Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29/11/17 i'w hateb ar

06/12/17

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

          Mick Antoniw     Pontypridd

1      OAQ51398

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau Bil Masnach Llywodraeth y DU ar gyfer polisi caffael Llywodraeth Cymru?

          Suzy Davies     Gorllewin De Cymru

2      OAQ51405

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drethi newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru?

          Rhun ap Iorwerth     Ynys Môn

3      OAQ51411 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

Pa gyllid ychwanegol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddyrannu i'r portffolio llywodraeth leol i ddelio â'r llifogydd diweddar yn Ynys Môn?

          Dawn Bowden    Merthyr Tudful a Rhymni

4      OAQ51421

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith polisïau cyni ariannol Llywodraeth y DU ar Ferthyr Tudful a Rhymni?

          Caroline Jones     Gorllewin De Cymru

5      OAQ51425

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU ar fargen ddinesig Bae Abertawe?

          Mark Reckless     Dwyrain De Cymru

6      OAQ51423

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn nodi a fydd yr egwyddorion blaengar a gynigiwyd ar gyfer y dreth trafodiadau tir yn llywio ei bolisi treth yn fwy cyffredinol wrth i bwerau pellach dros drethi gael eu datganoli?


 

          John Griffiths     Dwyrain Casnewydd

7      OAQ51416

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio ei phwerau trethiant sydd ar ddod?

          Rhianon Passmore     Islwyn

8      OAQ51431

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Cynghori ar Ewrop?

          Steffan Lewis     Dwyrain De Cymru

9      OAQ51400

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi cyfalaf yn ardal Dwyrain De Cymru?

          Hefin David     Caerffili

10    OAQ51430

A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd?

          Jane Hutt     Bro Morgannwg

11    OAQ51410

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat i fabwysiadu'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi?

          Sian Gwenllian     Arfon

12     OAQ51426 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ardrethi busnes?

          Llyr Gruffydd     Gogledd Cymru

13     OAQ51415 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i anghenion llywodraeth leol wrth osod cyllideb Llywodraeth Cymru?

          Julie Morgan    Gogledd Caerdydd

14    OAQ51429

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y cynigion ar gyfer treth ar blastig?

          Lee Waters     Llanelli

15    OAQ51419

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r potensial ar gyfer trethu mannau parcio mewn parciau manwerthu ar gyrion trefi?

Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

          Julie Morgan    Gogledd Caerdydd

1      OAQ51433

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau Teithio at Iechyd Gwell mewn perthynas â Sipsiwn a Theithwyr?

          Bethan Jenkins    Gorllewin De Cymru

2     OAQ51432 TYNNWYD YN ÔL

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cydlyniant cymdeithasol yng Nghymru?

          Darren Millar     Gorllewin Clwyd

3      OAQ51392

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod seilwaith digidol priodol ar gael i fusnesau?

          Neil Hamilton    Canolbarth a Gorllewin Cymru

4      OAQ51422

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gydlyniant cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

          Dawn Bowden    Merthyr Tudful a Rhymni

5      OAQ51408

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr mudol yng Nghymru wrth baratoi ar gyfer Brexit?

          John Griffiths     Dwyrain Casnewydd

6      OAQ51402 Datganodd yr Aelod fuddiant

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches?

         David Melding     Canol De Cymru

7      OAQ51418

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag asesiadau llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014?

          Mick Antoniw     Pontypridd

8      OAQ51396

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran cyflwyno band eang Cyflymu Cymru ym Mhontypridd a Thaf Elái?


 

          Sian Gwenllian     Arfon

9      OAQ51434 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau cynrychiolaeth deg o fenywod mewn swyddi etholedig?

          Neil McEvoy     Canol De Cymru

10    OAQ51407

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thrais yn y cartref?

          Steffan Lewis     Dwyrain De Cymru

11    OAQ51412

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru?

          Rhun ap Iorwerth     Ynys Môn

12    OAQ51413 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddatblygu technoleg 5G?

          Mohammad Asghar     Dwyrain De Cymru

13    OAQ51394

Pa gamau y bydd Arweinydd y Tŷ yn eu cymryd i wella amodau ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru dros y 12 mis nesaf?

          Mike Hedges     Dwyrain Abertawe

14    OAQ51404

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o wasanaethau band eang yn Nwyrain Abertawe?

          Lynne Neagle    Torfaen

15    OAQ51435

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru?