Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Ionawr 2017
i'w hateb ar 11 Ionawr 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

1. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant cyfalaf sydd wedi'i gynllunio yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0077(FLG)

 

2. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Ai polisi Llywodraeth Cymru yw cefnogi rhaglen beilot a gaiff ei harwain gan awdurdod lleol o ran incwm sylfaenol cyffredinol? OAQ(5)0072(FLG)

 

3. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o ddatblygu trysorlys Cymreig? OAQ(5)0078(FLG)W

 

4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dyraniad cyllideb i bortffolio'r amgylchedd? OAQ(5)0075(FLG)

 

5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i hyrwyddo arfer gorau mewn llywodraeth leol? OAQ(5)0070(FLG)

 

6. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy awdurdodau lleol? OAQ(5)0073(FLG)

 

7. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru):

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei gyfrannu at Fargeinion Dinesig? OAQ(5)0067(FLG)

 

8. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch y dyraniad yn y gyllideb i'r portffolio addysg? OAQ(5)0082(FLG)

 

9. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau trethu i gefnogi busnesau bach yng Nghymru? OAQ(5)0081(FLG)

 

10.  Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei ddisgwyliadau o ran cydweithio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cysylltiedig o fewn dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0080(FLG)

 

11. David Rees (Aberafan):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ag awdurdodau lleol ynghylch costau claddu plant? OAQ(5)0068(FLG)

 

12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad o ran pa mor bwysig yw mynediad y cyhoedd at gyfarfodydd llawn cynghorau a chyfarfodydd cabinet awdurdodau lleol? OAQ(5)0071(FLG)

 

13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am Buddsoddi i Arbed? OAQ(5)0066(FLG)

14. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o drefnu a chyflenwi gwasanaethau llywodraeth leol yn rhanbarthol? OAQ(5)076(FLG)

 

15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid ychwanegol a ddyrannwyd i'r portffolio addysg i gefnogi clybiau cinio a chlybiau hwyl yn ystod gwyliau haf yr ysgolion? OAQ(5)0069(FLG)

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

1. Jeremy Miles (Castell-nedd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i alluogi disgyblion i gael dealltwriaeth lawnach o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ym myd gwaith? OAQ(5)0072(EDU)

 

2. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi clybiau cinio a chlybiau hwyl mewn ysgolion cynradd yn ystod gwyliau haf yr ysgolion? OAQ(5)0063(EDU)

 

3. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y consortiwm addysg ar gyfer ardal Abertawe? OAQ(5)0061(EDU)

 

4. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth addysg ôl-16 yn Nhorfaen? OAQ(5)0073(EDU)

 

5. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant ysgol yn ystod gwyliau'r haf? OAQ(5)0077(EDU)

 

6. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymgysylltiad disgyblion â'r system addysg?  OAQ(5)0069(EDU)

 

7. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ(5)0070(EDU)

 

8. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pryd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi ei chynlluniau, yn unol ag argymhelliad Adolygiad Diamond, i ysgogi graddedigion i weithio yng Nghymru, neu ddychwelyd i weithio yng Nghymru? OAQ(5)0068(EDU)

 

9. David Rees (Aberafan): Pa gynnydd sy'n cael ei wneud ynghylch cyflwyno cwricwlwm gwyddor cyfrifiaduron newydd? OAQ(5)0065(EDU)

 

10.  Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau i wella cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru? OAQ(5)0064(EDU)

 

11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei blaenoriaethau ar wariant addysg yn 2017? OAQ(5)0071(EDU)

 

12. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n astudio meddygaeth ym mhrifysgolion Cymru? OAQ(5)0066(EDU)

 

13. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddisgwyliadau’r Llywodraeth o ran Awdurdodau Lleol mewn perthynas â gweithredu safonau’r Gymraeg? OAQ(5)0075(EDU)W

 

14. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Yn sgil y ffaith bod Her Ysgolion Cymru yn dod i ben, pa fesurau sydd yn eu lle bellach i gynorthwyo ysgolion i gryfhau rhwydweithio a chydweithredu ar arfer da? OAQ(5)0067(EDU)

 

15. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cymorth addysgol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ddisgyblion mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd yn Islwyn? OAQ(5)0074(EDU)