Ymgynghoriad ar y Bil Awtistiaeth (Cymru) arfaethedig

Cyflwyniad

01. Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn amlinellu rhai o’r prif faterion y bydd y Bil yn ceisio mynd i’r afael â nhw. Cyflwynir nifer o gwestiynau ymgynghori yn y ddogfen ar gyfer yr holl bartïon â diddordeb. Er eglurder, rhestrir yr holl gwestiynau ar ddiwedd y ddogfen hon hefyd.

02. Gallwch ateb yr holl gwestiynau, neu dim ond rhai ohonynt.

Cefndir

03. Mae llawer o waith wedi ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf i wella’r gwasanaethau a’r gefnogaeth i bobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Roedd Cynllun Gweithredu Strategol arloesol Llywodraeth Cymru ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, a gyhoeddwyd yn 2008, yn sicrhau bod seilwaith ar gyfer awtistiaeth ym mhob ardal awdurdod lleol, gyda chydlynwyr a strategaethau lleol, a chydlynydd cenedlaethol ar gyfer Cymru.  Gwnaeth y cynllun hwn ehangu capasiti o ran ymchwil, codi ymwybyddiaeth o gyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth a sicrhau bod amrywiaeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael i bobl awtistig, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol. Darparwyd arian ychwanegol i bob awdurdod lleol, ond dim ond hyd at fis Ebrill 2015 y cafodd yr arian hwn ei neilltuo.

04. Roedd y Cynllun Gweithredu Strategol hefyd yn cydnabod yr angen am wasanaethau diagnostig gwell i blant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth. Arweiniodd y gwaith o godi ymwybyddiaeth at gynnydd yn y galw am ddiagnosis. Fodd bynnag, mewn llawer o ardaloedd, mae’r amseroedd aros am asesiad yn hir – blynyddoedd lawer mewn rhai achosion.

05. Mae diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer 2016-20 yn cyflwyno rhagor o ddiwygiadau, gan gynnwys gwelliannau i wasanaethau diagnostig a ddylai arwain at amseroedd aros byrrach, datblygu gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol, a mesurau i wella addysg a chyflogaeth i bobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth.

06. Fodd bynnag, er bod y Cynllun Gweithredu Strategol wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth, mae’r camau a gymerwyd i’w weithredu wedi bod yn anghyson ac mae problemau yn parhau. Mae gwerthusiad annibynnol o’r Cynllun Gweithredu Strategol, a gwaith gan grwpiau gorchwyl a gorffen ar awtistiaeth, wedi nodi’r bylchau sy’n parhau mewn gwasanaethau, yn enwedig o ran diagnosis, y cyfnod pontio wrth ddod yn oedolyn, cymorth cyflogaeth a mynediad at wybodaeth am wasanaethau.

07. Mae llawer o bobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth a’u teuluoedd nad ydynt yn cael y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt o hyd i gyflawni eu potensial. Er bod arfer da a gwasanaethau ymatebol i’w gweld mewn rhai ardaloedd, mae darpariaeth yn parhau’n anghyson ledled Cymru gan fod y strategaeth yn canolbwyntio ar y sefyllfa leol. At hynny, mae natur wirfoddol y seilwaith awtistiaeth lleol yn golygu bod y strategaeth yn fwy effeithiol mewn rhai ardaloedd nag eraill. Mae angen sicrhau bod pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth yn cael cefnogaeth o ansawdd ble bynnag y maent yn byw.

Yr angen am strategaeth Awtistiaeth barhaus

08. Mae Cynllun Gweithredu Strategol Llywodraeth Cymru yn parhau i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, sydd i’w groesawu. Serch hynny, mae angen gwelliant parhaus, a thu hwnt i gyfnod y Cynllun Gweithredu Strategol diwygiedig ynghylch awtistiaeth (2016-20) mae mwy o risg na fydd awtistiaeth yn parhau i gael ei flaenoriaethu.

09. Yn fy mhrofiad i, mae sicrhau bod dyletswyddau cyfreithiol ar wasanaethau cyhoeddus a gorfodi iddynt adrodd yn ôl ar eu gwaith yn hanfodol i sicrhau:

- bod gwasanaethau’n deall pa gamau y dylent eu cymryd i gefnogi plant ac oedolion awtistig yn effeithiol;

- bod momentwm ar gyfer gwella ddim yn cael ei golli; a,

- bod gwasanaethau’n atebol am y gwelliannau y maent yn eu gwneud.

10. Mae deddfwriaeth ar waith yn Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r llywodraethau yno gyhoeddi strategaeth a chanllawiau ynghylch awtistiaeth ar gyfer oedolion, ac i blant ac oedolion yn y drefn honno. Ar hyn o bryd, mae Gweriniaeth Iwerddon yn trafod ei deddfwriaeth ei hun ynghylch awtistiaeth.

11. Credaf y dylai deddfwriaeth ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddatblygu, cyhoeddi ac adolygu strategaeth awtistiaeth genedlaethol yn achlysurol, gan ymgynghori nid yn unig â chyrff cyhoeddus perthnasol, ond hefyd gyda phobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth a phobl eraill y mae’r cyflyrau hyn yn effeithio arnynt, fel rhieni, aelodau eraill o’r teulu a gofalwyr. Byddai hyn yn helpu i sicrhau elfen o sefydlogrwydd a chynaliadwyedd mewn gwasanaethau gofal a chymorth i bobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth ac yn sicrhau ffocws parhaus ar eu hanghenion ni waeth beth fo’r hinsawdd ariannol neu wleidyddol.

12. Ar hyn o bryd, nid wyf yn credu y dylai deddfwriaeth o reidrwydd ddiffinio manylion strategaeth o’r fath y tu hwnt i’r amcanion a nodwyd gennyf ar ei chyfer, ond dylai’r strategaeth ganiatáu digon o hyblygrwydd i ddarparu ar gyfer anghenion y dyfodol.

13. Credaf y dylai deddfwriaeth hefyd ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi, ac adolygu yn achlysurol, ganllawiau statudol i awdurdodau lleol a chyrff y GIG ar eu dyletswyddau o ran gweithredu’r strategaeth a’r trefniadau ar gyfer gwasanaethau lleol. Dylai’r Bil gynnwys rhai meysydd a materion allweddol y bydd y canllawiau yn eu cwmpasu, er ni ddylai’r rhestr hon fod yn rhestr gyflawn. Dylai fod yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff y GIG weithredu yn unol â’r canllawiau statudol.

Cwestiynau

a)        Beth yw eich barn ar effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer gwella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru?

b)        A ydych chi’n credu y dylai Cymru gael deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth awtistiaeth genedlaethol i blant ac oedolion a rhoi canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff y GIG ar weithredu’r strategaeth hon?

c)         I ba raddau o fanylder yn eich barn chi y dylid diffinio cynnwys strategaeth awtistiaeth genedlaethol mewn deddfwriaeth?

d)        Faint o waith ymgynghori (os o gwbl) yn eich barn chi y dylai fod yn ofynnol mewn deddfwriaeth i Lywodraeth Cymru ei wneud wrth ddatblygu, adolygu a diweddaru strategaeth awtistiaeth genedlaethol?

e)        A ydych yn credu y dylai deddfwriaeth ddiffinio pa mor aml y dylid adolygu a diweddaru strategaeth awtistiaeth genedlaethol? Os felly, pa mor aml y dylid ei hadolygu a’i diweddaru?

f)         A oes gennych unrhyw farn ar sut y dylai Llywodraeth Cymru fonitro pa gynnydd sy’n cael ei wneud a sut y dylai gwasanaethau cyhoeddus fod yn atebol am y camau y maent yn eu cymryd i gefnogi pobl awtistig a’u teuluoedd?

Gofynnaf ichi egluro’ch atebion os yn bosibl.

Eglurder ar lwybrau i ddiagnosis

14. Mewn sawl rhan o Gymru, nid oes gwybodaeth glir ar gael am lwybrau i ddiagnosis. Mae cael diagnosis o gyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i lawer o unigolion a’u teuluoedd, a gwell dealltwriaeth o’r anawsterau y maent yn eu hwynebu. Mae’n allweddol hefyd i gael mynediad at wasanaethau addas.

15. Credaf y byddai cadarnhau mewn deddfwriaeth yr angen am lwybr clir i ddiagnosis, ar gyfer pob ardal bwrdd iechyd lleol ac awdurdod lleol, yn sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad at asesiad diagnostig yn brydlon ni waeth ble rydych yn byw na beth yw eich oedran. Byddai hyn hefyd yn galluogi byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i fod yn atebol yn ôl y gyfraith am ddarparu llwybr clir i ddiagnosis.

Cwestiynau

g)        Beth yw eich barn ar ba mor hawdd yw hi i gael mynediad at asesiad diagnostig ble rydych chi’n byw? 

h)        Pa heriau allweddol o ran sut mae’r broses ddiagnostig yn gweithio yr hoffech chi i’r ddeddfwriaeth fynd i’r afael â nhw?

i)          A ydych yn credu y dylai fod yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru gyhoeddi gwybodaeth am y llwybr i ddiagnosis i blant ac oedolion sy’n byw yn eu hardaloedd?

Gofynnaf ichi egluro’ch atebion os yn bosibl.

Darparu gwasanaethau

16. Yn ôl yr arfer, oherwydd y ffordd y mae gwasanaethau wedi’u trefnu mewn timau, mae pobl awtistig yn debygol o ddod mewn cysylltiad â naill ai tîm anabledd dysgu neu dîm iechyd meddwl os ydynt yn mynd ar ofyn gwasanaeth iechyd/gofal lleol am gymorth. Fodd bynnag, er bod llawer o oedolion awtistig hefyd ag anabledd dysgu neu yn aml yn profi salwch meddwl, nid yw awtistiaeth ei hun yn anabledd dysgu nac yn broblem iechyd meddwl. Felly, yn aml caiff oedolion awtistig, yn enwedig y rhai nad oes ganddynt anabledd dysgu na phroblem iechyd meddwl, eu gwrthod gan wasanaethau neu eu hanfon o un tîm i’r llall heb fod unrhyw dîm yn cymryd cyfrifoldeb dros asesu a diwallu eu hanghenion. Yn aml, gall hyn olygu bod strwythurau gwasanaethau lleol yn eu hatal rhag cael mynediad at gymorth er bod lefel eu hangen yn golygu eu bod yn gymwys i gael y cymorth hwnnw. Fel rhan o fynd i’r afael â’r mater hwn, byddwn am ei gwneud yn gwbl glir i wasanaethau lleol na ddylid atal pobl rhag cael cefnogaeth ar sail eu galluedd deallusol.

17. Fy mwriad yw i Fil Awtistiaeth (Cymru) sicrhau bod byrddau ac awdurdodau lleol yn deall anghenion penodol plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth ac yn darparu ystod holistig o wasanaethau i’w diwallu. 

18. Er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol, mae angen i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol wybod beth yw maint yr angen yn eu hardaloedd.  O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae dyletswydd arnynt i asesu lefelau’r angen am wasanaethau gofal a chymorth yn eu hardaloedd a nodi ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r angen hwnnw. Un o themâu craidd yr asesiadau poblogaeth hyn yw anabledd dysgu/awtistiaeth. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol lunio cofrestrau o blant ag anableddau yn eu hardaloedd, a gallant wneud hynny ar gyfer oedolion hefyd.

19. Fodd bynnag, mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod yna amrywiad sylweddol yng nghwmpas a chywirdeb y wybodaeth a gesglir ar hyn o bryd. Mae’n bwysig bod unrhyw asesiad o’r boblogaeth yn nodi ac yn cydnabod anghenion unigryw pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth. Mae yna gamsyniad eisoes ymhlith gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol y bydd gan bobl awtistig y mae angen cymorth arnynt anabledd dysgu hefyd. Felly, heb gofnodi awtistiaeth ar wahân, mae perygl y bydd anghenion y rhai sydd ar y sbectrwm nad oes ganddynt anabledd dysgu yn cael eu hanwybyddu. Rwyf am sicrhau na fydd hyn yn digwydd a galluogi byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r bylchau yn y gwasanaethau lleol a ddarperir.

20. Rwy’n bwriadu i’r Bil hwn osod gofyniad ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i sefydlu arferion casglu data o ran niferoedd ac anghenion y plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth fel y gall ardaloedd lleol gynllunio gwasanaethau yn unol â hynny.

Cwestiynau

j)          Beth yw eich barn ar ddigonolrwydd y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd i ddiwallu anghenion pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth yng Nghymru?

k)        Bydd y ddeddfwriaeth yr wyf yn ei chynnig yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau statudol a fyddai’n rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ynghylch sut y dylent ddarparu gwasanaethau i blant ac oedolion awtistig a’u teuluoedd.

A ydych yn cytuno y dylai’r ddeddfwriaeth hon ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi canllawiau statudol? 

Os felly, hoffwn glywed eich barn ar ba ofynion y dylai’r canllawiau hyn eu rhoi ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol.

Mae’r rhestr ganlynol yn nodi’r meysydd yr wyf yn credu y dylid eu cynnwys yn y canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Gofynnaf ichi nodi:

- p’un a ydych yn cytuno y dylid cynnwys y rhain; a,

- pha feysydd eraill y dylid eu cynnwys.

                             i.        Darparu gwasanaethau perthnasol er mwyn rhoi diagnosis o gyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth mewn plant ac oedolion.

                           ii.        Y ffaith na ellir gwrthod asesu cymhwysedd plant ac oedolion ar gyfer gwasanaethau perthnasol ar sail galluedd deallusol.

                          iii.        Cynllunio mewn perthynas â darparu gwasanaethau perthnasol i bobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth wrth iddynt symud o fod yn blant i fod yn oedolion.

                          iv.        Gwaith cynllunio arall mewn perthynas â darparu gwasanaethau perthnasol i blant ac oedolion.

                            v.        Trefniadau lleol ar gyfer arweinyddiaeth mewn perthynas â darparu gwasanaethau perthnasol i blant ac oedolion sydd â chyflyrau o’r fath.

l)          A ydych yn credu y dylid gosod gofyniad ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i sefydlu a chynnal arferion casglu data o ran niferoedd ac anghenion y plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth fel y gall ardaloedd lleol gynllunio gwasanaethau yn unol â hynny?

m)      A oes gennych farn ar sut y gellir casglu data yn fwyaf effeithiol ar niferoedd ac anghenion y plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth mewn gwahanol ardaloedd byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol yng Nghymru?

Gofynnaf ichi egluro’ch atebion os yn bosibl.

Hyfforddiant

21. Rwy’n bwriadu i’r Bil Awtistiaeth (Cymru) sicrhau bod staff allweddol sy’n gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth yn cael hyfforddiant priodol ynghylch ymwybyddiaeth o awtistiaeth.

22. Rwy’n cydnabod bod nifer sylweddol o staff sy’n gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth eisoes wedi cael hyfforddiant drwy fentrau a arweiniwyd gan Lywodraeth Cymru.

23. Rwyf hefyd yn cydnabod bod angen hyblygrwydd o ran cynnwys yr hyfforddiant hwn.

24. Er hynny, credaf y gallai deddfwriaeth hyrwyddo cysondeb o ran y canlyniadau sy’n deillio o hyfforddiant ledled pob rhanbarth; darparu dull clir ar gyfer monitro’r gwaith o sicrhau a chynnal safonau; a sicrhau bod hyfforddiant o’r fath yn cael ei gynnig ar sail barhaus ac yn barhaol.

25. Rwy’n bwriadu pennu dull sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn y canllawiau ar ofynion hyfforddi er mwyn rhoi hyblygrwydd o ran sut y darperir hyfforddiant tra’n sicrhau gwell ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymhlith staff perthnasol.

Cwestiynau

n)        A oes gennych farn ar gwmpas ac effeithiolrwydd hyfforddiant yng Nghymru ar hyn o bryd ar gyfer staff allweddol sy’n gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth?

o)        A ydych yn credu y dylai deddfwriaeth nodi’r canlyniadau y dylid eu cyflawni drwy hyfforddiant, gan ddarparu mwy o hyblygrwydd o ran cynnig hyfforddiant o’r fath?

Dull amgen fyddai nodi mewn deddfwriaeth y dylai staff allweddol sy’n gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth gael hyfforddiant ar awtistiaeth.

Gofynnaf ichi egluro’ch atebion os yn bosibl.

Mewn swydd

26. Gwnaeth Cynllun Gweithredu Strategol Llywodraeth Cymru gydnabod bod angen gwneud gwaith i hyrwyddo cyflogaeth ymhlith pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth ac i roi cymorth i unigolion ynghylch cyflogaeth. Roedd Llysgennad Cyflogaeth Awtistiaeth yn codi ymwybyddiaeth ac yn darparu hyfforddiant ar awtistiaeth i gyflogwyr a darparwyr cymorth cyflogaeth hyd at fis Ebrill 2016.

27. Serch hynny, mae cyfraddau cyflogaeth ymhlith pobl ifanc ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth yn parhau i fod yn llawer is na chyfraddau’r boblogaeth yn gyffredinol ac mae angen gwaith pellach i fynd i’r afael â hyn.

28. Mae Cynllun Gweithredu Strategol diwygiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-20 yn gwneud diwygiadau pellach o ran gwella addysg a chyflogaeth i bobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith ar raglen ‘Ar y Blaen’, sef y rhaglen cymorth cyflogaeth i bobl ifanc, cymryd camau i wneud Llywodraeth Cymru yn gyflogwr sy’n gyfeillgar i bobl sydd ag awtistiaeth, a gweithio gyda chyflogwyr a staff cymorth i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth.

Cwestiynau

p)        A oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer camau ychwanegol y gellid eu cymryd drwy ddeddfwriaeth i wella cyfraddau cyflogaeth pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth (gan gofio nad oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud newidiadau i gyfraith cyflogaeth)?

Gofynnaf ichi egluro’ch atebion os yn bosibl.

Y diffiniad o awtistiaeth

29. Rwy’n bwriadu i’r Bil hwn fynd i’r afael â sbectrwm eang o anghenion y bobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth yng Nghymru. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol mewn rhannau eraill o’r DU wedi diffinio awtistiaeth mewn gwahanol ffyrdd: mewn rhai achosion, mae’n cael ei nodi ar wyneb y Ddeddf, mewn eraill mae wedi’i nodi mewn strategaeth neu mewn canllawiau. Fy null i fyddai ei gwneud yn ofynnol i ddiffiniad o awtistiaeth gael ei gynnwys yn y strategaeth awtistiaeth, fel y mae ar hyn o bryd, ac i hyn gael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd yn ôl yr angen.

Cwestiynau

q)        A ydych yn credu y dylai diffiniad o anhwylder ar y sbectrwm awtistig:

- gael ei gynnwys ar wyneb y ddeddfwriaeth (sy’n ei gwneud yn fwy anodd i’w newid yn y dyfodol);

- gael ei gynnwys mewn strategaeth awtistiaeth;

- gael ei gynnwys yn y canllawiau; neu,

- beidio â chael ei ddatgan o gwbl?

Gofynnaf ichi egluro’ch atebion os yn bosibl.

Canlyniadau anfwriadol

30. Byddaf yn cynnal ystod o asesiadau effaith ar gyfer fy nghynigion wrth i mi ddatblygu’r Bil i wneud yn siŵr nad yw’n cael effaith andwyol ar bobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth, pobl nad ydynt ar y sbectrwm awtistiaeth, staff sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau awtistiaeth, sefydliadau neu ardaloedd eraill mewn modd anghymesur.

Cwestiynau

r)         A allwch nodi unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl a allai ddigwydd o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth hon? Os felly, pa gamau y gellid eu cymryd i fynd i’r afael â nhw?

Gofynnaf ichi egluro’ch atebion os yn bosibl.

Costau

31. Mae’r rhan fwyaf o fathau o ddeddfwriaeth yn arwain at gostau o ryw fath. Credaf fod costau posibl sy’n gysylltiedig â’r Bil hwn yn debygol o godi yn y meysydd a ganlyn:

- casglu gwybodaeth berthnasol a datblygu strategaeth awtistiaeth genedlaethol;

- adolygu’r strategaeth yn achlysurol, cyhoeddi canllawiau a rhoi gwybod am newidiadau i ddeddfwriaeth;

- dyletswyddau ychwanegol ar awdurdodau lleol a chyrff y GIG i weithredu’n unol â chanllawiau;

- creu a chynnal arferion i hwyluso’r gwaith o gasglu data ar nifer ac anghenion yr oedolion a phlant sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth; a,

- hyfforddi staff allweddol.

32. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 eisoes yn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sefydlu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth i gefnogi pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Credaf y gellid ymestyn hyn i gynnwys cyhoeddi gwybodaeth am wasanaethau yn benodol ar gyfer pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth fesul ardal awdurdod lleol heb fawr ddim o gost ychwanegol os o gwbl. Mae’r diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol diwygiedig ar gyfer 2016-2020 ynghylch anhwylderau ar y sbectrwm awtistig hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ddarparu cyngor a chymorth i bawb sydd ag awtistiaeth, gan gynnwys teulu a gofalwyr, fel rhan o’r gwasanaeth integredig newydd ar gyfer awtistiaeth.[1] Eto, credaf y gellid ymestyn hyn drwy’r Bil i gynnwys codi ymwybyddiaeth gan fyrddau iechyd lleol am fawr ddim o gost ychwanegol os o gwbl.

Cwestiynau

s)         A ydych yn credu y byddai’r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn arwain at unrhyw gostau sylweddol, y tu hwnt i’r costau a nodwyd eisoes yn yr ymgynghoriad? Beth fyddai’r ffordd orau o liniaru effaith y costau hyn?

t)         Beth fyddai effaith neu gostau’r canlynol:

                             i.        llunio strategaeth awtistiaeth genedlaethol;

                           ii.        gosod dyletswyddau ychwanegol ar awdurdodau lleol a chyrff y GIG i weithredu’n unol â chanllawiau;

                          iii.        creu a chynnal arferion i hwyluso’r gwaith o gasglu data ar nifer ac anghenion yr oedolion a phlant sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth; a,

                          iv.        hyfforddi staff allweddol?

u)        A ydych yn rhagweld unrhyw gostau gweinyddol a rheoleiddiol ychwanegol eraill o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth hon? Os felly, sut y gellir lliniaru effaith costau o’r fath?

v)         Pa ffactorau y dylid eu mesur wrth lunio’r dadansoddiad cost a budd ar gyfer y ddeddfwriaeth hon os daw’n gyfraith?

Gofynnaf ichi egluro’ch atebion os yn bosibl.

Arbedion

33. Gall deddfwriaeth hefyd arwain at arbedion ariannol.

34. Yn ei gyhoeddiad, “Supporting people with autism through adulthood”, pwysleisiodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol pe bai gwasanaethau’n nodi ac yn cefnogi pedwar y cant o’r oedolion sydd â’r hyn a ddisgrifiwyd yn ‘awtistiaeth gweithredu lefel uchel’ yn yr ardal leol, yna byddai’r gwariant yn niwtral o ran cost dros gyfnod o amser yn Lloegr.[2] Pe bai chwech y cant neu wyth y cant yn cael eu nodi, gallai hynny arwain at arbedion posibl o £38 miliwn a £67 miliwn y flwyddyn yn Lloegr yn y drefn honno. Mae hynny’n dystiolaeth y gellid sicrhau arbedion os gellid nodi a chefnogi unigolion sydd ag awtistiaeth gweithredu lefel uchel yn effeithiol.

Cwestiynau

w)       A oes gennych unrhyw farn ar y ffordd orau o nodi a chyfrifo’r arbedion posibl y gellid eu sicrhau drwy’r ddeddfwriaeth hon?

Materion eraill

35. Yr ymgynghoriad hwn yw dechrau’r broses o ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth imi ddatblygu’r Bil. Rwy’n croesawu sylwadau ar unrhyw faterion nas codwyd uchod a allai fod yn berthnasol.

Cwestiynau

x)        A ydych yn dymuno gwneud unrhyw sylwadau eraill ar fy nghynigion?


Cwestiynau ymgynghori

a)        Beth yw eich barn ar effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer gwella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru?

b)        A ydych chi’n credu y dylai Cymru gael deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth awtistiaeth genedlaethol i blant ac oedolion a rhoi canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff y GIG ar weithredu’r strategaeth hon?

c)         I ba raddau o fanylder yn eich barn chi y dylid diffinio cynnwys strategaeth awtistiaeth genedlaethol mewn deddfwriaeth?

d)        Faint o waith ymgynghori (os o gwbl) yn eich barn chi y dylai fod yn ofynnol mewn deddfwriaeth i Lywodraeth Cymru ei wneud wrth ddatblygu, adolygu a diweddaru strategaeth awtistiaeth genedlaethol?

e)        A ydych yn credu y dylai deddfwriaeth ddiffinio pa mor aml y dylid adolygu a diweddaru strategaeth awtistiaeth genedlaethol? Os felly, pa mor aml y dylid ei hadolygu a’i diweddaru?

f)         A oes gennych unrhyw farn ar sut y dylai Llywodraeth Cymru fonitro pa gynnydd sy’n cael ei wneud a sut y dylai gwasanaethau cyhoeddus fod yn atebol am y camau y maent yn eu cymryd i gefnogi pobl awtistig a’u teuluoedd?

g)        Beth yw eich barn ar ba mor hawdd yw hi i gael mynediad at asesiad diagnostig ble rydych chi’n byw? 

h)        Pa heriau allweddol o ran sut mae’r broses ddiagnostig yn gweithio yr hoffech chi i’r ddeddfwriaeth fynd i’r afael â nhw?

i)          A ydych yn credu y dylai fod yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru gyhoeddi gwybodaeth am y llwybr i ddiagnosis i blant ac oedolion sy’n byw yn eu hardaloedd?

j)          Beth yw eich barn ar ddigonolrwydd y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd i ddiwallu anghenion pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth yng Nghymru?

k)        Bydd y ddeddfwriaeth yr wyf yn ei chynnig yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau statudol a fyddai’n rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ynghylch sut y dylent ddarparu gwasanaethau i blant ac oedolion awtistig a’u teuluoedd.

A ydych yn cytuno y dylai’r ddeddfwriaeth hon ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi canllawiau statudol? Os felly, a yw’r rhestr a ganlyn yn cynnwys y meysydd cywir fel dyletswyddau ar awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol?

                             i.        Darparu gwasanaethau perthnasol er mwyn rhoi diagnosis o gyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth mewn plant ac oedolion.

                           ii.        Y ffaith na ellir gwrthod asesu cymhwysedd plant ac oedolion ar gyfer gwasanaethau perthnasol ar sail galluedd deallusol.

                          iii.        Cynllunio mewn perthynas â darparu gwasanaethau perthnasol i bobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth wrth iddynt symud o fod yn blant i fod yn oedolion.

                          iv.        Gwaith cynllunio arall mewn perthynas â darparu gwasanaethau perthnasol i blant ac oedolion.

                            v.        Trefniadau lleol ar gyfer arweinyddiaeth mewn perthynas â darparu gwasanaethau perthnasol i blant ac oedolion sydd â chyflyrau o’r fath.

l)          A ydych yn credu y dylid gosod gofyniad ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i sefydlu a chynnal arferion casglu data o ran niferoedd ac anghenion y plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth fel y gall ardaloedd lleol gynllunio gwasanaethau yn unol â hynny?

m)      A oes gennych farn ar sut y gellir casglu data yn fwyaf effeithiol ar niferoedd ac anghenion y plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth mewn gwahanol ardaloedd byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol yng Nghymru?

n)        A oes gennych farn ar gwmpas ac effeithiolrwydd hyfforddiant yng Nghymru ar hyn o bryd ar gyfer staff allweddol sy’n gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth?

o)        A ydych yn credu y dylai deddfwriaeth nodi’r canlyniadau y dylid eu cyflawni drwy hyfforddiant, gan ddarparu mwy o hyblygrwydd o ran cynnig hyfforddiant o’r fath?

Dull amgen fyddai nodi mewn deddfwriaeth y dylai staff allweddol sy’n gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth gael hyfforddiant ar awtistiaeth.

p)        A oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer camau ychwanegol y gellid eu cymryd drwy ddeddfwriaeth i wella cyfraddau cyflogaeth pobl sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth (gan gofio nad oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud newidiadau i gyfraith cyflogaeth)?

q)        A ydych yn credu y dylai diffiniad o anhwylder ar y sbectrwm awtistig:

- gael ei gynnwys ar wyneb y ddeddfwriaeth (sy’n ei gwneud yn fwy anodd i’w newid yn y dyfodol);

- gael ei gynnwys mewn strategaeth awtistiaeth;

- gael ei gynnwys yn y canllawiau; neu,

- beidio â chael ei ddatgan o gwbl?

r)         A allwch nodi unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl a allai ddigwydd o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth hon?  Os felly, pa gamau y gellid eu cymryd i fynd i’r afael â nhw?

s)         A ydych yn credu y byddai’r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn arwain at unrhyw gostau sylweddol, y tu hwnt i’r costau a nodwyd eisoes yn yr ymgynghoriad? Beth fyddai’r ffordd orau o liniaru effaith y costau hyn?

t)         Beth fyddai effaith neu gostau’r canlynol:

                             i.        llunio strategaeth awtistiaeth genedlaethol;

                           ii.        gosod dyletswyddau ychwanegol ar awdurdodau lleol a chyrff y GIG i weithredu’n unol â chanllawiau;

                          iii.        creu a chynnal arferion i hwyluso’r gwaith o gasglu data ar nifer ac anghenion yr oedolion a phlant sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth; a,

                          iv.        hyfforddi staff allweddol?

u)        A ydych yn rhagweld unrhyw gostau gweinyddol a rheoleiddiol ychwanegol eraill o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth hon? Os felly, sut y gellir lliniaru effaith costau o’r fath?

v)         Pa ffactorau y dylid eu mesur wrth lunio’r dadansoddiad cost a budd ar gyfer y ddeddfwriaeth hon os daw’n gyfraith?

w)       A oes gennych unrhyw farn ar y ffordd orau o nodi a chyfrifo’r arbedion posibl y gellid eu sicrhau drwy’r ddeddfwriaeth hon?

x)        A ydych yn dymuno gwneud unrhyw sylwadau eraill ar fy nghynigion?

Ymatebion

Edrychaf ymlaen at gael unrhyw sylwadau yr ydych am eu gwneud erbyn 20 Tachwedd 2017.

Anfonwch eich ymatebion drwy e-bost at:

Ymgynghoriad.BilAwtistiaeth@cynulliad.cymru

neu anfonwch gopi caled at:

Tom Jackson

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Tŷ Hywel

Bae Caerdydd

CF99 1NA



[1] Cynllun Gweithredu Strategol diwygiedig ar gyfer 2016-2020 ynghylch Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig, Llywodraeth Cymru, http://www.asdinfowales.co.uk/resource/161130ASD-deliveryplancy.pdf

[2] Supporting People with Autism through Adulthood, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 5 Mehefin 2009 (Saesneg yn unig), https://www.nao.org.uk/wp-content/uploads/2009/06/0809556.pdf