2012 Rhif 629 (Cy. 87)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Gwella'r Fenni 1854 (Diddymu) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu adran 28 o Ddeddf Gwella'r Fenni 1854 (p.49) (“Deddf 1854”) ac mae’n dod i rym ar 26 Mawrth 2012.

Mae Deddf 1854 i’w darllen ar y cyd â Deddf Gwella'r Fenni 1860 (p.137) a Deddf Gwella'r Fenni 1871 (p.92) (gweler adran 2 o’r Ddeddf olaf).

Rhoddodd adran 28 o Ddeddf 1854 swyddogaethau i’r rhai a oedd yn Gomisiynwyr y Fenni ar yr adeg honno i adeiladu marchnad wartheg a lladd-dai o fewn ardal a ddiffiniwyd yn y Fenni ac i gasglu tollau.  Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Gyngor Sir Fynwy.

Mae adran 26 o Ddeddf 1854 yn ymgorffori mwyafrif darpariaethau Deddf Cymalau Marchnadoedd a Ffeiriau 1847 (p.14) ac mae amryw o’r darpariaethau hynny yn cael effaith mewn perthynas ag adran 28 o Ddeddf 1854.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diddymu adran 28 o Ddeddf 1854 gan gynnwys y graddau y mae adran 26 o Ddeddf 1854 yn effeithio ar adran 28.

Y sail dros wneud y Gorchymyn yw bod y ddarpariaeth a ddiddymwyd yn anarferedig, yn ddianghenraid ac wedi ei disodli.  Mae Deddf Bwyd 1984 yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â sefydlu a gweithredu marchnadoedd da byw ac mae’n gymwys i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned yng Nghymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.  O ganlyniad, barnwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol ynghylch y costau a’r manteision tebygol o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.


2012 Rhif 629 (Cy. 87)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Gwella'r Fenni 1854 (Diddymu) 2012

Gwnaed                               28 Chwefror 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol

Cymru                                     2 Mawrth 2012

 

Yn dod i rym                            26 Mawrth 2012

Ymddengys i Weinidogion Cymru bod adran 28 o Ddeddf Gwella'r Fenni 1854([1]), sef darpariaeth statudol leol at ddibenion adrannau 57 a 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994([2]), bellach yn anarferedig ac yn ddianghenraid ac wedi ei disodli'n helaeth gan Ddeddf Bwyd 1984([3]).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([4]).

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwella'r Fenni 1854 (Diddymu) 2012.

(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 26 Mawrth 2012.

 

 

Diddymu

2. Mae adran 28 (y comisiynwyr yn cael ffurfio ac adeiladu marchnad wartheg a lladd-dai) o Ddeddf Gwella’r Fenni 1854 (“Deddf 1854”) wedi ei diddymu (gan gynnwys y graddau y mae adran 26 (ymgorffori Deddf Cymalau Marchnadoedd a Ffeiriau 1847([5])) o Ddeddf 1854 yn cael effaith mewn perthynas ag adran 28).

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

 

28 Chwefror  2012



([1])           1854 p.49. Diwygiwyd Deddf 1854 gan Ddeddf Gwella'r Fenni 1860 (p. 137).

([2])           1994 p.19.

([3])           1984 p.30. Gweler adrannau 50 a 53.

([4])           Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S  1999/672) ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

([5])           1847 p.14.