R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
1. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ysgolion gwledig? OAQ(5)0158(EDU)
2. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith y grantiau datblygu disgyblion yn etholaeth Ogwr? OAQ(5)0160(EDU)
3. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu addysg uwch yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0159(EDU)W
4. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod addysg gerddoriaeth yn hygyrch i bawb? OAQ(5)0152(EDU)
5. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o ddatblygu ysgolion bro yng Nghymru? OAQ(5)0151(EDU)
6. Lynne Neagle (Torfaen): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fonitro canlyniadau ei chynllun pum mlynedd, 'Dyfodol Byd-eang', i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern yng Nghymru? OAQ(5)0155(EDU)
7. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y polisi absenoldeb ar gyfer ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0149(EDU)
8. David Rees (Aberafan): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu manylion ynghylch agenda STEM Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0154(EDU)
9. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n astudio pynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch? OAQ(5)0156(EDU)
10. David Rowlands (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am allu adran addysg Torfaen i gefnogi Ysgol Uwchradd Cwmbrân? OAQ(5)0146(EDU)
11. Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi staff ysgolion i ddarparu addysg perthnasoedd iach mewn ysgolion? OAQ(5)0150(EDU)
12. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ffioedd dysgu prifysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0148(EDU)
13. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am recriwtio athrawon cyflenwi yng Nghymru? OAQ(5)0147(EDU)
14. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu ieithoedd yn ysgolion Cymru? OAQ(5)0145(EDU)W
15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithio rhanbarthol ym maes addysg? OAQ(5)0144(EDU)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y goblygiadau cyfreithiol i Gymru o dynnu allan o gonfensiwn pysgodfeydd Llundain 1964? OAQ(5)0045(CG)W
2. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r posibilrwydd o ddirymu erthygl 50? OAQ(5)0046(CG)
3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am yr effaith y bydd y Bil diddymu mawr yn ei chael ar Gymru? OAQ(5)0044(CG)W
4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch y goblygiadau cyfreithiol i Gymru o Fil diddymu Llywodraeth y DU? OAQ(5)0043(CG)