1. Cyflwyniad

 

1..1. Mae’r dystiolaeth hon wedi’i pharatoi mewn ymateb i ymgynghoriad pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol ar ymateb gweinyddol ac ariannol Llywodraeth Cymru i Brexit.

 

1..2. Ynglŷn â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

 

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yw’r mudiad aelodaeth cenedlaethol i’r trydydd sector yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw dyfodol lle mae’r trydydd sector a gwirfoddoli yn ffynnu, gan wella llesiant i bawb. Ein cenhadaeth yw bod yn gatalydd dros newid positif drwy gysylltu, galluogi a dylanwadu.

 

1..3. Mae WCVA yn Gorff Cyfryngol, sy’n gweithredu ar ran Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, gan ddarparu cyllid drwy’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd i’r trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat ledled Cymru.

 

2. Beth yw'r prif faterion sy'n wynebu eich sector o ganlyniad i’r ffaith fod y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a sut y dylai Llywodraeth Cymru ymateb i'r rhain?

 

2..1. Colli cyllid

 

2..1.1.     Mae buddsoddiad yr UE yng Nghymru yn ffynhonnell ariannol sylweddol i’r trydydd sector gan gefnogi llu o fentrau sy’n cyfrannu at adfywio cymdeithas ac economi rhanbarthau mwyaf difreintiedig Cymru. Mentrau na fyddai efallai’n cael eu hariannu drwy ffynonellau domestig.  

 

                       2..1.2. O dan raglenni Cronfeydd Strwythurol 2007-2013:

 

Bu i £100m o arian yr UE gefnogi 45 o gynlluniau dan arweiniad y trydydd sector, gan helpu 8,545 o bobl i gael gwaith a 21,825 o bobl i ennill cymwysterau, a chreu 405 o fentrau a 720 o swyddi (gros).

Trwy gontractau a gaffaelir, dyfarnwyd dros £187m (10% o

gyfanswm gwerth contractau a gaffaelir) i’r trydydd sector i gynnal gweithgareddau prosiectau.

 

2..1.3.     O dan raglenni presennol Cronfeydd Strwythurol 2014-2020, hyd yma mae’r trydydd sector yn arwain sawl gweithrediad gwerth dros £80 miliwn ac mae llawer mwy o fudiadau’n cael at gyllid drwy nifer o fframweithiau a chontractau rhanbarthol.  

 

                       2..1.4. Dylai Llywodraeth Cymru wneud y canlynol:

 

        cefnogi’r trydydd sector i fod â llais wrth siapio dyfodol y Gronfa Ffyniant a Rennir yng Nghymru.

        sicrhau bod y Gronfa Ffyniant a Rennir (drwy ddefnyddio’r egwyddor partneriaeth) yn buddsoddi yn y trydydd sector ac asiantaethau eraill i gydgynhyrchu gweithgareddau sy’n meithrin gwydnwch a ffyniant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

        mynnu mynediad digyfyngiad at y rhaglenni cydweithredu trawswladol Ewropeaidd megis Daphne, Development, Education and Awareness Raising (DEAR) ac Erasmus+. Byddai diddymu mentrau sydd dan arweiniad ieuenctid a ariennir drwy Erasmus+ yn rhoi cenhedlaeth iau Cymru dan anfantais sylweddol wrth geisio manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth ac addysg Ewropeaidd ar ôl Brexit. 

 

2..1. Bil yr UE (Ymadael) a’i fygythiad i ddatganoli

 

2..1.1.     Mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ochrgamu tybiaethau presennol ynglŷn â’r ffordd y mae datganoli yn gweithio – sef y dylai pŵer nad yw’n cael ei enwi fel un a gedwir yn ôl gael ei ddatganoli’n awtomatig i Gymru. Pryderwn na fyddai unrhyw bwerau a gymerir gan San Steffan yn cael eu datganoli yn ddiweddarach. Rhaid i unrhyw benderfyniad i wrthdroi pwerau datganoli fod yn agored i gyfranogiad democrataidd priodol.

 

2..1.2.     Mae datganoli wedi annog gweithio’n draws-sectorol yng Nghymru ac wedi rhoi mynediad gwell i’r trydydd sector er mwyn gweithio gyda’r sefydliadau llywodraethu mewn perthynas â datblygu a gweithredu polisïau a chraffu arnynt. Byddai buddion trefniadau ymgysylltu presennol sydd ar gael i’r trydydd sector, fel Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac aelodaeth o’r Pwyllgor Monitro

Rhaglenni, yn cael eu colli pe bai rheolaeth yn cael ei thynnu oddi ar Lywodraeth Cymru a’i chadw gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.  

 

2..1.3.     Mae hyrwyddo a gwarchod cydraddoldeb a hawliau dynol yn rhan annatod o setliad datganoli Cymru. Mae Cymru wedi dewis atgyfnerthu hawliau drwy fesurau fel Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

2014. Ysgrifennwyd y Deddfau hyn yng nghyd-destun datganoli a gallai’r gallu i’r rhain fod yn llwyddiannus gael ei gyfyngu’n ddifrifol pe bai pwerau’n cael eu tynnu oddi ar Gymru.

 

2..1.4.     Pryderwn y byddai’r Bil yn galluogi i’r hawliau a’r mesurau gwarchod hyn gael eu gwanhau (sydd eisoes wedi’i wireddu i ryw raddau drwy’r penderfyniad a wnaed i beidio â chynnwys Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE yn y gyfraith ddomestig ar ôl Brexit). Bydd unrhyw wanhad mewn hawliau yn dynodi ychydig iawn o gydnabyddiaeth ar gyfer safbwynt datganoli Cymru.

 

2..2. Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

 

2..2.1.     Mewn arolwg ynglŷn â Brexit a gynhaliwyd gan WCVA fis Mawrth eleni, rhoddodd ein haelodau bwyslais ar warchod hawliau dynol ac amgylcheddol presennol a meithrin cydlyniant cymunedol a lleihau troseddau casineb, yn fwy na diogelu cyfleoedd am gyllid i’r sector.  

 

                       2..2.2. Yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE yng Nghymru:

 

      mae nifer yr achosion a gofnodir o droseddau casineb wedi cynyddu 28%[1]

      mae materion ynglŷn â mewnfudo wedi cynyddu 19%, a ‘gwyn – arall’ yw’r grŵp mwyaf sy’n chwilio am gyngor[2]

      mae ymholiadau ynghylch dinasyddiaeth genedlaethol wedi cynyddu 63%[3]

      amcangyfrifir bod troseddau casineb yn erbyn menywod

Mwslimaidd wedi cynyddu 300%[4]

 

2..2.3.     Mae’r UE wedi bod megis rhwyd ddiogelwch, gan osod safonau sylfaenol ar gyfer deddfwriaeth cydraddoldebau a hawliau dynol, a mynegwyd amheuon dyfnion ynghylch y posibilrwydd o wanhau’r ymrwymiadau hyn dros amser.

 

2..2.4.     Mae’r Gynghrair Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a hwylusir gan WCVA, wedi paratoi papur ar effaith Brexit ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Ceir ynddo nifer o argymhellion, gan gynnwys sawl un ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae’r papur ar gael yma.

 

2..3. Iechyd a gofal cymdeithasol 

 

2..3.1.     Mae mudiadau trydydd sector yn chwarae rôl allweddol yn darparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gefnogi pobl ag anableddau, pobl hŷn a’r rheini â chyflyrau iechyd cronig. Mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn dibynnu’n helaeth ar weithwyr

sy’n mudo o’r UE ac mae Brexit yn dwysáu’r anawsterau sydd ynghlwm wrth recriwtio a chynnal gweithlu cymwys. 

 

3.    Pa gyngor, cefnogaeth neu gymorth yr ydych wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn wrth baratoi ar gyfer Brexit?

 

3..1. Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi ymgysylltu â’r sector drwy WCVA a’i gweithrediadau eraill a arweinir gan y trydydd sector ers canlyniad y refferendwm. Byddai WCVA yn fwy na pharod i hwyluso ymgysylltu pellach rhwng Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a’r sector. Rydym yn ymwybodol bod Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi ymgysylltu â grwpiau trydydd sector wrth gynllunio ar gyfer Brexit. 

 

3..2. Mae WCVA wedi bod yn rhan o drafodaethau ar lefel strategol, gan gynnwys drwy’r Grŵp Cynghori Allanol ar Brexit, a Gadeirir gan Mark Drakeford. Rydym hefyd wedi hwyluso trafodaeth rhwng cynrychiolwyr y trydydd sector a Llywodraeth Cymru ynghylch Brexit mewn cyfarfod diweddar o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Mae safbwynt Llywodraeth Cymru ar Fil yr UE (Ymadael), a’r diwygiadau a gyflwynwyd o ganlyniad, wedi rhoi eglurder ynghylch barn Llywodraeth Cymru ar lefel strategol.

 

3..3. Serch hynny, nid ydym yn ymwybodol o gyngor, cefnogaeth na chymorth uniongyrchol gan adrannau eraill o Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Brexit. Ychydig iawn o wybodaeth sydd wedi’i chyfathrebu ynghylch beth mae Brexit yn ei olygu mewn gwirionedd i Gymru.

 

4.    Pa gyngor neu gefnogaeth yr hoffech ei weld gan Lywodraeth Cymru a fydd yn eich helpu chi a'ch sector i baratoi ar gyfer Brexit?

 

4..1. Mae ar y sector angen deialog clir, agored a hygyrch ynglŷn ag i ba gyfeiriad rydym yn mynd. Mae’n hynod o anodd ymgysylltu â thrafodaeth Brexit os na wyddom beth rydym yn ymgysylltu ag ef.

 

4..2. Mae’r trydydd sector yn chwarae rôl hanfodol mewn cymdeithas yn hyrwyddo gwerthoedd positif, gan fod yn llais dros grwpiau mwy ymylol a datblygu atebion creadigol i rai o broblemau mwyaf cymdeithas.

 

4..3. Mae WCVA yn credu ei bod yn hanfodol bod y trydydd sector a chymdeithas sifil ehangach yn cael eu cynnwys yn llawn mewn dadleuon a phenderfyniadau ynghylch Brexit er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bawb. 

 

4..4. Enghraifft dda o gefnogi cyfranogiad yn y materion cymhleth hyn yw’r Cynulliad Dinasyddion ar Brexit, a hwylusir gan Involve, un o bartneriaid y prosiect Arloeswyr Llywodraeth Agored, a gynhelir gan WCVA yng Nghymru.   

 

5. Trafodaeth

 

5..1. Os dymunir, byddem yn fwy na pharod i drafod y pwyntiau hyn ymhellach neu unrhyw bwyntiau eraill mewn perthynas â’r ymgynghoriad hwn.

 

 

 



[1] Cyngor ar Bopeth Cymru. Chwefror 2017. Cyflwyniad: Information, advice and Brexit.  

[2] Ibid.

[3] Ibid. 

[4] Women’s Budget Group, If ‘Brexit means Brexit’ what will that mean for women?,

<http://wbg.org.uk/analysis/brexit-means-brexit-will-mean-women/> [cyrchwyd 7 Chwefror 2017].