Cynulliad Cenedlaethol Cymru / National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol / The Constitutional and Legislative Affairs Committee and the External Affairs and Additional Legislation Committee

Ymgynghoriad ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'i oblygiadau i Gymru / The European Union (Withdrawal) Bill and its implications for Wales

EUWB 23

Ymateb gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol  / Evidence from the Equality and Human Rights Commission

Cyflwyniad

 

1.        Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi derbyn pwerau gan y Senedd i roi cyngor ar oblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol deddfau a deddfau arfaethedig. Mae rôl ymgynghorol annibynnol y Comisiwn yn hollbwysig wrth sicrhau bod y newidiadau deddfwriaethol sy'n deillio o benderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd yn llwyr gyflenwi ymrwymiad Llywodraeth y DU i beidio ag atchwel ar amrediad o faterion ynghylch cyfiawnder cymdeithasol, gan gynnwys hawliau gweithwyr a'r mesurau diogelu yn Neddfau Cydraddoldeb 2006 a 2010 a deddfwriaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon.

 

Safle pedwar corff statudol y DU ar gyfer hawliau dynol a chydraddoldeb

 

2.        Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI), Comisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon a Chomisiwn Hawliau Dynol yr Alban (SHRC) yn unedig yn eu hymrwymiad i ddiogelu a gwella safonau cydraddoldeb a hawliau dynol ym mhob rhan o'r DU.

 

3.        Er bod gan y pedwar sefydliad flaenoriaethau penodol wedi'u haddasu i'w mandadau unigol, ar y cyd maent wedi nodi nifer o feysydd blaenoriaeth allweddol y dylid eu diogelu a'u hyrwyddo yn ystod ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Y rhain yw:

·      sicrhau craffu seneddol ar unrhyw newidiadau i fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol y DU;

·      cadw fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol y DU wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau cynnydd, nid atchweliad, o'r mecanweithiau presennol;

·      sicrhau bod y DU yn arweinydd byd-eang ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol a’i bod yn mabwysiadu arfer gorau sy'n gwella mesurau diogelu.

 

4.        Mae’r pedwar corff statudol ar gyfer hawliau dynol a chydraddoldeb yn y DU yn argymell y dylai diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol barhau i fod yn flaenoriaeth mewn trafodaethau rhwng y DU ac aelod-wladwriaethau eraill yr UE.[1]

 

Gweledigaeth gadarnhaol y Comisiwn ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain

 

5.        Ar yr adeg hon o newid cyfansoddiadol sylweddol, mae'n bwysig cyflwyno gweledigaeth gadarnhaol o'r math o wlad rydym am ei chael ar ôl i ni adael yr UE. Mae gan Brydain hanes hir o gynnal hawliau pobl, gan werthfawrogi amrywiaeth a herio anoddefgarwch. Bwriad cyngor y Comisiwn yw sicrhau bod y Bil yn cyflawni bwriad Llywodraeth y DU i gael sicrwydd a pharhad y gyfraith, trwy ddelio â newidiadau i'r gyfraith ar gydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys materion megis hawliau mamolaeth a rhieni, hygyrchedd ar gyfer pobl anabl, a mewnfudo, mewn ffyrdd sydd yn parchu sofraniaeth seneddol ac yn darparu ar gyfer atebolrwydd democrataidd priodol.

 

6.        Mae'r nodau hyn yn adlewyrchu bwriadau datganedig Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, cred y Comisiwn na fydd y Bil fel y'i drafftiwyd yn eu cyflawni ac, yn lle hynny, y bydd yn peryglu lleihau mesurau diogelu cyfreithiol pwysig sy'n sylfaenol i weledigaeth ac enw da'r DU fel gwlad sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb a hawliau dynol a chraffu priodol o ac atebolrwydd am newidiadau i ddeddfau. Rydym yn argymell, er mwyn cyflawni'r nodau hyn, bod angen pum newid i'r Bil:

·     diystyru'r defnydd o bwerau dirprwyedig i ddiwygio deddfau cydraddoldeb a hawliau dynol

·     cynnwys egwyddor o beidio â gwanhau cyfraith gydraddoldeb a hawliau dynol yn y Bil

·     cadw'r mesurau diogelu yn Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE

·     cyflwyno hawl cyfansoddiadol i gydraddoldeb

·     sicrhau bod y llysoedd yn ystyried cyfraith achos berthnasol yr UE lle mae amheuaeth wrth ddehongli neu gymhwyso'r gyfraith sy'n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol.

 

7.        Mae'r Comisiwn hefyd yn rhannu pryderon mwy cyffredinol a fynegwyd gan eraill ynghylch ehangder y pwerau dirprwyedig yn y Bil a lefel y craffu a ddarperir ar gyfer eu hymarfer. Lle bo hynny'n briodol, byddwn yn argymell newidiadau i wella'r agweddau hyn ar y Bil.

Goblygiadau i Gymru

8.        Mae'n bwysig ystyried datganoli'n llawn o ran y Bil UE (Ymadael), gyda Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru yn cael cyfle dyledus i lywio datblygiad y Bil.

 

9.        Mae cydraddoldeb a hawliau dynol, gyda rhai eithriadau, yn bynciau nad ydynt wedi'u datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly bydd Bil UE (Ymadael) y DU yn cael effaith uniongyrchol yng Nghymru ynghylch cydraddoldeb a hawliau dynol. Ymddengys mai ond ychydig o oblygiadau sydd gan y Bil sy’n benodol i Gymru mewn cysylltiad â'r meysydd hyn o’r gyfraith.

 

10.     Mae'r cyflwyniad hwn yn amlinellu safbwyntiau'r Comisiwn sy'n ymwneud â goblygiadau'r Bil ledled y DU, yn hytrach na chanolbwyntio'n unig ar faterion sy'n benodol i Gymru.

 

11.     Egwyddor arweiniol y Comisiwn yw bod rhaid i unrhyw newidiadau cyfansoddiadol:

·      gynnal a, lle mae’n bosibl gwella, diogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol ledled y DU,

·      darparu ar gyfer fframweithiau cyson ac ymarferol o gyfrifoldebau cyfreithiol a gweinyddol ac atebolrwydd am gydraddoldeb a hawliau dynol rhwng cyrff o fewn y DU.

5 Newid i'r Bil a argymhellir gan y Comisiwn

Diystyru’r defnydd o bwerau dirprwyedig i ddiwygio deddfau cydraddoldeb a hawliau dynol

 

Argymhelliad y Comisiwn

 

12.     Dylai'r Bil ddiystyru'n bendant y defnydd o bwerau dirprwyedig, gan gynnwys pwerau Harri VIII, i wneud newidiadau i ddeddfau cydraddoldeb a hawliau dynol.

Ein dadansoddiad

13.     Bydd y Bil, gyda rhai eithriadau pwysig, yn trosi corff cyfraith yr UE, fel y mae wrth i ni adael yr UE, i mewn i'r gyfraith ddomestig. Fodd bynnag, y modd mae'n gwneud hynny yw trwy ddirprwyo pwerau eang i Weinidogion y Llywodraeth i ddiwygio neu ddiddymu cyfraith yr UE a gedwir a chyfraith ddomestig arall, gan gynnwys deddfwriaeth sylfaenol. Ni fydd rheoliadau a wneir o dan y pŵer hwn yn destun yr un raddfa o graffu gan y Senedd a fyddai ei hangen ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol. Er mai'r pwrpas efallai yw hwyluso’r broses dechnegol o ymadael â'r UE, mae'r goblygiadau i sofraniaeth seneddol ac atebolrwydd democrataidd ar gyfer newidiadau posibl i ddeddfau sy'n ymwneud ag amrediad o faterion cyfiawnder cymdeithasol yn arwyddocaol.

 

14.     Mae'r Bil yn gwahardd y defnydd o’r pwerau hyn mewn cysylltiad â’r Ddeddf Hawliau Dynol 1998, ond nid mewn cysylltiad â deddfwriaeth arall sy'n diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol.

15.     Mae hyn yn golygu y gellid defnyddio pwerau dirprwyedig i ddiwygio Deddfau Cydraddoldeb 2006 a 2010, deddfwriaeth sylfaenol arall sy'n diogelu hawliau unigolion fel Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (sy'n diogelu mamau beichiog/mamau nyrsio ac absenoldeb mamolaeth ymysg hawliau eraill), neu is-ddeddfwriaeth bwysig a wneir o dan bwerau yn Neddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, fel y Rheoliadau Amser Gwaith 1998.

16.     Mae'n hanfodol bod y Senedd - a, lle bo'n berthnasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru - yn cadw'r gallu i gyflawni ei rôl gyfansoddiadol bwysig wrth graffu'n llawn ar newidiadau i fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol y DU. Mae hyn yn golygu mynnu bod newidiadau’n cael eu gwneud trwy ddeddfwriaeth sylfaenol yn hytrach na thrwy bwerau dirprwyedig newydd.

17.     Mae Papur Gwyn y Llywodraeth yn cydnabod y dylai'r pwrpas y gellir defnyddio pwerau dirprwyedig yn y Bil ar ei gyfer fod yn gyfyngedig. Mae'n datgan: "...Yn allweddol, byddwn ni’n sicrhau na fydd y pŵer ar gael lle mae'r Llywodraeth yn dymuno gwneud newid i bolisi nad yw wedi'i ddylunio i ddelio â diffygion mewn cyfraith sy'n deillio o'r UE, ac a gedwir, sy’n codi oherwydd ein bod yn ymadael â'r UE.”[2]

18.     Nid ydym o'r farn bod y Bil yn cynnwys digon o fesurau diogelu dros ymarfer pwerau dirprwyedig i gyflawni'r bwriad polisi hwn.[3] Felly, rydym yn argymell y dylai'r Bil ddiystyru'n bendant y defnydd o bwerau dirprwyedig i wneud newidiadau i ddeddfau cydraddoldeb a hawliau dynol. Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid gwneud unrhyw newidiadau trwy ddeddfwriaeth sylfaenol a byddai'n destun y craffu llawn gan y Senedd a ddaw o hyn.

19.     Mae'r Comisiwn yn argymell y dylid gwneud darpariaeth gyfatebol mewn cysylltiad ag unrhyw newidiadau i ddeddfau cydraddoldeb a hawliau dynol mewn meysydd datganoledig a ddygir ymlaen gan Lywodraeth Cymru o dan bwerau dirprwyedig yn y Bil.

Peidio â gwanhau cyfraith gydraddoldeb a hawliau dynol

Argymhelliad y Comisiwn

20.     Dylai'r Bil gyflwyno egwyddor glir na ddylai Brexit arwain at wanhau ein hawliau sylfaenol.

Ein dadansoddiad

21.     Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i barhau i ddiogelu a gwella'r hawliau sydd gan bobl yn y gwaith, a bod yr holl fesurau diogelu a gynhwysir yn Neddf Cydraddoldeb 2006, Deddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon yn parhau i fod yn berthnasol unwaith y bydd y DU wedi gadael yr UE.[4]

22.     Mae cyfyngu'r pŵer i "ddadwneud" hawliau cyfraith yr UE a gedwir heb graffu seneddol llawn trwy ddefnyddio pwerau dirprwyedig (fel rydym wedi ei gynnig uchod) yn gam cyntaf pwysig. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod y Bil yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU yn llawn, bydd y Comisiwn yn argymell Cymal Newydd i ofyn i Lywodraeth y DU, wrth iddi gynnig deddfwriaeth newydd cysylltiedig â Brexit, esbonio i'r Senedd sut mae'n adlewyrchu'r egwyddor na ddylai Brexit arwain at wanhau ein hawliau sylfaenol. Hefyd bydd yn sicrhau bod pwysigrwydd cadw a diogelu ein deddfau cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael ei ystyried yn benodol pan fydd unrhyw awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn gweithredu o dan y Bil.

23.     Bydd yr egwyddor yn anelu at sicrhau bod cyfraith sy'n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol:

·     yn cael ei chadw a'i diogelu;

·     yn parhau i adlewyrchu safonau rhyngwladol; a

·     yn cael ei chraffu’n effeithiol gan y Senedd.

24.     Yng nghyd-destun arwyddocâd cyfansoddiadol mawr y Bil hwn, mae gan y Senedd gyfle i wneud ymrwymiad clir i gadw ein fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol presennol. Er na all un Senedd rwymo'r un nesaf, yn y Bil hwn gall y Senedd roi neges glir i'r Llywodraethau presennol a rhai’r dyfodol y dylai cynigion deddfwriaethol a chamau eraill mewn cysylltiad ag ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r UE ddiogelu ein cydraddoldeb a'n hawliau dynol.

 

Sicrhau bod mesurau diogelu yn y Siarter yn cael eu cadw

         Argymhelliad y Comisiwn

25.     Dylid cadw Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE (y Siarter).

Ein dadansoddiad

26.     Mae'r Bil yn tynnu'r Siarter i ffwrdd o gyfraith ddomestig. Ar hyn o bryd mae'r Siarter yn darparu mesurau diogelu pwysig ar gyfer hawliau sy'n dod o fewn cwmpas cyfraith yr UE, megis hawliau ynghylch peidio â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.[5]

27.     Mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei bwriad 'na fydd tynnu'r Siarter i ffwrdd o gyfraith y DU yn effeithio ar yr hawliau sylweddol mae unigolion eisoes yn elwa ohonynt yn y DU.’[6] Fodd bynnag, bydd tynnu’r Siarter yn cael yr effaith hon. Mae hyn oherwydd bod rhai hawliau’r Siarter - er enghraifft, hawliau sy'n ymwneud â phlant a'r hawl annibynnol i beidio ag wynebu gwahaniaethu - heb unrhyw ddiogelwch cyfatebol yng nghyfraith y DU. Ymhellach, mae'r Siarter yn darparu unioniadau, gan gynnwys yr hawl i gael unioniad effeithiol a'r gallu i herio deddfau sy'n torri ar hawliau sylfaenol, a gollir os na fydd yn berthnasol bellach.

28.     Mae'r Llywodraeth wedi nodi bod llawer o'r hawliau a ddiogelir yn y Siarter hefyd i'w gweld yng nghytuniadau’r Cenhedloedd Unedig a chytuniadau rhyngwladol eraill, mae'r DU wedi'u cadarnhau. Fodd bynnag, er bod y Llywodraeth yn gorfod cynnal hawliau o'r fath yn y gyfraith ryngwladol, nid yw'r DU wedi ymgorffori cytuniadau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig. Mae hyn yn golygu nad oes ganddynt effaith uniongyrchol yn y gyfraith ddomestig ac nad ydynt yn darparu diogelwch sy'n cyfateb i'r hyn a ddarperir gan y Siarter. O ganlyniad, nid yw'r Bil yn rhoi effaith lawn i fwriad y Llywodraeth i ddiogelu hawliau presennol a ddiogelir ar hyn o bryd gan y Siarter.

29.     Rydym yn argymell y dylai'r hawliau hyn barhau i gael eu diogelu yn y gyfraith ddomestig, trwy gadw'r Siarter yng nghyfraith y DU. Nid yw llysoedd y DU wedi profi anhawster wrth gymhwyso'r Siarter i achosion domestig sy'n dod o fewn cwmpas cyfraith yr UE. Ein hargymhelliad yw y dylent allu parhau i wneud hynny yn yr un ffordd, gan roi sylw i derfynau cymhwysedd yr UE yn union cyn y "diwrnod ymadael”.

 

 

Sicrhau bod y DU yn arweinydd byd-eang mewn cydraddoldeb a hawliau dynol: hawl gyfansoddiadol i gydraddoldeb

Argymhelliad y Comisiwn

30.     Cyflwyno hawl gyfansoddiadol i gydraddoldeb, yn gymwys ledled y DU, ar wyneb y Bil.[7]

Ein dadansoddiad

31.     Byddai hawl gyfansoddiadol i gydraddoldeb yn helpu diogelu a hyrwyddo hawliau cydraddoldeb domestig wrth ymadael â’r UE a sicrhau bod Prydain yn parhau i fod yn arweinydd byd-eang i ddiogelu’r hawl i driniaeth deg a chyfartal.

32.     Ar hyn o bryd mae llawer o'n deddfwriaeth cydraddoldeb domestig yn cael ei ategu gan gyfraith yr UE. Mae hyn yn golygu na ellir dileu hawliau a warentir gan gyfraith yr UE, er enghraifft, yr hawl i gyflog cyfartal ar gyfer gwaith o werth cyfartal, diogelu gweithwyr beichiog, a llawer o faterion eraill, tra bod y DU yn parhau i fod yn rhan o'r UE. Bydd gadael yr UE yn arwain at golli’r sylfaen hon i hawliau cydraddoldeb.

33.     Ar hyn o bryd mae cyfraith yr UE hefyd yn darparu hawl annibynnol i beidio ag wynebu gwahaniaethu o dan Erthygl 21 y Siarter.

34.     Mae'r Bil yn gyfle i'r Senedd ddisodli'r gyfraith UE hon â gwarant y DU ei hunan o driniaeth gyfartal, a sicrhau bod hawl annibynnol i beidio gwahaniaethu yn cael ei chynnwys yn y gyfraith ddomestig ar ôl i ni adael yr UE.

35.     Byddwn ni’n argymell Cymal Newydd i gyflwyno hawl gyfansoddiadol i gydraddoldeb, a fyddai’n mwynhau’r un statws cyfansoddiadol â hawliau a ddiogelir o dan y Ddeddf Hawliau Dynol a byddai'n orfodadwy yn yr un modd. Prif nodau'r hawl yw:

·      galluogi deddfau a chamau gweithredu'r wladwriaeth i gael eu profi yn ôl ein hawl i gydraddoldeb a pheidio â dioddef gwahaniaethu.[8]

·      hwyluso craffu seneddol priodol ar ddeddfau newydd trwy fynnu bod unrhyw Weinidog sy’n cyflwyno Bil newydd yn datgan a yw'r Bil yn gydnaws â'r hawl gyfansoddiadol i gydraddoldeb ai peidio. Byddai hwn yn offeryn pwysig wrth sicrhau bod gan seneddwyr gyfiawnhad polisi pendant y Llywodraeth i lywio dadleuon a byddai hefyd yn darparu safon ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth gan bwyllgorau seneddol.

 

36.     O dan yr hawl gyfansoddiadol i gydraddoldeb, bwriedir y byddai’n rhaid i lywodraethau yn y DU, yr Alban a Chymru roi datganiad i'w seneddau bod deddfwriaeth yn cydymffurfio â "hawl i gydraddoldeb" yn ogystal â chydymffurfio â hawliau dynol. Byddai hyn yn gofyn am ddiwygiadau i'r statudau datganoli.

37.     Yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr UE, gallai Llywodraeth Cymru gymryd cyfleoedd pellach i ddatblygu cydraddoldeb a hawliau dynol, gan sicrhau mesurau diogelu penodol. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru’n gallu ymgorffori cytuniadau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig yn neddfwriaeth a pholisi Cymru. Mae wedi gwneud hyn i ryw raddau, yn fwyaf nodedig ynghylch Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Gallai Llywodraeth Cymru ystyried ymgorffori egwyddorion hawliau dynol yn bendant i mewn i’r broses o gyflenwi gwasanaethau swyddogaethau datganoledig, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a llywodraeth leol.

Sicrhau bod y DU yn cyd-fynd â datblygiadau mewn cyfraith gydraddoldeb a hawliau dynol

    Argymhelliad y Comisiwn

38.     Os oes amheuaeth ynghylch adeiladu neu gymhwyso unrhyw ddeddf sy'n ymwneud â chydraddoldeb neu hawliau dynol, dylai'r llysoedd a'r tribiwnlysoedd ystyried unrhyw gyfraith achos berthnasol yr UE.

Ein dadansoddiad

39.     Mae cyfraith achosion yr UE wedi cael effaith bwysig ar hawliau cydraddoldeb yn y DU. Mae dehongliad Llys Ewrop o'r Cyfarwyddebau Cydraddoldeb wedi ymestyn diogelwch ar y lefel ddomestig, gan gynnwys wrth ddibynnu ar y Siarter. Er enghraifft, nid yw bellach yn gyfreithlon i godi premiymau yswiriant gwahanol ar ddynion a menywod oherwydd yr achos Test-Achats.[9]

40.     Er bod y Bil yn rhoi disgresiwn i lysoedd roi sylw i gyfraith yr UE yn y dyfodol, nid yw'n rhoi unrhyw arwydd o bryd y gallai fod yn briodol gwneud hynny. Mae’r Arglwydd Neuberger, sy'n ymddeol fel Llywydd y Goruchaf Lys, wedi dweud y byddai'n gobeithio ac yn disgwyl i'r Senedd esbonio mewn statud beth ddylai barnwyr ei wneud ynghylch penderfyniadau Llys Ewrop ar ôl Brexit.

41.     Byddwn ni’n argymell gwelliant i helpu sicrhau, lle bo'n briodol, bod cyfraith y DU yn cyd-fynd â datblygiadau mewn cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol yn yr UE. Byddai'n gwneud hynny trwy ddarparu, os oes amheuaeth ynghylch adeiladu neu gymhwyso unrhyw ddeddf sy'n ymwneud â chydraddoldeb neu hawliau dynol, y dylai'r llysoedd a'r tribiwnlysoedd ystyried unrhyw gyfraith achos berthnasol o’r UE, er, wrth gwrs, na fyddai’n ofynnol i’w dilyn.

Ynglŷn â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Mae'n gweithredu'n annibynnol i annog cydraddoldeb ac amrywiaeth, cael gwared ar wahaniaethu anghyfreithlon, a diogelu a hyrwyddo hawliau dynol. Mae'n cyfrannu at wneud a chadw Prydain yn gymdeithas deg lle mae gan bawb, ta waeth am eu cefndir, gyfle cyfartal i gyflawni eu potensial. Mae'r Comisiwn yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Mae'n annog cydymffurfiaeth â Deddf Hawliau Dynol 1998 ac fe'i hachredir gan y Cenhedloedd Unedig fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol 'statws A'. Gallwch ddysgu rhagor am waith y Comisiwn yn: www.equalityhumanrights.com



[1] Mae cynllun pum pwynt yr EHRC ar gael yma, mae argymhellion llawn ECNI ar gael yma, mae’r cyfarwyddyd NIHRC ar gael yma, mae datganiad sefyllfa'r SHRC ar gael yma

[2] Deddfu ar gyfer ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd, Mawrth 2017 yn 3.17

[3] Er enghraifft, mae Cymal 9 yn darparu y gall Gweinidog, trwy reoliadau, wneud unrhyw ddarpariaeth mae'r Gweinidog yn ei ystyried yn briodol at ddibenion gweithredu'r cytundeb ymadael.

 

[4]Deddfu ar gyfer ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd, Mawrth 2017 yn 2.17 (Y Papur Gwyn).

[5] Er enghraifft trwy warantu hawl i gael unioniad effeithiol o dan Erthygl 47 o'r Siarter

[6] Y Papur Gwynyn2.25

[7] Mae'r Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb wedi gwneud argymhelliad tebyg: Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin, Menywod a Chydraddoldebau, Ensuring strong equalities legislation after the EU exit, 22 Chwefror 2017 ym mhara 43.

[8]Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn darparu mecanwaith i'r llys adolygu cydymffurfiad deddfau â hawliau sylfaenol a gwneud datganiad o anghydnawsedd os yw'n briodol (a3 a 4). Byddai'r darpariaethau hyn yn gymwys yn yr un modd â'r hawl gyfansoddiadol i gydraddoldeb. Nid yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu mecanwaith cyfatebol (gweler adran 29 ac Atodlenni 3, 22 a 23). Am y rheswm hwn, yn aml dygir hawliadau sy’n dibynnu ar Erthygl 14 Confensiwn Hawliau Dynol Ewrop, ond mae hyn ond yn gymwys i wahaniaethu wrth fwynhau hawliau'r Confensiwn.

[9] Association Belge des Consommateurs Test-Achats ASBL v Cyngor y Gweinidogion (C-236/09).