Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

Environment and Sustainability Committee

 

 

 

 

 

 

 

5 Mawrth 2012

 

Annwyl ,

 

Ymchwiliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin i’r diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

 

Rwy’n ysgrifennu atoch i dynnu’ch sylw at rai o ganfyddiadau cychwynnol yr ymchwiliad sy’n cael ei gynnal gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (‘y Grŵp’) i’r cynigion deddfwriaethol ynghylch dyfodol y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a Chronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop. Sefydlwyd y Grŵp gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 

Dros y misoedd diwethaf, mae’r Grŵp wedi casglu tystiolaeth gan gynrychiolwyr diwydiannau yn y sectorau pysgodfeydd a dyframaethu, cyrff y llywodraeth, cyrff amgylcheddol a Lowri Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Materion Morol a Physgodfeydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein drwy ddilyn y linc a ganlyn: y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.

O gofio cyflwr presennol sector pysgodfeydd yr UE a’r dirywiad parhaus yn stociau pysgod Ewrop, mae’r Grŵp yn credu bod cynigion y Comisiwn yn amserol ac y dylid eu croesawu, yn gyffredinol. Mae’r Grŵp yn cefnogi nod y Comisiwn Ewropeaidd o sicrhau bod sector pysgodfeydd Ewrop yn fwy cynaliadwy a phroffidiol yn y dyfodol. Yn ystod yr ymchwiliad, fodd bynnag, galwodd rhanddeiliaid o bob sector ar y Comisiwn i roi gwell eglurhad o nifer o elfennau o’r cynigion deddfwriaethol a byddwn yn annog ein Gweinidog i bwyso am hyn.

 

Nodwyd chwe maes blaenoriaeth yn benodol yn ystod cam cyntaf y gwaith hwn, a chredwn y byddai angen newid testun y rheoliadau drafft i gyd-fynd â’r rhain:

 

 

Yn ogystal â’n meysydd blaenoriaeth, mae gennym sylwadau ar hawliau pysgota hanesyddol, dyframaeth a Chronfa arfaethedig Môr a Physgodfeydd Ewrop.

  

Mae’r papur sydd ynghlwm sy’n ymdrin â’n canfyddiadau allweddol yn manylu ar y materion a’r meysydd allweddol i’w gwella, a nodir uchod.

 

Byddwn yn parhau i fonitro hynt y cynigion yn ystod y trafodaethau, gan gynnwys y trafodaethau tyngedfennol yn Senedd Ewrop.

 

Rydym wedi ysgrifennu at y prif rapporteurs ynghylch y cynigion a byddem yn ddiolchgar am unrhyw gymorth y gallech ei ddarparu o ran codi’r materion hyn o fewn Senedd Ewrop drwy eich grŵp gwleidyddol, er mwyn sicrhau cefnogaeth ar gyfer y diwygiadau arfaethedig.

 

Yn olaf, rydym yn bwriadu ymweld â Brwsel yn ystod y misoedd nesaf (ym mis Mai neu Fehefin, o bosibl), a gobeithiwn y bydd yr ymweliad hwn yn rhoi cyfle i ni drafod y materion hyn â chi, yn ogystal ag unrhyw bwyntiau eraill sy’n codi yn y cyfamser.

 

Yn gywir

Julie James

Cadeirydd

 

 


 

 

Canfyddiadau allweddol Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin

Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol (Erthygl 2.4[1])

Mae gan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (PPC) ran hanfodol yn y gwaith o sicrhau bod Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol yn cael ei rhoi ar waith. Gan hynny, rydym yn croesawu cynnig y Comisiwn Ewropeaidd y dylai’r PPC hybu dulliau o reoli pysgodfeydd sy’n seiliedig ar ecosystemau ac y dylai sicrhau’r cynnyrch cynaliadwy mwyaf erbyn 2015. Roedd llawer o’r dystiolaeth a gawsom, fodd bynnag, yn mynegi pryder ynghylch y ffaith nad oes cysylltiad amlwg rhwng y Gyfarwyddeb a’r cynigion i ddiwygio’r PPC. Mae tri phrif faes yn peri pryder:

Mae’r rhanddeiliaid yn credu bod y diffyg eglurder hwn yn creu anghysonderau a gwrthdaro posibl rhwng y Gyfarwyddeb a’r PPC, a allai danseilio amcanion cynigion y Comisiwn Ewropeaidd.

Rydym yn argymell y dylid newid Erthygl 2.4 i ddarllen fel a ganlyn:

The Common Fisheries Policy shall integrate Union environmental legislation requirements; contribute to the achievement of good environmental status of EU waters by 2020 and favourable conservation status under the Habitats and Birds Directives.

 

Cyfarwyddebau Cynefinoedd ac Adar (Erthygl 12)

Roedd nifer o gyrff amgylcheddol yn pryderu am eiriad y cynigion i ddiwygio’r PPC yng nghyswllt y Cyfarwyddebau Cynefinoedd ac Adar. Roedd rhanddeiliaid yn credu’n gryf bod y cynigion presennol yn gwanhau’r warchodaeth y mae’r Cyfarwyddebau presennol yn ei chynnig i gynefinoedd a rhywogaethau morol. Efallai mai camgymeriad wrth ddrafftio testun y cynigion yw hyn, ond gall amharu’n arw ar y gallu i roi’r Cyfarwyddebau hyn ar waith yn effeithiol.

Gan hynny, rydym yn galw am welliannau i destun y cynigion, fel a ganlyn:

Erthygl 12.1i’w newid i ddarllen fel a ganlyn:

…Member States in such a way as to avoid deterioration of habitats and disturbance of species in such special areas of conservation.

Erthygl 12.2i’w newid i ddarllen fel a ganlyn:

The Commission shall be obliged to adopt delegate acts…to specify fishing related measures to avoid deterioration of habitats and disturbance of species in such special areas of conservation.

Cynlluniau amlflwyddyn a’r cynnyrch cynaliadwy mwyaf (Erthygl 2)

Roedd cyrff amgylcheddol a chyrff y diwydiant pysgota yn gefnogol i’r cynnig i ddatblygu cynlluniau amlflwyddyn i reoli stociau pysgod. Byddai dulliau o reoli stociau sy’n seiliedig ar gynlluniau ar gyfer nifer o flynyddoedd, ac sy’n diogelu ecosystemau, yn sicrhau gwell canlyniadau i’r stociau pysgod a’r diwydiant.

Roeddent yn cytuno, fodd bynnag, fod angen llawer rhagor o fanylion ynglŷn â rheoli sut a phryd y caiff y cynlluniau eu datblygu. Yn ogystal â hyn, gan mai drwy gyfrwng y cynlluniau hyn yn bennaf y bydd modd sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy, dylid sefydlu proses glir i gynnwys rhanddeiliaid yn y gwaith o’u datblygu.

Roedd llawer o’r dystiolaeth o blaid cynnal asesiad amgylcheddol o gynlluniau amlflwyddyn ac y dylent ystyried pysgodfeydd y glannau, lle bo hynny’n berthnasol, er mwyn gweithredu ar sail ecosystemau cyfan.

Rydym yn cydnabod bod bylchau mewn data a gwybodaeth wyddonol a all, yn y tymor byr, fod yn rhwystr i’r gwaith o ddatblygu cynlluniau amlflwydd ond, er hyn, gan eu bod mor bwysig i lwyddiant y polisi, credwn fod yn rhaid ymrwymo i’w datblygu fel mater o frys.

Gan hynny, rydym yn argymell, lle bo hynny’n bosibl, y dylid mabwysiadu cynlluniau amlflwyddyn erbyn 2015 i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r ymrwymiad i sicrhau’r cynnyrch cynaliadwy mwyaf o ran stociau pysgod erbyn 2015:

Ychwanegu adran 5 newydd at Erthygl 2 sy’n nodi: Multiannual plans shall, where possible, be adopted by 2015.

 

Trosglwyddo Consesiynau Pysgota (Erthyglau 27-33)

Mae’r rhan fwyaf o fflyd pysgota Cymru yn cynnwys cychod bach y glannau sy’n llai na 12 metr o hyd. Gan hynny, roedd y rhanddeiliaid yn pryderu am gynigion y Comisiwn i gyflwyno cynllun mandadol o gonsesiynau pysgota trosglwyddadwy i bob cwch dros 12 metr o hyd a phob cwch a ddefnyddir i dynnu offer. Mynegwyd y pryderon penodol a ganlyn:

Yn gyffredinol, teimlai’r rhanddeiliaid na ddylid cyflwyno system fandadol o gonsesiynau ac y dylid cyflwyno system wirfoddol yn cynnwys gwahanol ddulliau i’r aelod-wladwriaethau eu defnyddio i leihau gorgapasiti ac i newid ymddygiad pysgotwyr. Er ein bod yn cydnabod cynnig y Comisiwn i ganiatáu i aelod-wladwriaethau gynllunio’u systemau a’u dulliau gwarchod eu hunain, rydym yn teimlo bod y mater hwn yn rhy bwysig i’w adael i ffawd.

Rydym yn argymell, gan hynny, y dylai’r system consesiynau pysgota trosglwyddadwy fod yn wirfoddol. Dylid o leiaf sicrhau mwy o eglurder yn y ddeddfwriaeth o ran y modd y caiff ei chymhwyso i gychod bach ag offer cymysg ac o ran y camau y dylid eu cymryd i ddiogelu ac i gynnal fflyd pysgota amrywiol Ewrop.

 

Datganoli cyfrifoldeb i’r rhanbarthau

Rydym yn croesawu cynigion y Comisiwn i ddatganoli cyfrifoldeb dros reoli pysgodfeydd i’r rhanbarthau. Heb ddatganoli, a chynyddu rôl rhanddeiliaid, mae’n anodd dychmygu sut y gellir rheoli pysgodfeydd yr UE yn gynaliadwy. Fodd bynnag, roedd y rhanddeiliaid yn teimlo’n gryf nad oes digon o eglurder o ran y modd y gallai datganoli’r gwaith o reoli pysgodfeydd weithio’n ymarferol, er enghraifft a fydd gan y cynghorau cynghori ran yn y gwaith, a fydd disgwyl iddynt reoli pysgodfeydd ar y cyd ag aelod-wladwriaethau neu a fydd aelod-wladwriaethau’n cael eu gorfodi i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pysgodfeydd yn cael eu rheoli’n rhanbarthol?

Rydym yn croesawu’r ffaith bod Cyfarwyddwr Cyffredinol Materion Morol a Physgodfeydd yn cydnabod bod angen mwy o eglurder yn y maes hwn. Roedd y Pwyllgor hefyd yn croesawu’r ffaith bod y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn cadarnhau y gallai’r aelod-wladwriaethau, o dan y cynigion, ddod ynghyd i reoli moroedd ar raddfa ranbarthol lai er enghraifft Môr Iwerddon. Byddwn, felly, yn annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r mater hwn ac i hyrwyddo’r syniad a’i ddatblygu fel ffordd o reoli pysgodfeydd.                                                                                                

Clywodd y Grŵp fod cefnogaeth gyffredinol i rôl a swyddogaethaur Cynghorau Cynghori a theimlai’r rhanddeiliaid yn gryf y dylair Cynghorau Cynghori fod yn rhan or gwaith o ddatblygu ac asesu cynlluniau amlflwyddyn. Fodd bynnag, roedd rhain pryderu am y modd y bu Cynghorau Cynghori yn gweithredu. Teimlai’r rhanddeiliaid:

Rydym yn argymell, gan hynny, y dylid sicrhau bod strwythur y cynghorau cynghori yn y dyfodol yn rhoi llais i bysgotwyr a chymunedau’r glannau.

Rydym yn croesawu’r cynigion yng nghyswllt Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop a fyddai’n caniatáu i’r aelod-wladwriaethau gynorthwyo cynrychiolwyr y sector pysgota sy’n gweithredu ar raddfa fach i gyfrannu at drafodaethau’r Cyngor Cynghori Rhanbarthol.

 

Pysgod a gaiff eu taflu’n ôl

Er bod y cyrff amgylcheddol a’r diwydiant pysgota o blaid yr egwyddor o ddod â’r arfer o daflu pysgod yn ôl i’r môr i ben, roedd rhai ohonynt yn pryderu am ganlyniadau anfwriadol gwahardd yr arfer yn gyfan gwbl. Yn benodol, mae’r Pwyllgor yn teimlo’i bod yn bwysig:

Gan hynny, rydym yn argymell y dylid newid Erthygl 15 fel a ganlyn:

All catches of the following fish stocks subject to catch limits caught during fishing activities in Union waters or by Union fishing vessels outside Union waters shall be brought and retained on board fishing vessels and recorded and landed except where used as live bait or where unwanted catch can be returned alive.

 

Casglu data (Erthygl 37 a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop)

Roedd yr holl dystiolaeth yn cytuno bod yn rhaid seilio’r gwaith o ddiwygio’r PPC ar dystiolaeth wyddonol gadarn. Mae’n bwysig bod y broses o gasglu data o dan Bolisi Pysgodfeydd Cyffredin newydd yn cael ei chynllunio i hybu dulliau sy’n diogelu ecosystemau yn hytrach na dim ond diogelu un stoc pysgod unigol. Bydd casglu amrywiaeth ehangach o ddata o safon yn bwysig ar gyfer datblygu a gweithredu cynlluniau amlflwyddyn ac yn hanfodol ar gyfer datblygu pysgodfeydd Ewropeaidd cynaliadwy. Roeddem yn falch bod y Cyfarwyddwr Cyffredinol wedi cydnabod hyn yn ystod ei thrafodaethau â ni ac rydym yn croesawu cynigion y Comisiwn Ewropeaidd i weithio gyda’r gymuned wyddonol a’r aelod-wladwriaethau i wella’r dystiolaeth sydd ar gael.

Er mwyn llenwi’r blychau presennol yn y data, roeddem yn teimlo bod angen gwneud rhagor i gymell pysgotwyr i gymryd rhan yn y broses o gasglu data ac i ddatblygu’r bartneriaeth rhwng y gwyddonwyr a’r pysgotwyr. Mae angen sicrhau bod y data a gesglir yn cael ei fwydo’n ôl i’r diwydiant mewn ffordd ddefnyddiol er mwyn iddynt weld ei bod yn fuddiol iddynt gymryd rhan yn y broses. Gan hynny, rydym yn croesawu’n frwd y cynnig yn Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop i sicrhau bod arian ar gael ar gyfer cynlluniau o’r math hwn.

Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod yr aelod-wladwriaethau’n rhoi sylw dyledus i’r broses o gasglu data, rydym yn cynnig y dylid cryfhau rheoliadau’r PPC i’w gwneud yn ofynnol i’r aelod-wladwriaethau ddatblygu cynlluniau casglu data gyda rhanddeiliaid.

Ar hyn o bryd, maeErthygl 37.3: Gofynion Data ar gyfer Rheoli Pysgodfeydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r aelod-wladwriaethau sicrhau bod y gwaith o gasglu a rheoli data gwyddonol ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn cael ei gydgysylltu’n genedlaethol. Rydym yn argymell bod y cynigion yn cael eu diwygio fel a ganlyn:

Erthygl 37.3

Member States shall ensure the national coordination of the collection and management of scientific data for fisheries management and shall produce multi-annual plans for data collection. To this end they shall designate a national correspondent and organize an annual national coordination meeting. The Commission shall be informed of the national coordination activities and of the production multi-annual plans and be invited to the coordination of meetings.

 

Dyframaeth

Roedd cefnogaeth gyffredinol i gynnig y Comisiwn Ewropeaidd i’w gwneud yn ofynnol i’r aelod-wladwriaethau ddatblygu strategaethau dyframaeth cenedlaethol. Er y dylid rhoi hyblygrwydd i’r aelod-wladwriaethau gynllunio strategaethau cenedlaethol sy’n addas ar gyfer eu diwydiannau nhw, mae’n bwysig bod gan yr UE gyfeiriad canolog cryf. Rydym yn nodi pryderon Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ynghylch sybsidiaredd ond yn cydnabod bod y diwydiant yn awyddus i sicrhau twf yn y sector drwy gael arweiniad canolog ar gyfer yr UE cyfan. Fodd bynnag, bydd yn bwysig sicrhau bod y PPC yn ei gwneud yn ofynnol i’r diwydiant lynu wrth fesurau a chyfarwyddebau i ddiogelu’r amgylchedd.

 

Cynigion ar gyfer Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop

Ar ôl inni ddechrau casglu ein tystiolaeth am y cynigion i ddiwygio’r PPC, cyn cyhoeddi’r cynigion ynghylch Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, roeddem yn falch o weld bod cynifer o ddymuniadau’r rhanddeiliaid wedi’u cynnwys. Yn benodol, rydym yn croesawu’r cynigion i ganiatáu i’r aelod-wladwriaethau gynnig arian ar gyfer:

Gobeithio y bydd yr elfennau hyn yn parhau’n rhan o’r gronfa a byddwn yn sicr yn annog ein Llywodraeth i ddefnyddio’r arian i gynnig cymorth cyffredinol i gymunedau sy’n pysgota ar hyd y glannau yng Nghymru.

 

Hawliau Pysgota Hanesyddol

Er ein bod yn deall nad yw hawliau pysgota hanesyddol yn rhan o’r cynigion i ddiwygio’r PPC ar hyn o bryd, gan fod y cychod sydd â’r hawliau hyn yn cael effaith mor niweidiol ar ein fflyd pysgota, mae’n rhaid inni fanteisio ar bob cyfle i dynnu sylw at y problemau difrifol y mae’r mater hwn yn dal i’w creu. Clywsom fod y diwydiant pysgota yng Nghymru yn pryderu’n arw am y canlynol:

Er ein bod yn nodi barn y Comisiwn nad yw’r aelod-wladwriaethau, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, yn awyddus i ymdrin â’r mater hwn ar hyn o bryd drwy’r PPC, rydym yn gobeithio’n arw y bydd yr holl aelod-wladwriaethau yn manteisio ar y cyfle i ymdrin â’r mater drwy gyfrwng cytundebau rhanbarthol i ddatganoli’r cyfrifoldeb o reoli pysgodfeydd i’r rhanbarthau. Oni bai y cymerir camau pendant yn y cyswllt hwn, bydd dyfodol cymunedau traddodiadol sy’n pysgota ar raddfa fechan ar hyd y glannau o dan fygythiad.

 



[1] Sylwch fod yr holl welliannau a gynigir yn y llythyr hwn yn ymwneud â’r Rheoliad drafft ar gyfer y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin COM(2011)425, a gyhoeddwyd ar 13 Gorffennaf 2011