R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0529(FM)
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi ei gynnal gyda Newsquest ynglŷn ag arian cyhoeddus â ddefnyddiwyd er mwyn sefydlu canolfan is-olygu y cwmni yng Nghasnewydd? OAQ(5)0542(FM)W
3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am benderfyniadau cyllidebol Llywodraeth Cymru o ran gofal cymdeithasol? OAQ(5)0532(FM)
4. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i feithrin gwydnwch emosiynol ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru? OAQ(5)0540(FM)
5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OAQ(5)0527(FM)
6. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa triniaethau newydd? OAQ(5)0533(FM)
7. Gareth Bennett (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Chyngor Caerdydd ynghylch y ddarpariaeth gorsaf fysiau newydd yn y ddinas? OAQ(5)0538(FM)
8. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn tanio Erthygl 50, pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu eu cael â Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu marchnad sengl i'r DU? OAQ(5)0537(FM)
9. David Melding (Canol De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo rhaglenni mentoriaeth menywod yn gadarnhaol yn y gweithle? OAQ(5)0530(FM)
10. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ystyried ailagor cyfleusterau iechyd meddwl amenedigol i gleifion mewn ysbytai? OAQ(5)0526(FM)
11. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ba mor ddigonol yw amddiffynfeydd llifogydd arfordirol yng Ngorllewin Clwyd? OAQ(5)0531(FM)
12. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gaffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0536(FM)W
13. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau canser ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ(5)0539(FM)
14. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am statws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(5)0534(FM)
15. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu Strategaeth Arthritis Genedlaethol? OAQ(5)0541(FM)