|
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol HSC(4)-11-12 papur 11 |
HSC(4)-11-12 paper 11 |
Ymchwiliad i farw-enedigaethau yng Nghymru - Y cylch gorchwyl a awgrymir |
|
|
|
|
Cyflwyniad Yn ei gyfarfod ar 2 Chwefror 2012, cytunodd y Pwyllgor i lansio ymchwiliad i farw-enedigaethau yng Nghymru sy’n canolbwyntio’n benodol ar dyfiant gwael y ffetws a llai o symudiadau gan y ffetws. Diben y papur hwn yw cyflwyno rhywfaint o wybodaeth gefndir, awgrymu cylch gorchwyl ac awgrymu tystion ar gyfer yr ymchwiliad i’r Pwyllgor.
|
Cynhyrchwyd y papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil ar gyfer y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. I gael rhagor
o wybodaeth cysylltwch â Victoria Paris yn y Gwasanaeth
Ymchwil |
Gwybodaeth gefndir
Terminoleg
Yn dibynnu ar pryd y collir y ffetws/baban:
¡ Camesgoriad (neu erthyliad naturiol) – yn ystod chwe mis cyntaf y beichiogrwydd;
¡ Marw-enedigaeth – geni ar ôl 24 wythnos neu fwy, ond nad yw’r baban wedi anadlu na dangos arwyddion o fywyd ar unrhyw amser;
¡ Newydd-anedig cynnar – y baban yn marw o fewn saith niwrnod i’w eni;
¡ Amenedigol – sy’n cynnwys marw-enedigaethau a marwolaethau yn y cyfnod newydd-anedig cynnar;
¡ Newydd-anedig – y baban yn marw o fewn 28 niwrnod i’w eni;
¡ Ôl newydd-anedig – y baban yn marw pan fydd rhwng 28 niwrnod ac 1 flwydd oed.
Pa mor gyffredin yw marw-enedigaethau?
Mae oddeutu 4,000 o farw-enedigaethau yn y DU bob blwyddyn a bydd un enedigaeth ym mhob 200 yn farw-enedigaeth. Bydd un baban ar ddeg yn farw-anedig yn y DU bob dydd, sy’n golygu bod marw-enedigaeth ddeg gwaith yn fwy cyffredin na marwolaeth yn y crud.[1]
Achosion marw-enedigaethau
Nid oes esboniad ynghylch llawer o farw-enedigaethau ac er y gall y cyflyrau a’r ffactorau a nodir isod gyfrannu at farwolaeth y baban, nid dyma achos uniongyrchol y farwolaeth o reidrwydd. Maent yn cynnwys:
¡ Gwaedlif yn y fam naill ai cyn geni neu yn ystod y geni;
¡ Mae gan y baban annormaledd cyn ei eni;
¡ Problemau o achos y brych: gall ddatod o’r groth cyn y bo’r baban yn cael ei eni (y brych yn torri’n swta), neu mae’n bosibl nad oedd y brych yn darparu digon o ocsigen a maethynnau i’r baban sy’n golygu na fydd y baban yn tyfu’n iawn (mae diffyg tyfiant yn y groth yn gysylltiedig â thraean yr holl achosion o farw-enedigaethau);
¡ Problem gyda llinyn y bogail: gall lithro i lawr trwy geg y groth cyn y bo’r baban yn cael ei eni (a elwir yn llithriad y llinyn a bydd yn digwydd mewn un ym mhob 200 o enedigaethau), neu gall y llinyn amlapio o gylch gwddf y baban;
¡ Cyneclampsia: cyflwr a all achosi pwysedd gwaed uchel yn y fam; gall cyneclampsia ysgafn effeithio ar hyd at 10% o bob beichiogrwydd cyntaf a gall cyneclampsia difrifol effeithio ar 1% i 2% o bob beichiogrwydd;
¡ Haint gan y fam sy’n effeithio ar y baban hefyd.[2]
Mae ffactorau hefyd sy’n cynyddu’r risg o farw-enedigaeth. Bydd marw-enedigaethau’n digwydd yn fwy aml ymhlith y grwpiau o ferched a ganlyn:
¡ beichiogrwydd gyda gefeilliaid neu fwy na dau faban;
¡ mamau hŷn, hy dros 35 oed;
¡ mamau sydd yn eu harddegau;
¡ merched a chanddynt gyflyrau meddygol penodol, yn arbennig diabetes, pwysedd gwaed uchel a thromboffilia;
¡ merched sydd wedi cael cymhlethdodau obstetrig yn y gorffennol (anhwylder yr iau);
¡ merched sy’n ysmygu;
¡ merched sy’n ordew;
¡ merched sy’n byw mewn ardaloedd sy’n dioddef amddifadedd cymdeithasol;
¡ merched o grwpiau lleiafrifoedd ethnig.[3]
Dulliau o’i atal
Mae nifer o bethau y gellir eu gwneud yn ystod beichiogrwydd i wella iechyd y fam ac i leihau’r risg o farw-enedigaeth. Yn eu plith y mae rhoi’r gorau i ysmygu (os yn berthnasol), peidio ag yfed alcohol, bwyta’n iach, cadw at apwyntiadau meddygol cyn-geni ac ati. Mae’n bwysig bod y fam a’r baban yn cael eu monitro yn ystod y beichiogrwydd fel y gellir canfod pob beichiogrwydd sydd mewn categori risg mawr o gymhlethdodau a marw-enedigaeth er mwyn rhoi’r gofal priodol iddynt. Fodd bynnag, bydd y mwyafrif o farw-enedigaethau anesboniadwy’n digwydd lle nad oes dim risg wedi’i nodi gyda’r beichiogrwydd. Gall hyn fod oherwydd diffyg gwybodaeth am fathau penodol o feichiogrwydd neu ddiffyg monitro’r fam a’r baban yn ddigon da.
Mae Sands (y Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaeth cyn Geni) o’r farn y dylid datblygu dulliau mwy effeithiol o fonitro beichiogrwydd. Mae’r dulliau’n cynnwys monitro:
¡ Tyfiant y ffetws – mae cysylltiad rhwng babanod nad ydynt yn cyrraedd eu tyfiant posibl yn y groth a marw-enedigaethau. Fodd bynnag, ar hyn o bryd dim ond 30% o’r babanod sy’n llai nag y dylent fod sy’n cael eu hadnabod yn ystod yr apwyntiadau cyn-geni.
¡ Symudiadau’r ffetws – yn aml bydd newid ym mhatrwm symud babanod cyn y byddant yn farw-anedig.[4]
Ffetws sy’n fach o’i oed yn ystod beichiogrwydd
Mae ffetws sy’n fach o’i oed yn ystod beichiogrwydd yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio ffetws nad yw wedi cyrraedd y trothwy amcan bwysau erbyn rhyw amser penodol yn y cyfnod beichiogrwydd. Mae ffetysau sy’n fach o’u hoed yn ystod y beichiogrwydd mewn mwy o berygl o fod yn farw-anedig. Defnyddir dulliau amrywiol i ganfod ffetysau sy’n fach o’u hoed yn ystod beichiogrwydd gan gynnwys cyffwrdd a theimlo’r abdomen, mesur uchder y ffwndws symffysaidd[5] a phrawf uwchsain. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw’r profion hyn yn ynysedig ond bod ffactorau eraill fel tueddiadau’r ffetws o ran tyfu a nodweddion y fam yn cael eu hystyried.
Y ffetws yn symud yn llai aml
Gellir teimlo symudiadau’r ffetws gyntaf yn y cyfnod rhwng 18 ac 20 wythnos o feichiogrwydd a bydd y symudiadau’n datblygu’n fuan yn batrwm y gellir sylwi arno. Mae symudiadau’r ffetws yn cynnwys cic ysgafn, ysgytwad bach, siffrwd neu rholio. Mae’n bosibl bod sylwi ar leihad sylweddol neu newid sydyn o ran symudiadau’r ffetws yn arwydd clinigol pwysig a gallai llai o symudiadau neu ddim symudiad o gwbl gan y ffetws fod yn rhybudd bod marwolaeth y ffetws ar ddigwydd.
Canllawiau
Ym mis Tachwedd 2002, lluniodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr ganllawiau ar ymchwilio i ffetysau sy’n fach o’u hoed yn ystod beichiogrwydd, a’u rheoli (Saesneg yn unig) a chynigiodd argymhellion yn eu cylch.
Ym mis Mawrth 2008, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ganllawiau clinigol ar Gofal cyn-geni: gofal arferol ar gyfer merched beichiog iach (Saesneg yn unig) sy’n darparu gwybodaeth am yr arferion gorau o ran gofal clinigol a gofal cyn-geni sylfaenol o bob beichiogrwydd a gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar y driniaeth briodol i’w chynnig mewn amgylchiadau penodol.
Ym mis Chwefror 2011, cyhoeddodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr gyngor newydd i glinigwyr ar drin merched pan fydd y ffetws yn symud yn llai aml (Saesneg yn unig) yn ystod eu beichiogrwydd, a rhoddodd argymhellion ynghylch sut y dylid ymdrin â merched, mewn lleoliadau iechyd yn y gymuned ac mewn ysbytai, pan fydd y ffetws yn symud yn llai aml.
Ym mis Medi 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen, Gweledigaeth Strategol ar gyfer y Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru, sy’n amlinellu disgwyliadau’r Llywodraeth o ran darparu gwasanaethau mamolaeth diogel, cynaliadwy o’r radd flaenaf gan y GIG yng Nghymru.
Y cylch gorchwyl a awgrymir
Diben y sesiwn hon yw:
¡ Edrych yn fanwl ar faint o ymwybyddiaeth sydd o’r canllawiau a’r argymhellion cyfredol ynghylch atal marw-enedigaethau, yn arbennig marw-enedigaethau sy’n gysylltiedig â thyfiant gwael a llai o symudiadau gan y ffetws, drwy’r sectorau gwahanol. Edrych hefyd sut y mae’r canllawiau a’r argymhellion yn cael eu gweithredu a pha mor effeithiol ydynt, a phle y mae’n bosibl cymryd camau i wella pethau.
Tystion
Awgrymir bod y Pwyllgor yn gofyn am dystiolaeth gan y canlynol:
¡ Cyrff y sector cyhoeddus ee Cydffederasiwn GIG Cymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru;
¡ Cyrff proffesiynol ee Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru, Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a Gynaecolegwyr; Coleg Brenhinol y Bydwragedd; Cymdeithas Feddygol Prydain;
¡ Sefydliadau’r trydydd sector ee Sands; Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant; y Gynghrair Marw-enedigaethau Rhyngwladol.
Yn ychwanegol at yr alwad gyffredinol am dystiolaeth, mae’n bosibl y bydd yr Aelodau am ofyn am dystiolaeth ysgrifenedig gan rai a fyddai â diddordeb.
Ar ddiwedd y cyfarfod trefnir sesiwn breifat ar gyfer yr Aelodau i ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law ac i gytuno ar ba gamau i’w cymryd.
[2]Dewisiadau’r GIG (NHS Choices), Marw-enedigaeth - Achosion (Saesneg yn unig) [fel ar 12 Mawrth 2012]
[3]Ymchwil, Sands, Achosion a ffactorau risg ar gyfer marw-enedigaeth (Saesneg yn unig) [fel ar 12 Mawrth 2012]
[4]Ymchwil, Sands, Adnabod Beichiogrwydd lle y bydd risg o farw-enedigaeth (Saesneg yn unig) [fel ar 12 Mawrth 2012]
[5]Mesuriad o asgwrn yr arffed (y ‘symphysis pubis’) i ben yr wterws neu’r ffwndws, sy’n mesur uchder y ffwndws mewn centimedrau. Dylai’r mesur mewn centimedrau gydweddu’n agos ag oedran y ffetws o ran wythnosau yn ystod y beichiogrwydd, o fewn un neu ddwy centimedr, ee dylai wterws merch sydd wedi bod yn feichiog am 22 wythnos fod rhwng 20 a 24 centimedr o hyd.