Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Mawrth 2017

 

 

 

 

Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12 – Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys

Diben

1.    Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.

2.        Mae'r adroddiad yn argymell diwygiadau i Reolau Sefydlog 12.66 i 12.68, ynghyd â newid canlyniadol i Reol Sefydlog 11.8. Mae'r newidiadau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes wedi'u nodi yn Atodiad A, ac mae'r cynigion ar gyfer y Rheolau Sefydlog newydd wedi'u nodi yn Atodiad B. Mae Atodiad C yn cynnwys yr adran berthnasol o'r canllawiau ar Egwyddorion ac Arferion ar gyfer Cyflwyno a Gosod Busnes y Cynulliad, ac mae'n rhoi manylion am sut y bydd y newidiadau'n gweithio'n ymarferol.

Cefndir

3.        Bu'r Pwyllgor Busnes yn trafod gweithdrefnau'r Cynulliad ar gyfer Cwestiynau Llafar ym mis Hydref a mis Tachwedd 2016, ar ôl i'r Pwyllgor Busnes blaenorol argymell y dylent gael eu hadolygu'n gynnar yn y Cynulliad hwn. 

4.        Yn eu cyfarfod ar 15 Tachwedd 2016, gofynnodd y Rheolwyr Busnes am i bapur arall ar Gwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys gael ei gyflwyno ger eu bron yn y flwyddyn newydd.  Ar 31 Ionawr 2017, cytunodd y Rheolwyr Busnes o ran egwyddor i gyflwyno gweithdrefn newydd ar gyfer Cwestiynau Amserol, yn amodol ar eu cytundeb ynghylch y manylion.

5.        Yn eu cyfarfod ar 14 Chwefror, cyflwynodd y Llywydd gynnig i'r Rheolwyr Busnes ar gyfer cynnal ymgynghoriad â grwpiau. Ar 14 Mawrth, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gynnig wedi'i ddiwygio, sef y sail ar gyfer y cynigion a nodir yn yr adroddiad hwn.  

Cwestiynau Brys

6.        Cynigir diwygio’r fersiwn Saesneg o’r Rheolau Sefydlog er mwyn ailenwi ‘Urgent Questions’ yn ‘Emergency Questions’. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes na ddylid diwygio’r geiriad Cymraeg, gan fod y term presennol ‘cwestiwn brys’ yn cwmpasu ‘urgent question’ ac ‘emergency question’ fel ei gilydd, ac yn gyson â’r defnydd o ‘Bil brys’ ar gyfer ‘emergency Bill’.  Cynigir diwygio Rheol Sefydlog 12.66(ii) fel bod yn rhaid i'r Llywydd fod yn fodlon bod y cwestiwn yn ymwneud â mater sydd o ‘arwyddocâd cenedlaethol brys’ yn hytrach nag o ‘bwys cyhoeddus brys’. 

7.        Os cytunir ar y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog, caiff y canllawiau ar Egwyddorion ac Arferion ar gyfer Cyflwyno a Gosod Busnes y Cynulliad eu diweddaru i nodi y byddai'r Llywydd yn disgwyl i gais ar gyfer Cwestiwn Brys ymwneud â mater sydd wedi codi'n sydyn y mae angen i'r Gweinidogion ymateb iddo ar unwaith.

8.        Gan y bydd y diffiniad mwy cyfyngedig yn arwain at lai o Gwestiynau Brys ar y materion mwyaf difrifol yn unig, mae'r Llywydd yn rhagweld y bydd yn eu cynnwys yn y dyfodol fel yr eitem gyntaf ar amserlen y Cyfarfod Llawn.  Cynigir diwygio Rheol Sefydlog 12.66 er mwyn dileu'r awgrym mai'r lle arferol i gynnwys Cwestiynau Brys yw ar ôl Cwestiynau Llafar y Cynulliad.

Cwestiynau Amserol

9.        Mae'r Pwyllgor Busnes yn cynnig cyflwyno Rheol Sefydlog 12.68A newydd i alluogi'r Pwyllgor Busnes i neilltuo amser ar gyfer Cwestiynau Amserol fel rhan o amser y Cynulliad yn ystod y Cyfarfod Llawn. Mae'r Rheol Sefydlog 12.68B newydd yn nodi mai'r Llywydd a fydd yn dethol y Cwestiynau Amserol sydd i gael eu hateb, a hynny o blith y rhai a gyflwynir sy'n cydymffurfio â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd.

10.     Os cytunir ar y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog, caiff canllawiau'r Egwyddorion ac Arferion ar gyfer Cyflwyno a Gosod Busnes y Cynulliad eu diwygio er mwyn darparu bod yn rhaid i Gwestiynau Amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog. Bydd y canllawiau'n nodi hefyd y dylai'r mater fod wedi codi ers i'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Amserol yr wythnos flaenorol fynd heibio.

11.     Bydd y canllawiau'n nodi hefyd y caiff Aelodau gyflwyno Cwestiynau Amserol rhwng 9.00 ar ddydd Llun a 10.00 ar ddydd Mercher, ac mai dim ond un Cwestiwn Amserol y caiff pob Aelod ei gyflwyno mewn unrhyw wythnos yn ystod y tymor.

12.     Yn yr un modd â Chwestiynau Brys, y Llywodraeth a fydd yn penderfynu pa un o Ysgrifenyddion y Cabinet neu ba Weinidog a fydd yn ateb y cwestiwn, a bydd y Llywodraeth yn cael gwybod am bob cwestiwn wrth iddo gael ei gyflwyno, yn ogystal â chael gwybod am ddetholiad y Llywydd cyn gynted â phosibl ar ôl iddo gael ei wneud.

Amserlen

13.     Cynigir cynnwys Cwestiynau Amserol fel rhan o fusnes y Cynulliad (h.y. nid busnes y llywodraeth) ac mae'r newid canlyniadol arfaethedig i Reol Sefydlog 11.18 yn gwneud hynny'n glir. Y Pwyllgor Busnes, felly, a fydd yn gyfrifol am eu cynnwys ar yr amserlen yn unol â Rheol Sefydlog 11.7.

14.     Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i neilltuo 20 munud ar gyfer Cwestiynau Amserol, a'u cynnwys fel yr eitem gyntaf o fusnes y Cynulliad ar ôl Cwestiynau Llafar y Cynulliad ar ddydd Mercher ym mhob wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal Cyfarfod Llawn.

15.     Y Llywydd a fydd yn penderfynu sawl Cwestiwn Amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny, e.e. drwy amrywio nifer y cwestiynau atodol.  Nid fydd yn rhaid i'r Llywydd ddethol unrhyw gwestiwn os bydd o'r farn nad yw'n bodloni'r meini prawf, hyd yn oed os mai dyna'r unig gwestiwn a gyflwynir yr wythnos honno.

Adolygu

16.      Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i adolygu'r modd y gweithredir y gweithdrefnau newydd yn ystod tymor yr hydref 2017, a bydd yr adolygiad hwnnw'n cynnwys pryd y caiff Cwestiynau Amserol eu cynnwys yn yr amserlen bob wythnos ac am ba hyd, yn ogystal ag agweddau eraill ar Gwestiynau Llafar y Cynulliad, gan gynnwys cwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr y pleidiau.

 

Gweithredu

Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 21 Mawrth 2017, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad B. 


Atodiad A

RHEOL SEFYDLOG 12 – Busnes yn y Cyfarfodydd Llawn

 

Cwestiynau Llafar

12.6866

Pan na chyrhaeddir unrhyw gwestiwn llafar, rhaid i’r Aelod gael ateb ysgrifenedig ar yr un diwrnod. Rhaid i’r ateb ysgrifenedig gael ei gyhoeddi yng nghofnod trafodion y cyfarfod llawn.

 

Symud y Rheol Sefydlog

 

Rhif y Rheol Sefydlog hon ar hyn o bryd yw 12.68. Cynigir ei symud yma a'i hailrifo, i ganiatáu ar gyfer creu penawdau newydd Cwestiynau Brys a Chwestiynau Amserol.

 

Cwestiynau Brys

Mewnosod is-bennawd newydd

 

12.66     

Ar ddiwedd y cyfnod a ddyrennir ar gyfer cwestiynau llafar neu Aar unrhyw adeg arall y penderfynir arno gan y Llywydd, caiff y Llywydd alw ar Aelod i ofyn cwestiwn na roddwyd hysbysiad amdano o dan Reol Sefydlog 12.59: 

          i)  os yw’r Llywydd a’r aelod o’r llywodraeth o dan sylw, neu’r Comisiwn, yn ôl fel y digwydd, wedi cael o leiaf ddwy awr o hysbysiad ymlaen llaw cyn bod y cwestiwn i gael ei ofyn; a

       ii)  os yw’r Llywydd yn fodlon bod y cwestiwn yn un o bwys cyhoeddus arwyddocâd cenedlaethol brys.

 

Diwygio ac ailrifo'r Rheol Sefydlog

 

Mae'r Rheol Sefydlog yn cael ei diwygio i newid y meini prawf ar gyfer derbyn cwestiwn brys gan y Llywydd, o 'bwys cyhoeddus brys' i 'arwyddocâd cenedlaethol brys'.

 

Mae'n cael ei newid hefyd i gael gwared ar y cyfeiriad at 'ar ddiwedd y cyfnod a ddyrennir ar gyfer cwestiynau llafar' o ran galw Cwestiynau Brys. Mae'r Rheol Sefydlog bob amser wedi rhoi'r rhyddid i'r Llywydd benderfynu pryd i gymryd Cwestiynau Brys, ac mae'r newid hwn yn gwneud hynny'n eglur.

 

 

12.678      

Os bydd y Llywydd wedi cael hysbysiad ymlaen llaw fod cais am gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.667 yn ymwneud â swyddogaethau’r Comisiwn, caiff y swyddogaeth a ddyrennir i’r Llywydd yn 12.667(ii) ei haseinio i’r Dirprwy Lywydd.

 

Diwygio ac ailrifo'r Rheol Sefydlog

 

 

12.68     

Pan na chyrhaeddir unrhyw gwestiwn llafar, rhaid i’r Aelod gael ateb ysgrifenedig ar yr un diwrnod. Rhaid i’r ateb ysgrifenedig gael ei gyhoeddi yng nghofnod trafodion y cyfarfod llawn.

 

Symud y Rheol Sefydlog

 

Mae'r Rheol Sefydlog hon wedi cael ei symud i fod yn Rheol Sefydlog 12.66 uchod, er mwyn caniatáu ar gyfer yr is-benawdau newydd, Cwestiynau Brys a Chwestiynau Amserol.

 

 

Cwestiynau Amserol

 

12.68A

 

Caiff y Pwyllgor Busnes drefnu bod amser ar gael i Aelodau ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru neu'r Cwnsler Cyffredinol, na roddwyd hysbysiad amdanynt o dan Reol Sefydlog 12.59.

 

Rheol Sefydlog newydd

 

Byddai'r Rheol Sefydlog newydd yn galluogi'r Pwyllgor Busnes i drefnu bod amser ar gael yn ystod amser y Cynulliad ar gyfer gofyn Cwestiynau Amserol i aelodau o'r llywodraeth. Nid oes darpariaeth ar gyfer gofyn cwestiynau amserol i Gomisiwn y Cynulliad.

 

Mater i'r Pwyllgor Busnes fyddai penderfynu ar y cyfnod o amser a'r amserlen yn unol â'r gweithdrefnau arferol ar gyfer amserlennu Busnes y Cynulliad. Nid yw'n ofynnol i'r Pwyllgor Busnes neilltuo amser ar gyfer Cwestiynau Amserol mewn unrhyw wythnos benodol.

 

12.86B

Rhaid i'r Llywydd ddethol unrhyw gwestiynau sydd i'w cymryd yn ystod amser y trefnwyd iddo fod ar gael o dan Reol Sefydlog 12.68A, o blith y rhai a gyflwynir yn unol ag unrhyw ganllawiau ar gwestiynau amserol a gyhoeddir o dan Reol Sefydlog 6.17.

Rheol Sefydlog newydd

 

Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn caniatáu i'r Llywydd ddethol y cwestiynau sydd i'w gofyn yn ystod amser a neilltuir ar gyfer Cwestiynau Amserol. Mae hefyd yn caniatáu i'r Llywydd roi cyfyngiadau ar ba gwestiynau a fydd yn cael eu hystyried (e.e. y rhai a gyflwynir yn ystod cyfnod penodol, neu gyfyngiad ar nifer y ceisiadau fesul Aelod) trwy gyhoeddi canllawiau o dan Reol Sefydlog 6.17: ar hyn o bryd, y ddogfen Egwyddorion ac Arferion ar gyfer Cyflwyno a Gosod Busnes y Cynulliad.

 

 

 

 

 


NEWIDIADAU CANLYNIADOL

RHEOL SEFYDLOG 11 – Trefn Busnes

 

Categorïau o Fusnes

11.18

At ddibenion Rheolau Sefydlog 11 a 12, mae busnes y llywodraeth yn cynnwys trafodion ar y canlynol:

(i)                          cwestiynau llafar (ac eithrio cwestiynau llafar i'r Comisiwn, a chwestiynau amserol o dan Reol Sefydlog 12.68A);

(ii)                         unrhyw ddadl frys a gynigir gan aelod o’r llywodraeth o dan Reol Sefydlog 12.69;

(iii)                        datganiadau gan aelod o’r llywodraeth;

(iv)                        deddfwriaeth lle mae’r Aelod sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth yn aelod o'r llywodraeth;

(v)                         unrhyw gynnig a gyflwynir gan aelod o’r llywodraeth.

 

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

 

Caiff 11.18(i) ei diwygio i'r gwneud yn eglur mai busnes y Cynulliad yw Cwestiynau Amserol at ddibenion Rheolau Sefydlog 11 a 12.

 


Atodiad B

RHEOL SEFYDLOG 12 – Busnes yn y Cyfarfodydd Llawn

Cwestiynau Llafar

12.66      Pan na chyrhaeddir unrhyw gwestiwn llafar, rhaid i’r Aelod gael ateb ysgrifenedig ar yr un diwrnod. Rhaid i’r ateb ysgrifenedig gael ei gyhoeddi yng nghofnod trafodion y cyfarfod llawn.


Cwestiynau Brys

12.67      Ar unrhyw adeg y penderfynir arno gan y Llywydd, caiff y Llywydd alw ar Aelod i ofyn cwestiwn na roddwyd hysbysiad amdano o dan Reol Sefydlog 12.59: 

i)      os yw’r Llywydd a’r aelod o’r llywodraeth o dan sylw, neu’r Comisiwn, yn ôl fel y digwydd, wedi cael o leiaf ddwy awr o hysbysiad ymlaen llaw cyn bod y cwestiwn i gael ei ofyn; a

ii)     os yw’r Llywydd yn fodlon bod y cwestiwn yn un o arwyddocâd cenedlaethol brys.

12.68      Os bydd y Llywydd wedi cael hysbysiad ymlaen llaw fod cais am gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.67 yn ymwneud â swyddogaethau’r Comisiwn, caiff y swyddogaeth a ddyrennir i’r Llywydd yn 12.67(ii) ei haseinio i’r Dirprwy Lywydd.

 

Cwestiynau Amserol

12.68A    Caiff y Pwyllgor Busnes drefnu bod amser ar gael i Aelodau ofyn cwestiynau i'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru neu'r Cwnsler Cyffredinol, na roddwyd hysbysiad amdanynt o dan Reol Sefydlog 12.59.

12.68B    Rhaid i'r Llywydd ddethol unrhyw gwestiynau sydd i'w cymryd yn ystod amser y trefnwyd iddo fod ar gael o dan Reol Sefydlog 12.68A, o blith y rhai a gyflwynir yn unol ag unrhyw ganllawiau ar gwestiynau amserol a gyhoeddir o dan Reol Sefydlog 6.17.

 

RHEOL SEFYDLOG 11 – Trefn Busnes

Categorïau o Fusnes

11.18      At ddibenion Rheolau Sefydlog 11 a 12, mae busnes y llywodraeth yn cynnwys trafodion ar y canlynol:

(i)        cwestiynau llafar (ac eithrio cwestiynau llafar i'r Comisiwn, a chwestiynau amserol o dan Reol Sefydlog 12.68A); 

(ii)      unrhyw ddadl frys a gynigir gan aelod o’r llywodraeth o dan Reol Sefydlog 12.69;

(iii)     datganiadau gan aelod o’r llywodraeth;

(iv)     deddfwriaeth lle mae’r Aelod sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth yn aelod o'r llywodraeth;

(v)       unrhyw gynnig a gyflwynir gan aelod o’r llywodraeth.

 

 

 

 

 

 


Atodiad C

 

ADRAN 2 O'R EGWYDDORION AC ARFERION AR GYFER CYFLWYNO A GOSOD  BUSNES Y CYNULLIAD

 

 

ADRAN 2: CWESTIYNAU LLAFAR AC                      Yn ôl i'r brig

YSGRIFENEDIG Y CYNULLIAD

 

Cyflwyniad

 

2.1     Ceir darpariaeth yn Rheolau Sefydlog 12 a 14 i Aelodau’r Cynulliad ofyn cwestiynau Llafar ac Ysgrifenedig y Cynulliad i’r Prif Weinidog, un o Ysgrifenyddion y Cabinet, y Cwnsler Cyffredinol neu Gomisiwn y Cynulliad am unrhyw fater sy’n ymwneud â’u cyfrifoldebau.  Mae’r Bennod hon yn egluro diben, ffurf a chynnwys Cwestiynau’r Cynulliad a gweithdrefnau cysylltiedig.

 

Diben

 

2.2     Diben cyflwyno Cwestiynau’r Cynulliad yw cael gwybodaeth neu bwyso am gamau gweithredu.  Caiff Cwestiynau’r Cynulliad a’r atebion eu cyhoeddi yn y Cofnod swyddogol o Drafodion y Cynulliad, ac felly maent yn fodd pwysig i Aelodau ddwyn Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad i gyfrif.  

 

2.3     Nid drwy Gwestiynau’r Cynulliad yn unig y gall Aelodau gael gwybodaeth gan y Llywodraeth.  Yn dibynnu ar natur y wybodaeth a geisir, mae troi at y Gwasanaeth Ymchwil, cyflwyno ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, neu ysgrifennu’n uniongyrchol at Weinidogion i gyd yn opsiynau sydd ar gael i Aelodau.  Gall Clercod ystyried atgoffa Aelodau o’r dewisiadau amgen hyn, yn enwedig pan fydd cwestiynau yn groes i’r drefn.

 

Categorïau Cwestiynau

 

2.4     Mae’r Rheolau Sefydlog yn cynnig tair ffordd o gael atebion i Gwestiynau’r Cynulliad:

 

         I.    Cwestiynau i’w hateb ar lafar, a gaiff eu cyflwyno gyda’r bwriad o gael ateb ar lafar yn y Cynulliad yn ystod amser a gaiff ei neilltuo ar gyfer Cwestiynau mewn Cyfarfodydd Llawn;

 

        II.    Cwestiynau i’w hateb yn ysgrifenedig, na roddir ateb ar lafar iddynt yn y Cynulliad. Yn hytrach, cânt eu hanfon yn ysgrifenedig yn uniongyrchol at yr Aelod Cynulliad a’u cyhoeddi yng Nghofnod swyddogol y Cynulliad wedi hynny; a

 

      III.    Cwestiynau Amserol, a gaiff eu cyflwyno ar fyr rybudd i'w hateb ar lafar yn y Cyfarfod Llawn ond na chaniateir iddynt gael eu gofyn oni bai fod y Llywydd yn fodlon bod y cwestiwn yn ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol, ac y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan y Gweinidogion, a bod y mater dan sylw wedi codi ers i'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno cwestiynau amserol yr wythnos flaenorol fynd heibio; a

 

      IV.    Cwestiynau Brys, a gaiff eu cyflwyno heb roi hysbysiad yn eu cylch i'w hateb yn y Cyfarfod Llawn ac na chaniateir iddynt gael eu gofyn oni bai bod y Llywydd o'r farn bod y mater dan sylw yn fater o arwyddocâd cenedlaethol brys a bod angen i'r Llywodraeth ymateb iddo ar unwaith.

 

Gweithdrefnau – Rôl y Llywydd a’r Swyddfa Gyflwyno

 

2.5     Mae’r Llywydd yn gyfrifol am hwyluso’r gwaith o gyflwyno cwestiynau ac mae ganddo’r hawl i farnu ynghylch cynnwys a hyd cwestiynau ac a ydynt yn dderbyniol ai peidio (gweler Atodiad 1).  Yn ymarferol, mae’r Llywydd wedi dirprwyo’r swyddogaethau hyn i’r Swyddfa Gyflwyno, er mai ef neu hi yw’r awdurdod terfynol ar faterion o’r fath o hyd.

 

2.6     Mae Aelodau’r Cynulliad yn gyfrifol am ffurf a chynnwys eu cwestiynau, ond mae Clercod y Swyddfa Gyflwyno ar gael i gynnig cyngor cyfrinachol a diduedd i Aelodau am faterion o’r fath.  Mae Atodiad 1 yn egluro’r meini prawf y bydd y Swyddfa Gyflwyno yn eu defnyddio wrth ystyried a yw Cwestiynau’r Cynulliad yn dderbyniol ai peidio. Pan fernir bod cwestiwn yn annerbyniol, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn egluro’r rhesymau pam y barnwyd ei fod yn groes i’r drefn, a bydd yn rhoi cymorth i newid y cwestiwn lle bo hynny’n bosibl er mwyn iddo gydymffurfio â’r drefn. Bydd y Swyddfa Gyflwyno yn cywiro mân gamgymeriadau o ran gramadeg a drafftio os oes angen.

 

Amserlen ar gyfer Cwestiynau Llafar

 

2.7     Bydd datgan a chyhoeddi busnes sydd i ddod, yn unol â Rheol Sefydlog 11.11, yn cynnwys dyddiad ac amser cwestiynau sydd i ddod i bob un o Ysgrifenyddion y Cabinet, y Cwnsler Cyffredinol neu Gomisiwn y Cynulliad.

 

2.8     Ceir darpariaeth yn Rheol Sefydlog 12.56 i’r Prif Weinidog ateb cwestiynau unwaith ym mhob wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal Cyfarfod Llawn ac i Ysgrifenyddion y Cabinet, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad ateb cwestiynau o leiaf unwaith ym mhob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal Cyfarfod Llawn.   Yn ymarferol, caiff cwestiynau eu cymryd mewn cylch penodol a bennir gan Lywodraeth Cymru, ar wahân i gwestiynau i’r Comisiwn.  Y Clerc i’r Pwyllgor Busnes fydd yn amserlennu’r cylch ar gyfer cwestiynau i’r Comisiwn. 

 

2.9     Bydd y Swyddfa Gyflwyno yn cyhoeddi amserlen gyflwyno wythnosol i roi gwybod i’r Aelodau ar ba ddiwrnodau y gallant gyflwyno cwestiynau.   Caiff yr Amserlen Gyflwyno ei chyhoeddi ar y fewnrwyd.   Mae copi o’r amserlen gyflwyno wythnosol gyfredol i’w gweld yn Atodiad 3.  

 

2.10   Caiff dyddiadau cyflwyno penodol eu hamserlennu tua diwedd pob prif doriad fel bod modd ateb cwestiynau llafar yn ystod yr wythnos gyntaf yn dilyn toriad.   Bydd y Swyddfa Gyflwyno yn creu rhestr o ddyddiadau ac amserau y mae wedi cytuno arnynt â’r Pwyllgor Busnes.  Caiff y rhestr ei hanfon drwy e-bost at yr Aelodau. 

 

Nifer a Threfn y Cwestiynau

 

2.11   Nid oes cyfyngiad ar nifer y Cwestiynau Ysgrifenedig y gall Aelodau eu cyflwyno yn ystod tymor y Cynulliad.

 

2.12   Ceir darpariaeth yn Rheol Sefydlog 12.63 i Aelodau roi eu henw yn y balot o dan Reol Sefydlog 12.61 ddim mwy na dwywaith ar gyfer cwestiynau llafar i un o Weinidogion Cymru yn benodol neu i’r Cwnsler Cyffredinol, a dim mwy nag unwaith i’r Prif Weinidog a Chomisiwn y Cynulliad. Gall Aelodau ddewis cyflwyno eu henw unwaith yn unig i Weinidogion penodol neu i’r Cwnsler Cyffredinol os ydynt yn credu bod hynny’n briodol.

 

 

2.13   Mae Rheol Sefydlog 12.64 yn egluro sut y caiff y drefn ar gyfer ateb Cwestiynau Llafar ei phennu.     Yn ymarferol, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn gofyn i Aelodau gyflwyno eu henw cyn pob balot a gynhelir o dan Reol Sefydlog 12.61.  Y diwrnod cyn i’r cwestiynau gael eu cyflwyno, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn cynnal balot ar gyfer pob un o’r Gweinidogion priodol.  Yna, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn cysylltu drwy e-bost â’r Aelodau hynny a ddaeth ymhlith yr 20 enw cyntaf ym mhob balot ac yn gofyn iddynt gyflwyno naill ai un neu ddau gwestiwn, fel y bo’n briodol, erbyn y dyddiad cau y cytunwyd arno.   Yna, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn cymysgu’r enwau eto i bennu trefn derfynol y cwestiynau.  

 

2.14   Dim ond y 15 cwestiwn cyntaf fydd yn mynd yn eu blaen i gael eu hateb a chaiff canlyniad y broses hon ei gyhoeddi’r bore canlynol a’i gynnwys yn yr Hysbysiad Busnes ac ar y dudalen Cwestiynau ar wefan y Cynulliad.  Bydd y pum cwestiwn sy’n weddill yn methu ac ni fyddant yn cael eu hateb.  Os na chaiff 15 o gwestiynau eu cyflwyno i Weinidog penodol, bydd unrhyw gwestiynau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddwyd, hyd at bum diwrnod gwaith cyn y mae disgwyl iddynt gael eu hateb, yn cael eu hychwanegu at y rhestr o gwestiynau a chânt eu gofyn yn y drefn y maent yn dod i law.  

 

Y Weithdrefn ar gyfer Cwestiynau Llafar mewn Cyfarfod Llawn

 

2.15   Bydd y Llywydd yn dechrau amser Cwestiynau drwy alw enw’r Aelod Cynulliad y mae ei gwestiwn yn dod gyntaf ar y rhestr.  Bydd yr Aelod Cynulliad yn darllen y cwestiwn, ac ni ddylai fod yn wahanol i’r fersiwn a gyflwynwyd.  Yna, bydd y Llywydd yn gwahodd y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol neu aelod o’r Comisiwn, fel y bo’n briodol, i roi ateb. 

 

2.16   Mae’r Llywydd wedi datgan bod yn rhaid i atebion fod yn gryno.  Ni ddylent gael eu hehangu’n ddatganiadau.  Fel eithriad, gellir cyhoeddi ateb i gwestiwn y mae angen ateb maith iddo yng Nghofnod y Trafodion, yn hytrach na’i roi ar lafar, ond dylai’r sawl sy’n ateb geisio rhoi ateb byr a defnyddiol ar lafar gan gyfeirio at yr ateb mwy sylweddol sy’n cael ei anfon at yr Aelod, ac yn cael ei gyhoeddi yn y Cofnod.

 

2.17   Bydd Aelod nad yw’n bresennol i ofyn ei gwestiwn llafar yn cael ateb ysgrifenedig, oni bai ei fod wedi tynnu’r cwestiwn yn ôl yn ffurfiol drwy roi gwybod i'r Swyddfa Gyflwyno cyn dechrau’r Cyfarfod Llawn.  Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd y Llywydd yn galw’r cwestiwn nesaf ar yr agenda.  Os bydd Aelod yn gwybod ymlaen llaw na fydd yn gallu bod yn bresennol mewn Cyfarfod Llawn i ofyn cwestiwn y mae wedi’i gyflwyno, dylai dynnu’r cwestiwn yn ôl drwy roi gwybod i’r Swyddfa Gyflwyno.   

 

 

2.18   Ar ôl cael ateb, bydd y Llywydd yn gwahodd yr Aelod a ofynnodd y cwestiwn gwreiddiol i ofyn cwestiwn dilynol (cwestiwn atodol) sy’n gysylltiedig â’r cwestiwn gwreiddiol.   Pan fydd y cwestiwn atodol cyntaf wedi’i ateb, gall y Llywydd alw ar Aelodau eraill i ofyn cwestiynau atodol cysylltiedig. Y Llywydd yn unig sydd i benderfynu pwy gaiff ei alw i ofyn cwestiynau atodol, ac ni ellir herio’r penderfyniad. 

 

2.19   Bydd unrhyw gwestiynau llafar na chânt eu hateb yn ystod y cyfnod a neilltuwyd  ar gyfer cwestiynau llafar yn cael ateb ysgrifenedig ar yr un diwrnod.      Os caiff pob cwestiwn ei ateb cyn i’r amser a neilltuwyd ddod i ben, bydd y Llywydd yn galw am yr eitem nesaf ar yr agenda.

 

Grwpio Cwestiynau

 

2.20   Efallai y bydd adegau pan fydd un o Weinidogion Cymru neu aelod o’r Comisiwn am roi un ateb i fwy nag un cwestiwn os ydynt yn ymwneud â’r un pwnc neu bynciau tebyg iawn.  Gelwir hyn yn ‘grwpio’.  Ar gyfer cwestiynau llafar, mater i’r sawl sy’n ateb y cwestiynau yw cynnig y dylid eu grwpio ond, yn y pen draw, y Llywydd fydd yn penderfynu a ddylid caniatáu hynny ai peidio.   Ar gyfer cwestiynau ysgrifenedig, dim ond cwestiynau gan yr un Aelod y gellir eu grwpio.  Nid yw’r Swyddfa Gyflwyno yn gyfrifol am grwpio cwestiynau ac ni fydd yn cynnig unrhyw gyngor am grwpio.  Caiff unrhyw ymholiadau am grwpio eu cyfeirio at Ysgrifenyddiaeth y Siambr yn y lle cyntaf.

 

Trosglwyddo Cwestiynau

 

2.21   Os bydd swyddogion sy’n cynorthwyo’r Llywodraeth yn credu bod cwestiwn wedi’i gyfeirio at y Gweinidog anghywir, byddant yn rhoi gwybod i’r Aelod os oes bwriad i’w drosglwyddo ac yn egluro pam.  Nid y Swyddfa Gyflwyno fydd yn gwneud y penderfyniad.  Os caiff cwestiwn llafar ei drosglwyddo, bydd yr Aelod yn cael ateb ysgrifenedig, a bydd yn colli’r cyfle i gael ateb ar lafar yn y Cyfarfod Llawn. Yr arfer yw na chaiff cwestiynau eu trosglwyddo y tu allan i oriau swyddfa cytunedig y Swyddfa Gyflwyno, ddau ddiwrnod gwaith cyn y mae disgwyl iddynt gael eu hateb. 

 

2.22   Pan gaiff cwestiwn ei drosglwyddo, bydd swyddogion sy’n cynorthwyo’r Llywodraeth yn anfon hysbysiad ffurfiol at yr Aelod ac i’r Swyddfa Gyflwyno, a fydd yn defnyddio’r wybodaeth fel cynsail er mwyn osgoi achosion o drosglwyddo yn y dyfodol. 

 

Cyhoeddi Cwestiynau ac Atebion Llafar ac Ysgrifenedig

 

2.23   Bydd y Swyddfa Gyflwyno yn rhoi cyfeirnod unigryw i’r cwestiynau.  Caiff y 15 Cwestiwn Llafar a gaiff eu dewis yn y broses gymysgu eu cyhoeddi yn y drefn y cânt eu hateb. Caiff atebion i Gwestiynau Llafar eu cyhoeddi yng Nghofnod y Trafodion. Caiff Cwestiynau Ysgrifenedig eu cyhoeddi y diwrnod ar ôl iddynt gael eu cyflwyno a chânt eu rhestru yn ôl portffolio pob Gweinidog.   Caiff atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig eu cyhoeddi o dan y cwestiwn gwreiddiol ar y dudalen Cwestiynau Ysgrifenedig.

 

Gwelliannau i gwestiynau a gyflwynwyd

 

2.24   Gall Aelodau gywiro mân wallau argraffu mewn cwestiynau a gyflwynwyd ar gyfer ateb ysgrifenedig neu lafar hyd at un diwrnod cyn y mae disgwyl i’r cwestiwn gael ei ateb.     Ni dderbynnir gwelliannau sylweddol a fyddai’n newid cynnwys neu natur y cwestiwn.    

 

Cwestiynau Amserol

 

2.25   Ceir darpariaeth yn Rheol Sefydlog 12.68A i Aelodau ofyn cwestiynau amserol i aelod o'r llywodraeth er na roddwyd yr hysbysiad arferol yn eu cylch.

 

2.26   Dim ond pan fo'r Llywydd yn fodlon bod cwestiwn yn ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog, y caniateir gofyn cwestiwn amserol. Bydd y Llywydd hefyd yn disgwyl bod testun y cwestiwn amserol wedi codi ers i'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno cwestiynau amserol yr wythnos flaenorol fynd heibio.

 

2.27   Mae'r Pwyllgor Busnes wedi neilltuo amser ar gyfer cwestiynau amserol yn syth ar ôl y cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher. Caiff Aelodau wneud cais i ofyn cwestiynau amserol rhwng 9.00 ar ddydd Llun a 10.00 ar ddydd Mercher. Dim ond un cais i ofyn cwestiwn amserol y caiff Aelodau ei gyflwyno bob wythnos a rhaid iddynt ddilyn yr un rheolau â holl gwestiynau’r Cynulliad o safbwynt ffurf, cynnwys a threfn.

 

2.28   Pan gaiff cais ei wneud i ofyn cwestiwn amserol, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn dosbarthu'r cais i swyddogion y llywodraeth er gwybodaeth ac yn rhoi gwybod i'r Llywydd bod cais wedi'i wneud.  Y Llywydd yn unig a fydd yn penderfynu a fydd ceisiadau o’r fath yn cael eu derbyn ai peidio.

 

2.29   Os bydd y Llywydd yn fodlon bod y cais yn bodloni'r meini prawf a nodir uchod, ac yn penderfynu caniatáu i'r Aelod ofyn y cwestiwn yn ystod yr amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau amserol ar ddydd Mercher, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn rhoi gwybod i'r Aelod a'r llywodraeth yn syth. Y llywodraeth a fydd yn penderfynu pa un o Ysgrifenyddion y Cabinet neu ba Weinidog a fydd yn ateb y cwestiwn.  Yn ogystal, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn rhoi gwybod i bob Aelod Cynulliad pa gwestiynau amserol a dderbyniwyd cyn i'r Cyfarfod Llawn perthnasol ddigwydd, a chaiff y cwestiynau eu cyhoeddi ar agenda'r Cyfarfod Llawn.

 

2.30   Y Llywydd a fydd yn penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer yr amser a neilltuwyd. Nid fydd yn rhaid i'r Llywydd ddethol unrhyw gwestiwn amserol os nad yw'n bodloni'r meini prawf a nodir uchod, hyd yn oed os mai dyna'r unig gwestiwn a gyflwynir yr wythnos honno.

 

Cwestiynau Brys

 

2.31   Mae darpariaeth yn Rheol Sefydlog 12.67 i Aelodau ofyn cwestiwn brys heb roi hysbysiad yn ei gylch yn y Cyfarfod Llawn os bydd y Llywydd yn fodlon ei fod yn fater o arwyddocâd cenedlaethol brys, a'i fod yn ymwneud â mater sydd wedi codi'n sydyn y mae angen i'r llywodraeth ymateb iddo ar unwaith. Y Llywydd fydd yn penderfynu a gaiff cwestiynau brys eu gofyn, a pha bryd y cânt eu gofyn, ond byddant yn cael eu cynnwys yn amserlen y Cyfarfod Llawn fel yr eitem gyntaf o fusnes fel arfer.    Fel rheol, disgwylir i Aelod sydd am wneud cais i ofyn cwestiwn brys gyflwyno’r cwestiwn o leiaf ddwy awr cyn i’r Cyfarfod Llawn perthnasol ddechrau.  Rhaid i gwestiynau brys ddilyn yr un rheolau â holl gwestiynau’r Cynulliad o safbwynt ffurf, cynnwys a threfn.

 

2.28   Pan gaiff cais ei wneud, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn dosbarthu'r cais i swyddogion y Cynulliad a'r Llywodraeth i gael cyngor ac yn rhoi gwybod i'r Llywydd bod cais wedi'i wneud.   Y Llywydd yn unig a fydd yn penderfynu a fydd ceisiadau o’r fath yn cael eu derbyn ai peidio.  Caiff y Llywydd ymgynghori â’r aelod perthnasol o'r llywodraeth neu aelod o’r Comisiwn ynghylch a yw’n fater o arwyddocâd cenedlaethol brys, ond nid oes yn rhaid iddo wneud hynny.   

 

2.33   Os bydd y Llywydd yn fodlon bod y cais yn bodloni’r meini prawf o ran bod yn fater brys ac yn un sydd o arwyddocâd cenedlaethol, ac os bydd yn penderfynu caniatáu i’r Aelod ofyn y cwestiwn yn y Cyfarfod Llawn nesaf sydd ar gael, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn rhoi gwybod i’r Aelod yn syth, ynghyd â’r aelod priodol o'r llywodraeth neu aelod o’r Comisiwn.  Yn ogystal, bydd y Swyddfa Gyflwyno yn rhoi gwybod i holl Aelodau’r Cynulliad fod cwestiwn brys wedi’i dderbyn.