Cyflwyniad

1.   Mae Cyngor Sir Penfro yn falch o’r cyfle i ymateb i’r Ymholiad hwn i’r mater pwysig hwn. Mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau cyhoeddus i ryw 123,000 o bobl sy’n byw yn Sir Benfro a nifer fawr o rai eraill sy’n ymweld â’r sir. Rydym yn gyfrifol am saith deg o ysgolion a 18,300 o ddisgyblion; darparu cymorth uniongyrchol i fwy na 5,000 o bobl fregus, ac rydym yn berchen ar fwy na 6,500 o gartrefi ac yn eu rheoli.  Mae’r Cyngor yn cynnal 2,500km o ffyrdd ac 800 o bontydd. Rydym yn darparu gwasanaethau trwyddedu, diogelu’r cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd, sy’n golygu gorfodi amrywiol gyfarwyddebau a rheoliadau gan yr UE.[1]  Mae ein swyddogaeth adfywio wedi ei chwyddo gan fuddsoddiad gan yr UE o ryw £73m er 1996[2] a hyn wedi caniatáu inni ddarparu seilwaith busnes a thwristiaeth yn ogystal â nifer o gyfleoedd hyfforddiant a mentrau i atal tlodi. 

 

2.   Mae Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor 2017/18 i 2020/21[3] yn nodi bod bwlch ariannu o £41.5m eisoes wedi cael sylw ar gyfer 2014/15 i 2016/17 ac y bydd bwlch ariannu o £45.3m, yn ôl y sefyllfa fwyaf tebygol, yn digwydd ar gyfer 2017/18 i 2020/21.

 

3.   Roedd adroddiad a ystyriwyd gan Gabinet y Cyngor ar gynllunio ar gyfer Brexit ym mis Hydref eleni[4] yn nodi y gallai dod ag aelodaeth y Deyrnas Gyfunol o’r UE i ben gael amrywiol effeithiau ar yr awdurdod lleol ac ar Sir Benfro. Roedd yr adroddiad hwnnw’n tynnu sylw at adroddiad[5] gan y Ganolfan Perfformiad Economaidd yn y London School of Economics, a oedd yn dweud y byddai GVA pob ardal awdurdod lleol ym Mhrydain yn gostwng mewn sefyllfa o Brexit ‘meddal’ neu ‘galed’.[6] 

 

4.   Yn naturiol ddigon bydd y Cyngor yn ofalus i sicrhau na fydd Brexit yn cymhlethu’r amgylchiadau lle disgwylir i lywodraeth leol ddarparu a gwella gwasanaethau - amgylchiadau sydd eisoes yn anodd.

 

Beth yw’r prif broblemau sy’n wynebu ein sector wrth i’r DG ddod allan o’r Undeb Ewropeaidd, a sut ddylai Llywodraeth Cymru ymateb i’r rhain?

5.   Roedd yr adroddiad i’n Cabinet y cyfeiriwyd ati uchod yn nodi nifer o ffactorau y teimlai swyddogion y Cyngor allai effeithio ar yr awdurdod lleol o ganlyniad i Brexit, er nad oedd y rhestr yn cynnwys popeth o bell ffordd.  Delir isod â chanlyniadau ariannol, a dyma’r canlyniadau nad ydynt o natur ariannol:

 

6.   Cynnydd yn y galw am rai gwasanaethau: Bydd mwy o ddiweithdra yn ei gwneud yn anos mynd i’r afael ag anweithdra economaidd a her pobl ifanc sy’n NEET. Mae’r tri mater hyn yn ychwanegu at eraill, megis tlodi, camddefnyddio sylweddau[7], cam-drin plant ac anifeiliaid, fandaleiddio a throseddu[8].  Mae’r rhain i gyd yn effeithio ar y gwasanaethau y mae’r Cyngor yn eu darparu, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol, Tai, Gwarchod y Cyhoedd ac Adfywio, ond nid y rheiny’n unig.  Yn ogystal, gall posibilrwydd o osod archwiliadau tollau gynyddu llwyth gwaith staff Iechyd Porthladdoedd, a gall y bydd angen rheoleiddio ffiniau ym maes awyr Llwynhelyg. Gall gwerth isel y bunt annog mwy o bobl i dreulio’u gwyliau gartref, yn ogystal â thwristiaid tramor.  Er y gallai hyn fod yn hwb i dwristiaeth, byddai hefyd yn cynyddu’r galw am wasanaethau’r Cyngor, e.e. sbwriel ychwanegol.

 

7.   Lleihau’r galw am rai gwasanaethau: Gall gweithwyr symudol sy’n methu cael gwaith yn y sir symud rywle arall (mae’r profiad yn Murco yn cefnogi’r ddamcaniaeth hon).  Os bydd teuluoedd yn eu dilyn gall fod llai o alw am leoedd ysgol. Gallai llai o wladolion yr UE yn y sir gael yr un effaith.

 

8.   Colli staff o’r UE: Mae nifer y staff EU27 yn isel, dim ond tri ar ddeg o bobol. Mae gan y Cyngor hefyd bump o bobl o Diriogaethau Tramor Prydain a Thiriogaethau sy’n Ddibynnol ar y Goron, a naw o weddill y byd. Mae rhai staff EU27 mewn swyddi proffesiynol.

 

9.   Disgwylir i hyn fod yn fwy o broblem i fusnesau y mae’r Cyngor yn dibynnu arnyn nhw i ddarparu gwasanaethau, er enghraifft, yn y sector gofal ac mewn adeiladu.

 

10.        Gellid ychwanegu at y rhain newidiadau posibl yn yr amgylchedd reoleiddio, er enghraifft, mewn iechyd amgylcheddol, gwarchod defnyddwyr, gwarchod y cyhoedd a chymorth y wladwriaeth. Byddai newidiadau felly yn golygu mwy o ofynion hyfforddiant.

 

11.        Un mater a bwysleisiwyd gan ein Harweinydd, y Cyng David Simpson, yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor ar 9 Hydref yw’r ansicrwydd mawr sy’n dod yn sgil Brexit ac anhawster gwneud unrhyw gynllunio ystyrlon mewn amgylchiadau felly. Yr hyn sy’n cymhlethu’r mater hwn yw’r perygl y gellid treulio amser gwerthfawr aelodau a swyddogion ar waith diangen, a’r duedd o’r herwydd i wneud dim, ond yn hytrach ganolbwyntio ar y gwaith dan sylw. 

 

12.        Yr hyn sydd ei angen yw rhyw ffordd i ddileu rhywfaint o’r ansicrwydd hwn er mwyn darparu cyfle lle gall ymatebion polisi gael eu ffurfio.  Gellir gwneud hyn drwy symleiddio nifer y posibiliadau yn y dyfodol yn nifer bach o sefyllfaoedd yn seiliedig  ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn y trafodaethau Brexit, datganiadau gan Lywodraeth San Steffan, y Comisiwn Ewropeaidd ac eraill, tystiolaeth economaidd-gymdeithasol ac ymchwil academaidd o safon uchel, ac yn y blaen.

 

13.        Y ffordd orau i nodi’r sefyllfaoedd hyn yw ar lefel Cymru gyfan, ac felly tasg yw hon y dylid ei hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rhaid i’r sefyllfaoedd hyn gael eu rhannu’n agored gyda sefydliadau eraill sy’n ceisio paratoi ar gyfer Brexit, ac yn fwyaf arbennig gyda llywodraeth leol. Dylai’r sefyllfaoedd hyn gynnwys canlyniad methu â tharo bargen, lle na chaiff dim byd ei gytuno, yn ogystal â’r canlyniad “Brexit caled” o adael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau am reolau WTO. 

 

14.        Dylid cydnabod hefyd y caiff y sefyllfaoedd hyn eu gloywi gydag amser wrth i fwy o wybodaeth fod ar gael. Ond byddant yn ddefnyddiol dim ond os cânt eu rhannu cyn gynted ag y byddant ar gael er mwyn caniatáu cymaint o amser â phosibl ar gyfer eu defnyddio. Ni fyddant o ddim budd os cânt eu dal yn ôl yn gyson nes daw rhagor o wybodaeth.

 

15.        Hoffem egluro hefyd y bydd Brexit yn dod â chyfnod o newid cyflym i lywodraeth leol ac i eraill.  Ni fydd y temtasiwn i gyflwyno newidiadau neu ad-drefniadau pellach o ddim help wrth reoli’r newidiadau sylfaenol a ddaw yn sgil Brexit.  Dylai Llywodraeth Cymru weithredu i sicrhau cymaint o sefydlogrwydd ag sy’n bosibl yn ystod y cyfnod hwn.

 

Pa gyngor, cefnogaeth neu gymorth rydych wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru hyd yma i baratoi ar gyfer Brexit?

16.        Ni allwn restru dim cyngor, cefnogaeth na chymorth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i’r Cyngor hwn i helpu ein paratoadau ar gyfer Brexit.

 

Pa ystyriaethau ariannol sydd wedi codi wrth i’r DG dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, a beth ddylid ei wneud i baratoi ar gyfer y rhain?

 

17.        Gan mwyaf nid yw ystyriaethau ariannol a ddisgwylir oherwydd Brexit wedi cael effaith hyd yma. Gan gyfeirio’n ôl at adroddiad y Cabinet, disgwylir mai dyma fydd y rhain:

 

18.        Llai o ariannu allanol: Ni fydd rhaglenni’r UE ar waith ar ôl 2021/22 a bydd arian o’r ffynonellau hyn yn dod i ben ar ôl mis Mawrth 2019. Er bod arian wedi’i addo yn ei le, gall hyn ddod drwy’r fformiwla Barnett ac felly fod lawer yn llai na’r arian drwy raglenni’r UE.  Efallai na ddaw’r arian arall hwn sydd wedi’i addo, neu efallai na fydd yn addas at ein hanghenion o ran cymhwyster a/neu dargedu neu mewn ffyrdd eraill.

 

19.        Mae’r pwynt hwn hefyd yn cynnwys rhagweld llai o ymwneud gan y sector preifat mewn cynigion adfywio os bydd hyder datblygwyr (fel y disgwyliwn) yn lleihau oherwydd bod costau’n codi yn y sector adeiladu.[9]  Yn Sir Benfro byddai hyn yn digwydd mewn ardal lle mae gwerth tai eisoes yn isel, sy’n golygu nad yw ein hardal yn ddeniadol i ddatblygwyr gan fod elw masnachol ar gael yn haws mewn mannau eraill.

 

20.        Rhagor o galedi:  Mae trosglwyddo swyddi a busnes (yn enwedig mewn gwasanaethau ariannol) i’r EU27 yn dechrau a gellir disgwyl iddo gyflymu.[10]  Mae busnesau eraill yn methu oherwydd y penderfyniad i dynnu allan o’r UE.[11]  Bydd hyn yn gwanhau sail ardrethi’r DG ac felly’n lleihau derbyniadau treth. Goblygiad hyn yw bod yn rhaid lleihau gwariant cyhoeddus a/neu gynyddu cyfraddau treth.

 

21.        Mwy o ddyledion drwg: Gellid disgwyl y bydd mwy o ddiweithdra, anweithgarwch economaidd mwy ystyfnig a mwy o fusnesau mewn trafferth yn golygu bod casglu dyledion gan y bobl hyn yn fwy anodd.

 

22.        Llai o incwm: Gall llai o hyder masnachol adlewyrchu llai o incwm o ffioedd cynllunio.  Gall ardrethi busnes hefyd ostwng, er mai anuniongyrchol yw’r effaith ar y Cyngor.

 

23.        Costau uwch: Ar ôl Brexit mae’n debyg y bydd tariffau a TAW ar bopeth sy’n cael ei fewnforio i’r DG, a hynny’n effeithio ar bob Cyngor drwy fod costau ynni, bwyd ac eitemau eraill yn uwch. 

 

24.        Mae’r gostyngiad sylweddol yng ngwerth cymharol sterling ers y Refferendwm wedi achosi canlyniadau uniongyrchol rydym eisoes yn gorfod eu rheoli.  Yn gyntaf, mae cost nwyddau wedi’u mewnforio yn cynyddu, gan gynnwys bwyd ac ynni, a hyn yn achosi chwyddiant mewn prisiau cyffredinol y mae’n rhaid talu amdano. Mae gosod y terfyn parhaus hwn ar dâl yn y sector cyhoeddus, o’i gyfuno â’r chwyddiant cyffredinol hwn mewn prisiau, yn golygu bod cyflogau ein gweithwyr yn gostwng mewn gwirionedd. Mae hyn yn effeithio ar ein gallu i gadw staff a’u hyfforddi. Yn olaf, mae’r gostyngiad yng ngwerth sterling wedi achosi i werth sterling rhaglenni’r UE gynyddu’n sylweddol.[12]  Mae Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru (WEFO) a Llywodraeth Cymru’n disgwyl i awdurdodau lleol ddarparu rhywfaint o’r arian ychwanegol hwn, ond i wneud hynny rhaid inni ddarparu arian cyfatebol, sy’n anodd dod o hyd iddo mewn cyfnod o gyni. 

 

25.        O ran y pwynt olaf hwn, byddem yn gwerthfawrogi’n fawr iawn fwy o hyblygrwydd a dealltwriaeth gan Weinidogion Llywodraeth Cymru yn eu disgwyliadau ar gyfer arian cyfatebol gan lywodraeth leol. Ar hyn o bryd, yn y rhaglen ‘Adeiladu ar gyfer y Dyfodol’, er enghraifft, disgwylir i lywodraeth leol ddod o hyd i 20% o leiaf o arian cyfatebol o ffynonellau heblaw Llywodraeth Cymru (gan gynnwys yr UE).  Nid yw mynnu pethau felly yn ddefnyddiol o gwbl, ac mae’n achosi rhwystrau diangen sy’n atal ymdrechion llywodraeth leol i ddod o hyd i arian cyfatebol i leihau problemau sy’n wynebu rhannau eraill o Lywodraeth Cymru.

 

Pa gyngor neu gefnogaeth yr hoffech ei weld gan Lywodraeth Cymru a fydd yn eich helpu chi a’ch sector i baratoi ar gyfer Brexit?

 

26.        Mae nifer o fathau o gymorth gan Lywodraeth Cymru y byddai’r Cyngor yn eu gwerthfawrogi. 

 

27.        Yn gyntaf gwyddom fod gwaith wedi’i wneud o fewn y portffolio Amgylchedd a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru i fapio nifer fach o sefyllfaoedd ar sail tystiolaeth i ddarparu cyd-destun lle gellir cynllunio ar gyfer Brexit. Ni wyddom a oes gwaith tebyg  wedi’i wneud gan rannau eraill o Lywodraeth Cymru. Byddai’n fuddiol tu hwnt i ni pe gellid rhannu’r gwaith hwn gyda llywodraeth leol er mwyn inni allu ychwanegu tystiolaeth leol ac felly hefyd gynllunio ein hymateb polisi i amgylchedd ar ôl Brexit.

 

28.        Yn ail, ac i ddatblygu’r thema hon o rannu gwybodaeth, byddai’n fuddiol iawn cael llwyfan cadarn, o bosibl system gwmwl, i alluogi rhannu’r wybodaeth hon rhwng llywodraeth ganol a llywodraeth leol yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill. Yn ehangach, byddai diweddariadau Brexit ar ffurf e-lythyr yn ddefnyddiol.

 

29.        Yn drydydd, hoffem weld unrhyw effeithiau rhanbarthol gwahaniaethol Brexit yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth ddyrannu arian yn ofodol i lywodraeth leol, boed drwy Grant Cynnal Refeniw neu ariannu adfywio ewyllysiol. Ni fydd dyrannu arian yn unig neu’n rhannol ar sail data hanesyddol yn deg a Chymru’n wynebu newid mor sydyn ac mor sylweddol yn ei hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol.

 

30.        Gobeithio y bydd y sylwadau byr hyn o ddiddordeb i’r Pwyllgor ac yn help i’r Ymholiad. Os oes unrhyw beth yn aneglur, neu os oes angen rhagor o wybodaeth, a fyddech cystal â chysylltu â Mr Gwyn Evans, Rheolwr Ariannu Ewropeaidd ac Allanol, Isadran Adfywio, Cyngor Sir Penfro.

 



[1] https://www.pembrokeshire.gov/performance-and-statistics

[2] Dadansoddiad ar gael ar gais

[3] https://www.pembrokeshire.gov.uk/finance-and-business

[4] http://mgenglish.pembrokeshire.gov.uk/documents/s43214/9%2010%2017%20Cabinet%20Brexit%20Update.pdf?LLL=0

[5] http://cep.lse.ac.uk/pubs/download/brexit10.pdf

[6] Wrth Brexit meddal golygir bod y DG yn parhau o fewn y Farchnad Sengl. Ystyr Brexit caled yw bod y DG yn dod dan reolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO). Fodd bynnag, rhaid nodi bod masnachu dan reolau WTO yn amodol ar drafodaethau llwyddiannus gydag aelodau eraill o WTO, ac felly nid yw’n awtomatig.  Gweler https://www.politico.eu/article/us-rounds-on-britain-over-food-quotas-as-post-brexit-trade-woes-deepen/ .

[7] https://www.12keysrehab.com/blog/drug-abuse-and-unemployment

[8] https://www.sciencedaily.com/releases/2010/10/101003081452.htm; https://www.nspcc.org.uk/globalassets/documents/research-reports/understanding-links-child-abuse-animal-abuse-domestic-violence.pdf

[9] http://discoverandinvest.com/development-finance/how-has-brexit-impacted-property-developers/

[10] http://www.independent.co.uk/news/business/news/city-of-london-brexit-plans-trasition-period-clarity-square-mile-government-catherine-mcguinness-a8017681.html; https://www.bloomberg.com/graphics/2017-brexit-bankers/

[11] http://news.sky.com/story/brexit-to-blame-as-machinery-rental-firm-hewden-nears-collapse-10662882

[12] Tal cynllunio WEFO ar gyfer rhaglenni ERDF ac ESF ym mis Medi 2016 oedd £1:€1.25 ond ym mis Medi 2017 roedd yn £1:€1.18. http://gov.wales/funding/eu-funds/2014-2020/programme-monitoring-committee/?lang=en.