Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Mehefin, 2017
i'w hateb ar 14 Mehefin 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

1. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i weithredu argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru yn ymwneud ag 'Addysg ar gyfer Cydweithredu'?  OAQ(5)0132(EDU)

 

2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfleoedd profiad gwaith i ddisgyblion? OAQ(5)0131(EDU)W

 

3. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer ysgolion yng Nghymru dros y chwe mis nesaf? OAQ(5)0139(EDU)

 

4. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau'r pwysau ar lwyth gwaith athrawon yng Nghymru? OAQ(5)0134(EDU)

 

5. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0133(EDU)

 

6. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am newidiadau i'r cwricwlwm yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ(5)0135(EDU)

 

7. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel y cyllid ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0137(EDU)

 

8. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i annog mwy o bobl ifanc i ddarllen? OAQ(5)0138(FM)

 

9. Lynne Neagle (Torfaen): Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn hyrwyddo gwydnwch emosiynol ymysg plant a phobl ifanc? OAQ(5)0140(EDU)

 

10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel y cyllid ar gyfer ysgolion yng Nghaerdydd? OAQ(5)0141(EDU)

 

11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau hyfywedd addysg uwch? OAQ(5)0142(EDU)W

 

12. Vikki Howells (Cwm Cynon): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall athrawon gefnogi addysg disgyblion yn effeithiol yn ystod y cyfnod pontio rhwng addysg gynradd ac uwchradd? OAQ(5)0136(EDU)

 

Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau cyfreithiol i Gymru o ran gorfodi rheolau Sefydliad Masnach y Byd, yn absenoldeb cytundeb masnach rhwng Llywodraeth y DU a'r UE? OAQ(5)0041(CG)

 

2. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch y goblygiadau cyfreithiol i Gymru o ran y bwriad i sefydlu cronfa cyd-ffyniant gan Lywodraeth y DU? OAQ(5)0040(CG)

 

3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal mewn perthynas â dwyn holl ddarpariaethau Deddf Cymru 2017 i rym? OAQ(5)042(CG)W