “gan berson,” yn dod yn is-baragraff (i);

(b)     ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder “neu 

                      (ii)  bod swm a dalwyd gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth i’w ad-dalu gan ACC,”.

47. Yn adran 192 o DCRhT([24]) (dehongli), yn is-adran (2), mewnosoder yn y man priodol —

ystyr “credyd treth” (“tax credit”) yw credyd treth o dan reoliadau a wneir o dan adran 54 o DTGT;.

48. Yn adran 193 o DCRhT([25]) (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir), mewnosoder yn y man priodol—

 

Credyd treth (“tax credit”)

adran 192(2)

 

 

 

 

 



([1])   2017 dccc 3.

([2])   2010 p.4.

([3])   1986 p. 45.

([4])   1990 p. 43. Diwygiwyd adran 34(1) gan O.S. 2000/1973, O.S. 2007/3538, O.S. 2010/675 ac O.S. 2011/988. Mae diwygiadau eraill i adran 34(1) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([5])   2016 dccc 6.

([6])   Diwygiwyd adran 45 gan baragraff 13 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 1).

([7])   Diwygiwyd adran 58 gan baragraff 18 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“DTTT”).

([8])   Diwygiwyd adran 59 gan baragraff 19 o Atodlen 23 i DTTT.

([9])   Mewnosodwyd adran 81D gan adran 66 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

([10]) Amnewidiwyd adran 122 gan baragraff 42 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“DTTT”).

([11]) Mewnosodwyd Adran 122A gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT a diddymwyd adran 123 gan baragraff 43 o Atodlen 23 i DTTT.

([12]) Diwygiwyd adran 126 gan baragraff 45 o Atodlen 23 i DTTT a chan baragraff 13 o Atodlen 4 i DTGT.

([13]) Diwygiwyd adran 127 gan baragraff 46 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“DTTT”) a chan baragraff 14 o Atodlen 4 i DTGT.

([14]) Diwygiwyd adran 128 gan baragraff 47 o Atodlen 23 i DTTT.

([15]) Diwygiwyd adran 132 gan baragraff 49 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“DTTT”).

([16]) Diwygiwyd adran 133 gan baragraff 50 o Atodlen 23 i DTTT.

([17]) Diwygiwyd adran 141 gan baragraff 51 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“DTTT”).

([18]) Mewnosodwyd adran 157A gan baragraff 58 o Atodlen 23 i DTTT.

([19]) Amnewidiwyd adran 158 gan baragraff 58 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

([20]) Diwygiwyd adran 169 gan baragraff 60 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“DTTT”).

([21]) Diwygiwyd adran 172(2) gan baragraff 62 o Atodlen 23 i DTTT a chan adrannau 24, 38, 58 a 80 o DTGT a pharagraff 16 o Atodlen 4 iddi.

([22]) Mewnosodwyd Pennod 3A (gan gynnwys adran 181I) gan baragraff 63 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Trethi Datganoledig (“DTTT”).

([23]) Mewnosodwyd adran 183A gan baragraff 65 o Atodlen 23 i DTTT.

([24]) Diwygiwyd adran 192 gan baragraff 70 o Atodlen 23 i DTTT, a chan baragraff 19 o Atodlen 4 i DTGT.

([25]) Diwygiwyd adran 193 gan baragraff 71 o Atodlen 23 i DTTT, a chan baragraff 20 o Atodlen 4 i DTGT.