R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
1. Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lwyfannu Rownd Derfynol Pencampwriaeth UEFA a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar? OAQ(5)0187(EI)
2. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am Fanc Datblygu Cymru? OAQ(5)0178(EI)
3. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae ei adran yn cydweithio â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i gynyddu datblygiad economaidd yng Nghymru? OAQ(5)0182(EI)
4. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r gwaith o hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid? OAQ(5)0177(EI)
5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi? OAQ(5)0189(EI)
6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0174(EI)
7. Jeremy Miles (Castell-nedd): A yw Busnes Cymru yn bodloni amcanion cefnogi busnes Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0183(EI)
8. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd? OAQ(5)0181(EI)
9. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella cysylltiadau trafnidiaeth o fewn dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0175(EI)
10. David J Rowlands (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ysgogi twf economaidd yn ne-ddwyrain Cymru y tu allan i Gaerdydd? OAQ(5)0190(EI)
11. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r gwasanaeth twristiaeth a gaiff eu cynnig yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0185(EI)
12. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0188(EI)
13. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa strategaeth sydd yn ei lle i gynyddu nifer y teithiau bws lleol gan deithwyr? OAQ(5)0186(EI)
14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol arfaethedig? OAQ(5)0179(EI)W TYNNWYD YN ÔL
15. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Velothon Cymru? OAQ(5)0184(EI)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar iechyd y cyhoedd a gaiff methu â datblygu dewisiadau amgen cynaliadwy i geir ar gyfer mynd â phlant i'r ysgol mewn ardaloedd trefol? OAQ(5)0191(HWS)
2. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol meddygfeydd gwledig? OAQ(5)0174(HWS)W TYNNWYD YN ÔL
3. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd aros yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OAQ(5)0179(HWS)
4. Vikki Howells (Cwm Cynon): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â gordewdra ymysg plant yng Nghymru? OAQ(5)0187(HWS)
5. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella seilwaith TG GIG Cymru? OAQ(5)0184(HWS)
6. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am safonau bwyd ysbytai yng Nghymru? OAQ(5)0189(HWS)
7. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi practisau meddygon teulu yng Nghymru? OAQ(5)0176(HWS)
8. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol? OAQ(5)0186(HWS)
9. Nathan Gill (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad y gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0181(HWS)
10. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl byrddau iechyd lleol Cymru wrth daclo cam-ddefnyddio cyffuriau? OAQ(5)0175(HWS)W TYNNWYD YN ÔL
11. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i iechyd meddwl oedolion yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0177(HWS)
12. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r gefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd â dementia? OAQ(5)0188(HWS)
13. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau i bobl yng Nghymru sydd ag epilepsi? OAQ(5)0180(HWS)
14. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer recriwtio nyrsys yng Nghymru? OAQ(5)0190(HWS)
15. Hefin David (Caerffili): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru? OAQ(5)0182(HWS)