Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Chwefror 2017
i'w hateb ar 14 Chwefror 2017

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1.Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynd i'r afael â thwyllo yng Nghymru? OAQ(5)0443(FM)

 

2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i annog datblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0451(FM)

 

3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo busnesau yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0450(FM)

 

4. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo creu swyddi yng Nghasnewydd?  OAQ(5)0458(FM)

 

5. Neil McEvoy (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl y trydydd sector yng Nghymru? OAQ(5)0446(FM)

 

6. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0461(FM)

 

7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i'r diwydiant pysgod cregyn yn sgil y penderfyniad i adael yr UE? OAQ(5)0456(FM)W

 

8. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Nhorfaen? OAQ(5)0459(FM)

 

9. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol? OAQ(5)0455(FM)

 

10. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0453(FM)

 

11. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau sydd wedi cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a phrifysgolion Cymru parthed effaith sefydlu corff ymchwil ac arloesi y DU ar gyllid ymchwil yng Nghymru? OAQ(5)0452(FM)W

 

12. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am werth canolfannau cychwyn busnesau bach yng Nghymru? OAQ(5)0462(FM)

 

13. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol canolfannau cyswllt clinigol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru? OAQ(5)0454(FM)

 

14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru?  OAQ(5)0444(FM)

 

15. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y diwydiant dŵr yng Nghymru? OAQ(5)0460(FM)W