![]() |
Annwyl
Llais cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a’r gwledydd datganoledig
Ysgrifennaf atoch fel Cadeirydd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i effeithiolrwydd gweithio rhyng-lywodraethol a rhyng-seneddol.
Rydym wedi rhannu’r gwaith hwn yn ddwy elfen: materion cyfansoddiadol a materion polisi. Nod yr ail elfen yw ystyried:
· Natur y cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sut y mae’r cysylltiadau hyn yn gweithredu a sut y gellir eu gwella.
· Gwella cyfleoedd i lywodraethau a seneddau ddysgu’n well am bolisïau ar y cyd.
· Arfer gorau o ran cysylltiadau rhyngsefydliadol ar draws y DU y gellid ei ddefnyddio yng nghyd-destun Cymru.
· Natur y cysylltiad rhwng deddfwrfa Cymru a deddfwrfa’r DU a chanfod cyfleoedd i seneddau weithio’n fwy effeithiol â’i gilydd.
· Unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â chysylltiadau rhyngsefydliadol, gan gynnwys y goblygiadau perthnasol sy’n deillio o’r ffaith bod y DU yn gadael yr UE.
Rwyf felly’n ysgrifennu atoch fel sefydliad nad yw wedi ymwneud yn rheolaidd â’r Cynulliad Cenedlaethol, ond sydd wedi ymwneud yn rheolaidd â deddfwrfeydd eraill y DU.
Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed eich barn ynghylch pam fod hyn yn wir. Yn benodol:
- A oes unrhyw rwystrau i ymgysylltu â’r Cynulliad Cenedlaethol?
- Beth yw eich canfyddiad o’r broses o ymgysylltu â phwyllgorau yng Nghaerdydd o’i chymharu â Llundain, Caeredin neu Belfast?
- Beth yw eich canfyddiad a’ch disgwyliad o weithio rhyng-sefydliadol a chysylltiadau, a’ch barn ar ddysgu gan sefydliadau eraill?
Rwy’n sicr y bydd eich dealltwriaeth yn ddefnyddiol iawn ac rwy’n edrych ymlaen at glywed gennych.
Yn gywir
Huw Irranca-Davies
Cadeirydd
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.