![]() |
Annwyl gyfaill
Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedauwedi cytuno i ymgymryd ag ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn ymchwiliad byr Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Pedwerydd Cynulliad i Ddyfodol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, ac mae hefyd wedi’i lywio gan ymgynghoriad y Pwyllgor ar flaenoriaethau a gynhaliwyd yn ystod haf 2016.
Cylch gorchwyl
Er mwyn ein cynorthwyo gyda’n gwaith byddem yn croesawu eich barn ar unrhyw rai, neu bob un o’r pwyntiau hyn:
-
yr effaith ar y modd
yr amddiffynnir hawliau dynol yng Nghymru wrth i'r DU adael yr
Undeb Ewropeaidd,
-
effaith
cynnig Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 a
chyflwyno Deddf Hawliau Prydeinig i gymryd ei le, a
- chanfyddiadau'r cyhoedd ynglŷn â hawliau dynol yng Nghymru, yn arbennig pa mor ddealladwy a pherthnasol ydynt i bobl Cymru.
Anfonwch eich barn i: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru erbyn dydd Gwener 10 Chwefror 2017.
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i gyfrannu at yr ymgynghoriad a manylion am bolisi’r cynulliad at ddatgelu gwybodaeth ar dudalennau gwe’r Cynulliad: www.cynulliad.cymru/ymgynghoriadau
Yn gywir,
John Griffiths AC
Cadeirydd