2012 Rhif 685 (Cy. 93)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol), yn unol â rheoliadau, i gynnal arolwg ar ôl pob etholiad cyffredin i gyngor y sir neu fwrdeistref sirol ac i bob cyngor cymuned (a gynhelir fel rheol ar yr un pryd bob pedair blynedd) yn ardal yr awdurdod lleol.

Rhaid i awdurdod lleol gynnal yr arolwg drwy ofyn cwestiynau rhagnodedig i gynghorwyr ac i ymgeiswyr aflwyddiannus sydd wedi ymgeisio am gael eu hethol yn gynghorwyr yn ardal yr awdurdod lleol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r cwestiynau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu gofyn wrth gynnal arolwg etholiad lleol. Mae'r cwestiynau rhagnodedig a’r ffurf y caniateir eu gofyn ynddi wedi eu dangos yn yr Atodlen i'r Rheoliadau.

Mae'r cwestiynau rhagnodedig yn ymwneud â rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, iaith, hil, oedran, anabledd, crefydd neu gred, iechyd, addysg a chymwysterau, cyflogaeth, gwaith fel cynghorydd, ymlyniad at blaid wleidyddol, cysylltiadau gyda'r trydydd sector, a hyd gweithgarwch gwleidyddol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi bod yn rhaid i'r wybodaeth a gafwyd o'r arolwg gael ei chrynhoi mewn taenlen electronig. Bydd manylion ynglŷn â’r daenlen yn cael eu cynnwys mewn canllawiau.

Yn ychwanegol at hynny, mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi mai’r modd y mae’n rhaid i’r wybodaeth a grynhowyd gael ei darparu i Weinidogion Cymru yw drwy daenlen electronig.

 


2012 Rhif  685 (Cy. 93)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012

Gwnaed                                 4 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       6 Mawrth 2012

Yn dod i rym                        31 Mawrth 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1(3)(a), 1(3)(b), 2(2),  a 175 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012.

(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Mawrth 2012.

Dehongliad

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cwestiynau a ffurflen yr arolwg

3. At ddibenion adran 1(3)(a) o’r Mesur, mae’r cwestiynau a’r ffurf y maent i gael eu gofyn ynddi wedi eu dangos yn yr Atodlen.

Crynhoi gwybodaeth yr arolwg

4. At ddibenion adran 1(3)(b) o’r Mesur, rhaid i’r wybodaeth gael ei chrynhoi mewn taenlen electronig.

Darparu gwybodaeth yr arolwg

5. At ddibenion adran 2(2) o’r Mesur, rhaid i’r wybodaeth a grynhowyd gael ei darparu i Weinidogion Cymru drwy daenlen electronig.

 

Carl Sargeant

 

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

 

4 Mawrth 2012


               ATODLEN  Rheoliad 3

Arolwg o Ymgeiswyr Llywodraeth Leol yng Nghymru

Rhif

Cwestiwn

 

Ymateb (gweler y troednodyn ar ddiwedd y cwestiynau)

1

Yn yr etholiad llywodraeth leol diwethaf, a wnaethoch ymgeisio am gael eich ethol i:

(rhowch dic fel y bo’n briodol)

·     Gyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol

 

·     Cyngor Cymuned neu Gyngor Tref

 

2

Beth yw eich statws yn dilyn yr etholiad lleol?

(rhowch dic fel y bo'n briodol)

·     Cynghorydd –

Sir neu Fwrdeistref Sirol

 

 

 

·     Cynghorydd –

Cyngor Cymuned neu Gyngor Tref

 

 

 

·     Heb gael fy

ethol

 

3

Yn yr etholiad llywodraeth leol, pa blaid, os unrhyw un, yr oeddech yn ei chynrychioli?

(rhowch dic fel y bo'n briodol)

·     Annibynnol

 

 

 

 

·     Plaid Cymru

 

 

 

·     Plaid Geidwadol Cymru

 

 

 

·     Plaid Lafur Cymru

 

 

 

·     Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

 

 

 

·     Arall (nodwch os gwelwch yn dda)

 


 

4

Ydych chi wedi ymgeisio am gael eich ethol i gyngor yn y gorffennol? (rhowch dic fel y bo'n briodol)

·     Ydw (Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol)

 

 

 

 

·     Ydw (Cyngor Cymuned neu Gyngor Tref)

 

 

 

 

·     Nac ydw

 

 

5

Ydych chi wedi gwasanaethu fel cynghorydd yn y gorffennol? (rhowch dic fel y bo'n briodol)

·     Ydw (Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol)

 

 

 

 

·     Ydw (Cyngor Cymuned neu Gyngor Tref)

 

 

 

 

·     Nac ydw

 

 

6

Os ydych, beth yw cyfanswm y blynyddoedd y buoch yn gwasanaethu fel cynghorydd?  Cynhwyswch bob cyfnod y buoch yn gwasanaethu fel cynghorydd

·     Blynyddoedd fel cynghorydd sir neu gynghorydd bwrdeistref sirol

 

 

 

·     Blynyddoedd fel cynghorydd cymuned neu gynghorydd tref

 

7

Ydych chi’n:

(rhowch dic fel y bo'n briodol)

·     Wryw

 


 

 

 

·     Benyw

 

8

Ym mha grŵp oedran oeddech ar eich pen-blwydd diwethaf?

(rhowch dic fel y bo’n briodol)

·     18-24 oed

 

 

·     25-29 oed

 

 

 

 

·     30-34 oed

 

 

·     35-39 oed

 

 

·     40-44 oed

 

 

·     45-49 oed

 

 

·     50-54 oed

 

 

·     55-59 oed

 

 

·     60-64 oed

 

 

·     65-69 oed

 

 

·     70-74 oed

 

 

·     75-79 oed

 

 

·     80 oed neu’n hŷn

 

9

Beth yw eich grŵp ethnig?

(rhowch dic fel y bo'n briodol)

A. Gwyn

·     Cymreig/Seisnig/ Albanaidd/ Gwyddelig Gogledd Iwerddon/ Prydeinig

 

 

 

·     Gwyddelig

 

 

 

·     Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig

 

 

 

·     Unrhyw gefndir gwyn arall — nodwch os gwelwch yn dda

 

 

 

B. Grwpiau cymysg/aml-ethnig

·     Gwyn a Du Caribïaidd

 

 

 

·     Gwyn a Du Affricanaidd

 

 

 

·     Gwyn ac Asiaidd

 

 

 

·     Unrhyw gefndir cymysg/aml-ethnig arall — nodwch os gwelwch yn dda

 

 

 

C. Asiaidd/Asiaidd Prydeinig

·      Indiaidd

 

 

 

·     Pacistanaidd

 

 

 

·     Bangladeshaidd

 

 

 

·     Tsieinïaidd

 

 

 

·     Unrhyw gefndir Asiaidd arall — nodwch os gwelwch yn dda

 

 

 

CH. Du/ Affricanaidd/ Caribïaidd/Du Prydeinig

·     Affricanaidd

 

 

 

·     Caribïaidd

 

 

 

·     Unrhyw gefndir Du/Affricanaidd/ Caribïaidd arall — nodwch os gwelwch yn dda

 

 

 

D. Grŵp ethnig arall

·     Arabaidd

 

 

 

·     Unrhyw grŵp ethnig arall — nodwch os gwelwch yn dda

 

10

Beth yw eich crefydd?

·     Dim crefydd

 

 

 

·     Cristion (pob enwad)

 

 

 

·     Bwdhydd

 

 

 

·     Hindŵ

 

 

 

·     Iddew

 

 

 

·     Mwslim

 

 

 

·     Sikh

 

 

 

·     Unrhyw grefydd arall — nodwch os gwelwch yn dda

 

11

Ydych chi’n eich ystyried eich hun yn:

(rhowch dic fel y bo'n briodol)

·     Heterorywiol neu strêt

 

 

 

·     Hoyw neu lesbiaidd

 

 

 

·     Deurywiol

 

 

 

·     Arall

 

12

Beth yw eich statws cyflogaeth?

(rhowch dic fel y bo'n briodol)

·     Hunangyflogedig

 

 

 

·     Mewn cyflogaeth lawnamser

 

 

 

·     Mewn cyflogaeth ran-amser

 

 

 

·     Di-waith

 

 

 

·     Wedi ymddeol

 

 

 

·     Ar absenoldeb mamolaeth

 

 

 

·     Yn gofalu am deulu neu gartref

 

 

 

·     Myfyriwr/aig llawnamser

 

 

 

·     Sâl hirdymor neu anabl

 


 

 

 

·     Ar un o gynlluniau hyfforddi'r llywodraeth

 

 

 

·     Gweithiwr/aig di-dâl mewn busnes teuluol

 

 

 

·     Gofalwr di-dâl

 

 

 

·        Yn gwneud rhywbeth arall (nodwch os gwelwch yn dda)

 

13

Pa gategori sy'n disgrifio orau eich sector cyflogaeth cyfredol neu ddiweddaraf?

(rhowch dic fel y bo'n briodol)

·     Llywodraeth leol

 

 

 

·     Llywodraeth ganolog

 

 

 

·     Y GIG

 

 

 

·     Addysg

 

 

 

·     Arall yn y sector cyhoeddus

 

 

 

·     Y sector preifat

 

 

 

·     Y sector gwirfoddol

 

 

 

·     Arall (nodwch os gwelwch yn dda)

 

14

Os yw’ch statws yn un cyflogedig, pa gategori sy’n disgrifio orau eich math o gyflogaeth?

·     Rheolwr neu swyddog gweithredol

 

 

 

·     Proffesiynol neu dechnegol

 

 

 

·     Darlithydd, athro neu ymchwilydd

 

 

 

·     Gweinyddol, clercol, ysgrifenyddol neu werthu

 

 

 

·     Gwaith llaw neu grefft

 

15

Oes gennych chi gyfrifoldeb rhiant am blentyn 16 oed neu’n iau? (rhowch dic fel y bo’n briodol)

·     Oes

 

 

 

·     Nac oes

 

16

Ydych chi wedi rhoi cymorth di-dâl i unrhyw un o'r mathau hyn o grŵp neu sefydliad ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis diwethaf? Er enghraifft, fel gwirfoddolwr, ymddiriedolwr neu aelod o fwrdd

(rhowch dic yn erbyn pob un sy'n berthnasol)

·     Addysg plant/ ysgolion

 

 

 

·     Gweithgareddau ieuenctid/plant (y tu allan i'r ysgol)

 

 

 

·     Addysg i oedolion

 

 

 

·     Chwaraeon neu ymarfer corff (e.e. hyfforddi)

 

 

 

·     Grŵp crefyddol neu grŵp ffydd

 

 

 

·     Grŵp ar sail rhywedd

 

 

 

·     Grŵp rhywioldeb

 

 

 

·     Plaid wleidyddol

 

 

 

·     Grŵp iechyd, anabledd neu les cymdeithasol

 

 

 

 

·     Yr henoed

 

 

 

 

·     Cymorth Cyntaf

 

 

 

 

·     Grŵp amgylchedd

 

 

 

 

·     Grŵp lles anifeiliaid

 

 

 

 

·     Cyfiawnder a Hawliau Dynol

 

 

 

 

·     Grŵp cymunedol neu grŵp cymdogaeth

 

 

 

 

·     Grŵp dinasyddion

 

 

 

 

·     Clwb cymdeithasol

 

 

 

 

·     Undeb Llafur

 

 

 

 

·     Arall (nodwch os gwelwch yn dda)

 

 

 

 

·     Dim

 

 

17

Beth yw eich cymhwyster addysgol uchaf?

(rhowch dic fel y bo'n briodol)

·     Dim

 

 

 

 

·     Lefel ‘O’, TGAU, TAU, NVQ 1/2 neu gyfwerth

 

 

 

 

·     Lefel ‘A’, NVQ 3 neu gyfwerth

 

 

 

 

·     NVQ lefel 4 neu gyfwerth

 

 

 

 

·     Gradd Sylfaen neu Gyffredin

·     NVQ lefel 5

·     Diploma Cenedlaethol Uwch a Thystysgrif Genedlaethol Uwch

 

 

 

 

·     Gradd Anrhydedd

 

 

 

 

·       Cymhwyster Meistr/Ôl-raddedig

 

 

 

 

·     Cymhwyster proffesiynol (e.e. cyfrifyddiaeth)

 

 

18

Sut mae eich iechyd corfforol yn gyffredinol?

(rhowch dic fel y bo'n briodol)

·     Da iawn

 

 

 

 

·     Da

 

 

 

 

·     Gweddol

 

 

 

 

·     Gwael

 

 

 

 

·     Gwael iawn

 

 

 

 

·     Da iawn

 

 

19

Sut mae eich iechyd meddwl yn gyffredinol? (rhowch dic fel y bo’n briodol)

 

 

 

 

 

·     Da

 

 

 

 

·     Gweddol

 

 

 

 

·     Gwael

 

 

 

 

·     Gwael iawn

 

 

20

Ydych chi’n eich ystyried eich hun yn berson anabl?

(rhowch dic fel y bo'n briodol)

·     Ydw

 

 

 

 

·     Nac ydw

 

 

 

Os ydych, oes gennych chi:

 

 

 

 

Nam corfforol

 

 

 

 

Nam ar y synhwyrau

 

 

 

 

Anabledd dysgu

 

 

 

 

Problem iechyd meddwl

 

 

 

 

Cyflwr iechyd hirdymor

 

 

 

 

Arall (nodwch os gwelwch yn dda)

 

 

 

21

Os ydych, a yw'r salwch neu anabledd hwn yn cyfyngu ar eich gweithgareddau mewn unrhyw fodd?

(rhowch dic fel y bo'n briodol)

·     Ydy

 

 

 

 

·     Nac ydy

 

 

22

Allwch chi ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg?

(rhowch dic yn erbyn pob un sy'n berthnasol)

·     Yn deall Cymraeg llafar

 

 

 

 

·     Yn siarad Cymraeg

 

 


 

 

 

·     Yn darllen Cymraeg

 

 

 

·     Yn ysgrifennu Cymraeg

 

 

 

·     Dim un o'r uchod

 

23

Beth yw eich prif iaith?

(rhowch dic yn erbyn pob un sy'n berthnasol)

 

·     Saesneg

 

 

 

·     Cymraeg

 

 

 

·     Arall (gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain)

 

Noder nad oes rhaid i chi ateb pob un o’r cwestiynau uchod nac ateb unrhyw un ohonynt.

 

 



([1])           2011 (mccc 4).