R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
1. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi prosiectau cynhyrchu ynni lleol? OAQ(5)0082(ERA)
2. Hannah Blythyn (Delyn): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd? OAQ(5)0080(ERA)
3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi i awdurdodau cynllunio ynghylch lagwnau slyri? OAQ(5)0078(ERA)
4. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o botensial ynni morlynoedd llanw? OAQ(5)0084(ERA)
5. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro’r modd y caiff ansawdd aer ei reoli o safbwynt sŵn yng Nghymru? OAQ(5)0068(ERA)
6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â datblygiadau ffermydd gwynt ar y tir? OAQ(5)0070(ERA) TYNNWYD YN ÓL
7. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i wella'r amgylchedd yng nghanol ardaloedd trefol Casnewydd? OAQ(5)0079(ERA)
8. David Melding (Canol De Cymru): Beth yw'r goblygiadau i Lywodraeth Cymru yn dilyn yr Uwchgynhadledd Meiri C40, pan ymrwymodd Paris, Athen, Madrid a Dinas Mecsico i statws rhydd rhag diesel erbyn 2025? OAQ(5)0076(ERA)
9. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ganlyniadau torri'r biblinell olew yn Nantycaws? OAQ(5)0077(ERA)
10. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddiogelu anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau? OAQ(5)0073(ERA)
11. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynglŷn â chynlluniau atal llifogydd yn etholaeth Arfon? OAQ(5)0081(ERA)W
12. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo'r diwydiant amaeth yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0074(ERA)R
13. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o adroddiad Living Planet 2016? OAQ(5)0071(ERA)
14. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch diwydiant cocos Gŵyr? OAQ(5)0069(ERA) TYNNWYD YN ÓL
15. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ynni adnewyddadwy glân? OAQ(5)0083(ERA)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad Llywodraeth Cymru, 'Deall economeg y Diwydiant Cartrefi mewn Parciau'? OAQ(5)0090(CC)
2. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi plant yn Nhorfaen? OAQ(5)0091(CC)
3. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy newydd yn Islwyn? OAQ(5)0086(CC)
4. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i elusennau sy'n cefnogi teuluoedd? OAQ(5)0083(CC)
5. Michelle Brown (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r gymuned teithwyr? OAQ(5)0088(CC)
6. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder ieuenctid? OAQ(5)0084(CC)
7. Lee Waters (Llanelli): Beth sy'n cael ei wneud i gynnal momentwm ar weithredu rhaglen Atal Trais Caerdydd ledled Cymru? OAQ(5)0076(CC)
8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adfywio cymunedau yn Sir Benfro? OAQ(5)0075(CC)
9. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran trechu tlodi plant yn ne Cymru? OAQ(5)0081(CC)
10. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog sy'n goruchwylio Tasglu'r Cymoedd ar adfywio cymunedau yn y cymoedd? OAQ(5)0078(CC)
11. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gamau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yn Aberafan? OAQ(5)0077(CC)
12. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y mentrau trechu tlodi yn ei bortffolio? OAQ(5)0079(CC)
13. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gyn-aelodau o gymuned y lluoedd arfog? OAQ(5)0085(CC)
14. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mudiadau gwirfoddol sy'n mynd i'r afael â digartrefedd? OAQ(5)0089(CC)
15. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amcanestyniad tai amgen yn adroddiad Holmans? OAQ(5)0082(CC)