R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn
dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer newid moddol i drafnidiaeth gynaliadwy? (OAQ51080)
2. Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gais Caerdydd i gynnal gemau yn ystod pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd UEFA yn 2020? (OAQ51086)
3. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i recriwtio a hyfforddi staff newydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru? (OAQ51084)W
4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â chynllunio'r gweithlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? (OAQ51081)W
5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prentisiaethau yng Nghymru? (OAQ51057)
6. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau trawma yn ne Cymru? (OAQ51085)
7. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa rôl y mae’r Prif Weinidog yn rhagweld i dai modiwlar yn y broses o gwrdd ag anghenion Cymru am gartrefi? (OAQ51074)W
8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yng Nwyrain De Cymru? (OAQ51063)
9. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd darpariaeth Dechrau'n Deg i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y pumed Cynulliad? (OAQ51082)
10. Vikki Howells (Cwm Cynon): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod tymor y Cynulliad hwn i wella profiadau defnyddwyr ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru? (OAQ51061)
11. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith diwygio lles yn Nhorfaen? (OAQ51083)
12. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd cyflogaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni? (OAQ51062)
13. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau tryloywder drwy Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000? (OAQ51078)
14. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Sut y bydd Llywodraeth Cymru'n paratoi ar gyfer y cyfleoedd sy'n deillio o ddiddymu'r tollau ar y croesfannau Hafren? (OAQ51079)
15. Nathan Gill (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr angen am dai yng Ngogledd Cymru? (OAQ51066)