R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol? OAQ(5)0573(FM)
2. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau ar gyfer ysgol feddygol i ogledd Cymru? OAQ(5)0562(FM)W
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi anghenion tai pobl Sir Benfro? OAQ(5)0566(FM)
4. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o unrhyw fudd i Gymru pe bai Llywodraeth y DU yn benthyca mwy i fuddsoddi, ar y cyfraddau isel presennol? OAQ(5)0563(FM)
5. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud i ddenu buddsoddiad i'r ardal fenter ym Mhort Talbot? OAQ(5)0571(FM)
6. Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella mynediad at ofal iechyd sylfaenol? OAQ(5)0574(FM)
7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer sefydliadau sy'n adleoli i Gymru o dde-ddwyrain Lloegr? OAQ(5)0568(FM)
8. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y swm priodol o fenthyca ar gyfer Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y DU? OAQ(5)0567(FM)
9. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o Ddeddf yr Undebau Llafur 2016 ers iddi ddod i rym ym mis Mawrth eleni? OAQ(5)0565(FM)
10. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau bod Cymru yn genedl deg o ran gwaith? OAQ(5)0570(FM)
11. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo teithio llesol yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0572(FM)
12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leddfu'r tagfeydd ar y ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0561(FM)
13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y datblygiad tai cyngor newydd yn Ffordd Milford yn Abertawe? OAQ(5)0564(FM)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad GIG Cymru? OAQ(5)0569(FM)
15.Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adeiladu tai yng Nghymru? OAQ(5)0575(FM)